Mae'r ymchwil hon yn ymchwilio i sut mae landlordiaid cymdeithasol yn penderfynu sut i osod eu rhenti.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfu'r ymchwil, at ei gilydd, bod y rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn pennu eu rhenti yn agos at y cap ar renti. Nid oedd fawr o amrywiaeth o ran pennu rhenti rhwng Awdurdodau Lleol a landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Defnyddiodd y mwyafrif o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru y dull rhent byw i lywio sut i bennu eu rhenti.
Canfu adolygiad o bennu rhenti yn y DU a gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) na fydd eu dulliau o bosibl yn addas i Gymru.
