Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar y nifer o anheddau sy'n gorfod talu'r dreth gyngor, bandio, gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer Ebrill 2020 i Mawrth 2021.

Prif bwyntiau

Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer yr anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2020-21 wedi cynyddu fesul 8,011 neu 0.6%, ar y flwyddyn flaenorol i 1,388,582. Ar gyfer dibenion cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw mae’r cyfanswm hwn yn cyfateb i 1,252,626 o anheddau band D. Bro Morgannwg sy’n dangos y cynnydd mwyaf mewn anheddau band D cyfatebol sef 2.3%.

Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o anheddau band A (44,471). Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o anheddau ym mand A (58%), Sir Fynwy sydd â'r isaf (1%).

Mae dros draean o anheddau yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, fel arfer oherwydd eu bod yn cael eu meddiannu gan un person cymwys yn unig.

Mae 60,650 o anheddau yng Nghymru wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor, sef 4.2% o’r holl anheddau. Y categori mwyaf sydd wedi’i eithrio yw anheddau gwag a heb eu dodrefnu gydag 17,438; ac ar ôl hynny anheddau i fyfyrwyr 16,802, a 6,377 o anheddau wedi’u heithrio o ganlyniad i fod yn wag adeg marwolaeth. 

Mae 11 awdurdod yn codi premiwm cartref gwag hirdymor, ac mae 8 yn codi premiwm ail gartref. Nid yw'r mwyafrif o awdurdodau bellach yn rhoi unrhyw ostyngiadau i gartrefi gwag neu ail gartref tymor hir.

Adroddiadau

Anheddau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2020 i Mawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 481 KB

PDF
Saesneg yn unig
481 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.