Neidio i'r prif gynnwys

Mae’n ystyried a allai lôn hyblyg ar Bont Britannia helpu i leihau tagfeydd traffig.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Arfarniad o risg diogelwch system llanw a thrai Pont Britannia , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 700 KB

PDF
700 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Beth yw system llif llanw?

Mae rhai ffyrdd yn defnyddio lôn sy’n newid cyfeiriad yn dibynnu ar ba mor brysur yw’r traffig. Yn y bore, gallech ddefnyddio’r lôn hyblyg i deithio i un cyfeiriad. Yna, yn y prynhawn, gallech ddefnyddio’r lôn i deithio i’r cyfeiriad arall. Byddai’r lôn yn newid yn dibynnu ar ba gyfeiriad sydd â’r nifer fwyaf o geir. Dyma system llanw a thrai.

Sut byddai’n gweithio ar Bont Britannia?

Ar Bont Britannia, byddai hyn yn golygu creu trydedd lôn yn y canol. Gellid defnyddio’r lôn ganol ar gyfer traffig sy’n teithio tuag at y tir mawr yn y bore. Yna, yn y prynhawn, gallai traffig sy’n teithio tuag at Ynys Môn ddefnyddio’r lôn. Gallai hyn roi mwy o le i yrwyr yn ystod yr adegau prysuraf. 

Yr hyn a ystyriwyd gennym

Er mwyn gwirio a fyddai hyn yn ddiogel, gwnaethom adolygu:

  • astudiaethau cynharach o’r syniad
  • data ar lefelau traffig a gwrthdrawiadau yn y gorffennol
  • maint a chynllun ffisegol y bont
  • safbwyntiau pobl sydd â diddordeb yn y bont

Gwnaethom hefyd ystyried a fyddai lôn hyblyg yn ddigon diogel i’w defnyddio pe bai’r canlynol yn cael eu hychwanegu:

  • terfynau cyflymder is
  • arwyddion yn dangos pa lôn y dylid ei defnyddio
  • camerâu

Yr hyn a ganfuom

Mae ein hasesiad yn dangos y byddai ychwanegu lôn hyblyg yn gwneud y bont yn llai diogel nag y mae ar hyn o bryd. Ar sail y dystiolaeth bresennol, mae lefel y risg hon yn rhy uchel. 
Ni fyddwn yn ychwanegu lôn hyblyg at Bont Britannia.