Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Hydref 2017 i Medi 2018.

Prif bwyntiau

  • Gwerth allforion Cymreig ar gyfer y flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2018 oedd £16.9 biliwn, i fyny £0.5 biliwn (3.0%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 9 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (i fyny 10.9%), o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2017. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng Ngogledd-orllewin Lloegr (i lawr 3.0%). Gwelodd Cymru y wythfed seithfed mwyaf.
  • Gwelwyd cynnydd o £452 miliwn (4.6%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £45 miliwn (0.7%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2017. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.9% o allforion Cymreig o’i gymharu â 49.9% ar gyfer y DU.
  • Yr Almaen oedd y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 18.8% o allforion, i lawr o 19.6% o’i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2017.
  • Mae allforion Cymreig yn cael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 50.6% o allforion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.