Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Comisiwn Gwaith Teg ei adroddiad Gwaith Teg Cymru ym mis Mai 2019. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y chwe argymhelliad â blaenoriaeth yn yr adroddiad yn ffurfiol.

Mae pob un o'r chwe argymhelliad â blaenoriaeth wedi cael eu rhoi ar waith a'u cyflawni. Derbyniwyd y 42 o argymhellion sy'n weddill mewn egwyddor. O'r rhain, mae'r mwyafrif naill ai wedi cael eu cyflawni neu maent wrthi'n cael eu cyflawni.

Mae nifer o argymhellion ar waith. Mae hyn i'w briodoli'n bennaf i'r ffaith bod llawer o argymhellion yn galw'n benodol am weithgarwch parhaus neu'n mynnu gweithgarwch parhaus, yn hytrach na cham gweithredu penodol i'w gyflawni ac yna ei gloi.

Mae nifer bach iawn o argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor, ond lle mae materion sylweddol sy'n ymwneud â dichonoldeb ac addasrwydd wedi dod i'r amlwg, ar ôl ystyried ac archwilio polisïau ymhellach.

Ym mhob achos lle nad ydym wedi llwyddo i ddatblygu argymhelliad yn yr union ffordd y gallai'r Comisiwn fod wedi bwriadu inni ei wneud, rydym wedi canfod dulliau gweithredu amgen ar gyfer cyflawni'r bwriad a'r amcan sy'n sail i'r argymhelliad.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aethom y tu hwnt i adroddiad Gwaith Teg Cymru wrth lansio'r prosiect Undebau a'r Byd Gwaith, cefnogwyd y cynnydd parhaus yn nifer y cyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig a nifer y gweithwyr all fanteisio ar godiadau’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn sgil yr achrediad, a symudwyd ymlaen â datblygiadau ar lefel sector drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a'r Fforwm Manwerthu.

Rydym yn benderfynol o ddefnyddio pob ysgogiad sydd gennym i hyrwyddo ac annog gwaith teg a gwneud hynny mewn ffyrdd sy'n ein galluogi i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd.

Argymhellion â blaenoriaeth: derbyniwyd yn llawn

Argymhelliad 1: rydym yn argymell bod gwaith teg yn cael ei weld fel rhywbeth y mae holl Weinidogion Llywodraeth Cymru a’r holl swyddogion yn gyfrifol amdano

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu diffiniad cyffredin o waith teg ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a gefnogir yn llwyr gan bob un o Weinidogion Cymru, ac sydd wrth wraidd ein Rhaglen Lywodraethu a'n dulliau gweithredu trawslywodraethol fel y Cynllun  Cyflogadwyedd a Sgiliau a'n Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 2: rydym yn argymell y dylai diffiniad (y Comisiwn Gwaith Teg) a nodweddion gwaith teg gael eu mabwysiadu a’u defnyddio ledled Llywodraeth Cymru ac wrth iddi hyrwyddo gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r diffiniad o waith teg a ddarparwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg yn llywio'r dull o ymdrin â gwaith teg ym mhob portffolio. Er enghraifft, mae elfen gwaith teg y Contract Economaidd wedi cael ei newid er mwyn adlewyrchu'r diffiniad hwn.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 10(b): rydym yn argymell bod ein sylwadau a’n hargymhellion yn sail i ddatblygu’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi defnyddio gwaith y Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i lywio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 26: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datgan ymrwymiad polisi cyhoeddus i hyrwyddo undebau llafur a chydfargeinio

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn parhau i gyhoeddi gohebiaeth a datganiadau er mwyn hyrwyddo rôl Undebau Llafur, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â TUC Cymru i ddatblygu prosiect peilot yr Undebau a Byd Gwaith ac rydym yn hyrwyddo adnodd ‘find a union’ y TUC ar ein gwefan.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 35: rydym yn argymell creu Swyddfa Gwaith Teg sy’n cael ei hariannu’n ddigonol ac sy’n cynnwys y nifer priodol o staff

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu Cyfarwyddiaeth yn Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys gweision sifil, ochr yn ochr ag unigolion a secondiwyd o bartneriaid cymdeithasol, er mwyn arwain a chydgysylltu'r agenda partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 42: rydym yn argymell bod gofyn i Weinidogion adrodd yn fewnol yn rheolaidd ar y ffordd mae gwaith teg yn cael ei ddatblygu o fewn eu meysydd

Cyflawnwyd hyd yma

Yn fewnol, rydym yn defnyddio Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes (BIRT) sy'n darparu dull syml a chyson o gofnodi, monitro ac adrodd gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys mewn perthynas â gwaith teg.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhellion eraill: derbyniwyd mewn egwyddor

Argymhelliad 3: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’i phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ehangach i ganfod beth sy’n briodol ac yn bosibl mewn gwahanol gyd-destunau yng nghyswllt dangosyddion nodweddion gwaith teg ac er mwyn sicrhau bod y diffiniad yn gynaliadwy dros amser

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn cysylltu'n rheolaidd â phartneriaid cymdeithasol ynghylch pob agwedd ar waith teg, gan gynnwys mewn perthynas â chyd-destunau penodol megis Gofal Cymdeithasol a Manwerthu. Rydym yn mabwysiadu dull ymarferol o ymdrin â'r argymhelliad hwn, sy'n ein galluogi i ganolbwyntio ar feysydd penodol sy'n cyflwyno heriau a chyfleoedd.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 4: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio ac yn manteisio ar bob cyfle o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol i ddatblygu gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried a phrofi cymhwysedd deddfwriaethol yn ein gwaith i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 5(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i wella’r dyletswyddau penodol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Cyflawnwyd hyd yma

Ymdrinnir â'r argymhelliad hwn yn rhannol drwy'r Cynllun a Nodau Cydraddoldeb ar gyfer 2020-2024a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'r uchelgais tymor hirach i adolygu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 5(b): dylai Gweinidogion Cymru wneud cysylltiadau rhwng yr amcanion cydraddoldeb y maent wedi’u gosod iddynt eu hunain o dan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a gwaith teg fel y nodir yn yr Adroddiad hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ymgorffori gwaith teg yn ein cynlluniau gweithredu ar gydraddoldeb ac rydym wedi sefydlu Carreg Filltir Genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 6(a): rydym yn argymell bod amcanion llesiant cyrff cyhoeddus, sydd wedi’u nodi o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gwaith teg fel y caiff ei ddiffinio gan y Comisiwn hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn disodli'r cyfeiriad at 'waith gweddus' yn nod llesiant 'Cymru lewyrchus' ac yn rhoi 'gwaith teg' yn ei le. Bwriedir i'r gwelliant gychwyn ar 1 Ebrill 2024 a bydd hyn yn sbarduno'r angen i gyrff cyhoeddus adolygu eu hamcanion llesiant eu hunain ac, yn y dyfodol, ystyried y newid i'r nod llesiant wrth osod neu adolygu unrhyw amcanion llesiant newydd.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 6(b): rydym yn argymell y dylai diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg a'i nodweddion lywio'r ffordd y caiff nodau llesiant eu datblygu a'u rhoi ar waith, a gwaith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Cyflawnwyd hyd yma

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn disodli'r cyfeiriad at 'waith gweddus' yn nod llesiant 'Cymru lewyrchus' ac yn rhoi 'gwaith teg' yn ei le. Bwriedir i'r gwelliant gychwyn ar 1 Ebrill 2024 a bydd hyn yn sbarduno'r angen i gyrff cyhoeddus adolygu eu hamcanion llesiant eu hunain ac, yn y dyfodol, ystyried y newid i'r nod llesiant wrth osod neu adolygu unrhyw amcanion llesiant newydd.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 6(c): rydym yn argymell bod trafodaethau’n cael eu cynnal â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda’r bwriad o roi Argymhellion 6a a 6b ar waith

Cyflawnwyd hyd yma

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn asio gyda'r nodau llesiant. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i drafod y materion hyn.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 7(a): rydym yn argymell bod y Panel, wrth ystyried moderneiddio'r Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol ar hyn o bryd, yn ystyried yn llawn ddiffiniad y Comisiwn hwn o waith teg a’i nodweddion, gan gynnwys y gofyniad integredig am gydraddoldeb, ac y dylid meddwl o ddifrif am ddod â’r gyfradd is i bobl o dan 25 oed i ben

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r diffiniad o waith teg wedi'i ddwyn i sylw'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ac mae'r argymhelliad hwn wedi'i godi gyda'r Panel gan swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru. Mae'r Panel wedi cynnig rhai newidiadau yn ei ymgynghoriad diweddaraf ar gyfer Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2024, ond mae'n ystyried ei bod yn briodol gwahaniaethu rhwng y cyfraddau isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol 21 oed a hŷn a’r cyfraddau isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol o dan 21 oed.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 7(b): mae’r Comisiwn yn argymell gofyn i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ymchwilio i ddichonoldeb talu’r Cyflog Byw Cymreig (sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Go Iawn) ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, ac adrodd ar hynny, dros gyfnod treigl o dair blynedd

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth wedi ystyried talu'r cyflog byw gwirioneddol fel llinell sylfaen ar gyfer pob cyflog ac mae Gweinidogion Cymru wedi ymgysylltu â'r Panel i drafod y mater hwn. Hyd yma, mae'r Panel wedi ystyried nad yw'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel y llinell sylfaen ar gyfer pob cyflog yn fforddiadwy. Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r Panel i drafod y materion hyn.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 8: rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, yn dilyn yr adolygiad sydd ar fin digwydd o’r Rheoliadau, asesu a yw’r dull gweithredu o gysylltu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd â llesiant gweithwyr, er mwyn ymyrryd, yn un y gellid ei ddefnyddio mewn sectorau eraill sy’n cael eu rheoleiddio

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r cysylltiad rhwng darparu gwasanaethau cyhoeddus a llesiant wedi bod yn sail i'r gwaith ar Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac mae'r cysylltiad rhwng gwaith teg a llesiant yn rhan o'n gwaith fframio ehangach.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 9: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo gwaith teg, gan ddefnyddio ei phwerau o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (a phwerau deddfwriaethol eraill i roi cyngor ac arweiniad) er mwyn datblygu llesiant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried a phrofi pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru a chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd fel rhan o'n gwaith ar Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 10(a): rydym yn argymell bod camau’n cael eu cymryd i roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol fwy cadarn, er mwyn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn fwy sicr a sicrhau parhad

Cyflawnwyd hyd yma

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi gosod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy ddeddfu ar gyfer Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a thrwy'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 11: pan nad oes gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol, dylai ddefnyddio ei dylanwad i fynd ati i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddeddfwriaeth sy’n ffafriol i hyrwyddo Gwaith Teg Cymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau mesurau amddiffyn gwell, gweithgarwch gorfodi cryfach a chosbau mwy effeithiol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd y camau hyn, gyda'i gilydd, yn canfod, yn atal ac yn cywiro achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 12: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau na chaiff yr hawliau cyflogaeth presennol eu glastwreiddio yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU yn erbyn glastwreiddio hawliau gweithwyr neu ymwahanu rheoleiddiol sy'n golygu y byddai gan weithwyr yn y DU lefel is o ddiogelwch na'u cymheiriaid yn yr UE.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 13: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU, ar gynigion ar gyfer un asiantaeth orfodi ar gyfer y farchnad lafur

Cyflawnwyd hyd yma

Nid yw Llywodraeth y DU bellach wedi ymrwymo i gyflwyno Un Corff Gorfodi. Fodd bynnag, rydym wedi annog Llywodraeth y DU i gyflwyno Bil Cyflogaeth a fydd nid yn unig yn sefydlu Un Corff Gorfodi, ond un wedi'i rymuso a'i ariannu'n briodol, sydd â'r pwerau a'r adnoddau i fynd i'r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio ac atal arferion gwael. Rydym hefyd yn parhau i weithio i godi proffil asiantaethau gorfodi'r DU yng Nghymru ac rydym wedi sefydlu perthynas adeiladol â Chyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Lafur Llywodraeth y DU.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 14: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth i wella pa mor effeithiol yw'r gwaith gorfodi hawliau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn rhoi'r strategaeth honno ar waith

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi datblygu a chynnal ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a sianeli at wybodaeth, cyngor ac arweiniad. Rydym hefyd wedi sefydlu'r Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr cyflogwyr, undebau llafur a rheoleiddwyr fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod Gangfeistri a Cham- drin Llafur ac uned gorfodi isafswm cyflog CThEF.

Statws

Ar waith

Argymhelliad 15(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dod â darpariaethau statudol ynghyd (boed hynny mewn cyfraith cyflogaeth, cyfraith cwmnïau, cyfraith cydraddoldeb neu gyfraith arall) sy’n rhoi hawliau neu’n gosod rhwymedigaethau sy’n berthnasol i waith teg 

Cyflawnwyd hyd yma 

Mae hawliau cyflogaeth yn dirwedd gymhleth a chyfnewidiol ac yn fater a gedwir yn ôl. Mae risg fawr y gallai gweithredu ar yr argymhelliad hwn arwain at gynhyrchu deunydd sy'n anghywir neu sy'n dyddio'n gyflym. Mae gwybodaeth wael a chamarweiniol yr un mor beryglus â diffyg gwybodaeth. Y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu yw cyfeirio unigolion at ffynonellau dibynadwy (megis Acas), yn hytrach na cheisio ailddehongli'r wybodaeth honno neu lunio fersiynau amgen ohoni. Rydym hefyd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol drwy'r Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle, a sefydlwyd gennym, ac sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr cyflogwyr, undebau llafur a rheoleiddwyr fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur ac uned gorfodi isafswm cyflog CThEF. 

Statws 

Nodwyd dull gweithredu amgen. 

Argymhelliad 15(b): rydym yn argymell targedu ymgyrch ar ‘wybod beth yw eich hawliau’, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i’r eithaf, yn ogystal â sianeli eraill i godi ymwybyddiaeth ac i gynyddu gwybodaeth am hawliau a sut mae ceisio cywiro pethau 

Cyflawnwyd hyd yma 

Gwnaethom ddatblygu a chyflwyno Ymgyrch Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a sianeli gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Rydym bellach yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a ffyrdd o gyrraedd at wybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol drwy'r Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle, a sefydlwyd gennym, ac sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr cyflogwyr, undebau llafur a rheoleiddwyr fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur ac uned gorfodi isafswm cyflog CThEF. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 15(c): rydym yn argymell cynyddu ymwybyddiaeth darpar weithwyr o hawliau drwy, er enghraifft, Gyrfa Cymru, Porth Sgiliau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng nghyswllt prentisiaid 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym yn datblygu hyn drwy gyflwyno'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau lle mae “hyrwyddo gwaith teg i bawb” yn un o'i bum blaenoriaeth. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 16: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn helpu gweithwyr i orfodi eu hawliau drwy hwyluso argaeledd a mynediad at gyngor a chymorth, er enghraifft, drwy gymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau cefnogi a chynghori 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym yn ariannu Cyngor ar Bopeth i ddarparu gwasanaethau cynghori ac rydym hefyd wedi gweithio gydag Acas er mwyn sicrhau y darperir gweminarau pwrpasol ar hawliau gweithwyr a chyfrifoldebau cyflogwyr. Rydym yn parhau i adeiladu ar hyn, er enghraifft, drwy gynnal gweithdai pwrpasol mewn sectorau penodol a gweithio drwy'r Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle (gweler uchod) i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth. 

Statws 

Cyflawnwyd. 

Argymhelliad 17(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru (drwy’r Swyddfa Gwaith Teg) yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi a gwella swyddogaethau gorfodi asiantaethau gorfodi’r DU yng Nghymru 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi sefydlu Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr cyflogwyr, undebau llafur a rheoleiddwyr fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur ac uned gorfodi isafswm cyflog CThEF. Ei bwrpas yw gwella dealltwriaeth o'r sefyllfa o ran hawliau a chyfrifoldebau; nodi heriau a rhwystrau cyffredin; dylanwadu ar ganlyniadau gwell; a gwella cyfathrebu a chysylltiadau rhwng pob un ohonom. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 17(b): rydym yn argymell, os na fydd pwynt cyswllt chwythu'r chwiban ar gyfer y DU gyfan yn cael ei greu, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar sut gellid darparu hynny yng Nghymru 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i sefydlu Un Corff Gorfodi ac i'r corff hwnnw weithredu fel un pwynt cyswllt. Mae heriau sylweddol o ran dichonoldeb yn gysylltiedig â sefydlu un pwynt cyswllt yng Nghymru ar gyfer materion a gedwir yn ôl a lle mae'r swyddogaethau gorfodi a'r gallu i fynd i'r afael â phryderon y tu hwnt i'n cyfrifoldebau datganoledig. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 17(c): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydlynu gwybodaeth am sefydliadau yng Nghymru nad ydynt wedi cydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, gan sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn rhwydd i aelodau'r cyhoedd 

Cyflawnwyd hyd yma 

Nid ydym yn berchen ar wybodaeth fesul cwmni am ddiffyg cydymffurfio ac nid oes gennym fynediad cynhwysfawr i wybodaeth o'r fath. Felly, ni allwn enwi sefydliadau o'r fath a chodi cywilydd arnynt yn gywir nac yn gyson, yn y ffordd a ragwelwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg. Yn hytrach, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella tryloywder ynghylch pob ffurf o ddiffyg cydymffurfio yn y farchnad lafur. 

Statws 

Nodwyd dull gweithredu amgen. 

Argymhelliad 18: Rydym yn argymell mai dim ond i sefydliadau sy’n cyflawni, neu’n sy’n gweithio tuag at gyflawni gwaith teg y dylid rhoi arian cyhoeddus; dylai mewnfuddsoddwyr fod yn sefydliadau gwaith teg; dylai prosiectau seilwaith a phrosiectau buddsoddi cyfalaf mawr fod yn brosiectau Gwaith Teg Cymru; dylai ffocws a blaenoriaethau contractau sector cyhoeddus symud tuag at werth cymdeithasol, gan gynnwys gwaith teg 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar wella cyrhaeddiad ac effaith y Contract Economaidd a'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni  Cyflenwi fel ffyrdd y gallwn gael gwell sicrwydd bod y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn rhannu ein gwerthoedd (gan gynnwys mewn perthynas â gwaith teg). At hynny, bydd y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol yn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn atgyfnerthu'r rhan y gall gwaith caffael a rheoli contractau ei chwarae. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 19: rydym yn argymell, yn unol â’r bwriad y mae wedi’i nodi, fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg yng nghyswllt Contract Economaidd / Meysydd Gweithredu / Cronfa Dyfodol yr Economi

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi diwygio elfen gwaith teg y Contract Economaidd er mwyn iddo bellach adlewyrchu geiriad diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith teg. 

Statws 

Cyflawnwyd. 

Argymhelliad 20: rydym yn argymell y dylid ehangu’r cwmpas i gynnwys cyllid gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru (gyda’r nod o gynorthwyo cyflogwyr i fodloni gofynion gwaith teg yn hytrach na’u heithrio rhag cael cyllid) 

Cyflawnwyd hyd yma 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r Contract Economaidd a'r ffordd y caiff ei roi ar waith a'i ddefnyddio. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 21: rydym yn argymell bod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o Waith Teg, a’i nodweddion, yn cael eu mabwysiadu ac yn cael lle amlwg yn y Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi gwneud newidiadau i rai o'r deunyddiau canllaw sy'n cyd-fynd â'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac rydym yn parhau i adolygu'r Cod a'i ganllawiau yn unol â'n dull ehangach o ymdrin â gwaith teg. 

Statws 

Cyflawnwyd. 

Argymhelliad 22: yng nghyswllt y Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, rydym hefyd yn argymell y dylai fod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus Cymru a’r sefydliadau hynny sy’n cael arian cyhoeddus ymrwymo i’r Cod; y dylid cymryd camau mwy penodol i annog rhagor o fusnesau nad ydynt yn cael arian cyhoeddus i ymrwymo i'r targedau sydd wedi’u pennu; y dylai’r rheini sy’n ymrwymo i’r Cod orfod dangos sut y byddent yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, a pha ystyriaeth sydd wedi’i rhoi i hynny, yn ogystal â chynllun gweithredu er mwyn cyflawni hyn; y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i roi'r Cod ar waith yn effeithiol a'i fod yn cael ei fonitro’n effeithiol; y bydd gofyn i’r rhai sy’n llofnodi’r Cod fod yn barod i gael eu harchwilio a’u monitro 

Cyflawnwyd hyd yma 

Mae gwaith sy'n dal i fynd rhagddo wedi dangos y gallai gwneud y Cod Ymarfer yn orfodol, yn ei gyfanrwydd, gael nifer o ganlyniadau anfwriadol ac annymunol. Gellir sicrhau gwell cefnogaeth, ymrwymiad a chyflawniad drwy ymgysylltu â sefydliadau, esbonio iddynt a'u hannog i ymrwymo i'r Cod, yn hytrach na'u gorfodi i wneud hynny. Yn ôl ein cofnodion, mae dros 600 o sefydliadau wedi llofnodi'r Cod ers ei sefydlu yn 2017. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 23: rydym yn argymell bod gwaith teg yn egwyddor arweiniol i’r adolygiad ehangach i'r defnydd a wneir o arian cyhoeddus, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym yn ymgorffori'r diffiniad o waith teg ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried mewn rhaglenni ac ymyriadau, yn enwedig lle mae arian cyhoeddus yn cefnogi sefydliadau allanol. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 24: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy fonitro arbrofion mewn mannau eraill a/neu drwy gynlluniau peilot yng Nghymru, yn canfod beth sy’n gweithio o ran ffyrdd eraill y gall arian cyhoeddus hyrwyddo gwaith teg (er enghraifft drwy ardrethi neu gymhellion treth) 

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym yn ystyried cyfleoedd i wella'r cysylltiad rhwng arian cyhoeddus a'i allu i annog gwaith teg, gan gynnwys edrych ar y gwersi y gallwn eu dysgu o ddull gweithredu ‘Fair Work First’ yn yr Alban. 

Statws 

Ar waith. 

Argymhelliad 25: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd pob mesur posibl sydd o fewn ei gallu i gefnogi a hyrwyddo undebau llafur a chydfargeinio

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym wedi hyrwyddo undebau llafur (gweler y cam gweithredu ar gyfer argymhelliad 26) a manteision cydfargeinio i gyflogwyr a gweithwyr yn ein negeseuon, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o rôl undebau llafur yn rheolaidd, yn hyrwyddo manteision bod mewn undeb llafur, ac yn dathlu gwerth cyflogwyr ac undebau llafur sy'n gweithio'n adeiladol a chyda pharch at ei gilydd. Rydym wedi mynegi'n gyson mai bod mewn undeb llafur yw'r

ffordd orau i weithwyr amddiffyn eu hawliau yn y gwaith, gwella eu cyflog, telerau ac amodau a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Rydym hefyd yn credu bod undebau llafur yn bartneriaid dyfeisgar wrth nodi a datrys materion yn y gweithle; gwella iechyd a diogelwch; cefnogi dysgu yn y gweithle; a galluogi ymgysylltiad gweithwyr. Mae gan bob gweithiwr hawl gyfreithiol i ymuno ag undeb llafur ac rydym yn disgwyl i'n cyrff cyhoeddus datganoledig ddarparu mynediad i undebau llafur.

Rydym yn annog busnesau sy'n gweithio gyda ni i ddarparu mynediad i undebau llafur hefyd, fel bod gweithwyr yn cael cyfle a dewis i gael eu cynrychioli gyda'i gilydd.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 27: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yng Nghronfa Ddysgu Undebau Cymru

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn parhau i fuddsoddi yng Nghronfa Ddysgu Undebau Cymru, er gwaethaf y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 28: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn darparu strategaeth gyfathrebu a marchnata i greu ymwybyddiaeth o’r agenda gwaith teg yn eang ac i ennyn brwdfrydedd yn y maes

Cyflawnwyd hyd yma 

Rydym yn defnyddio sianeli cyfathrebu sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys Busnes Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a sefydliadau perthnasol eraill i ddefnyddio eu sianeli a'u rhwydweithiau cyfathrebu i hyrwyddo'r agenda gwaith teg.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 29: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, cynghreiriaid ac eiriolwyr gwaith teg i ‘werthu’ a thynnu sylw at y cysyniad o Waith Teg Cymru, gan feithrin diddordeb brwd a chael pobl Cymru i ymgysylltu ag ymdrechion gwaith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn awyddus i sefydlu modelau rôl i gyflogwyr sy'n mynd ati i hyrwyddo gwaith teg i gymheiriaid a dangos gwaith teg drwy astudiaethau achos ysbrydoledig sy'n cyrraedd cynulleidfa eang ac yn cael cryn effaith. Rydym wedi ceisio cymorth partneriaid cymdeithasol yn hyn o beth. Ac rydym yn cefnogi sefydliadau megis Cynnal Cymru (sef partner achredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru) a Busnes yn y Gymuned er mwyn meithrin eu gallu i ymgysylltu â chyflogwyr.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 30: rydym yn argymell trefnu a thynnu sylw at dystiolaeth o fanteision macro a micro gwaith teg, ac effaith negyddol gwaith annheg ar sefydliadau a’r gymdeithas

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn defnyddio tystiolaeth ansoddol a meintiol sy'n ategu'r achos dros waith teg ac yn dangos anfanteision a chostau cudd gwaith annheg. Rydym wedi cyhoeddi Canllaw i waith teg sy'n amlinellu'r achos moesegol, llesiant a busnes dros waith teg.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 31: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a chyrff sector cyhoeddus yn sicrhau eu bod yn weithredol ac yn amlwg yn sefydliadau Gwaith Teg Cymru 

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus datganoledig ehangach wrth arwain drwy esiampl ar waith teg fel cyflogwyr, llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau, arianwyr sefydliadau eraill ac fel caffaelwyr nwyddau a gwasanaethau. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn darparu ysgogiad pellach ar gyfer y gwaith hwnnw.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 32: rydym yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio eu dylanwad i hyrwyddo a hysbysebu gwaith teg ymhellach

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i argymhelliad 29.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 32(a): rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phŵer ymgynnull i ddod â chynghreiriaid gwaith teg at ei gilydd er mwyn symud yn barhaus tuag at waith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i argymhelliad 29.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 32(b): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth a dylanwad cyflogwyr parod er mwyn gwella pa mor amlwg a dymunol yw gwaith teg o fewn y cymunedau busnes gwahanol

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i argymhelliad 29.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 33: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’i phartneriaid cymdeithasol, yn cymryd y camau rydym yn eu nodi i gynorthwyo a chefnogi cyflogwyr parod er mwyn ymgorffori nodweddion gwaith teg yn eu sefydliadau

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn cynnal deialog reolaidd a mynych â phartneriaid cymdeithasol ar gamau pellach y gall y Llywodraeth, partneriaid cymdeithasol ac eraill eu cymryd i sicrhau bod gwaith teg yn fwy cyffredin.

Statws

Ar waith.

Argymhelliad 34: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwahodd Acas, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r holl gyrff perthnasol eraill i gydweithio i amlinellu eu cyngor ar nodweddion a dangosyddion gwaith teg, yr ymhelaethir arnynt yn Rhan 2 o’r Adroddiad hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag Acas a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac maent yn ymwybodol o'n nodweddion gwaith teg, ac rydym yn cyfeirio unigolion at eu gwybodaeth fel y bo'n briodol.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 36: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, wrth weithio o fewn partneriaeth gymdeithasol, yn archwilio dichonoldeb Fforymau Gwaith Teg Cymru, gyda’r nod o gychwyn, meithrin a chefnogi’r rhain

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi sefydlu Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a thrwy drafodaeth gyda phartneriaid cymdeithasol, rydym wedi nodi y gall ymgorffori partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg mewn trafodaethau ehangach fod yn fwy cynhyrchiol na sefydlu ‘fforymau gwaith teg’ annibynnol lle mae risg y caiff gwaith teg ei ystyried ar wahân i faterion ehangach. Dyma'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym mewn perthynas â'r Fforwm Manwerthu er enghraifft.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 37: rydym yn argymell dechrau drwy sefydlu Fforwm Gwaith Teg Cymru ym maes Gofal Cymdeithasol

Cyflawnwyd hyd yma

Gwnaethom sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac mae'r Fforwm hwnnw a'i is-grwpiau yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 38: rydym yn argymell datblygu safon Gwaith Teg Cymru, i’r cyhoedd, sy’n seiliedig ar ddangosyddion nodweddion gwaith teg sydd wedi’u nodi yn yr Adroddiad hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi dod i'r casgliad nad yw hyn yn ddichonadwy nac yn addas am sawl rheswm, gan gynnwys (i) mae gennym y Contract Economaidd a'r Cod Ymarfer eisoes ac mae'n gwneud synnwyr i wella cyrhaeddiad ac effaith y rhain, yn hytrach na gorlenwi'r farchnad â rhywbeth newydd (ii) mae maint consensws partneriaeth gymdeithasol ynglŷn â beth yn union y dylai ‘safon’ ei fynnu yn aneglur; (iii) mae'r gorbenion o ran yr adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu, cyflwyno a chynnal achrediad newydd yn fawr ac mae ein capasiti i wneud hyn yn gyfyngedig; (iv) o ystyried hyd a lled gwaith teg, mae datblygu safon hollgynhwysfawr sy'n berthnasol i bawb yn heriol yn ei hanfod; (v) mae gwahanol fathau o achrediad sy'n berthnasol i agweddau penodol ar waith teg eisoes, megis achrediad y Cyflog Byw Gwirioneddol, rydym am hyrwyddo'r rhain yn hytrach na chystadlu â nhw.

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhelliad 39: rydym yn argymell sefydlu Arsyllfa Gwaith Teg Cymru (rithiol) er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a’r capasiti ychwanegol ar gael wrth ddatblygu gwaith teg 

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym yn defnyddio model partneriaeth gymdeithasol i hybu gwaith teg ac yn defnyddio tystiolaeth a ddarperir gan bartneriaid cymdeithasol yn ogystal â thystiolaeth sy'n deillio o felinau trafod a chyrff ymchwil. Rydym hefyd yn defnyddio ystadegau swyddogol ac adnoddau ymchwil mewnol. Byddwn yn ailystyried gwerth sefydlu Arsyllfa pan fydd adnoddau'n caniatáu hynny.

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhelliad 40: rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Cronfa Gwaith Teg Cymru, y gall undebau llafur a sefydliadau cymdeithas sifil gyflwyno ceisiadau iddi

Cyflawnwyd hyd yma

Nid oes digon o le yn ein cyllideb i ddarparu ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar gysoni a gwyro ffynonellau cyllid ym mhob rhan o'r Llywodraeth tuag at waith teg a dylanwadu ar raglenni ac ymyriadau sefydliadau eraill.

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhelliad 41: rydym yn argymell y dylid cyflwyno adroddiad sy’n nodi’r cynnydd o ran rhoi argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar waith cyn pen chwe mis i gyhoeddi'r Adroddiad hwn, ac yn rheolaidd ar ôl hynny

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi cyfathrebu'n rheolaidd gan nodi cynnydd ac mae'r adroddiad hwn (a'i ragflaenydd) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o'r 48 o argymhellion.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 43: rydym yn argymell bod yr atodiad technegol i'r Adroddiad hwn, sy’n cael ei baratoi gan Gynghorydd Arbenigol Annibynnol y Comisiwn, yn fan cychwyn ar gyfer trafod cynllun seilwaith data a chasglu data 

Cyflawnwyd hyd yma

Mae'r atodiad technegol wedi helpu i lywio ein mesurau canlyniadau gwaith teg.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 44(a): rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi hwb i faint samplau arolygon yng Nghymru sy’n cynhyrchu data sy’n berthnasol i dracio gwaith teg pan fo’r cyfle’n codi

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi cynyddu maint samplau ac wedi llwyddo i gynnwys cwestiynau o arolygon cenedlaethol sy'n ymwneud â'r agenda gwaith teg.

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 44(b): rydym yn argymell y dylid mynd ar drywydd y cyfle i ymgysylltu ac ymgynghori ar ymarferion casglu data yn y DU yn y dyfodol yn y maes hwn, er mwyn i ddiffiniad Cymru a nodweddion gwaith teg gael lle mwy amlwg ac er mwyn dadgyfuno’r data dilynol pan fo hynny’n bosibl

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i 44(a).

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 44(c): yn yr un modd, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn annog y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gydnabod gofynion data gwaith teg y gweinyddiaethau datganoledig

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler yr ymateb i 44(a). 

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 45: rydym yn argymell bod arolwg pwrpasol o gyflogwyr Cymru’n cael ei gynllunio i dracio nodweddion gwaith teg, fel y’u diffinnir yn yr Adroddiad hwn

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi ystyried yr argymhelliad hwn ac wedi dod i'r casgliad bod mecanweithiau yn bodoli eisoes y gallwn eu defnyddio i gael adborth gan gyflogwyr, gan gynnwys gwella arolygon presennol wrth iddynt gael eu hadolygu. Rydym hefyd wedi datblygu set o fesurau gwaith teg sy'n ein galluogi i ddefnyddio ystadegau swyddogol i olrhain cynnydd yn erbyn nodweddion gwaith teg.

Statws

Nodwyd dull gweithredu amgen.

Argymhelliad 46: rydym yn argymell y canlynol yng nghyswllt y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol: mae’r dangosydd sy’n canolbwyntio ar gyfran y gweithwyr yng Nghymru sy’n cael y Cyflog Byw Cymreig neu uwch yn cael ei ddefnyddio yn lle’r dangosydd sy’n canolbwyntio ar ddwy ran o dair o gyflog canolrifol y DU; mae’r dangosydd boddhad swydd wedi’i ddileu; mae cydnabyddiaeth undebau llafur ar gyfer cydfargeinio wedi'i gynnwys fel dangosydd cenedlaethol; mae’r dangosyddion cydfargeinio a'r Cyflog Byw Cymreig wedi'u mabwysiadu’n gerrig milltir cenedlaethol. Rydym yn cefnogi’r cynnig i gynnwys monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel carreg filltir genedlaethol ac yn croesawu’r gwaith dichonolrwydd ar ymestyn y garreg filltir i wahaniaethau mewn cyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd

Cyflawnwyd hyd yma

Rydym wedi gwneud pob un o'r tri newid i'r Dangosyddion Cenedlaethol ac wedi sefydlu Carreg Filltir Genedlaethol ar ddileu gwahaniaeth cyflog ar gyfer rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd.

Statws

Cyflawnwyd. 

Argymhelliad 47: rydym yn argymell bod data gwaith teg yn cael eu casglu’n rheolaidd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan adlewyrchu diffiniad y Comisiwn o waith teg

Cyflawnwyd hyd yma

Gweler argymhelliad 44(a).

Statws

Cyflawnwyd.

Argymhelliad 48: rydym yn argymell bod data gweinyddol allweddol yn cael eu casglu’n systematig gan y Swyddfa Gwaith Teg er mwyn helpu i fonitro cynnydd a bod yn sail i’r adroddiad blynyddol ar Waith Teg yng Nghymru

Cyflawnwyd hyd yma

Ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol, gwnaethom ddatblygu set o fesurau canlyniadau gwaith teg sy'n ein galluogi i olrhain cynnydd o ran pob un o nodweddion gwaith teg. Byddwn yn ystyried sut y byddwn yn cyhoeddi'r mesurau hyn neu'n adrodd arnynt.

Statws

Cyflawn