Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn.
Mae ailgylchu yn y gweithle wedi newid
Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i wahanu deunyddiau penodol er mwyn eu hailgylchu.
Mae'r rheolau hefyd yn gymwys i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff o weithleoedd.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r newidiadau hyn i wella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff a gaiff ei ailgylchu o weithleoedd ac i wella cysondeb yn y ffordd yr ydym yn casglu a gwahanu gwastraff.
Bydd hefyd angen i weithleoedd wahanu eu cyfarpar trydanol gwastraff bach i'w hailgylchu o 6 Ebrill 2026.
Fe welwch ganllaw i'r newidiadau ar wefan Ailgylchu Busnes Cymru WRAP.
Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle a sut i gydymffurfio. Byddwn yn diweddaru'r Cod ym mis Ebrill 2026 pan ddaw'r gyfraith cyfarpar trydanol bach i rym.
Diweddariad i'r gyfraith: eitemau trydanol bach
- O 6 Ebrill 2026, mae'n rhaid i weithleoedd wahanu unrhyw eitemau trydanol gwastraff bach diangen yn barod i'w hailgylchu.
- Mae eitemau trydanol gwastraff bach yn golygu unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl sy'n mesur 50cm neu lai ar bob ochr. Er enghraifft, gliniaduron diangen, ffonau, tegelli, sychwyr gwallt, tostwyr, dyfeisiau meddygol, goleuadau neu offer pŵer.
- Ceisiwch atgyweirio neu ailddefnyddio unrhyw eitem drydanol ddiangen yn gyntaf, trwy ei werthu, ei rhoi i sefydliadau ailddefnyddio lleol neu ei throsglwyddo i staff.
- Lle nad yw atgyweirio nac ailddefnyddio yn bosibl, dylid cadw eitemau trydanol ar wahân i wastraff arall a'u hailgylchu, a pheidio â'u rhoi yn eich gwastraff cyffredinol neu ffrydiau gwastraff ailgylchadwy eraill.
- Mae'n werth gwirio gyda gwneuthurwr yr eitem yn y lle cyntaf, gan fod ganddynt gyfrifoldeb i gymryd eitemau trydanol yn ôl ar ddiwedd eu hoes.
- Os yw'r eitem yn eitem gyffredin y gellir ei defnyddio yn y cartref a lleoliad annomestig fel tegell, sychwr gwallt neu dostiwr (a elwir hefyd yn eitem defnydd deuol), gallwch wirio a all fynd yn ôl i gynllun cymryd yn ôl siop leol.
- Fel arall, gallwch siarad â'ch casglwr gwastraff, eich awdurdod lleol, neu eich ailgylchwyr trydanol arbenigol i drefnu gollwng neu gasglu eich eitemau trydanol gwastraff bach fel eu bod yn cael eu hailgylchu.
- Os yw eich gwastraff trydanol yn beryglus, bydd angen i chi reoli'r eitemau hyn yn unol â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005. Os nad ydych chi'n siŵr, tybiwch ei fod yn beryglus a siaradwch â'ch casglwr gwastraff am gyngor i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei waredu'n ddiogel.
- Cofiwch: eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn defnyddio casglwr gwastraff cofrestredig ag enw da a fydd yn sicrhau bod eich cyfarpar trydanol gwastraff bach yn cael ei gludo, ei storio a' ailgylchu'n gywir.
Pam rydyn ni wedi ychwanegu eitemau trydanol bach o 2026 ymlaen
Gellir ailgylchu 75% o'r deunyddiau mewn hen gyfarpar trydanol. Os byddant yn mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi, mae metelau gwerthfawr fel aur, copr, alwminiwm a dur yn cael eu colli.
Mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o gyfarpar trydanol gwastraff i greu cynhyrchion newydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau difrod amgylcheddol.
Efallai mai dim ond rhan fach o wastraff yw eitemau trydanol, gallant gael effaith barhaol.
Mae llawer o eitemau trydanol bach yn cynnwys batris ïon lithiwm. Os yw'r rhain yn mynd yn y bin gwastraff cyffredinol ac yn cael eu malu yn y pendraw, gallant achosi tanau difrifol.
Cymru yw'r gorau yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r ail orau yn y byd, ond gallwn wneud mwy.
Mae'r gyfraith hon yn cefnogi ein strategaeth economi gylchol, Mwy nag ailgylchu.
Sut i wirio eich bod chi'n sortio eich gwastraff yn gywir
Mae'n bwysig darllen y Cod Ymarfer ochr yn ochr â'r canllaw cyffredinol hwn.
Mae gan wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP ganllawiau ar gyfer sectorau penodol gan gynnwys:
- Lletygarwch a bwyd
- Manwerthu
- Addysg gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion a phrifysgolion
- Ysbytai
- Lleoliadau preswyl gan gynnwys cartrefi nyrsio, cartrefi gofal preswyl a charchardai
- Digwyddiadau awyr agored fel ffeiriau, gwyliau a chyngherddau
- Cyfleusterau hamdden ac adloniant gan gynnwys parciau carafanau, gwersylloedd a gwestai.
Mae posteri, arwyddion a thempledi hefyd ar gael ar wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP.
Pa wastraff sydd angen ei wahanu
Dylid gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu, a'u casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a cherdyn
- Gwydr
- Metel, plastig a chartonau
- Tecstilau nas gwerthwyd
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu
Cofiwch: o fis Ebrill 2026, bydd angen gwahanu pob eitem drydanol fach i'w chasglu, nid eitemau heb eu gwerthu yn unig.
Gallwch gymysgu papur a cherdyn gyda'i gilydd yn yr un cynhwysydd, a gallwch gymysgu metel, plastig a chartonau gyda'i gilydd.
Mae gwaharddiad hefyd ar:
- Anfon gwastraff bwyd i garthffos (unrhyw swm)
- Gwastraff a gesglir ar wahân yn cael ei losgi a mynd i safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi
I bwy mae'r gyfraith hon yn berthnasol
Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.
Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:
- Amaethyddiaeth
- Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, llety gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
- Gorsafoedd gwasanaethau a gorsafoedd petrol
- Lleoliadau adloniant a chwaraeon, gan gynnwys canolfannau hamdden a meysydd sioe
- Trafnidiaeth - gorsafoedd bws, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd môr, meysydd awyr a meysydd hofrenyddion
- Cartrefi gofal a nyrsio
- Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
- Safleoedd adeiladu
- Ffatrïoedd a warysau
- Garejys ceir
- Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
- Canolfannau garddio
- Adeiladau treftadaeth
- Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
- Swyddfeydd a gweithdai
- Mannau addoli
- Carchardai
- Marchnadoedd a gwyliau awyr agored
- Manwerthu
Bydd angen i ysbytai'r GIG ac ysbytai preifat gydymffurfio â'r gyfraith o 6 Ebrill 2026. Ewch i wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru i ddarllen canllawiau WRAP ar gyfer ysbytai.
Canllawiau ar gyfer gweithleoedd: Sut y gall gweithleoedd fodloni'r gofynion.
Canllawiau i’r rheini sy’n casglu a thrin gwastraff: Sut y gall casglwyr gwastraff fodloni'r gofynion.
Pam newidiodd y gyfraith
Mae hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau Cymru ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Rydyn ni am barhau i ddefnyddio deunyddiau cyn hired â phosibl. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi.
