Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio:

  • os ydych yn anghytuno ag ef
  • os na wnaed y penderfyniad o fewn 8 wythnos

Mae yna broses wahanol i apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio deiliaid tai ar gyfer prosiect llai fel estyniad, ystafell wydr neu drawsnewid llofft.

Ni chodir ffi am apelio.

Dim ond y sawl a gyflwynodd y cais sy’n gallu apelio. Os nad oeddech wedi cyflwyno’r cais, gallwch wneud sylwadau ar apêl yn lle hynny.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 6 mis o’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad gan eich awdurdod cynllunio lleol.

Os nad oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud penderfyniad o fewn 8 wythnos, nid oes terfyn amser ar gyfer apelio.

Os ydych wedi cael hysbysiad gorfodi, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 28 niwrnod o’r hysbysiad.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Sut i apelio

Sut i Gwblhau a Chyflwyno Eich Apêl

Mae ffurflenni apêl ar gael yma. Gall ffurflenni apêl wedi’u llenwi gael eu hanfon trwy e-bost at PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Anfonwch gopi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

  • eich cais gwreiddiol
  • y dystysgrif perchenogaeth o’r safle
  • hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol (os nad oedd wedi gwneud penderfyniad, cyflwynwch gopi o’r llythyr sy’n cydnabod eich cais)
  • yr holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau a anfonoch at yr awdurdod cynllunio lleol
  • unrhyw gynlluniau, lluniadau neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r cais na anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol
  • yr holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais
  • eich ffurflen apelio, 
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol, er enghraifft eich datganiad llawn o’r achos

Gallwch eu hanfon at yr Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru  drwy’r post neu’r e-bost.

Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru
2il Lawr Gorllewin
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost - PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru

Ffôn - 0300 0604400. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl gynllunio. 

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais gwreiddiol (partïon â buddiant) fod apêl wedi cael ei chyflwyno.

Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan  Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.