Mae rheolwyr tir yn rhoi cynnig ar ein hofferyn drafft i amcangyfrif cost rheoli rhedyn yn seiliedig ar fanylion y safle (er enghraifft arwynebedd a llethr).
Dogfennau
Amcangyfrif cost opsiynau ar gyfer rheoli rhedyn (beta) , math o ffeil: XLSB, maint ffeil: 147 KB
Manylion
Mae'r offeryn hwn yn caniatáu i reolwyr tir amcangyfrif cost ystod o opsiynau rheoli rhedyn ar gyfer safle penodol. Mae ADAS wedi creu'r offeryn hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Os oes gennych unrhyw adborth, anfonwch e-bost at: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.
Ymwadiad
Bydd yr offeryn hwn yn helpu i gefnogi eich penderfyniadau ynghylch rheoli rhedyn. Bydd yn eich helpu i ystyried eich opsiynau rheoli. Ond nid yw'n darparu argymhellion pendant. Nid yw'n disodli'r angen ichi arfer eich barn eich hun. Chi sy’n gyfrifol am:
- benderfynu sut i ddehongli allbynnau'r offeryn a'u rhoi ar waith
- sicrhau bod unrhyw gamau a gymerwyd yn briodol i'w hamgylchiadau
- sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol
Nid yw Llywodraeth Cymru ac ADAS yn derbyn unrhyw atebolrwydd am:
- benderfyniadau neu gamau gweithredu a wneir ar sail allbynnau'r offeryn yn unig, neu
- unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o'i ddefnyddio neu ei gamddefnyddio
