Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yn dadansoddi canlyniadau amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer awdurdodau lleol, gan gynnwys amcanestyniadau amrywiolion.

Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o faint a strwythur posibl poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043.

Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill, fel pandemig y coronafeirws, eu cael ar y boblogaeth yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn yn diwygio’r amcanestyniadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2020, Mae hyn oherwydd gwall yn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y diwygiad yn y adroddiad.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad o'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol diweddaraf, gan gynnwys cymariaethau ag amcanestyniadau blaenorol.

Prif amcanestyniad

Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:

  • amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
  • yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd eu poblogaeth yn cynyddu fwyaf ydy Casnewydd (7.2%), Bro Morgannwg (6.0%) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.6%)
  • amcanestynnir i’r boblogaeth leihau mewn pedair o’r 22 awdurdod lleol
  • yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd eu poblogaeth yn lleihau ydy Ceredigion (3.3%), Wrecsam (1.5%), Blaenau Gwent (0.7%) ac Ynys Môn (0.4%)

Dros gyfnod llawn 25 mlynedd yr amcanestyniadau amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn lleihau yn yr un pedwar awdurdod lleol, a chynyddu yng ngweddill yr awdurdodau lleol.

Amcanestyniadau yn ôl oedran

Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:

  • amcanestynnir y bydd poblogaeth plant a phobl ifanc 0 i 15 mlwydd oed yn lleihau yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
  • amcanestynnir y bydd poblogaeth pobl oedran gwaith 16 i 64 mlwydd oed hefyd yn lleihau yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, ac eithrio awdurdodau lleol fwy trefol yn ne Cymru yn bennaf, ac yng Ngwynedd
  • amcanestynnir y bydd poblogaeth pobl 65 oed a throsodd yn cynyddu ymhob awdurdod lleol, gyda chynnydd mawr ar gyfer pobl 75 oed a throsodd

Cydrannau newid

Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:

  • amcanestynnir y bydd newid naturiol (y gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a nifer y marwolaethau) yn fwyfwy negyddol yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
  • erbyn 2028 amcanestynnir mai dim ond yng Nghaerdydd a Chasnewydd y bydd mwy o enedigaethau na marwolaethau
  • amcanestynnir y bydd mudo net cyffredinol yn bositif ymhob awdurdod lleol
  • amcanestynnir y bydd cyfanswm mudo net yn fwyfwy positif ac eithrio yng Nghasnewydd a Bro Morgannwg

Adroddiadau

Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018, Cymru (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 973 KB

PDF
973 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.