Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer 2020.

Mae'r data dros dro yn yr adroddiad hwn ar gyfer mis Ionawr – Rhagfyr 2020. Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn dangos gostyngiadau sylweddol yng ngwerth allforion nwyddau i Gymru. Mae masnach yn y misoedd diwethaf wedi gweld gwerthoedd annormal o isel o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r data'n cwmpasu allforion nwyddau ac yn cynnwys gwybodaeth yn ôl cyrchfan a sector y cynnyrch.

Prif bwyntiau

Hydref i Ragfyr 2020 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr a chwarterol fod yn gyfnewidiol, ond fe’u cyflwynir yma oherwydd arwyddocâd y gostyngiadau a welwyd yn sgil y pandemig coronafeirws (COVID-19).

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020, gwerth allforion nwyddau yng Nghymru oedd £3.4 biliwn. Cynnydd o 7.8% yw hwn, o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynnydd ledled y DU oedd 13.4%.
  • Gwelodd pob un o'r pedair gwlad y DU gynnydd mewn allforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Lloegr welodd y cynnydd mwyaf o 14.8%, Gogledd Iwerddon 4.6%, Cymru 7.8% a'r Alban 4.3%.
  • O'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol (Hydref i Ragfyr 2019), y gostyngiad yng Nghymru oedd 20.6% i gymharu â 7.5% ledled y DU.

Y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £13.4 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020, i lawr £4.3 biliwn (24.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2019.
  • Am y drydydd dro ers i gofnodion cymharol ddechrau yn 2013, gostyngodd gwerth allforion nwyddau ym mhob gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2019. Cymru welodd yr ostyngiad mwyaf (24.4%) yna’r Gorllewin Canolbarth Lloegr (i lawr 22.8%), a’r Alban (21.3%).
  • Y gostyngiadau yng Nghymru a'r DU cyfan yw'r mwyaf ers i gofnodion cymharol ddechrau.
  • Gwelwyd gostyngiad o £3 biliwn (27.5%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gostyngiad o £1.4 biliwn (19.7%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 58.1% o allforion Cymreig o’i gymharu â 48.1% ar gyfer y DU.
  • Mae’r Almaen yn parhau fel y gyrchfan allforio uchaf (am y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020). Roedd allforion nwyddau i’r Almaen yn cyfrif am 16.0% o allforion. Mae’r gyfran hon i lawr oddi 16.2% o allforion yn y flwyddyn flaenorol.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 46.2% o allforion.
  • Gwelodd 9 o’r 10 grwp cynnyrch ostyngiadau yng ngwerth allforion o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiadau mwyaf yn "Nwyddau nad ydynt wedi'u dosbarthu mewn mannau eraill" (i lawr 43.7%) a " Mwynau, Tanwyddau, Iriadau ac ati." (i lawr 43.3%).
  • Yr unig grŵp cynnyrch welodd cynnydd oedd “Olewau Anifeiliaid a Llysiau ac ati” (lan 11.1%), er mae’r grŵp cynnyrch yma ond yn cyfateb i 0.02% o allforion nwyddau Cymru.

Gwybodaeth bellach

Mae'r ffigurau yn amcangyfrifon sydd wedi'u modelu ac a gynhyrchwyd gan Adran Gyllid a Thollau EM. Maent yn ymwneud â nwyddau a allforir i gyrchfannau y tu allan i'r DU. Dyrennir allforion nwyddau i wledydd a rhanbarthau'r DU yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion yn yr ardal honno.

Nid yw'r ffigurau'n cynnwys allforion gwasanaeth. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf a gynhyrchwyd gan ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai gwerth cyfanswm allforion gwasanaethau o Gymru yn 2018 oedd £7.4bn.

Cyhoeddir y canlyniadau allweddol a chiwbiau data StatsCymru yn chwarterol a chyhoedddir adroddiad bob 12 mis. Mi fydd StatsCymru yn cael ei diweddaru gyda’r data diweddaraf hwn erbyn 31 Mawrth 2021.

Nodyn

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r set ddata. Mae'r data diweddaraf ar gael ar Gwybodaeth am fasnach y DU.

Adroddiadau

Allforion Cymreig, 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 834 KB

PDF
Saesneg yn unig
834 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.