Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad byr hwn yn rhoi amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd nad ydynt yn gallu fforddio cadw eu cartref wedi’i wresogi'n ddigonol ar gyfer 2018.

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all yr aelwyd honno gadw'r cartref yn gynnes am gost resymol. 

Yng Nghymru, mesurir hyn fel unrhyw aelwyd a fyddai'n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gynnal trefn wresogi ddigonol. Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Diffinnir aelwyd sy'n agored i niwed fel rheini sy'n gartref i berson 60 oed a throsodd a/neu blentyn neu berson ifanc o dan 16 oed a/neu berson sy'n anabl neu sydd â chyflwr hirdymor sy'n cyfyngu arnynt.

Prif bwyntiau

  • Roedd 155,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 12% o aelwydydd.
  • Roedd 32,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 2% o aelwydydd.
  • Roedd 130,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 11% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Roedd 19,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol2, sy'n cyfateb i 2% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Mae canran yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd wedi lleihau o 26% yn 2008.  Dengys rhagolygon cychwynnol bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i incymau aelwydydd yn cynyddu a gofynion ynni aelwydydd yn gostwng oherwydd bod y gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni yn fwy na'r cynnydd mewn prisiau tanwydd.

Adroddiadau

Amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru (prif ganlyniadau) 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 594 KB

PDF
594 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru (prif ganlyniadau) 2018: atodiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 459 KB

PDF
459 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.