Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Comisiwn Gwaith Teg ei adroddiad Gwaith Teg Cymru ym mis Mai 2019.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru y chwe argymhelliad â blaenoriaeth yn yr adroddiad yn ffurfiol. 

Mae pob un o'r chwe argymhelliad â blaenoriaeth wedi cael eu rhoi ar waith a'u cyflawni.  Derbyniwyd y 42 o argymhellion sy'n weddill mewn egwyddor. O'r rhain, mae'r mwyafrif naill ai wedi cael eu cyflawni neu maent wrthi'n cael eu cyflawni.

Mae nifer o argymhellion wrthi'n cael eu datblygu. Mae hyn i'w briodoli'n bennaf i'r ffaith bod llawer o argymhellion yn galw'n benodol am weithgarwch parhaus neu'n mynnu gweithgarwch parhaus, yn hytrach na dod â cham gweithredu i'w derfyn ac yna ei gau. 

Mae nifer bach iawn o argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor, ond mae materion sylweddol sy'n ymwneud â dichonoldeb ac addasrwydd wedi dod i'r amlwg, ar ôl ystyried ac archwilio polisïau ymhellach.  

Ym mhob achos lle nad ydym wedi llwyddo i ddatblygu argymhelliad yn yr union ffordd y gallai'r Comisiwn fod wedi bwriadu inni ei wneud, rydym wedi canfod dulliau gweithredu amgen ar gyfer cyflawni'r bwriad a'r amcan sy'n sail i'r argymhelliad. 

Ers cyhoeddi adroddiad Gwaith Teg Cymru bron bedair blynedd yn ôl, mae byd gwaith a phrofiad gweithwyr ohono wedi parhau i newid. Mae twf cyflymach trefniadau gweithio o bell a gweithio hybrid mewn rhai galwedigaethau a rhai sectorau yn enghraifft o newid na allai'r Comisiwn fod wedi disgwyl ei ragweld pan wnaeth ei argymhellion.  

Rydym yn benderfynol o ddefnyddio pob un o'n hysgogiadau i hyrwyddo ac annog gwaith teg a gwneud hynny mewn ffyrdd sy'n ein galluogi i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd. Am y rhesymau hyn, rydym wedi mynd y tu hwnt i'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn, a byddwn yn parhau i wneud hynny, wrth inni geisio sicrhau bod gwaith teg yn fwy cyffredin a gwella mynediad iddo. 

Argymhellion â Blaenoriaeth (a dderbyniwyd yn llawn)

Argymhelliad 1: rydym yn argymell bod gwaith teg yn cael ei weld fel rhywbeth y mae holl Weinidogion Llywodraeth Cymru a’r holl swyddogion yn gyfrifol amdano

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu diffiniad cyffredin o waith teg ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a gefnogir yn llwyr gan bob un o Weinidogion Cymru, ac sydd wrth wraidd ein Rhaglen Lywodraethu a'n dulliau gweithredu trawslywodraethol fel y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau a'n cynlluniau gweithredu ar gydraddoldeb. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 2: rydym yn argymell y dylai diffiniad [y Comisiwn Gwaith Teg] a nodweddion gwaith teg gael eu mabwysiadu a’u defnyddio ledled Llywodraeth Cymru ac wrth iddi hyrwyddo gwaith teg

Dylid ystyried y diffiniad a’r nodweddion gyda’i gilydd.

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r diffiniad o waith teg a ddarparwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg yn llywio'r dull o ymdrin â gwaith teg ym mhob portffolio. Er enghraifft, mae elfen gwaith teg y Contract Economaidd wedi cael ei newid er mwyn adlewyrchu'r diffiniad hwn.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 10(b): rydym yn argymell bod ein sylwadau a’n hargymhellion yn sail i ddatblygu’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi defnyddio gwaith y Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i lywio'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Mae'r Bil yn destun proses graffu ddeddfwriaethol yn y Senedd ar hyn o bryd. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 26: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datgan ymrwymiad polisi cyhoeddus i hyrwyddo undebau llafur a chydfargeinio

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi cyhoeddi sawl gohebiaeth a datganiad er mwyn hyrwyddo rôl Undebau Llafur, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â TUC Cymru i ddatblygu prosiect peilot yr Undebau a Byd Gwaith ac rydym yn hyrwyddo adnodd ‘find a union’ y TUC ar ein gwefan.  

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 35: rydym yn argymell creu Swyddfa Gwaith Teg sy’n cael ei hariannu’n ddigonol ac sy’n cynnwys y nifer priodol o staff

Mae’r adnodd pwrpasol hwn yn Llywodraeth Cymru yn angenrheidiol ar gyfer gwaith teg.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu Cyfarwyddiaeth yn Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys gweision sifil, ochr yn ochr ag unigolion a secondiwyd o bartneriaid cymdeithasol, er mwyn arwain a chydgysylltu'r agenda partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 42: rydym yn argymell bod gofyn i Weinidogion adrodd yn fewnol yn rheolaidd ar y ffordd mae gwaith teg yn cael ei ddatblygu o fewn eu meysydd

Dylai’r adroddiadau hyn gyfrannu at Adroddiad Blynyddol Gwaith Teg Cymru a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn adrodd ar ein gweithgareddau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar ffurf Datganiad gan y Gweinidog sy'n rhoi diweddariad blynyddol ar gynnydd

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellion eraill (Derbyniwyd mewn egwyddor)

Argymhellia 3: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’i phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ehangach i ganfod beth sy’n briodol ac yn bosibl mewn gwahanol gyd-destunau yng nghyswllt dangosyddion nodweddion gwaith teg ac er mwyn sicrhau bod y diffiniad yn gynaliadwy dros amser

Gellir gwneud hyn o fewn y Fforymau Gwaith Teg arfaethedig.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn cysylltu'n rheolaidd â phartneriaid cymdeithasol ynghylch pob agwedd ar waith teg, gan gynnwys mewn perthynas â chyd-destunau penodol megis Gofal Cymdeithasol a Manwerthu. Mae materion yn ymwneud â chapasiti, yn arbennig gyda'n partneriaid cymdeithasol, sy'n golygu nad yw dull cynhwysfawr o ymdrin â phob cyd-destun ar yr un pryd yn ymarferol. Rydym yn mabwysiadu dull ymarferol o ymdrin â'r argymhelliad hwn, sy'n ein galluogi i ganolbwyntio ar feysydd penodol sy'n cyflwyno heriau a chyfleoedd ac mae hyn yn cynnwys ymgorffori gwaith teg yn ein cynlluniau gweithredu ar gydraddoldeb.   

Statws

Ar waith.

Argymhellia 4: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio ac yn manteisio ar bob cyfle o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol i ddatblygu gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried a phrofi cymhwysedd deddfwriaethol yn ein gwaith i ddatblygu'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Rydym hefyd yn datblygu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ystyried cyfleoedd deddfwriaethol mewn perthynas â bylchau cyflog. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 5(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i wella’r dyletswyddau penodol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Cyflawnwyd hyd yma

Ymdrinnir â'r argymhelliad hwn yn rhannol drwy'r Cynllun a Nodau Cydraddoldeb ar gyfer 2020 i 2024, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'r ymrwymiad i adolygu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.  

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 5(b): dylai Gweinidogion Cymru wneud cysylltiadau rhwng yr Amcanion Cydraddoldeb y maent wedi’u gosod iddynt eu hunain o dan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a gwaith teg fel y nodir yn yr Adroddiad hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Fel uchod ac rydym yn ymgorffori gwaith teg yn ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb ac rydym wedi sefydlu Carreg Filltir Genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 6(a): rydym yn argymell bod amcanion llesiant cyrff cyhoeddus, sydd wedi’u nodi o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gwaith teg fel y caiff ei ddiffinio gan y Comisiwn hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Os caiff ei basio, bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn golygu y bydd angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried gwaith teg wrth fynd ati i gyflawni eu nodau llesiant a phennu amcanion cysylltiedig.

Statws

Ar waith.

Argymhellia 6(b): rydym yn argymell y dylai diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg a'i nodweddion lywio'r ffordd y caiff nodau llesiant eu datblygu a'u rhoi ar waith, a gwaith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Cyflawnwyd hyd yma

Bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn diwygio nod llesiant “Cymru Lewyrchus” er mwyn sicrhau ei fod yn cyfeirio at waith teg. Rydym yn bwriadu darparu canllawiau anstatudol ochr yn ochr â hyn.

Statws

Ar waith.

Argymhellia 6(c): rydym yn argymell bod trafodaethau’n cael eu cynnal â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda’r bwriad o roi Argymhellion 6a a 6b ar waith

Cyflawnwyd hyd yma

Os caiff ei basio, bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn sicrhau bod y Bil yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i drafod y materion hyn. 

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 7(a): rydym yn argymell bod y Panel, wrth ystyried moderneiddio'r Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol ar hyn o bryd, yn ystyried yn llawn ddiffiniad y Comisiwn hwn o waith teg a’i nodweddion, gan gynnwys y gofyniad integredig am gydraddoldeb, ac y dylid meddwl o ddifrif am ddod â’r gyfradd is i bobl o dan 25 oed i ben

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r diffiniad o waith teg wedi cael ei ddwyn i sylw'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ac mae wedi ein sicrhau ei fod yn cael ei ystyried ganddo. Hyd yma, mae'r Panel wedi penderfynu na ddylid rhoi'r gorau i'r gyfradd isafswm cyflog is i bobl o dan 25 oed. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 7(b): mae’r Comisiwn yn argymell gofyn i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ymchwilio i ddichonoldeb talu’r Cyflog Byw Cymreig (sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Go Iawn) ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, ac adrodd ar hynny, dros gyfnod treigl o dair blynedd

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth wedi ystyried talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel llinell sylfaen ar gyfer pob cyflog ac mae Gweinidogion Cymru wedi ymgysylltu â'r Panel i drafod y mater hwn. Hyd yma, mae'r Panel wedi ystyried nad yw'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel y llinell sylfaen ar gyfer pob cyflog yn fforddiadwy ac wedi cynnal cyfundrefn cyflogau amaethyddol sy'n seiliedig i raddau helaeth ar yr isafsymiau statudol. Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r Panel i drafod y materion hyn. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 8: rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, yn dilyn yr adolygiad sydd ar fin digwydd o’r Rheoliadau, asesu a yw’r dull gweithredu o gysylltu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd â llesiant gweithwyr, er mwyn ymyrryd, yn un y gellid ei ddefnyddio mewn sectorau eraill sy’n cael eu rheoleiddio

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r cysylltiad rhwng darparu gwasanaethau cyhoeddus a llesiant wedi bod yn sail i'r gwaith ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus ac mae'r cysylltiad rhwng gwaith teg a llesiant yn rhan o'n gwaith fframio ehangach. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 9: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo gwaith teg, gan ddefnyddio ei phwerau o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (a phwerau deddfwriaethol eraill i roi cyngor ac arweiniad) er mwyn datblygu llesiant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried a phrofi pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru a chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd fel rhan o'n gwaith ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.  

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 10(a): rydym yn argymell bod camau’n cael eu cymryd i roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol fwy cadarn, er mwyn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn fwy sicr a sicrhau parhad

Wrth wneud hyn, dylid egluro natur a rôl partneriaeth gymdeithasol a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan bartneriaeth o’r fath; dylid adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a deialog gymdeithasol, a gwella neu ehangu ar hynny pan fo angen.

Cyflawnwyd hyd yma

Gwneir hyn drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a'r adolygiad trawslywodraethol o strwythurau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 11: pan nad oes gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol, dylai ddefnyddio ei dylanwad i fynd ati i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddeddfwriaeth sy’n ffafriol i hyrwyddo Gwaith Teg Cymru

I’r perwyl hwn, dylai Llywodraeth Cymru ddyrannu cyfrifoldeb clir a phriodol ar gyfer gwaith o'r fath a datblygu syniad o’r ddeddfwriaeth cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol y dymunai ei gweld.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU dros atgyfnerthu hawliau cyflogaeth a gweithgarwch gorfodi a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pwyso arni i fynd i'r afael ag arferion diswyddo ac ailgyflogi anghyfrifol; cyflwyno hawliau a mesurau diogelu newydd ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg ac o bell; a sicrhau bod gan bob gweithiwr yr hawl i oriau wedi'u gwarantu, tâl salwch statudol ac isafswm cyflog sy'n sicrhau safon byw sy'n deilwng. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 12: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau na chaiff yr hawliau cyflogaeth presennol eu glastwreiddio yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd; bod y Cytundebau Masnach newydd yn gwarchod safonau cyflogaeth yn hytrach na’u ‘cyfnewid’ a bod deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn cadw i fyny â datblygiadau blaengar yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cefnogi gwaith teg, yn y dyfodol

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU yn erbyn glastwreiddio hawliau gweithwyr neu ymwahanu rheoleiddiol sy'n golygu y byddai gan weithwyr yn y DU lefel is o ddiogelwch na'u cymheiriaid yn yr UE. 

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 13: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU, ar gynigion ar gyfer un asiantaeth orfodi ar gyfer y farchnad lafur

argymhellion:

  • pwyso am waith arolygu a gorfodi rhagweithiol gan y wladwriaeth, sy’n fwy cynhwysfawr ac sy’n cynnwys digon o adnoddau, gan gynnwys cosbau ataliol
  • annog Llywodraeth y DU i ystyried pa mor ddymunol a dichonadwy yw canolbwyntio’n benodol ar drefniadau gorfodi yng Nghymru o fewn strwythur asiantaeth orfodi’r DU yn gyffredinol
  • annog Llywodraeth y DU i ddatblygu syniad ehangach o ‘bwynt cyswllt ymarfer annheg’ fel rhan o’i hymgynghoriad

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi annog Llywodraeth y DU i gyflwyno Bil Cyflogaeth a fydd, nid yn unig yn sefydlu Un Corff Gorfodi, ond un wedi'i rymuso a'i ariannu'n briodol, sydd â'r pwerau a'r adnoddau i fynd i'r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio ac atal arferion gwael.   Rydym hefyd yn parhau i weithio i godi proffil asiantaethau gorfodi'r DU yng Nghymru ac yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu grŵp o asiantaethau a phartneriaid cymdeithasol perthnasol. Ac rydym wedi meithrin cydberthynas adeiladol â Chyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Lafur yn Llywodraeth y DU. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 14: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth i wella pa mor effeithiol yw'r gwaith gorfodi hawliau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn rhoi'r strategaeth honno ar waith

Yn unol ag argymhellion 15 i 17, dylai cydrannau strategaeth o’r fath gynnwys:

  • gwella gwybodaeth am hawliau
  • cynyddu gallu gweithwyr i fynd ar drywydd eu hawliau mesurau i ganfod rhagor o achosion o ddiffyg cydymffurfio a chanlyniadau hynny

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi datblygu a chynnal ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a sianeli at wybodaeth, cyngor ac arweiniad.  Rydym wedi helpu i gynnal gweithdai mewn sectorau penodol megis y Sector Bwyd a Diod. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y dulliau gweithredu hyn.  

Statws

Ar waith.

Argymhellia 15(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dod â darpariaethau statudol ynghyd (boed hynny mewn cyfraith cyflogaeth, cyfraith cwmnïau, cyfraith cydraddoldeb neu gyfraith arall) sy’n rhoi hawliau neu’n gosod rhwymedigaethau sy’n berthnasol i waith teg

Dylai arweiniad cryno, hawdd ei ddarllen, gyd-fynd â hyn.

Cyflawnwyd hyd yma

Mae hawliau cyflogaeth yn dirwedd gymhleth a chyfnewidiol ac yn fater a gedwir yn ôl.  Mae risg fawr y gallai gweithredu ar yr argymhelliad hwn arwain at gynhyrchu deunydd sy'n anghywir neu sy'n dyddio'n gyflym. Mae gwybodaeth wael a chamarweiniol yr un mor beryglus â diffyg gwybodaeth. Y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu yw cyfeirio unigolion at ffynonellau dibynadwy (megis Acas), yn hytrach na cheisio ailddehongli'r wybodaeth honno neu lunio fersiynau amgen ohoni.   

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhellia 15(b): rydym yn argymell sefydlu ymgyrch ‘gwybod eich hawliau’ wedi'i thargedu, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i’r eithaf, yn ogystal â sianeli eraill i godi ymwybyddiaeth ac i wella gwybodaeth am hawliau a sut i geisio unioni sefyllfa

Cyflawnwyd hyd yma

Gwnaethom ddatblygu a chyflwyno Ymgyrch Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a sianeli gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 15(c): rydym yn argymell gwella ymwybyddiaeth darpar weithwyr o hawliau, er enghraifft, drwy Gyrfa Cymru, Porth Sgiliau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng nghyswllt prentisiaid

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn datblygu hyn drwy gyflwyno'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau lle mae “hyrwyddo gwaith teg i bawb” yn un o'i bum blaenoriaeth.

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 16: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn helpu gweithwyr i orfodi eu hawliau drwy hwyluso argaeledd a mynediad at gyngor a chymorth, er enghraifft, drwy gymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau cefnogi a chynghori

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ariannu Cyngor ar Bopeth i ddarparu gwasanaethau cynghori ac rydym hefyd wedi gweithio gydag Acas er mwyn sicrhau y darperir gweminarau pwrpasol ar hawliau gweithwyr a chyfrifoldebau cyflogwyr. Rydym yn parhau i adeiladu ar hyn, er enghraifft, drwy gynnal gweithdai pwrpasol mewn sectorau penodol a thrwy ddatblygu adnoddau ar-lein. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 17(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru (drwy’r Swyddfa Gwaith Teg) yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi a gwella swyddogaethau gorfodi asiantaethau gorfodi’r DU yng Nghymru

Byddai hyn yn cynnwys annog undebau llafur, cyrff cymdeithasau sifil a chyflogwyr i gymryd rhan.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn gweithio ar sefydlu Fforwm ar hawliau a chyfrifoldebau gweithluoedd sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol ac asiantaethau perthnasol yn y farchnad lafur. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 17(b): rydym yn argymell, os na fydd pwynt cyswllt chwythu'r chwiban ar gyfer y DU gyfan yn cael ei greu, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar sut y gellid darparu hynny yng Nghymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i sefydlu Un Corff Gorfodi ac i'r corff hwnnw weithredu fel un pwynt cyswllt. Mae heriau sylweddol o ran dichonoldeb yn gysylltiedig â sefydlu un pwynt cyswllt yng Nghymru ar gyfer materion a gedwir yn ôl a lle mae'r swyddogaethau gorfodi a'r gallu i fynd i'r afael â phryderon y tu hwnt i'n cyfrifoldebau datganoledig.

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 17(c): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydlynu gwybodaeth am sefydliadau yng Nghymru sydd wedi cydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, a'r rhai sydd heb wneud hynny, gan sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn rhwydd i aelodau'r cyhoedd

Cyflawnwyd hyd yma

Nid ydym yn berchen ar wybodaeth fesul cwmni am ddiffyg cydymffurfio ac nid oes gennym fynediad cynhwysfawr i wybodaeth o'r fath. Felly, ni allwn enwi sefydliadau o'r fath a chodi cywilydd arnynt yn gywir nac yn gyson, yn y ffordd a ragwelwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg. Yn hytrach, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella tryloywder ynghylch diffyg cydymffurfio. 

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen. 

Argymhellia 18: rydym yn argymell

Argymhellion:

  • dylid ond i sefydliadau sy’n cyflawni, neu’n sy’n gweithio tuag at gyflawni ein diffiniad o waith teg a’i nodweddion (sefydliadau sy’n bodloni safon Gwaith Teg Cymru) y dylid rhoi arian cyhoeddus
  • dylai mewnfuddsoddwyr fod yn sefydliadau gwaith teg
  • dylai prosiectau seilwaith a phrosiectau buddsoddi cyfalaf mawr fod yn brosiectau Gwaith Teg Cymru
  • dylai ffocws a blaenoriaethau contractau sector cyhoeddus symud tuag at werth cymdeithasol, gan gynnwys gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar wella cyrhaeddiad ac effaith y Contract Economaidd a'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi fel ffyrdd y gallwn gael gwell sicrwydd bod y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn rhannu ein gwerthoedd (gan gynnwys mewn perthynas â gwaith teg). At hynny, bydd y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol yn atgyfnerthu'r rhan y gall gwaith rheoli contractau ei chwarae. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 19: rydym yn argymell, yn unol â’r bwriad y mae wedi’i nodi, fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg yng nghyswllt Contract Economaidd/Meysydd Gweithredu/Cronfa Dyfodol yr Economi

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi diwygio elfen gwaith teg y Contract Economaidd er mwyn iddo bellach adlewyrchu geiriad diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 20: rydym yn argymell y dylid ehangu’r cwmpas i gynnwys cyllid gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru (gyda’r nod o gynorthwyo cyflogwyr i fodloni gofynion gwaith teg yn hytrach na’u heithrio rhag cael cyllid)

Cyflawnwyd hyd yma

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r Contract Economaidd a'r ffordd y caiff ei roi ar waith. 

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 21: rydym yn argymell bod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o Waith Teg, a’i nodweddion, yn cael eu mabwysiadu ac yn cael lle amlwg yn y Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wrthi'n adolygu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'i ganllawiau ategol. Mae adlewyrchu diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg yn well yn un o amcanion yr adolygiad hwnnw. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 22: yng nghyswllt y Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, rydym hefyd yn argymell

Argymhellion:

  • y dylai fod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus Cymru a’r sefydliadau hynny sy’n cael arian cyhoeddus ymrwymo i’r Cod
  • dylid cymryd camau mwy penodol i annog rhagor o fusnesau nad ydynt yn cael arian cyhoeddus i ymrwymo i'r targedau sydd wedi’u pennu
  • dylai’r rheini sy’n ymrwymo i’r Cod orfod dangos sut y byddent yn talu’r Cyflog Byw Cymreig, a pha ystyriaeth sydd wedi’i rhoi i hynny, yn ogystal â chynllun gweithredu er mwyn cyflawni hyn
  • dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i roi'r Cod ar waith yn effeithiol a'i fod yn cael ei fonitro’n effeithiol
  • bydd gofyn i’r rhai sy’n llofnodi’r Cod fod yn barod i gael eu harchwilio a’u monitro (gan gynnwys darparu data) gydag elfen annibynnol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda chontractau cyflenwi tymor hir

Cyflawnwyd hyd yma

Mae gwaith sy'n dal i fynd rhagddo wedi dangos y gallai gwneud y Cod Ymarfer yn orfodol, yn ei gyfanrwydd, gael nifer o ganlyniadau anfwriadol ac annymunol. Gellir sicrhau gwell cefnogaeth, ymrwymiad a chyflawniad ar hyn o bryd drwy ymgysylltu â sefydliadau, esbonio iddynt a'u hannog i ymrwymo i'r Cod, yn hytrach na'u gorfodi i wneud hynny. Mae nifer y llofnodwyr yn dal i godi, gyda mwy na 470 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r Cod hyd yma.  

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 23: rydym yn argymell bod gwaith teg yn egwyddor arweiniol i’r adolygiad ehangach i'r defnydd a wneir o arian cyhoeddus, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ymgorffori'r diffiniad o waith teg ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried mewn rhaglenni ac ymyriadau, yn enwedig lle mae arian cyhoeddus yn cefnogi sefydliadau allanol.  

Statws

Ar waith.

Argymhellia 24: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy fonitro arbrofion mewn mannau eraill a/neu drwy gynlluniau peilot yng Nghymru, yn canfod beth sy’n gweithio o ran ffyrdd eraill y gall arian cyhoeddus hyrwyddo gwaith teg (er enghraifft drwy ardrethi neu gymhellion treth)

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ystyried cyfleoedd i wella'r cysylltiad rhwng arian cyhoeddus a'i allu i annog gwaith teg, gan gynnwys edrych ar y gwersi y gallwn eu dysgu o ddull gweithredu ‘Fair Work First’ yn yr Alban.

Statws

Ar waith.

Argymhellia 25: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd pob mesur posibl sydd o fewn ei gallu i gefnogi a hyrwyddo undebau llafur a chydfargeinio

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi hyrwyddo undebau llafur (gweler y cam gweithredu ar gyfer argymhelliad 26) a manteision cydfargeinio i gyflogwyr a gweithwyr yn ein negeseuon, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Roedd hyn yn cynnwys Llythyr gan y Gweinidog a anfonwyd i filoedd o fusnesau a oedd yn cael cymorth o'r Gronfa Cadernid Economaidd a'n cymorth grant craidd parhaus i TUC Cymru.  

Statws

Ar waith. 

Argymhellia 27: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yng Nghronfa Ddysgu Undebau Cymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn parhau i fuddsoddi yng Nghronfa Ddysgu Undebau Cymru. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 28: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn darparu strategaeth gyfathrebu a marchnata i greu ymwybyddiaeth o’r agenda gwaith teg yn eang ac i ennyn brwdfrydedd yn y maes

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn defnyddio sianeli cyfathrebu sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys Busnes Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a sefydliadau perthnasol eraill i ddefnyddio eu sianeli a'u rhwydweithiau cyfathrebu i hyrwyddo'r agenda gwaith teg. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 29: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, cynghreiriaid ac eiriolwyr gwaith teg i ‘werthu’ a thynnu sylw at y cysyniad o Waith Teg Cymru, gan feithrin diddordeb brwd a chael pobl Cymru i ymgysylltu ag ymdrechion gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn awyddus i sefydlu modelau rôl i gyflogwyr sy'n mynd ati i hyrwyddo gwaith teg i gymheiriaid a dangos gwaith teg drwy astudiaethau achos ysbrydoledig sy'n cyrraedd cynulleidfa eang ac yn cael cryn effaith. Rydym wedi ceisio cymorth partneriaid cymdeithasol yn hyn o beth. Ac rydym yn cefnogi sefydliadau megis Cynnal Cymru (sef corff achredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru) a Busnes yn y Gymuned er mwyn meithrin eu gallu i ymgysylltu â chyflogwyr.  

Statws

Ar waith.

Argymhellia 30: rydym yn argymell trefnu a thynnu sylw at dystiolaeth o fanteision macro a micro gwaith teg, ac effaith negyddol gwaith annheg ar sefydliadau a’r gymdeithas. Dylid comisiynu unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael ar gyfer Cymru. Gallai hyn gynnwys ymchwil ar wahanol lefelau cyfuno i ddangos beth sy’n gweithio a’r manteision posibl y gellid eu sicrhau mewn rhai cyd-destunau penodol

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn defnyddio tystiolaeth ansoddol a meintiol sy'n ategu'r achos dros waith teg ac yn dangos anfanteision a chostau cudd gwaith annheg. Rydym yn defnyddio hyn yn ein negeseuon ac rydym hefyd yn disgwyl iddo fod yn rhan o'r canllawiau anstatudol ar waith teg a fydd yn ategu'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 31: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a chyrff sector cyhoeddus yn sicrhau eu bod yn weithredol ac yn amlwg yn sefydliadau Gwaith Teg Cymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus datganoledig ehangach wrth arwain drwy esiampl ar waith teg fel cyflogwyr, llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau, arianwyr sefydliadau eraill ac fel caffaelwyr nwyddau a gwasanaethau. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 32: rydym yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio eu dylanwad i hyrwyddo a hysbysebu gwaith teg ymhellach

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i gwestiwn 29. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 32(a): rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phŵer ymgynnull i ddod â chynghreiriaid gwaith teg at ei gilydd er mwyn symud yn barhaus tuag at waith teg

Mae hyn yn cynnwys undebau llafur a sefydliadau cymdeithas sifil eraill, busnesau cyfrifol ac arbenigwyr annibynnol.

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i gwestiwn 29. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 32(b): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth a dylanwad cyflogwyr parod er mwyn gwella pa mor amlwg a dymunol yw gwaith teg o fewn y cymunedau busnes gwahanol

Gallai hyn gynnwys dewis Llysgenhadon neu Eiriolwyr Gwaith Teg Cymru.

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i gwestiwn 29. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 33: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’i phartneriaid cymdeithasol, yn cymryd y camau rydym yn eu nodi i gynorthwyo a chefnogi cyflogwyr parod er mwyn ymgorffori nodweddion gwaith teg yn eu sefydliadau

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn cynnal deialog reolaidd a mynych â phartneriaid cymdeithasol ar gamau pellach y gall y Llywodraeth, partneriaid cymdeithasol ac eraill eu cymryd i sicrhau bod gwaith teg yn fwy cyffredin. 

Statws

Ar waith.

Argymhellia 34: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwahodd Acas, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r holl gyrff perthnasol eraill i gydweithio i amlinellu eu cyngor ar nodweddion a dangosyddion gwaith teg, yr ymhelaethir arnynt yn Rhan 2 o’r Adroddiad hwn

Cyfuno a symleiddio cyngor priodol fyddai'r nod yn ogystal â dangos y ffordd yn glir at gymorth, gan gynnwys adnoddau ar-lein.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag Acas a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac maent yn ymwybodol o'n nodweddion gwaith teg, ac rydym yn cyfeirio unigolion at eu gwybodaeth fel y bo'n briodol.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 36: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, wrth weithio o fewn partneriaeth gymdeithasol, yn archwilio dichonoldeb Fforymau Gwaith Teg Cymru, gyda’r nod o gychwyn, meithrin a chefnogi’r rhain

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a thrwy drafod â phartneriaid cymdeithasol. Rydym wedi nodi y gall ymgorffori partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg mewn trafodaethau ehangach fod yn fwy cynhyrchiol na sefydlu ‘fforymau gwaith teg’ annibynnol lle mae risg y caiff gwaith teg ei ystyried ar wahân i faterion ehangach.  Dyma'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym mewn perthynas â'r Fforwm Manwerthu er enghraifft. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 37: rydym yn argymell dechrau drwy sefydlu Fforwm Gwaith Teg Cymru ym maes Gofal Cymdeithasol

Cyflawnwyd hyd yma

Gwnaethom sefydlu Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac mae ei is-grwpiau yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd.  

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 38: rydym yn argymell datblygu safon Gwaith Teg Cymru, i’r cyhoedd, sy’n seiliedig ar ddangosyddion nodweddion gwaith teg sydd wedi’u nodi yn yr Adroddiad hwn

Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i hyrwyddo hyn, a’i hatgyfnerthu drwy fath o achrediad. Dylid datblygu safonau Gwaith Teg Cymru, sydd wedi’u teilwra, i adlewyrchu cyd-destun, drwy drafodaeth gymdeithasol â nifer o randdeiliaid.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi dod i'r casgliad nad yw hyn yn ddichonadwy nac yn addas am sawl rheswm, gan gynnwys (i) mae gennym y Contract Economaidd a'r Cod Ymarfer eisoes ac mae'n gwneud synnwyr i wella cyrhaeddiad ac effaith y rhain, yn hytrach na gorlenwi'r farchnad â rhywbeth newydd (ii) mae maint consensws partneriaeth gymdeithasol ynglŷn â beth yn union y dylai ‘safon’ ei fynnu yn aneglur; (iii) mae'r gorbenion o ran yr adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu, cyflwyno a chynnal achrediad newydd yn fawr ac mae ein capasiti i wneud hyn yn gyfyngedig; (iv) o ystyried hyd a lled gwaith teg, mae datblygu safon hollgynhwysfawr sy'n berthnasol i bawb yn heriol yn ei hanfod; (v) mae gwahanol fathau o achrediad sy'n berthnasol i agweddau penodol ar waith teg eisoes, megis achrediad y Cyflog Byw Gwirioneddol, rydym am hyrwyddo'r rhain yn hytrach na chystadlu â nhw.  

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhellia 39: rydym yn argymell sefydlu Arsyllfa Gwaith Teg Cymru (rithiol) er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a’r capasiti ychwanegol ar gael wrth ddatblygu gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn defnyddio model partneriaeth gymdeithasol i hybu gwaith teg ac yn defnyddio tystiolaeth a ddarperir gan bartneriaid cymdeithasol yn ogystal â thystiolaeth sy'n deillio o felinau trafod a chyrff ymchwil. Rydym hefyd yn defnyddio ystadegau swyddogol ac adnoddau ymchwil mewnol. Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi dod i'r casgliad na fyddai sefydlu Arsyllfa yn ychwanegu rhyw lawer at yr arbenigedd sydd eisoes ar gael. 

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhellia 40: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Cronfa Gwaith Teg Cymru, y gall undebau llafur a sefydliadau cymdeithas sifil gyflwyno ceisiadau iddi

Cyflawnwyd hyd yma

Nid oes digon o le yn ein cyllideb i ddarparu ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar gysoni a gwyro ffynonellau cyllid ym mhob rhan o'r Llywodraeth tuag at waith teg a dylanwadu ar raglenni ac ymyriadau sefydliadau eraill, yn hytrach na chreu cronfa annibynnol, ar wahân. 

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhellia 41: rydym yn argymell y dylid cyflwyno adroddiad sy’n nodi’r cynnydd o ran rhoi argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar waith cyn pen chwe mis i gyhoeddi'r Adroddiad hwn, ac yn rheolaidd ar ôl hynny

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi bod yn gwneud Datganiadau blynyddol i'r cyfarfod llawn ar gynnydd gwaith teg ac rydym wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn sy'n rhoi diweddariad ar bob un o'r 48 o argymhellion. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 43: rydym yn argymell bod yr Atodiad Technegol i'r Adroddiad hwn, sy’n cael ei baratoi gan Gynghorydd Arbenigol Annibynnol y Comisiwn, yn fan cychwyn ar gyfer trafod cynllun seilwaith data a chasglu data

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r Atodiad Technegol wedi helpu i lywio ein mesurau gwaith teg. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 44(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi hwb i faint samplau arolygon yng Nghymru sy’n cynhyrchu data sy’n berthnasol i dracio gwaith teg pan fo’r cyfle’n codi

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi cynyddu maint samplau ac wedi llwyddo i gynnwys cwestiynau o Arolygon Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r agenda gwaith teg. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 44(b): rydym yn argymell y dylid mynd ar drywydd y cyfle i ymgysylltu ac ymgynghori ar ymarferion casglu data yn y DU yn y dyfodol yn y maes hwn, er mwyn i ddiffiniad Cymru a nodweddion gwaith teg gael lle mwy amlwg ac er mwyn dadgyfuno’r data dilynol pan fo hynny’n bosibl

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i 44(a).

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 44(c): yn yr un modd, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn annog y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gydnabod gofynion data gwaith teg y gweinyddiaethau datganoledig

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i 44(a).

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 45: rydym yn argymell bod arolwg pwrpasol o gyflogwyr Cymru’n cael ei gynllunio i dracio nodweddion gwaith teg, fel y’u diffinnir yn yr Adroddiad hwn

Dylid gweinyddu’r Arolwg hwn o Waith Teg Cymru ar gyfnodau rheolaidd. Mae angen arolwg i ganfod y llinell sylfaen i ddechrau.

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried yr argymhelliad hwn ac wedi dod i'r casgliad bod mecanweithiau yn bodoli eisoes y gallwn eu defnyddio i gael adborth gan gyflogwyr, gan gynnwys gwella arolygon presennol wrth iddynt gael eu hadolygu. Rydym hefyd wedi datblygu set o fesurau gwaith teg sy'n ein galluogi i ddefnyddio ystadegau swyddogol i olrhain cynnydd yn erbyn nodweddion gwaith teg. 

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhellia 46: rydym yn argymell y canlynol yng nghyswllt y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol:

argymhellion:

  • mae’r dangosydd sy’n canolbwyntio ar gyfran y gweithwyr yng Nghymru sy’n cael y Cyflog Byw Cymreig neu uwch yn cael ei ddefnyddio yn lle’r dangosydd sy’n canolbwyntio ar ddwy ran o dair o gyflog canolrifol y DU
  • Mae’r dangosydd boddhad swydd wedi’i ddileu
  • mae cydnabyddiaeth undebau llafur ar gyfer cydfargeinio wedi'i gynnwys fel dangosydd cenedlaethol
  • mae’r dangosyddion cydfargeinio a'r Cyflog Byw Cymreig wedi'u mabwysiadu’n gerrig milltir cenedlaethol. Rydym yn cefnogi’r cynnig i gynnwys monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel carreg filltir genedlaethol ac yn croesawu’r gwaith dichonolrwydd ar ymestyn y garreg filltir i wahaniaethau mewn cyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi gwneud pob un o'r tri newid i'r Dangosyddion Cenedlaethol. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 47: rydym yn argymell bod data gwaith teg yn cael eu casglu’n rheolaidd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan adlewyrchu diffiniad y Comisiwn o waith teg

Bydd hyn, ynghyd ag A45, yn arwain at ddata newydd a chyfnodol o arolygon sy’n cwmpasu safbwynt y gweithiwr a’r cyflogwr.

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler argymhelliad 44. 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellia 48: rydym yn argymell bod data gweinyddol allweddol o'r math hwn yn cael eu casglu’n systematig gan y Swyddfa Gwaith Teg er mwyn helpu i fonitro cynnydd ac i lywio'r gwaith o adrodd yn flynyddol ar Waith Teg Cymru

Cyflawnwyd hyd yma

Ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol, gwnaethom ddatblygu set o fesurau canlyniadau gwaith teg sy'n ein galluogi i olrhain cynnydd o ran pob un o nodweddion gwaith teg.  Byddwn yn ystyried sut y byddwn yn cyhoeddi'r mesurau hyn neu'n adrodd arnynt. 

Statws

Cyflawnwyd.