Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o nifer yr anheddau yng Nghymru yn ôl deiliadaeth ac ar gyfer pob awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2022.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd 1,472,400 o anheddau yng Nghymru, sydd yn gynnydd o 6% i’w gymharu â 2012.
  • Mae stoc perchen-feddiannwyr wedi parhau i gynyddu yn ystod y ddegawd ddiwethaf, ac yn cynrychioli 71% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022 (p).
  • Mae nifer y stoc rhent preifat hefyd wedi cynyddu yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac yn cynrychioli 13% o'r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022 (p).
  • Mae stoc landlord cymdeithasol cofrestredig wedi parhau i gynyddu dros yr un cyfnod, ac yn cynrychioli 10% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022.
  • Mae stoc awdurdodau lleol wedi aros yn weddol sefydlog ers 2016, ac yn cynrychioli 6% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022.
  • Mae cyfran y stoc anheddau y cyfrifir gan bob deiliadaeth wedi aros bron yn gyson ers 2012.

(p) Dros dro (gweler y datganiad am fanylion).

Mae’r datganiad yn cynnwys Atodiad sy’n disgrifio’r dull a ddefnyddir i amcangyfrif y stoc anheddau bob blwyddyn, y gwahaniaeth rhwng amcangyfrif yr anheddau ar 31 Mawrth 2021 a ffigur Cyfrifiad 2021 ar lefel Cymru ac awdurdodau lleol, a’r ffactorau allai effeithio ar y gwahaniaeth rhwng y ddwy set o ddata.

Adroddiadau

Amcangyfrifon stoc annedd: ar 31 Mawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 728 KB

PDF
Saesneg yn unig
728 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sam Voyce

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.