Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf ADY’). Mae’n ategu Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (‘ y Cod ADY’). 

Nid yw’n newid egwyddorion na gofynion statudol y ddeddfwriaeth berthnasol. Yn hytrach, mae’n darparu gwybodaeth er mwyn:

  • gwella dealltwriaeth o sut mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn gymwys yn benodol i blant sy’n derbyn gofal
  • cryfhau sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu’n ymarferol ledled Cymru

Fe’i datblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol mewn ymateb i’r adolygiad deddfwriaethol o ADY. Nododd yr adolygiad feysydd lle roedd angen gwella eglurder, cysondeb a dealltwriaeth wrth gymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ADY. 

Gellir diweddaru’r canllawiau hyn neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg i adlewyrchu:

  • newidiadau mewn deddfwriaeth
  • datblygiadau polisi 
  • tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ymarfer effeithiol

Pan fo'r canllawiau yn dweud 'rhiant', mae hyn yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â dyletswydd gofal dros blentyn.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer:

  • awdurdodau lleol
  • cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
  • pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion
  • sefydliadau addysg bellach
  • cydgysylltwyr addysg plant sy’n derbyn gofal
  • cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
  • swyddogion arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar 

Gall hefyd fod o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol o sectorau eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ac sydd ag ADY. 

Ar gyfer y canllawiau hyn, defnyddir y term 'plant sy'n derbyn gofal' i gyfateb i ddeddfwriaeth ADY. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yn aml yn defnyddio'r termau 'plant mewn gofal' neu 'plant sy'n derbyn gofal'.

Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

Trosolwg o blant sy'n derbyn gofal ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae plant sy’n derbyn gofal ymhlith y dysgwyr mwyaf agored i niwed, ac mae’n hanfodol bod eu profiad addysgol yn eu cynorthwyo i ffynnu. Trwy weithio ar y cyd, gall ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill helpu i sicrhau bod y dysgwyr hyn yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu llawn botensial.

Mae rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi'r diffiniad cyfreithiol o 'blentyn sy'n derbyn gofal'. Mae adran 74 yn darparu bod plentyn yn cael ei ystyried yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw'n un o'r canlynol:

  • mae’r awdurdod lleol yn darparu llety i’r plentyn o dan adran 76 (llety gwirfoddol) 
  • mae’r plentyn yn destun gorchymyn gofal neu orchymyn amddiffyn brys sy’n ei osod o dan ofal yr awdurdod lleol 

Mae adrannau 15 a 99 o’r Ddeddf ADY a Rheoliad 5 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn amlinellu ystyr ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ at ddibenion y Ddeddf ADY.

Mae paragraffau 1.27 i 1.31 o’r Cod ADY yn darparu canllawiau ar hyn. At ddibenion y Ddeddf ADY, nodir bod plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal os yw’n bodloni’r meini prawf canlynol:

Dylid nodi bod ystyr ‘derbyn gofal gan yr awdurdod lleol’ yn cynnwys mwy o amodau yn y Ddeddf ADY nag yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae Pennod 14 o’r Cod ADY yn amlinellu’r fframwaith statudol a’r darpariaethau penodol ar gyfer nodi a diwallu ADY plant sy’n derbyn gofal. Nodir bod y plant hyn yn grŵp sy’n agored iawn i niwed, ac mae angen cymorth cydgysylltiedig â blaenoriaeth arnynt i sicrhau bod ganddynt fynediad cyfartal at addysg.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

Mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn cynnwys 2 ddull cyffredinol o wneud penderfyniadau ynglŷn ag a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal ADY a, lle bo angen, paratoi a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU) ar ei gyfer. 

Mae’r Ddeddf ADY yn gwahaniaethu’n glir rhwng dyrannu’r cyfrifoldeb am bennu a oes gan blentyn ADY ac am baratoi a chynnal CDU, ar sail a yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru yn cael ei osod yng Nghymru neu yn Lloegr. 

Yn unol ag adrannau 18 a 19 o’r Ddeddf ADY, mae ddyletswydd ar awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn i: 

  • benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal ac sy’n byw yng Nghymru ADY
  • lunio a chynnal CDU lle bo angen 

Mae’r awdurdod sy’n lleoli’r plentyn yn parhau i fod yn gyfrifol am hyn hyd yn oed os yw’r plentyn yn preswylio mewn ardal awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am gynllunio ar gyfer anghenion y plentyn (gan gynnwys ei anghenion addysgol) yn parhau i fod yn gyfrifol am nodi, cynllunio a chynnal y CDU.

Wrth benderfynu (yn unol ag adran 579(3A) o Ddeddf Addysg 1996) a yw plentyn (gan gynnwys plentyn sy'n derbyn gofal) 'yn ardal' awdurdod lleol yn Lloegr, mae'r ffaith bod y plentyn yn byw yn Lloegr i'w ddiystyru os yw'r awdurdod lleol yng Nghymru yn sicrhau darpariaeth a wneir o dan Ran 2 o'r Ddeddf ADY ar gyfer y plentyn (er enghraifft mae'r awdurdod lleol yng Nghymru wedi gosod y plentyn mewn plentyn ysgol breswyl yn Lloegr ac mae wedi enwi'r ysgol yn adran 2D o CDU y plentyn). Yn y senario hwn, byddai'r plentyn yn cael ei ystyried ‘yn ardal' Cymru. Mae hyn oherwydd mai'r awdurdod lleol cyfrifol yn y senario hwn fydd y corff sy'n gyfrifol am sicrhau addysg i'r plentyn, yn hytrach na'r corff lle mae'r plentyn yn byw ar hyn o bryd. 

Mae adran 579(3A) o Ddeddf Addysg 1996 hefyd yn darparu, os yw plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, dylid diystyru hyn os yw'r plentyn yn preswylio'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Mewn lleoliadau maeth, mae plentyn yn byw gyda gofalwyr maeth cymeradwy mewn lleoliad teuluol, tra bod cartrefi gofal preswyl yn darparu gofal mewn amgylchedd byw mewn grŵp o dan ofal staff. Gall y gwahaniaethau hyn effeithio ar:

  • sut y mae cyfrifoldebau yn cael eu harfer
  • sut y mae cynlluniau yn cael eu cydlynu
  • pa weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses

Mae’n bwysig nodi bod lleoliadau mewn cartrefi gofal preswyl yn wahanol i leoliadau maeth.

Hawliau ac apeliadau 

Mae gan blant sy’n derbyn gofal yr un hawliau i apelio â phlant a phobl ifanc eraill sy’n derbyn addysg mewn ysgol neu leoliad addysg arall.

Ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol sy’n gwneud y penderfyniad bob tro. Byddai Tribiwnlys Addysg Cymru yn gyfrifol am glywed apeliadau yn yr un modd ag ar gyfer unrhyw benderfyniad arall gan awdurdod lleol. Mae modd trefnu bod apêl yn cael ei gwneud gan: 

  • y plentyn
  • yr awdurdod lleol sy’n gweithredu fel rhiant corfforaethol
  • unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant
  • ffrind achos (os nad oes gan y plentyn alluedd)
  • swyddog adolygu annibynnol

Cynllun addysg personol (CAP)

Mae cynllun addysg personol (CAP) (gweler Cynlluniau addysg bersonol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal: canllawiau drafft i ymarferwyr) yn elfen statudol o gynllun gofal plentyn sy’n derbyn gofal, ac wedi’i gynllunio i gofnodi a chefnogi ei addysg a’i hyfforddiant. 

Mae CAP yn:

  • sicrhau bod cofnod clir a chyfoes yn cael ei gadw o gynnydd addysgol y plentyn
  • nodi’r hyn sydd angen digwydd er mwyn iddo wireddu ei lawn botensial

Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y CAP:

  • yn adlewyrchu anghenion addysgol y plentyn yn llawn
  • yn parhau i fod yn addas i’w oedran, ei allu, a’i ddawn
  • yn cael ei weithredu’n effeithiol

Ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ag ADY, rhaid cynnwys eu CDU yn y CAP. Mae’r broses hon yn cynorthwyo dull gweithredu cyfannol, gan sicrhau bod darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) y plentyn a’r cymorth addysgol ehangach yn gyson ac yn cryfhau ei gilydd. 

Lle y bo’n briodol, gellir llunio, adolygu neu ddiwygio’r CDU ar yr un pryd â’r CAP neu gynlluniau perthnasol eraill, er mwyn symleiddio gwaith cynllunio a sicrhau cydlyniant ym mhob elfen o gymorth y plentyn. Mae cynnwys y CDU oddi mewn i’r CAP yn cefnogi gwaith monitro ac adolygu effeithiol, yn enwedig yn ystod cyfnodau pontio neu newid lleoliad.

Mae rhaid adolygu CDU pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal neu pan fydd y gofal yn dod i ben, gan sicrhau bod ei anghenion addysgol yn cael eu hailasesu ar sail newidiadau i’w statws gofal. (Gweler Rheoliad 16 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021).

Mae penodau 14 a 24 o’r Cod ADY yn rhoi rhagor o wybodaeth am y maes hwn.

Rôl ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Mewn achosion lle mae plentyn yn byw yng Nghymru ac yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, mae’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn yn gyfrifol am:

  • nodi unrhyw ADY
  • paratoi CDU
  • sicrhau’r DDdY ofynnol 

Pan fydd awdurdod lleol yn cynnal CDU ar gyfer dysgwr sy’n mynychu ysgol a gynhelir, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, mae gan yr ysgol ddyletswydd statudol o dan adran 13 o’r Ddeddf ADY i gymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r awdurdod lleol i sicrhau’r DDdY a bennir yn y CDU. 

Mae cydweithredu effeithiol rhwng ysgolion, yr awdurdod lleol cyfrifol, ac asiantaethau perthnasol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu mewn modd amserol a chydgysylltiedig.

Nid yw ysgolion a gynhelir yn gyfrifol am benderfynu ar ADY nac am lunio a chynnal CDU ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (ac eithrio’r rhai sy’n byw mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr). Fodd bynnag, mae dyletswyddau eraill ar ysgolion a gynhelir mewn perthynas â phlant ag ADY yn berthnasol yn yr un modd ag i blant sy’n derbyn gofal sydd ag ADY.

Yr eithriad i hyn yw sefyllfa lle mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ac yn mynychu ysgol yng Nghymru a’i fod yn byw ‘mewn ardal’ awdurdod lleol yn Lloegr (mae’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr). Yn yr achos hwn, yr ysgol yng Nghymru sy’n gyfrifol am wneud penderfyniad a llunio a chynnal CDU. Mae gan yr awdurdod lleol sy’n llywodraethu’r ysgol ddyletswydd i ailystyried penderfyniadau a wnaed gan yr ysgol ar gais y plentyn neu rieni’r plentyn. 

Rôl ysgolion yn Lloegr

Er nad yw ysgolion Lloegr yn cael eu rhwymo gan ddeddfwriaeth Cymru, disgwylir iddynt gydweithredu o dan drefniadau rhwng awdurdodau a dyletswyddau diogelu.

O dan adran 65 o’r Ddeddf ADY, mae gan awdurdodau lleol y pŵer i ofyn am gydweithrediad gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach, cyrff iechyd, ac asiantaethau eraill pan fydd angen gwybodaeth neu gymorth arnynt i gyflawni eu dyletswyddau ADY.

Ysgolion annibynnol

Nid yw dyletswyddau statudol y Ddeddf ADY, gan gynnwys y gofyniad i benderfynu a oes gan ddysgwr ADY neu i gynnal CDU, yn berthnasol i ysgolion annibynnol yng Nghymru. 

Rhaid i bob ysgol annibynnol gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 er mwyn parhau â’u cofrestriad. Mae’r safonau hyn yn cynnwys disgwyliadau yn ymwneud ag ansawdd addysg, llesiant, a chymorth i ddysgwyr ag ADY. 

Rhaid i geisiadau i gofrestru ysgol annibynnol gynnwys gwybodaeth am y mathau o DDdY y mae’r ysgol yn bwriadu eu cynnig.

Pan fydd awdurdod lleol yn gyfrifol am nodi ADY neu am baratoi neu adolygu CDU ar gyfer dysgwr sy’n mynychu ysgol annibynnol, dylai weithio ar y cyd â’r ysgol i asesu anghenion y dysgwr a sicrhau bod y DDdY benodedig yn cael ei chyflwyno’n effeithiol.

Rôl y seicolegydd addysg 

Nid oes angen cyfranogiad seicolegydd addysg o reidrwydd i benderfynu a oes gan blant sy’n derbyn gofal ADY. Fodd bynnag, yn aml mae seicolegwyr addysg yn gwneud gwaith cynghori allweddol pan fydd awdurdod lleol yn ystyried a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal ADY.

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol yn y Ddeddf ADY na’r Cod ADY sy’n nodi bod yn rhaid cwblhau asesiad seicolegydd addysg ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal. 

Mae’r penderfyniad i gynnwys seicolegydd addysg yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a chymhlethdod anghenion y plentyn. 

Wrth benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal ADY, mae’r Cod ADY yn nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes angen gofyn am gyngor gan seicolegydd addysg. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ofyn am gyngor o’r fath os yw’n ystyried bod angen gwneud hynny er mwyn nodi: 

  • graddfa neu natur ADY y plentyn
  • y DDdY sydd ei hangen i ddiwallu’r anghenion hynny

Er nad yw cyfranogiad seicolegydd addysg yn orfodol, gellir defnyddio ei fewnbwn fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer penderfynu a oes gan blentyn ADY ac er mwyn cynllunio DDdY briodol. 

Gweler penodau 14.16 o’r Cod ADY am rhagor o wybodaeth.

Ymholiadau cyffredin

Pobl ifanc dros oedran ysgol gorfodol

Nid yw pobl ifanc dros oedran ysgol gorfodol yn cael eu hystyried yn bobl ifanc sy’n ‘derbyn gofal’ at ddibenion y Ddeddf ADY.

Fodd bynnag, os ydynt yn derbyn gofal o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a bod ganddynt ADY, mae’n bosibl y bydd angen CDU arnynt o hyd. Yn yr achosion hyn, mae darpariaethau safonol Deddf ADY a’r Cod ADY yn berthnasol. Mae hyn yn golygu:

Mae plentyn wedi cael gorchymyn lleoli ac yn aros i gael ei fabwysiadu

Mae plant sydd wedi cael gorchymyn lleoli ac sy’n aros i gael eu mabwysiadu yn parhau i gael eu hystyried yn blant sy’n derbyn gofal nes bod y broses fabwysiadu wedi’i chwblhau, felly bydd y plant hyn yn parhau i gael CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Unwaith y bydd plentyn yn cael ei fabwysiadu ac nad yw’n derbyn gofal bellach, byddai darpariaethau’r Ddeddf ADY yn berthnasol yn yr un modd ag ar gyfer unrhyw blentyn arall.

Beth sy'n digwydd i CDU pan fydd plentyn sy'n derbyn gofal o Gymru yn cael ei roi mewn cartref gofal yn Lloegr

Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal o Gymru sydd â CDU yn cael ei leoli mewn cartref gofal yn Lloegr, ni fyddai’r CDU yn troi’n gynllun addysg, iechyd a gofal (EHCP) yn awtomatig. 

Os yw plentyn yn cael ei leoli mewn cartref gofal yn Lloegr er mwyn sicrhau darpariaeth addysg o dan Ran 2 o’r Ddeddf ADY, ystyrir bod y plentyn yn parhau i fod ‘yn ardal’ Cymru. 

O ganlyniad, mae’r CDU yn parhau i fod yn weithredol, ac mae’r awdurdod lleol yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfrifol am ei gynnal oherwydd bod y lleoliad wedi’i enwi yn adran 2D o’r CDU.

Os yw’r plentyn wedi’i leoli yn y cartref gofal yn Lloegr am unrhyw reswm arall, byddai angen ystyried Deddf Plant a Theuluoedd 2014 oherwydd byddai’r awdurdod lleol yn Lloegr yn gyfrifol am y plentyn ar sail y dybiaeth bod y plentyn yn preswylio ‘yn ardal’ yr awdurdod lleol yn Lloegr. 

Mae gan awdurdodau lleol yn Lloegr ddyletswydd i adnabod plant yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig neu a allai fod ag anghenion addysgol arbennig o dan adran 22 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014

Rhaid i’r awdurdod lleol yn Lloegr benderfynu a yw’n briodol sicrhau darpariaeth addysg arbennig yn unol ag EHCP ar gyfer y plentyn trwy gynnal asesiad o anghenion addysg, iechyd a gofal (EHC). Fodd bynnag, ni fydd angen llunio EHCP ar gyfer pob plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig neu a allai fod ag anghenion addysgol arbennig.

Beth sy'n digwydd i EHCP pan fydd plentyn sy'n derbyn gofal o Loegr yn cael ei roi mewn cartref gofal yng Nghymru

Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal o Loegr sydd â EHCP yn cael ei leoli mewn cartref yng Nghymru, ni fyddai’r EHCP yn troi’n gynllun CDU yn awtomatig. 

Os yw plentyn yn cael ei leoli mewn cartref gofal yng Nghymru er mwyn sicrhau darpariaeth addysg o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, ystyrir bod y plentyn yn parhau i fod ‘yn ardal’ Lloegr. O ganlyniad, mae’r EHCP yn parhau i fod yn weithredol, ac mae’r awdurdod lleol yn Lloegr yn parhau i fod yn gyfrifol am ei gynnal.

Os yw’r plentyn wedi’i leoli yn y cartref gofal yng Nghymru am unrhyw reswm arall, byddai angen ystyried y Ddeddf ADY oherwydd byddai’r awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn.

Senarios

Dyletswydd i gyfeirio mater at awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn 

Pan gaiff ei ddwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru, neu os yr ymddengys iddo fel arall, bod gan blentyn sy’n derbyn gofal ac sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol ADY o bosibl, rhaid i’r corff llywodraethu gyfeirio’r mater at yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.

Gweler adrannau 17, 18 ac 19 o’r Ddeddf ADY

Enghraifft 

  • Mae Lily yn blentyn 10 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Dinas Casnewydd. Mae Lily wedi'i lleoli mewn gofal maeth yng Nghaerdydd ac mae'n mynychu ysgol gynradd a gynhelir yng Nghaerdydd. 
  • Mae athrawon Lily yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau cymorth dysgu ac addysgu wedi'u teilwra a gwneud addasiadau amgylcheddol. Mae staff yr ysgol ar ran y corff llywodraethu yn amau bod ganddi ADY o bosibl.
  • Mae'r cyfrifoldeb am benderfynu a oes gan Lily ADY a sicrhau'r DDdY yn gorwedd ar yr awdurdod lleol sy'n gofalu am Lily ac nid yr ysgol neu'r awdurdod lleol lle mae Lily yn byw neu'n cael ei haddysgu ar hyn o bryd. Er bod Lily yn mynychu'r ysgol yng Nghaerdydd, mae'n rhaid i'r ysgol gyfeirio'r pryder at Gyngor Dinas Casnewydd, gan mai’r cyngor hwn sy’n gofalu am y plentyn. 

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ac sy’n byw yn ardal yr awdurdod sy’n gofalu am y plentyn

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ac yn byw o fewn ardal yr un awdurdod (nid yw wedi’i leoli y tu allan i’r ardal), yna mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb uniongyrchol a chyflawn am benderfynu a oes gan y plentyn ADY ac am sicrhau’r DDdY o dan y Ddeddf ADY a’r Cod ADY.

Gweler adrannau 17, 18 ac 19 o’r Ddeddf ADY

Enghraifft 

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ac sy’n byw mewn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru 

Er bod y plentyn yn byw mewn ardal awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru, mae’r awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn yn gyfrifol am: 

  • benderfynu a oes gan y plentyn ADY
  • llunio a chynnal y CDU (os oes angen)

Gweler adrannau 17, 18 ac 19 o’r Ddeddf ADY.

Enghraifft 

  • Mae Haf yn blentyn 9 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Abertawe. Mae Haf wedi'i leoli mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n mynychu ysgol gynradd a gynhelir yn Sir Gaerfyrddin.
  • Mae gan Haf anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Mae ei hathrawon yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau cymorth dysgu ac addysgu wedi'u teilwra a gwneud addasiadau amgylcheddol.
  • Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am benderfynu a oes gan Haf ADY ac, os oes angen hynny, am ddatblygu a chynnal y CDU. Bydd Abertawe yn gweithio gyda’r ysgol yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod anghenion dysgu Haf yn cael eu diwallu.

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn byw yng Nghymru ac yn mynychu ysgol yn Lloegr

Er bod y plentyn yn mynychu ysgol yn Lloegr, mae’r awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn yn gyfrifol am:

  • benderfynu a oes gan y plentyn ADY
  • llunio a chynnal y CDU (os oes angen)

Gweler adran 18 o’r Ddeddf ADY.

Enghraifft 

  • Mae Alys yn blentyn 13 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae Alys yn byw yn y Rhyl, ac yn mynychu ysgol uwchradd yng Nghaer, Lloegr. 
  • Mae gan Alys anawsterau cymdeithasol, emosiynol a chyfathrebu. Mae ei hathrawon yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau cymorth dysgu ac addysgu wedi'u teilwra a gwneud addasiadau amgylcheddol.
  • Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am benderfynu a oes gan Alys ADY ac, os oes angen hynny, am ddatblygu a chynnal y CDU.
  • Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda’r ysgol yng Nghaer i sicrhau bod anghenion dysgu Haf yn cael eu diwallu. Mae’n bosibl y bydd gan y plentyn EHCP hefyd, gan ddibynnu ar a yw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer cynllun o’r fath yn Lloegr.

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, sy’n byw yn Lloegr ond sy’n mynychu ysgol yng Nghymru

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ond yn byw mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a’i fod wedi’i gofrestru mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae gan yr ysgol a gynhelir yng Nghymru ddyletswydd i benderfynu: 

  • a oes gan y plentyn ADY 
  • llunio a chynnal CDU (os oes angen)

Gweler adrannau 13, 14 ac 18 o’r Ddeddf ADY

Nodwch yr amgylchiadau y mae'n rhaid eu diystyru at ddibenion penderfynu a yw plentyn yn byw yn Lloegr (adran 579(3A) Deddf Addysg 1996).

Enghraifft 

  • Mae Dylan yn blentyn 14 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Dylan yn byw yng Nghroesoswallt, Lloegr ac yn mynychu ysgol uwchradd a gynhelir yn Wrecsam. 
  • Mae gan Dylan anawsterau synhwyraidd a phrosesu sy'n effeithio ar ei ddysgu. Mae ei athrawon yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig ac mae angen cymorth llythrennedd strwythuredig ychwanegol, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau dysgu, addysgu a chymorth wedi'u teilwra.
  • Mae’r ysgol uwchradd a gynhelir yn gyfrifol am benderfynu a oes gan Dylan ADY ac, os oes angen hynny, am ddatblygu a chynnal y CDU. Hefyd, gall yr ysgol atgyfeirio’r mater at yr awdurdod lleol yn Lloegr i ofyn am asesiad o dan adran 36 o’r Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Fodd bynnag, os yw’r awdurdod lleol yn Lloegr yn penderfynu peidio â chynnal yr asesiad hwnnw, rhaid i’r corff llywodraethu lunio CDU ar gyfer y plentyn (gweler adran 12(5) a pharagraff 12.39 o’r Cod ADY). 
  • Gan nad yw’r awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn yn y senario hwn, nid oes ganddo ddyletswyddau o dan adran 13 nac adran 14 o’r Ddeddf ADY.

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr, sy’n byw yng Nghymru ac sy’n mynychu ysgol yng Nghymru

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr, yn byw yng Nghymru ac yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, nid yw’r plentyn yn derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf ADY a’r Cod ADY. Felly, mae’r dyletswyddau a roddir ar ysgolion i benderfynu a oes gan y plentyn ADY ac, os oes angen hynny, i lunio a chynnal CDU yn berthnasol. Os yw ysgol yn penderfynu bod gan blentyn ADY, gall gyfeirio’r achos at yr awdurdod lleol cyfrifol (yn y senario hwn, at awdurdod lleol Wrecsam) yn hytrach na llunio’r CDU, ond dim ond os yw’n credu bod ADY y plentyn yn gofyn am DDdY na all yr ysgol: 

  • ei darparu’n rhesymol
  • ei hasesu’n ddigonol
  • ei phenderfynu’n ddigonol 

Gweler adrannau 11, 12, 13 a 14 o’r Ddeddf ADY

Enghraifft 

  • Mae Freya yn blentyn 12 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer. Mae Freya yn byw yn Wrecsam, ac yn mynychu ysgol uwchradd a gynhelir yn Wrecsam. 
  • Mae gan Freya anawsterau synhwyraidd. Mae ei hathrawon yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau cymorth dysgu ac addysgu wedi'u teilwra a gwneud addasiadau amgylcheddol. 
  • Mae'r ysgol uwchradd a gynhelir yn gyfrifol am benderfynu a oes gan Freya ADY ac, lle bo angen, am ddatblygu a chynnal yr CDU. Efallai y bydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn cefnogi cynllunio gofal ond nid yw'n rheoli ADY o dan gyfraith Cymru.
  • Os yw ysgol uwchradd a gynhelir yn penderfynu bod gan Freya ADY, gall gyfeirio’r achos at yr awdurdod lleol cyfrifol (Wrecsam) yn hytrach na llunio’r CDU, ond dim ond os yw’n credu bod ADY Freya yn gofyn am DDdY nad yw’r ysgol yn gallu ei darparu’n rhesymol, ei hasesu’n ddigonol, na’i phenderfynu’n ddigonol.

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr, sy’n byw yn Lloegr ac sy’n mynychu ysgol yng Nghymru

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr, yn byw yn Lloegr, ac yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, nid yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf ADY a’r Cod ADY. Felly, mae’r dyletswyddau a roddir ar ysgolion i benderfynu a oes gan y plentyn ADY ac, os oes angen hynny, i lunio a chynnal CDU yn berthnasol. 

Gweler adrannau 11, 12, a 14 o’r Ddeddf ADY

Enghraifft

  • Mae Leo yn blentyn 11 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Swydd Amwythig (Lloegr). Mae Leo yn byw yng Nghroesoswallt, Lloegr ac yn mynychu ysgol a gynhelir ym Mhowys.
  • Nid yw Leo yn gwneud y cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau dysgu ac addysgu a chymorth wedi’u teilwra.
  • Mae’r ysgol a gynhelir yn gyfrifol am benderfynu a oes gan Leo ADY ac, os oes angen hynny, am ddatblygu a chynnal y CDU. 
  • Hefyd, gall yr ysgol a gynhelir atgyfeirio’r mater at yr awdurdod lleol yn Lloegr i ofyn am asesiad o dan adran 36 o’r Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Fodd bynnag, os yw’r awdurdod lleol yn Lloegr yn penderfynu peidio â chynnal yr asesiad hwnnw, rhaid i’r corff llywodraethu lunio CDU ar gyfer y plentyn (gweler adran 12(5) o’r Ddeddf ADY a pharagraff 12.39 o’r Cod ADY).

Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, sy’n byw yn Lloegr ond sy’n mynychu ysgol yn Lloegr

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ond yn byw yn Lloegr ac yn mynychu ysgol a gynhelir yn Lloegr, nid oes dyletswydd ar yr awdurdod lleol yng Nghymru i benderfynu a oes gan y plentyn ADY. Fodd bynnag, byddai disgwyl i’r awdurdod lleol yng Nghymru weithio gyda’r ysgol a’r awdurdod lleol yn Lloegr i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu. 

Gweler adrannau 15 a 18(2)(c) o’r Ddeddf ADY.

Nodwch yr amgylchiadau y mae'n rhaid eu diystyru at ddibenion penderfynu a yw plentyn yn byw yn Lloegr (adran 579(3A) Deddf Addysg 1996).

Enghraifft

  • Mae Isla yn blentyn 10 oed sy'n derbyn gofal gan Gyngor Sir Powys (Cymru). Mae Isla yn byw yn Lwydlo, Lloegr ac yn mynychu ysgol gynradd yn Lwydlo. 
  • Mae gan Isla anawsterau dysgu. Mae ei hathrawon yn nodi nad yw'n gwneud cynnydd disgwyliedig, hyd yn oed ar ôl defnyddio strategaethau cymorth dysgu ac addysgu wedi'u teilwra a gwneud addasiadau amgylcheddol. 
  • Mae’r ysgol yn Lwydlo yn gyfrifol am nodi ei hanghenion ac am ddarparu cymorth trwy ei dull ysgol gyfan.
  • Os nad yw’r ysgol yn gallu diwallu ei hanghenion, dylai gyfeirio Isla at awdurdod lleol Swydd Amwythig i ystyried asesiad o anghenion addysg, iechyd a gofal (EHC).

Geirfa a diffiniadau cyfreithiol

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

(Adran 2 o’r Ddeddf ADY)

  • (1) Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p’un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
  • (2) Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd:
    • (a) os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu
    • (b) os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
  • (3) Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.
  • (4) Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) 

(Adran 10 o’r Ddeddf ADY)

At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol⁠:

  • (a) disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;
  • (b) disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;
  • (c) unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)

(Adran 3 o’r Ddeddf ADY)

(1) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran:

  • (a) mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, 
  • (b) mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu 
  • (c) mannau yng Nghymru lle darperir addysg feithrin. 

(2) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

(3) Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

Gofalwr maeth

Gall gofalwr maeth sy’n gofalu am blentyn fod yn rhan o’r broses ADY. Fodd bynnag, nid oes gan ofalwyr maeth gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Er mai nhw yw rhoddwyr gofal y plentyn o ddydd i ddydd, mae’r cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol yn parhau gyda’r rhieni geni neu’r awdurdod lleol. Gall gofalwyr maeth gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn ymwneud â chymorth CDU ac ADY y plentyn. Hefyd, gallant fynychu cyfarfodydd ac adolygiadau a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio darpariaeth addysgol y plentyn. 

Plentyn

Mae modd pennu bod plentyn yn blentyn sy’n ‘derbyn gofal’ o adeg ei eni ymlaen os yw’n cael ei roi yng ngofal awdurdod lleol o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rhiant

Gweler yr ystyr a roddir yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996. Mae’r diffiniad hwnnw yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn. 

Mae Rhieni a cyfrifoldeb rhiant: canllawiau ar gyfer ysgolion hefyd yn cynnwys canllawiau ar y diffiniad hwnnw at ddibenion Deddf Addysg 1996.

Rhiant corfforaethol

Rhiant corfforaethol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfreithiol gyfrifol am blentyn sy’n derbyn gofal. Mae’r term rhianta corfforaethol yn cyfeirio at gydgyfrifoldeb partneriaid pan fydd plentyn yn mynd i ofal. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, aelodau etholedig, gweithwyr ac asiantaethau partner.

Crynodeb o enghreifftiau ymarferol o blant sy'n derbyn gofal 

Enghraifft 1 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Sir y Fflint. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Sir y Fflint. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yn Sir y Fflint. 
  • Mae awdurdod lleol Sir y Fflint yn gyfrifol am baratoi a chynnal y CDU. 

Enghraifft 2 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Caerdydd. 
  • Mae'r plentyn yn byw ym Mhen-y-bont. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yng Nghaerffili. 
  • Awdurdod lleol Caerdydd sy'n gyfrifol am gynnal y CDU. 

Enghraifft 3 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Casnewydd. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yng Nghasnewydd. 
  • Mae'r ysgol yn gyfrifol am gynnal y CDU. 

Enghraifft 4 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Ceredigion. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yn Lloegr. 
  • Rhaid i'r ysgol benderfynu a chefnogi anghenion y plentyn. 
  • Os nad yw'r ysgol yn gallu diwallu'r anghenion hynny, rhaid iddi gyfeirio'r achos at ei hawdurdod lleol yn Lloegr i ystyried asesiad anghenion EHC.

Enghraifft 5 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Torfaen. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Nhorfaen. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yn Lloegr. 
  • Awdurdod lleol Torfaen sy'n gyfrifol am gynnal y CDU.

Enghraifft 6 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Abertawe. 
  • Mae'r plentyn yn byw yng Nghaerdydd. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yng Nghaerdydd. 
  • Awdurdod lleol Abertawe sy'n gyfrifol am gynnal y CDU.

Enghraifft 7 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: Sir Benfro. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Sir Fynwy. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yn Lloegr. 
  • Awdurdod lleol Sir Benfro sy'n gyfrifol am gynnal y CDU.

Enghraifft 8

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: awdurdod lleol yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn byw yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yn Wrecsam. 
  • Yr ysgol yng Nghymru sy'n pennu ADY a rhaid iddi baratoi a chynnal CDU os oes angen. 
  • Rhaid i'r ysgol gefnogi anghenion y plentyn. 
  • Os na all yr ysgol ddiwallu'r anghenion hynny, rhaid iddi gyfeirio'r achos at yr awdurdod lleol yn Lloegr sy'n gofalu am y plentyn i ystyried asesiad anghenion EHC. 

Enghraifft 9 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: awdurdod lleol yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn byw ym Mhen-y-bont. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu yng Nghaerdydd. 
  • Mae'r ysgol yn gyfrifol am nodi a chefnogi unrhyw ADY. 
  • Os yw'r ysgol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, gall gyfeirio'r achos at yr awdurdod lleol cyfrifol (Caerdydd yn yr enghraifft hon) yn hytrach na pharatoi'r CDU, ond dim ond pan: 

Enghraifft 10 

  • Awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn: awdurdod lleol yn Lloegr. 
  • Mae'r plentyn yn byw ym Mro Morgannwg. 
  • Mae'r plentyn yn cael ei addysgu ym Mro Morgannwg. 
  • Mae'r ysgol yn gyfrifol am nodi a chefnogi unrhyw ADY.
  • Os yw'r ysgol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, gall gyfeirio'r achos at yr awdurdod lleol cyfrifol (Bro Morgannwg yn yr enghraifft hon) yn hytrach na pharatoi'r CDU, ond dim ond pan fydd: 
    • ADY y plentyn yn gofyn am DDdY na all yr ysgol ei ddarparu'n rhesymol
    • ni all yr ysgol asesu na phenderfynu ADY y plentyn yn ddigonol neu 

Mae'r enghreifftiau ymarferol o blant sy'n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn y Cod ADY, yn cael eu darparu mewn fformat y gellir ei argraffu yn yr atodiad.

Manylion cyswllt

Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymorth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ
e-bost: AdolygiadDeddfwriaethADY@llyw.cymru