Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos gwybodaeth am nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn 26 wythnos i ddyddiad derbyn llythyr atgyfeirio yn yr ysbyty ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Gweithgarwch

  • Yn 2017-18 roedd 1,107,534 o lwybrau gofal a gaewyd, i fyny 3.2% o’i gymharu â 2016-17 ac i fyny 8.8% o’i gymharu â 5 mlynedd yn ôl (2012-13).
  • Aneurin Bevan a gaeodd y mwyaf o lwybrau gofal yn ystod y flwyddyn hon, gan gyfrif am 19.1% (211,243 o lwybrau gofal a gaewyd) a llawfeddygaeth gyffredinol oedd yr arbenigedd gyda’r mwyaf o lwybrau gofal a gaewyd, gan gyfrif am 12.8% (141,692 o lwybrau gofal a gaewyd) o’r holl lwybrau gofal a gaewyd yng Nghymru. 

Perfformiad

Targed 26 wythnos

  • Roedd perfformiad dros 2017-18 yr un fath yn fras o’i gymharu â 2016-17, ond roedd yn uwch na pherfformiad 2015-16. Mae perfformiad dros y 3 blynedd diwethaf lawer is na 2012-13, sef y flwyddyn â’r perfformiad uchaf.  
  • O’r bum swyddogaeth triniaeth gyda’r mwyaf o lwybrau gofal yn aros, ym maes Dermatoleg yr oedd y perfformiad diwedd flwyddyn gorau gydag 88.6% o gleifion yn cael eu gweld cyn pen 26 wythnos. Roedd y perfformiad gwaethaf ym maes Trawma ac Orthopedeg, gyda 73.1% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos.

Targed 36 wythnos

  • Lleihaodd y nifer a oedd yn aros dros 36 wythnos yn sylweddol dros y flwyddyn mewn tri o’r byrddau iechyd. Lleihaodd nifer yr achosion a oedd yn aros yn Hywel Dda o 2,965 i 1,494 (lleihad o 49.6%), lleihaodd nifer yr achosion oedd yn aros dros 36 wythnos yng Nghaerdydd a’r Fro o 2,754 i 783 (lleihad o 71.6%) a lleihaodd y nifer yng Nghwm Taf o 376 (sylwer: ffigur mis Mai yw hwn gan fod mis Ebrill yn cynnwys amcangyfrifon) i 4 yn unig (lleihad o 98.9%) rhwng dechrau a diwedd 2017-18.

Cyd-destun

  • Yn 2017-18, roedd yr amseroedd aros canolrifol rhwng atgyfeiriad a thriniaeth yn hirach bob mis o’u cymharu â 2016-17 ac eithrio ym mis Chwefror.  
  • Ym mis Mawrth 2018 y cafwyd yr amser aros canolrifol byrraf ym mhob bwrdd iechyd ac eithrio dau, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Ionawr 2018) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Chwefror 2018). 

Adroddiadau

Amseroedd atgyfeiriad am driniaeth, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 843 KB

PDF
Saesneg yn unig
843 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.