Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r cyngor hwn wedi’i ddrafftio i gefnogi lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae gydag effeithiau posibl yr argyfwng costau byw.

Nod y cyngor yw cefnogi lleoliadau i wneud penderfyniadau gweithredol sy’n briodol ac sy’n cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ynghyd â chyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.

Cyn ceisio gwneud unrhyw newidiadau gweithredol, dylai lleoliadau sicrhau bod ganddynt ddarlun manwl a chyflawn o’u cyllid a lle, o bosibl, y gall arbedion cost gael eu gwneud. Dylid gwneud asesiad risg manwl ar gyfer unrhyw newidiadau gweithredol cyn eu rhoi ar waith.

Effeithiau Gweithredol

Sut alla i gydbwyso’r cynnydd mewn costau bwyd a’r angen i sicrhau bod plant yn cael prydau cytbwys a byrbrydau iach?

Mae yna amrywiaeth o fwyd a byrbrydau y gellir eu cynnig ac sy'n dal i fodloni canllawiau bwyta'n iach, fel sy’n cael eu nodi yn y ddogfen Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant.

Mae’n glir iawn bod angen i blant gael y cydbwysedd cywir o egni a maethynnau er mwyn tyfu a datblygu’n iach, cynnal pwysau iach a helpu i ddiogelu eu hunain rhag clefydau penodol. Gall y lleoliad gofal plant chwarae rhan bwysig yn hyn o beth, drwy roi bwyd maethlon yn y dognau cywir a thrwy greu amgylchedd sy'n annog plant i ddatblygu agweddau cadarnhaol at fwyd a'u hiechyd.

Gall pob plentyn o dan 5 oed sy'n mynychu cyfleusterau gofal dydd cymeradwy yng Nghymru dderbyn 189ml (1/3 peint) o laeth bob dydd, yn rhad ac am ddim o dan y Cynllun Llaeth Meithrin.

Mae’n bosibl i leoliadau gael grantiau i helpu i dalu am gostau bwyd.

Sut alla i barhau i ddarparu ystod o weithgareddau chwarae a dysgu o ansawdd uchel i blant?

Mae plant yn mynychu lleoliadau gofal plant a chwarae i brofi amrywiaeth o brofiadau sy’n eu meithrin a’u cefnogi ac i roi cyfleoedd iddynt chwarae. Does dim presgripsiwn o ran pa weithgareddau y dylid eu cynnal na pha adnoddau y dylid eu defnyddio, ond mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pwysleisio pwysigrwydd y gweithgareddau ac yn cynnig rhai pwyntiau allweddol i'w hystyried yn Safon 7, gan gynnwys pwysigrwydd chwarae hunangyfeiriedig wedi’i ddewis yn rhydd, a chwarae dan do ac yn yr awyr agored.  

Mae darnau rhydd, er enghraifft, yn hanfodol i leoliad gofal plant neu chwarae ac i ddatblygiad cyfannol plant. Gall darnau rhydd fod yn unrhyw beth y gall plant ei ddefnyddio wrth chwarae: bocsys cardfwrdd, pibellau draen, potiau iogwrt, poteli llaeth plastig, brigau, cerrig bach, dail – mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gall eitemau bob dydd gefnogi chwarae a dysgu o ansawdd uchel ac nid oes raid cael adnoddau drud.

Mae cyngor pellach ar gael gan y ffynonellau a ganlyn:

Sut alla i drio arbed ynni a bodloni’r gofynion rheoleiddio?

Dylai lleoliadau ystyried sut maent yn defnyddio ynni ar hyn o bryd a pha un a ellir cymryd unrhyw gamau bach i leihau costau (diffodd goleuadau pan na fydd ystafelloedd yn cael eu defnyddio, defnyddio amserydd ar gyfer y gwres ac ati).

Dylid cynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw newid sylweddol yn y defnydd o gyfarpar fel boeleri, i wneud yn siŵr y gall gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol gael eu bodloni o hyd. Er enghraifft, os caiff boeleri eu diffodd dros y penwythnos, mae angen i leoliadau sicrhau eu bod yn cael eu troi ymlaen eto yn ddigon cynnar i allu cyrraedd tymheredd priodol ar gyfer dechrau’r sesiwn.

Mae'r gallu i storio bwyd yn ddiogel a chael dŵr cynnes yn cael ei nodi fel gofyniad o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ac felly'r cyngor yw peidio â diffodd oergelloedd a boeleri.

Gall diffodd oergelloedd, dros dro hyd yn oed, gael effaith ar ddiogelwch bwyd, gan fod yn rhaid i oergelloedd gael tymheredd o lai na 5°C (yn ôl cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd). 

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cyngor ar fwyd mwy diogel i fusnesau bach yn ogystal â chanllaw penodol i warchodwyr plant.

Mae Busnes Cymru yn rhoi cyngor ar ddulliau i leihau'r defnydd o ynni sydd hefyd yn ecogyfeillgar. 

Rwy'n warchodwr plant, a ydw i'n gallu treulio'r diwrnod mewn canolfan chwarae/gweithgareddau neu mewn cartref gwarchodwr plant arall i leihau fy nefnydd o ynni?

Mae gwarchodwyr plant yn cael eu diffinio fel unigolion sy’n darparu gwasanaeth o leoliad domestig, ac felly er y gall ymweliadau â chanolfannau chwarae/gweithgareddau fod yn rhan o ddarpariaeth gwarchodwr plant, ni fyddai disgwyl y byddai gwarchodwr plant yn darparu diwrnod llawn o ofal o leoliad arall lle nad ydynt wedi eu cofrestru. Mae'n annhebygol iawn y byddai treulio drwy'r dydd mewn canolfan chwarae neu ganolfan weithgareddau'n rhoi amrywiaeth o brofiadau i blant - gan gynnwys amser i ymlacio – sy’n ddigonol i ddiwallu eu hanghenion.

Os byddwch yn dewis treulio unrhyw ran o'r diwrnod yng nghartref cyd-warchodwr plant cofrestredig, rhaid i chi a'ch cyd-warchodwr plant sicrhau bod yr holl ofynion sy'n ymwneud â'r nifer mwyaf posibl o blant dan eich gofal ar yr aelwyd ar unrhyw un adeg yn cael eu bodloni. Dylid hefyd hysbysu rhieni’r plant dan eich gofal ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i batrymau gweithio arferol y naill gwarchodwr a’r llall.

Beth yw'r tymheredd lleiaf angenrheidiol a chyfreithiol ar gyfer ein lleoliad i staff a phlant?

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi tymheredd o 18 gradd o leiaf ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae dan do.

Byddai angen i staff lleoliadau ystyried newidiadau i dymheredd yr amgylchedd y maen nhw’n gweithredu ynddo a'r gwasanaeth a'r gweithgareddau sydd ar gael. Gallai hyn gynnwys ystyried chwarae yn yr awyr agored, defnyddio system awyru, ac a yw plant wedi'u gwisgo'n briodol (yn enwedig a yw plant iau a babanod sy'n llai symudol yn ddigon cynnes).

Mae gan fy lleoliad fan awyr agored. A oes cyfyngiad ar faint o amser y gall plant ei dreulio y tu allan yn y gaeaf, os yw'n gwisgo dillad priodol? A ydy hyn yn wahanol os yw rhan o’r man awyr agored wedi'i gorchuddio, ac felly’n gysgod rhag y glaw?

Rydyn ni’n annog darpariaeth awyr agored. Nid oes cyfyngiadau ar faint o amser y gellir ei dreulio yn yr awyr agored, ond dylai’r defnydd o ddarpariaeth awyr agored fod yn seiliedig ar nifer y plant sy'n derbyn gofal, yr amgylchedd a chyflwr y tywydd.

A allwn ni ofyn i rieni ddarparu haenau ychwanegol o ddillad er mwyn i'w plant eu gwisgo os yw'n mynd yn oer? 

Gellir gofyn i rieni ddarparu dillad ychwanegol i blant os teimlir bod angen, yn enwedig os oes cymysgedd o chwarae dan do ac yn yr awyr agored. 

A oes modd llacio cymhareb y Safonau Gofynnol Cenedlaethol i helpu lleoliadau i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn?

Nid oes cynlluniau i lacio unrhyw rai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar hyn o bryd. 

Cyngor a Chymorth

Rwy wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu, ond rwy methu fforddio'r costau cynyddol o hyd. Pa help ariannol sydd ar gael ar gyfer fy lleoliad?

Mae lleoliadau'n gallu elwa ar y cap ynni i fusnesau a fydd ar waith o fis Hydref tan fis Ebrill. Bydd yn cael ei adolygu ar ôl y dyddiad hwn.

Os ydych chi’n dal i bryderu am gostau ynni, bydden ni’n cynghori eich bod yn siarad â'ch cyflenwr ynni fel man cychwyn, a gofyn iddyn nhw a oes modd i chi drefnu cynllun talu.

Os ydych yn rhentu lleoliad, byddem yn eich cynghori i siarad â'ch landlord.

Mae cyngor pellach ar gyfer busnesau bach sy'n cael trafferth gyda biliau ynni ar gael gan Cyngor ar Bopeth. Gall lleoliadau gysylltu ag arweinydd gofal plant eu hawdurdod lleol a allai roi cyngor a chymorth.

Mae’n bosibl y bydd partneriaid Cwlwm, Sefydliad Cymunedol yng Nghymru  a Chynghorau Gwirfoddol Cymunedol yn gallu eich helpu i gael cymorth grantiau refeniw a chyfalaf sydd ar gael.

Rwy'n poeni am effaith yr argyfwng ar iechyd meddwl a lles fy staff.  Pa gymorth sydd ar gael?

Mae cymorth ar gyfer lleoliadau a staff ar gael drwy Fframwaith Iechyd a Lles Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae cymorth hefyd ar gael o'r ffynonellau canlynol:

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Lywodraeth Cymru am sut i gael cymorth ar gyfer costau byw.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i rieni?

Gall Llywodraeth Cymru roi cyngor ar y cymorth sydd ar gael i helpu i dalu am ofal plant. Mae hynny’n cynnwys cyngor ar Ofal Plant Di-dreth a chymorth i fyfyrwyr.

Mae’n bosibl y bydd rhieni hefyd yn cael budd o’r cyngor sydd ar gael gymorth ariannol mwy cyffredinol.

Sut mae cael help i gynllunio ar gyfer y gaeaf a digwyddiadau allai fod yn annisgwyl?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar Gynllunio at Argyfyngau ac Ymateb iddynt.

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau anstatudol i helpu pob lleoliad addysg a gofal plant i ymateb i ystod eang o argyfyngau. Er nad yw'n ymdrin â phob agwedd ar beth y dylai lleoliadau ei wneud mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau, mae'n nodi rhai meysydd allweddol y dylid eu hystyried ac yn rhoi cyngor arnyn nhw.