Mae’r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2022 amcangyfrif nifer yr aelwydydd ac yn rhagdybio bod tueddiadau blaenorol ym maes genedigaethau, marwolaethau, a mudo yn parhau.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcanestyniadau is-genedlaethol o aelwydydd
Mae'r datganiad yn darparu ystadegau ar nifer posibl yr aelwydydd, a’u cyfansoddiad, yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r amcanestyniadau hyn yn disodli'r amcanestyniadau blaenorol a oedd yn seiliedig ar 2018.
Mae'r amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2022 yn ogystal â chyfrifiadau 2001, 2011 a 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).
Mae’r amcanestyniadau ar gael ar StatsCymru ar gyfer cyfnod o 25 mlynedd, o ganol 2022 i ganol 2047. Fodd bynnag, mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar y 10 mlynedd cyntaf o gyfnod yr amcanestyniadau gan fod amcanestyniadau yn tueddu i ddod yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, gan y gall llawer newid dros y cyfnod hwnnw.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Ystadegau poblogaeth a mudo
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
