Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 28 Mehefin. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd.

O fis Hydref 2022, bydd y SYG yn cyhoeddi data a dadansoddiadau yn ymwneud â’r ystod o bynciau a chwestiynau a oedd yn rhan o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys y cwestiynau newydd ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd a gwasanaeth blaenorol yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig. Bydd gwybodaeth am allu’r boblogaeth o ran y Gymraeg hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae rhagor o fanylion ar wefan yr ONS am y datganiadau a’r cyhoeddiadau arfaethedig.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.