Sut i reoli rhedyn yn effeithiol gan ddefnyddio arferion gorau.
Cynnwys
Beth yw rhedyn?
Mae rhedyn (Pteridium aquilinum) yn frodorol i Brydain ac mae i'w ganfod mewn coetiroedd, ar lethrau bryniau, ac ar rostiroedd a gweundiroedd. Gall fod o fudd i fywyd gwyllt, lleihau erydiad pridd, storio carbon a helpu i adfywio coetiroedd. Fodd bynnag, gall ardaloedd o redyn trwchus hefyd leihau bioamrywiaeth a rhwystro coetiroedd rhag sefydlu. Mae hyn yn golygu bod rheoli rhedyn yn angenrheidiol mewn rhai ardaloedd.
Sut gellir rheoli rhedyn?
Er mwyn rheoli rhedyn, rhaid i reolwyr tir asesu'r risgiau y mae'n eu hachosi, a phenderfynu a oes angen ei reoli. Os oes angen ei reoli, mae opsiynau'n cynnwys dulliau mecanyddol fel:
- aredig
- torri
- malurio, neu
- rholio
Pan nad yw'r dulliau hyn yn addas, gellir defnyddio chwynladdwyr sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer y defnydd hwnnw. Tan 2023 y prif chwynladdwr a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli rhedyn yng Nghymru oedd Asulox, ond ni chaniateir hyn mwyach.
Canllawiau arferion gorau rhedyn 2024
Yn 2022, sefydlwyd Gweithgor Rhedyn y DU gan y Sefydliadau Cadwraeth Natur Statudol. Y nod oedd lleihau gor-ddibyniaeth ar chwynladdwyr wrth reoli rhedyn, a hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy. Rhyddhaodd y grŵp hwn ganllawiau arferion gorau y DU yn 2024 fel rhan o'u hymdrechion i ddatblygu fframwaith rheoli rhedyn strategol ledled y DU.
Adroddiad rheoli rhedyn 2025
Rydym yn gweithio ar y cyd â NatureScot a Natural England i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach. Cynhaliwyd cyfres o weithdai ledled Prydain Fawr yng Ngwanwyn 2025. Fe wnaethant gasglu gwybodaeth am arferion rheoli rhedyn cyfredol a cheisio nodi pa gyngor pellach y byddai rheolwyr tir yn hoffi cael mynediad iddo. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn helpu i lywio camau nesaf y prosiect hwn. Maent ar gael yn Fframwaith Rhedyn Strategol - Ymchwil Rhanddeiliaid (RDE747) - Adroddiad Terfynol ar Zenodo.Com.
