Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad ar dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau ar dystysgrifau datblygiad cyfreithlon.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ar dystysgrif datblygiad cyfreithlon:

  • os ydych yn anghytuno ag ef
  • os na wnaed y penderfyniad o fewn 8 wythnos

Peidiwch ag apelio os ydych eisoes wedi cael hysbysiad gorfodi. Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu costau ychwanegol os byddwch yn gwneud hynny.

Dim ond y sawl a gyflwynodd y cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon sy’n gallu apelio. Os nad oeddech wedi cyflwyno’r cais, gallwch wneud sylwadau ar apêl yn lle hynny.

Ni chodir fi am apelio.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad gan eich awdurdod cynllunio lleol.

Os nad oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud penderfyniad o fewn 8 wythnos, nid oes terfyn amser ar gyfer apelio.

Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio ar yr un pryd ag apelio yn erbyn penderfyniad ar dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi cael ei dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos fel arfer.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Bydd hefyd angen i chi anfon copi o’ch ffurflen apelio, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

  • datganiad llawn o’r achos
  • eich cais gwreiddiol
  • hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol (os nad oedd wedi gwneud penderfyniad, cyflwynwch gopi o’r llythyr sy’n cydnabod eich cais)
  • yr holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau a anfonoch at yr awdurdod cynllunio lleol
  • unrhyw lythyrau neu negeseuon e-bost rhyngoch chi a’r awdurdod cynllunio lleol
  • unrhyw gynlluniau, lluniadau neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r cais na anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol
  • eich ffurflen apelio, os ydych yn apelio drwy’r post neu’r e-bost

Os ydych yn credu bod eich tir neu’ch adeilad yn gyfreithlon bellach oherwydd bod y terfyn amser ar gyfer gorfodi wedi dod i ben, dylech gyflwyno tystiolaeth fel:

  • ffotograffau dyddiedig o’r safle
  • llythyrau oddi wrth gymdogion
  • derbynebau neu anfonebau ar gyfer gwaith
  • cynlluniau a lluniadau

Gallwch lanlwytho’r dogfennau hyn pan fyddwch yn apelio ar-lein. Neu gallwch eu hanfon at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl tystysgrif datblygiad cyfreithlon. Dewch o hyd i’r achos ar y porth gwaith achos apeliadau. Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno. Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, fel arfer.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.