Neidio i'r prif gynnwy

Mae hwn yn adroddiad manwl sy’n deillio o arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2022 ymhlith cysylltiadau defnyddwyr Croeso Cymru.

Proffil ymholwyr Croeso Cymru

  • Mae ymholwyr wedi’u gwasgaru ar draws y DU, ond mae tuedd amlwg tuag at ranbarthau sy’n gymharol agos at Gymru; Gogledd Orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr sydd â’r gynrychiolaeth uchaf a’r trydydd uchaf.
  • Mae ymholwyr Croeso Cymru yn dueddol o berthyn i gyfnodau bywyd ‘hŷn’ ac mae ‘annibynwyr hŷn’ yn cyfrif am bron i hanner (49%), ac ymholwyr ‘oedran ymddeol’ yn cyfrif am 2 o bob 5 (38%). 
  • Aeth hanner ymholwyr Croeso Cymru ar drip i Gymru yn 2021, gyda rhaniad cyfartal o tua thraean yr un yn cymryd gwyliau byr o 1-3 noson a gwyliau hirach o 4+ noson.
  • ‘Cefn gwlad neu bentref’ oedd y mathau mwyaf poblogaidd o gyrchfannau ar gyfer tripiau i Gymru yn 2021, er mai dim ond ychydig o flaen y ‘tref arfordirol/glan môr draddodiadol’ ac ‘arfordir gwledig’ oedd hynny. 
  • Ar y cyfan, roedd ymgymerwyr tripiau i Gymru yn fodlon ar eu trip i Gymru, gyda dwy ran o dair yn ei ystyried yn ardderchog a 95% yn dda/rhagorol, gydag ychydig iawn o wahaniaethau yn ôl segmentau Croeso Cymru.
  • O blith yr ymholwyr na ymwelodd â Chymru yn 2021, roedd tua hanner yn ystyried ymweld â Chymru, wedi’i rannu’n gyfartal rhwng y rhai nad oeddent yn mynd i unman, a’r rhai a benderfynodd ymweld â rhywle arall yn Ynysoedd Prydain yn lle hynny.

Cynlluniau cyffredinol ynghylch tripiau yn 2022

  • O gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, mae ymholwyr Croeso Cymru yn rhagweld y byddant yn cymryd ‘cyfanswm net mwy’ o dripiau dros nos yn y DU yn y 12 mis nesaf o gymharu â’r 12 mis blaenorol, ac maent yn blaenoriaethu gwyliau yn y DU yn hytrach na thramor, mae hynny’n gyson ar draws pob segment.
  • Yn nodedig, mae ymholwyr yn rhagweld parhau â’u hymddygiad o 2021 trwy ddewis lleoedd tawelach i ymweld â nhw yn y DU a chymryd gwyliau yn y DU ar adegau llai prysur, rhennir hyn ar draws segmentau. 
  • Mae 20% o ymholwyr Croeso Cymru eisoes wedi trefnu trip i Gymru yn 2022, gyda 31% ‘yn bendant yn mynd’ ond heb drefnu lle eto. Mae 25% arall yn dweud eu bod yn debygol o fynd, sy'n golygu bod 76% yn ystyried ymweld.
  • ‘Ymweld â safleoedd treftadaeth’, ‘rhoi cynnig ar fwyd a diodydd lleol’ a ‘cherdded, heicio neu grwydro’ yw’r tri gweithgaredd y mae bwriadwyr tripiau i Gymru yn 2022 yn fwyaf tebygol o’u gwneud yn ystod eu trip i Gymru.
  • Mae diddordeb mewn digwyddiadau yn gymharol gyson ar draws segmentau, er bod ‘cyplau hŷn sy’n chwilio am antur a diwylliant’ a ‘chyplau sy’n chwilio am antur a golygfeydd trawiadol’ gryn dipyn yn llai tebygol na segmentau eraill o fod â diddordeb mewn digwyddiadau sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, comedi, gweithgareddau neu chwaraeon.

Agweddau at gynaliadwyedd

O gymharu â phoblogaeth y DU, mae ymholwyr Croeso Cymru yn mynegeio yn llawer uwch ar segmentau cynaliadwyedd ‘Eco-Efengylwyr’ a ‘Bwriadau Da’ BVA BDRC. 

Adroddiadau

Arolwg Ailgysylltu Croeso Cymru 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 13 MB

PDF
13 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jen Velu

Rhif ffôn: 0300 025 0459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.