Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ar gyfer cadeiryddion cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym yn cynnal arolwg i gasglu gwybodaeth ynghylch arferion Cyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig o ran cyhoeddi cofnodion Byrddau a Phwyllgorau Archwilio a chamau gweithredu i gyflawni nodau gwrth-hiliaeth. Mae hyn yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol i weithio gydag uwch arweinwyr i hyrwyddo gwrth-hiliaeth.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei chasglu gan y tîm Arweinyddiaeth a Llywodraethiant yn yr Uned Cyrff Cyhoeddus. Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Ni fyddwn yn rhannu ymatebion unigol ag eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion unigol i lunio dau adroddiad. Bydd un adroddiad yn cynnwys data cyfunol ar arferion cyhoeddi cofnodion byrddau a bydd y llall yn cynnwys data cyfunol ar amcanion gwrth-hiliaeth. Ni fydd yr adroddiadau'n nodi byrddau unigol ond byddwn yn llunio dadansoddiad yn ôl y grwpiau canlynol – y GIG/byrddau iechyd, Comisiynwyr, Cyrff Hyd Braich ym maes Diwylliant a Chyrff Hyd Braich eraill. Bydd yr adroddiad ar amcanion gwrth-hiliaeth yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i ddangos ein bod wedi cyflawni camau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Byddwn yn rhannu'r ddau adroddiad â'n rhwydweithiau o Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr.
Y GIG/Byrddau Iechyd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Comisiynwyr
- Comisiynydd Plant Cymru
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Comisiynydd y Gymraeg
Cyrff Hyd Braich ym maes diwylliant
- Amgueddfa Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Bannau Brycheiniog
- Eryri
- Sir Benfro
Cyrff Hyd Braich eraill
- Gyrfa Cymru
- Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
- Comisiwn Dylunio Cymru
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Hybu Cig Cymru
- Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
- Llais
- Medr
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol, ond mae eich mewnbwn yn bwysig i helpu i lywio canllawiau Llywodraeth Cymru a monitro cynnydd tuag at nodau amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hefyd yn eich galluogi i feincnodi'ch sefydliad.
Pa ddata personol sy’n cael eu cadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i’w adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Anfonwyd yr arolwg hwn atoch ar ffurf dolen we. Rydym eisoes yn cadw eich manylion cyswllt gan eich bod yn aelod o rwydwaith y Cadeiryddion. Nid yw'r manylion cyswllt hyn yn cael eu cwmpasu gan yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yn rhan o'r ymchwil hon, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Corff cyhoeddus rheoleiddiedig
- Eich rôl yn y corff cyhoeddus
Does dim rhaid ichi ateb pob cwestiwn. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, rhowch wybod i'r cynrychiolydd a anfonodd ddolen yr arolwg atoch.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’ch data?
Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn y gwaith ymchwil hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae ymchwil fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i wneud y canlynol:
- Asesu cysondeb arferion cyhoeddi cofnodion.
- Llunio canllawiau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
- Galluogi craffu yn y Senedd.
- Rhoi mewnwelediad i'r cyhoedd ar y defnydd o ganllawiau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Bydd yr holl ddadansoddiadau yn cael eu cynnal ar ffurf gyfunol. Ni fydd modd adnabod unigolion yn yr adroddiadau.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Bydd data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond y tîm Arweinyddiaeth a Llywodraethiant sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect sydd â mynediad ati. Bydd y data yr ydych yn eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon. Ni chaiff gwybodaeth bersonol a gedwir yn y ffolder hon ei rhannu y tu allan i'r tîm.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhaglen o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd ymatebion unigol i'r arolwg, sy'n cynnwys data personol, yn cael eu dileu gan Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru o fewn dwy flynedd i ddyddiad cau'r adroddiad. Bydd hyn yn galluogi'r tîm i fynd ar drywydd sylwadau a wneir yn yr adroddiad. Dim ond ar gyfer dadansoddi ymchwil y bydd yr ymatebion i'r arolwg yn cael eu defnyddio. Ni fydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys data personol a bydd yr holl ymatebion yn yr adroddiad terfynol yn cael eu cyfuno.
Hawliau’r unigolyn
O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a rennir gennych yn rhan o'r gwaith ymchwil hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawliau a ganlyn:
- Yr hawl i weld copi o'ch data eich hun;
- Yr hawl i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- Yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
- Yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol);
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a rennir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r isod:
Tîm Arweinyddiaeth a Llywodraethiant, Uned Cyrff Cyhoeddus
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
