Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r amcanestyniadau aelwydydd sy’n seiliedig ar 2022 yn rhoi syniad o nifer yr aelwydydd, a’u cyfansoddiad, yn y dyfodol, yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth a rhagdybiaethau am aelwydydd o gyfrifiadau diweddar. Mae'r amcanestyniadau hyn yn disodli'r amcanestyniadau blaenorol a oedd yn seiliedig ar 2018.

Ochr yn ochr â’r amcanestyniadau hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi amcanestyniadau o boblogaeth awdurdodau lleol Cymru, sy’n seiliedig ar 2022

Mae amcanestyniadau aelwydydd yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran y boblogaeth a mathau o aelwydydd. Nid rhagolygon yw’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld yr effaith y gallai polisïau’r llywodraeth yn y dyfodol, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill fel nifer y cartrefi a adeiladir, ei chael ar nifer yr aelwydydd. Yn hytrach, maent yn dangos faint o aelwydydd ychwanegol fyddai’n cael eu ffurfio pe bai poblogaeth Cymru yn parhau i newid fel y gwnaeth rhwng canol 2018 a chanol 2022, ac yn parhau i ffurfio aelwydydd fel y gwnaeth rhwng 2001, 2011 a 2021.

Mae’r amcanestyniadau aelwydydd hyn yn defnyddio data am gyfraddau aelodaeth aelwydydd o’r cyfrifiadau poblogaeth diweddaraf sydd ar gael ac yn eu cymhwyso i’r amcanestyniadau o boblogaeth awdurdodau lleol diweddaraf.

Mae’r ‘prif’ amcanestyniad yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch ffrwythlondeb, marwolaethau, mudo a chyfansoddiad aelwydydd yn y dyfodol, yr ystyrir eu bod yn adlewyrchu orau y tueddiadau demograffig ar y pryd. Gellir ei ystyried yn amcanestyniad ‘canolog’. Mae’r mwyafrif o’r dadansoddiadau isod yn seiliedig ar y prif amcanestyniadau oni nodir fel arall.

Mae amcanestyniadau eraill, neu amcanestyniadau ‘amrywiadol’, hefyd ar gael ochr yn ochr â’r prif amcanestyniad. Maent yn seiliedig ar senarios amgen yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo o’u cymharu â’r prif amcanestyniad. Mae’r rhain yn rhoi awgrym o ansicrwydd, ond nid ydynt yn cynrychioli terfynau uchaf nac isaf ymddygiad demograffig yn y dyfodol. 

Mae amcanestyniadau ar gael ar gyfer y cyfnod o 25 mlynedd ar StatsCymru, o ganol 2022 i ganol 2047. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 10 mlynedd gyntaf cyfnod yr amcanestyniad gan fod amcanestyniadau yn tueddu i fynd yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, oherwydd bod llawer yn gallu newid yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gall amcanestyniadau aelwydydd fod yn wahanol i amcangyfrifon aelwydydd sydd eisoes wedi eu cyhoeddi nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon aelwydydd diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai ar wahân, sy'n ystyried yr angen newydd sy'n codi, o amcanestyniadau aelwydydd, yn ogystal ag angen presennol heb ei ddiwallu. Bydd yr amcanestyniadau hyn yn cael eu defnyddio i gynhyrchu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o'r angen ychwanegol am dai, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn 2026.

Rydym wedi gwneud newidiadau i rai o’r dulliau ar gyfer cyfrifo’r amcanestyniadau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y prif bwyntiau

Rhwng canol 2022 a chanol 2032:

  • amcanestynnir i nifer yr aelwydydd yng Nghymru gynyddu oddeutu 98,500, neu 7.2%, i 1.46 miliwn, a hynny’n bennaf oherwydd cynnydd mewn aelwydydd un person.
  • amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol.
  • amcanestynnir mai ym Mro Morgannwg (cynnydd o 11.7%) a Chaerdydd (cynnydd o 11.1%) y bydd y cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr aelwydydd.
  • amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un oedolyn heb blant gynyddu fwyaf o bob math o aelwyd.
  • amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person sy’n cynnwys person 60 oed neu hŷn gyfrif am bron i dri ym mhob pum o’r aelwydydd hyn erbyn canol 2032.
  • amcanestynnir y bydd nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, neu’r ‘boblogaeth aelwydydd’, yn cynyddu tua 172,400 (5.6%) i 3.25 miliwn.

Ffigur 1: newid canrannol yn nifer yr aelwydydd rhwng canol 2022 a chanol 2032, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart far sy’n dangos yr amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, ac y bydd y cynnydd canrannol mwyaf yng Nghaerdydd ac awdurdodau lleol cyfagos, Bro Morgannwg a Chasnewydd.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Er yr amcanestynnir i’r cynnydd mwyaf yn nifer yr aelwydydd rhwng canol 2022 a chanol 2032 fod yn ne-ddwyrain Cymru yn bennaf, amcanestynnir i’r cynnydd lleiaf fod yng ngogledd Cymru ac yn ardaloedd Cymoedd de Cymru yn gyffredinol. Amcanestynnir y bydd y cynnydd canrannol lleiaf yn nifer yr aelwydydd yn Wrecsam (cynnydd o 3.7%), Caerffili (cynnydd o 3.8%) a Blaenau Gwent (cynnydd o 4.0%).

Mae’r tueddiadau a amcanestynnir yn niferoedd yr aelwydydd yn debyg i’r tueddiadau a welir yn yr amcanestyniadau o boblogaeth awdurdodau lleol. Yr awdurdodau lleol y gwelir y cynnydd canrannol mwyaf yn eu poblogaethau yn ystod y cyfnod o ganol 2022 i ganol 2032, yn ôl yr amcanestyniadau, yw Bro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd. I’r gwrthwyneb, yr awdurdodau lleol y gwelir y cynnydd canrannol lleiaf yn eu poblogaethau, yn ôl yr amcanestyniadau, yw Merthyr Tudful, Caerffili a Wrecsam. 

Ffigur 2: nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn ôl awdurdod lleol, canol 2032

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy’n dangos nifer yr aelwydydd a amcanestynnir ar gyfer pob un o’r awdurdodau lleol erbyn canol 2032. Amcanestynnir mai Caerdydd fydd yn parhau i fod â’r nifer uchaf o aelwydydd, sef tua 169,000 o aelwydydd. Mae hyn bron i 50% yn fwy o aelwydydd na’r awdurdodau lleol nesaf yn ôl nifer, sef Abertawe a Rhondda Cynon Taf. 

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Amcanestynnir y bydd cyfanswm nifer yr aelwydydd yng Nghymru tua 1.46 miliwn erbyn canol 2032. Amcanestynnir y bydd gan ychydig dros hanner yr holl awdurdodau lleol rhwng tua 50,000 a thua 100,000 o aelwydydd erbyn canol 2032. Mae nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yng Nghaerdydd yng nghanol 2032 yn cyfrif am 11.6% o’r holl aelwydydd yng Nghymru. 

Yr awdurdodau lleol fydd â’r nifer lleiaf o aelwydydd yn ôl yr amcanestyniadau yw Merthyr Tudful (tua 26,700), Blaenau Gwent (tua 31,600), ac Ynys Môn (tua 32,300). 

Amcanestyniadau yn ôl math o aelwyd

Ffigur 3: nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn ôl math o aelwyd, canol 2032

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart far sy’n dangos mai’r mathau mwyaf cyffredin o aelwydydd o hyd, yn ôl yr amcanestyniadau, fydd aelwydydd un person a dau berson heb blant.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Erbyn canol 2032, amcanestynnir i niferoedd yr aelwydydd un oedolyn ac aelwydydd dau oedolyn heb blant gyfrif am bron i ddwy ran o dair o'r holl aelwydydd, sef 33.4% a 31.5% yn y drefn honno.

Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd â phlant fod tua 369,600 erbyn canol 2032, sy’n cyfrif am ychydig dros chwarter o’r holl aelwydydd. Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd heb blant fod bron i 1.1 miliwn.

Ffigur 4: newid canrannol yn yr amcanestyniadau aelwydydd yn ôl math o aelwyd, canol 2022 i ganol 2032

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart far sy’n dangos bod nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn cynyddu rhwng canol 2022 a chanol 2032 ar gyfer yr holl fathau o aelwydydd. Amcanestynnir mai’r cynnydd canrannol mwyaf fydd aelwydydd 1 oedolyn heb blant, sef cynnydd o 11.2%.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd â phlant gynyddu tua 2.9% rhwng canol 2022 a chanol 2032, o oddeutu 359,200 i oddeutu 369,600. Yn ystod yr un cyfnod, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd heb blant gynyddu 8.8%, o tua 1.0 miliwn i tua 1.1 miliwn.

Mae amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2022 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn dangos yr amcanestynnir i nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed yng Nghymru ostwng yn ystod y cyfnod hwn o 10.2%, a fydd yn debygol o gael effaith ar nifer yr aelwydydd gyda phlant a heb blant yn y dyfodol. 

Aelwydydd un person

Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person gynyddu ym mhob awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf ym Mro Morgannwg (cynnydd o 17.0%), Sir Benfro (cynnydd o 16.9%) a Merthyr Tudful (cynnydd o 15.0%).

Ffigur 5: nifer yr aelwydydd un person a amcanestynnir yn ôl grŵp oedran, canol 2022 a chanol 2032

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart far glystyrog sy’n dangos yr amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person gynyddu ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio 45 i 59 oed rhwng canol 2022 a chanol 2032. Mae’r cynnydd a amcanestynnir fwyaf ar gyfer 60 i 74 oed a 75 oed neu hŷn, cynnydd o 17.0% ac 16.5% yn y drefn honno. 

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Erbyn canol 2032, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person sy’n cynnwys person 60 oed neu hŷn gyfrif am bron i dri ym mhob pum o’r aelwydydd hynny erbyn canol 2032.

Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person sy’n cynnwys person 60 i 74 oed gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Amcanestynnir i’r cynnydd mwyaf fod yn Sir Benfro (cynnydd o 25.6%), Pen-y-bont ar Ogwr (cynnydd o 23.1%) a Sir Ddinbych (cynnydd o 21.8%). Amcanestynnir i’r cynnydd lleiaf fod yn Rhondda Cynon Taf (cynnydd o 12.4%).

Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person sy’n cynnwys person 75 oed neu hŷn hefyd gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Amcanestynnir y cynnydd mwyaf fod ym Mro Morgannwg (cynnydd o 25.3%), Sir Benfro (cynnydd o 22.2%) a Chaerdydd (cynnydd o 21.5%). Amcanestynnir i’r cynnydd lleiaf fod ym Mlaenau Gwent (cynnydd o 5.8%).

Poblogaeth aelwydydd

Poblogaeth aelwydydd yw’r amcangyfrif o nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat. Cyfrifir hyn trwy dynnu’r boblogaeth sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol o’r amcangyfrif o gyfanswm y boblogaeth. 

Mae sefydliadau cymunedol yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, neuaddau preswyl prifysgol, ysgolion preswyl a charchardai, er enghraifft. Gan nad yw amcangyfrifon poblogaeth sefydliadau cymunedol ar gael yn flynyddol, cyfrifir y niferoedd tybiedig ar sail data’r cyfrifiad.

Ffigur 6: newid canrannol yn y boblogaeth aelwydydd preifat a amcanestynnir yn ôl awdurdod lleol, canol 2022 i ganol 2032

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart far sy’n dangos yr amcanestynnir i boblogaeth aelwydydd preifat gynyddu ym mhob awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032. 

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Yr awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf yn eu poblogaeth aelwydydd preifat, yn ôl yr amcanestyniadau, yw Caerdydd (cynnydd o 10.9%), Casnewydd (cynnydd o 10.2%) a Bro Morgannwg (cynnydd o 9.9%). Amcanestynnir mai’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynnydd lleiaf yw Merthyr Tudful (cynnydd o 0.9%), Wrecsam (cynnydd o 1.1%) a Chaerffili (cynnydd o 1.2%).

Mae hyn yn adlewyrchu’n fras y newid yn y boblogaeth a ddangoswyd yn yr amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2022.

Cyfrifir maint cyfartalog aelwyd, a fesurir yn ôl nifer y bobl fesul aelwyd, drwy rannu’r boblogaeth aelwydydd preifat â nifer yr aelwydydd. Amcanestynnir y bydd maint cyfartalog aelwyd yng Nghymru yn gostwng o 2.26 o bobl fesul aelwyd yng nghanol 2022 i 2.22 o bobl fesul aelwyd yng nghanol 2032. Amcanestynnir y bydd yn gostwng ym mhob awdurdod lleol ac eithrio Casnewydd yn ystod y cyfnod hwn. Amcanestynnir mai Casnewydd fydd â’r maint aelwyd cyfartalog mwyaf, sef 2.39 o bobl fesul aelwyd, erbyn canol 2032. Conwy sydd â’r maint aelwyd a amcanestynnir lleiaf o hyd, sef 2.11 o bobl fesul aelwyd erbyn canol 2032.

Amcanestyniadau amrywiadol

Mae amcanestyniadau eraill, neu amcanestyniadau ‘amrywiadol’, ar gael hefyd ochr yn ochr â’r prif amcanestyniad. Maent yn seiliedig ar senarios amgen yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo o’u cymharu â’r prif amcanestyniad. 

Mae’r rhain yn rhoi awgrym o ansicrwydd, ond nid ydynt yn cynrychioli terfynau uchaf nac isaf ymddygiad demograffig yn y dyfodol. Mae rhagor o fanylion am yr amcanestyniadau amrywiol hyn i'w gweld yn yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg isod.

Ffigur 7: amcanestyniadau aelwydydd amrywiadol, canol 2022 i ganol 2032 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell sy’n dangos y gwahaniaethau yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir ar gyfer Cymru, ar gyfer y prif amcanestyniad, ac o dan y senarios amrywiadol ar gyfer poblogaeth uchel, poblogaeth isel, dim mudo, mudo cyfartalog 10 mlynedd a mudo cyfartalog 15 mlynedd ar gyfer y cyfnod canol 2022 i ganol 2032. Mae’r prif amcanestyniad rhwng yr amrywiolynnau poblogaeth uchel ac isel.

[Nodyn 1]: Nid yw’r echelin-y yn dechrau ar sero.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ar StatsCymru

Rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd yng Nghymru gynyddu 7.2% o dan y prif amcanestyniad. Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu o dan yr amrywiolynnau poblogaeth uchel ac isel yn ystod yr un cyfnod, o 7.6% a 6.6% yn y drefn honno. O dan yr amrywiolyn dim mudo, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd ostwng 0.6%, ond amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu 5.2% a 4.7% o dan yr amrywiolynnau mudo cyfartalog 10 mlynedd a 15 mlynedd, yn y drefn honno. 

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, o dan yr amcanestyniad poblogaeth uchel, amcanestynnir i y nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir tua 0.4 pwynt canran yn uwch na’r prif amcanestyniad ar gyfer pob awdurdod lleol.

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, o dan yr amcanestyniad poblogaeth isel, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir rhwng 0.3 a 0.7 pwynt canran yn is na’r prif amcanestyniad ar gyfer pob awdurdod lleol.

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, o dan yr amcanestyniad dim mudo, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd leihau mewn 16 o’r 22 awdurdod lleol. Mae’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn amrywio rhwng cynnydd o 5.9% yng Nghaerdydd a gostyngiad o 5.7% yng Nghonwy.

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, o dan yr amcanestyniad mudo cyfartalog 10 mlynedd, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn amrywio rhwng 8.9% ym Mro Morgannwg a 2.0% yn Ynys Môn.

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, o dan yr amcanestyniad mudo cyfartalog 15 mlynedd, amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yn amrywio rhwng 7.2% yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac 1.7% yn Ynys Môn.

Cymariaethau ag amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018

Yn dilyn Cyfrifiad 2021, cymharwyd amcangyfrifon canol-blwyddyn 2021 yn seiliedig ar y Cyfrifiad ag amcangyfrifon canol-blwyddyn 2021 a symudwyd ymlaen o Gyfrifiad 2011. Drwy gysoni’r amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn â Chyfrifiad 2021, gwelwyd bod amcangyfrifon canol-blwyddyn Cymru a symudwyd ymlaen o Gyfrifiad 2011 oddeutu 66,600 yn uwch na’r rhai a oedd yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021.

Fe wnaeth ailsylfaenu’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dilyn Cyfrifiad 2021 addasu’r amcangyfrifon canol blwyddyn felly i gyd-fynd â Chyfrifiad 2021, gan gywiro’r cydrannau newid ar gyfer pob set o amcangyfrifon canol blwyddyn. 

Mae’r dull ar gyfer cyfrifo cyfraddau aelodaeth aelwydydd wedi newid ar gyfer y cyhoeddiad hwn. Mae cyfraddau aelodaeth aelwydydd bellach yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data o gyfrifiadau 2001, 2011 a 2021, o gymharu â chyfrifiadau 2001 a 2011 yn unig ar gyfer yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018. Ceir rhagor o wybodaeth am y newid hwn yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

O ganlyniad, mae’r gwahaniaethau rhwng yr amcanestyniadau awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022 yn adlewyrchu nid yn unig y newid mewn tueddiadau demograffig a welwyd yn ystod y cyfnod hwn, ond hefyd y newid yn y dulliau rhwng y ddwy set o amcanestyniadau, yn ogystal â’r newid ym mlwyddyn sail yr amcanestyniad.

Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2018 a chanol 2022, bu rhai newidiadau demograffig y dylid eu nodi. Ar lefel Cymru, mae’r gyfradd genedigaethau wedi parhau i ostwng, gyda chyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb yn gostwng o 1.63 yn 2018 i 1.46 yn 2022. Mae gwelliannau mewn disgwyliad oes wedi arafu, tra bod patrymau mudo wedi bod yn amrywio yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddaraf.

Mae patrymau mudo rhyngwladol wedi newid. Amcangyfrifwyd i fudo rhyngwladol net barhau i gynyddu yn gyffredinol tan 2016 yng Nghymru, ac ar ôl hynny bu’n gostwng yn gyffredinol am sawl blwyddyn, gan ostwng i’w lefel isaf yn ystod y blynyddoedd diweddaraf erbyn 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). 

Fodd bynnag, bu cynnydd sylweddol mewn mudo rhyngwladol net rhwng canol 2020 a chanol 2023. Arweiniodd y newidiadau hyn at amcangyfrif o 3.13 miliwn ar gyfer poblogaeth Cymru yng nghanol 2022, sef 35,900 (1.1%) yn is nag a amcanestynnwyd ar gyfer canol 2022 yn yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018.

Ffigur 8: y gwahaniaeth canrannol rhwng nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yng nghanol 2032 gan ddefnyddio amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 a 2022, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart far sy’n dangos bod nifer yr aelwydydd a amcanestynnir yng Nghymru ar gyfer canol 2032 yn 1.6% yn uwch yn yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022 nag yn y rhai sy’n seiliedig ar 2018. Mae’r amcanestyniad sy’n seiliedig ar 2022 yn uwch ar gyfer 16 o’r 22 awdurdod lleol. 

Ffynhonnell: Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.

Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn, ac amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2018, ar StatsCymru

Mae’r gwahaniaethau canrannol rhwng yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022 ar eu huchaf yng Ngheredigion, Sir Ddinbych a Sir Fynwy. Amcanestynnir i nifer yr aelwydydd ym mhob un o'r ardaloedd hyn fod yn uwch yn yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022 o'i gymharu â'r amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 erbyn canol 2032.

Mae chwe awdurdod lleol yr amcanestynnir i nifer yr aelwydydd fod yn is yng nghanol 2032 yn yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022, o’u cymharu â’r rhai sy’n seiliedig ar 2018. Fodd bynnag, amcanestynnir y bydd pob un o’r ardaloedd hyn yn dal i weld cynnydd yn nifer yr aelwydydd rhwng canol 2022 a chanol 2032. 

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffinnir aelwyd fel un person sy’n byw ar ei ben ei hun, neu grŵp o bobl, nad ydynt yn perthyn i’w gilydd o reidrwydd, sy’n byw yn yr un cyfeiriad ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu fan bwyta

Mae hyn yn cynnwys unedau llety gwarchod mewn sefydliad lle mae gan 50% neu fwy o bobl eu cegin eu hunain, p’un a oes cyfleusterau cymunedol eraill yno ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys pawb sy’n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy’n breswylfa arferol iddynt. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw un sydd heb breswylfa arall mewn man arall yn y Deyrnas Unedig (DU).

Amcanestyniadau amrywiadol

Mae ystod yr amcanestyniadau amrywiadol yn cynnwys amrywiolyn ‘poblogaeth uchel’, sy’n seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch ffrwythlondeb uchel a disgwyliad oes uchel. Mae’r rhagdybiaethau mudo yr un fath â’r prif amcanestyniad.

Mae’r amrywiolyn ‘poblogaeth isel’ yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch ffrwythlondeb isel a disgwyliad oes isel. Mae’r rhagdybiaethau mudo yr un fath â’r prif amcanestyniad.

Mae’r amrywiolyn ‘dim mudo’, sy’n seiliedig ar newid naturiol yn unig, yn dangos poblogaeth a amcanestynnir pe na bai unrhyw fudo i mewn nac allan yn y dyfodol.

Mae’r amrywiolyn ‘mudo cyfartalog 10 mlynedd’ yn defnyddio 10 mlynedd o ddata ar gyfer mudo rhyngwladol a mudo mewnol, yn hytrach na 5 mlynedd o ddata. Mae hyn yn gwastatáu cyfnod 5 mlynedd a allai fod yn annodweddiadol. Fodd bynnag, mae risg hefyd y bydd yn lleihau effaith newidiadau mwy systemig sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd.

Mae’r amrywiolyn ‘mudo cyfartalog 15 mlynedd’ yn ddefnyddio 15 mlynedd o ddata ar gyfer mudo rhyngwladol a mewnol, yn hytrach na 5 mlynedd o ddata. Mae hyn yn gwastatáu cyfnod 5 mlynedd a allai fod yn annodweddiadol. Fodd bynnag, mae risg hefyd y bydd yn lleihau effaith newidiadau mwy systemig sydd wedi digwydd dros y 15 mlynedd.

Adroddiad technegol

I gyd-fynd â’r data yn y cyhoeddiad hwn, byddwn yn diweddaru ein hadroddiad technegol ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd i ddod. Bydd gwybodaeth fanylach am ansawdd a dulliau’r amcanestyniadau, gan gynnwys y rhagdybiaethau sylfaenol, ar gael yma.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn 2011. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a’i roi yn ôl pan y gaiff y safonau eu hadfer.

Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw’n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. 

Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn dangos y safonau a disgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

Dibynadwyedd

Mae amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar dueddiadau hanesyddol ac yn rhoi syniad o nifer yr aelwydydd, a’u cyfansoddiad, yng Nghymru yn y dyfodol ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2047. Maent yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth a gwybodaeth hanesyddol am gyfansoddiad a nodweddion aelwydydd. Cynhyrchir yr amcanestyniadau hyn drwy gymhwyso rhagdybiaethau am fathau o aelwydydd i ddata poblogaeth a amcanestynnir, yn ôl oedran a rhyw. Felly, mae’r amcanestyniadau aelwydydd yn adlewyrchu newidiadau yn y mathau o aelwydydd yn ogystal â thueddiadau yn yr amcanestyniadau poblogaeth isorweddol. Bydd effeithiau cymharol y rhagdybiaethau ynghylch mudo, marwolaethau, ffrwythlondeb a ffurfiant aelwydydd ar y twf yn niferoedd aelwydydd yn amrywio rhwng awdurdodau lleol.

Yn benodol, cyfrifir yr amcanestyniadau poblogaeth hyn gan ddefnyddio’r dulliau a ganlyn:

  • tynnu’r boblogaeth dybiedig sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol o’r boblogaeth amcangyfrifedig yn ôl grŵp oedran a rhyw i amcangyfrif nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat.
  • defnyddio data hanesyddol i gyfrifo cyfraddau aelodaeth aelwydydd ar gyfer y cyfnod o ganol 2022 i ganol 2047.
  • lluosi nifer amcangyfrifedig y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat â’r cyfraddau aelodaeth aelwydydd a amcanestynnir.
  • rhannu’r canlyniadau yn ôl maint aelwydydd, yna eu cydgasglu yn ôl grŵp oedran, rhyw a math o aelwyd i roi cyfanswm nifer yr aelwydydd a amcanestynnir.

Cynhaliwyd y broses hon gan ddefnyddio’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sydd ar gael ar gyfer canol 2022 i ganol 2047 ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Ansawdd

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu elfen Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU) ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol. 

Caiff gwiriadau dilysu eu cynnal gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Yna, caiff y datganiad ystadegol ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch-ystadegwyr a’i gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar yr elfen ddibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU).

Datblygwyd y dulliau ar gyfer cyfrifo’r amcanestyniadau aelwydydd hyn mewn cydweithrediad agos â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP), sy’n cynnwys swyddogion awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r grŵp hwn yn fforwm i gael trafodaeth dechnegol ar y dulliau ac i gytuno ar y rhagdybiaethau a’r data sylfaen i’w defnyddio. Mae aelodau’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â gwybodaeth a/neu brofiad o ddata demograffig ac amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd. 

Fel rhan o’r gwaith datblygu ar gyfer yr amcanestyniadau aelwydydd hyn, cytunodd grŵp WaSP i ddefnyddio data Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 sail hanesyddol ar gyfer cyfraddau aelodaeth aelwydydd. Defnyddiwyd cyfuniad pwysol o ddwy set o gyfraddau aelodaeth amcanestynedig, a gynhyrchwyd gan ddefnyddio model esbonyddol dau bwynt wedi’i addasu. Mae un model esbonyddol yn defnyddio cyfraddau aelodaeth o gyfrifiadau 2001 a 2011, ac mae’r model arall yn defnyddio cyfraddau aelodaeth o gyfrifiadau 2011 a 2021.

Roedd hyn yn dilyn profion helaeth ar wahanol fodelau ystadegol gyda data’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 er mwyn seilio cyfraddau aelodaeth aelwydydd ar dueddiadau o’r tri chyfrifiad. O hyn, dewiswyd model esbonyddol dau bwynt wedi’i bwysoli i gynhyrchu’r cyfraddau aelodaeth aelwydydd. Y pwysoliadau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr amcangyfrifon hyn oedd 75% ar gyfer y cyfraddau aelodaeth gan ddefnyddio data cyfrifiad 2011 a 2021, a 25% ar gyfer y cyfraddau aelodaeth gan ddefnyddio data cyfrifiad 2001 a 2011.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn yr adroddiad technegol.

Gwerth

Diben y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer cynllunio gwasanaethau ac amcangyfrif anghenion yn y dyfodol ar lefel genedlaethol a lleol, i lywio cynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac ar gyfer cyfrifo ystadegau pellach, er enghraifft, amcangyfrifon o’r angen am dai.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi’r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol yn ogystal â chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegau Poblogaeth a Mudo
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Y Cyfryngau: 0300 025 8099

SD: 104/2025