Canlyniadau'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2018 ar gyfer parciau cenedlaethol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcanestyniadau is-genedlaethol o'r boblogaeth
Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o faint a strwythur posibl poblogaeth parciau cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043. Fodd bynnag, mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar 10 mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad, gan fod amcanestyniadau'n tueddu i ddod yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, gan y gallai tueddiadau newid dros yr amserlen honno.
Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill, fel pandemig y coronafeirws, eu cael ar y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad o'r amcanestyniadau poblogaeth parciau cenedlaethol diweddaraf, gan gynnwys cymariaethau ag amcanestyniadau blaenorol.
Prif bwyntiau am 2018 i 2028
Newid yn amcanestyniadau’r boblogaeth
- Amcanestynnir y bydd poblogaethau Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn cynyddu 3.5% (1,190) a 2.5% (550) yn y drefn honno.
- Amcanestynnir y bydd poblogaeth Eryri yn gostwng 1.9% (480).
Amcanestyniadau yn ôl oedran
- Amcanestynnir y bydd y tri pharc cenedlaethol yn gweld cynnydd canrannol mawr yn y poblogaethau sy'n 65 oed neu'n hŷn, a chynnydd mwy yn nifer y bobl 75 oed neu drosodd.
- Amcanestynnir y bydd nifer y bobl o oedran gweithio (16 i 64 oed) a phlant (rhwng 0 a 15 oed) yn gostwng ar Arfordir Sir Benfro ac Eryri.
- Amcanestynnir y bydd Bannau Brycheiniog yn gweld gostyngiad llai yn nifer y bobl o oedran gweithio a chynnydd yn nifer y plant.
Cydrannau newid
- Amcanestynnir y bydd newid naturiol negyddol yn cynyddu ym mhob un o'r tri pharc cenedlaethol.
- Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn cynyddu ym mhob un o'r tri pharc cenedlaethol.
- Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn fwy na'r newid naturiol negyddol ym Mannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, gan arwain at gynnydd cyffredinol yn y boblogaeth.
- Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn llai na'r newid naturiol negyddol yn Eryri, gan arwain at ostyngiadau cyffredinol yn y boblogaeth.
Adroddiadau
Amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth (parciau cenedlaethol), sail-2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.