Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys dros 3,000 o bobl 16 oed a throsodd. Roedd yn ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys rhai a ofynnwyd mewn misoedd blaenorol a rhai pynciau newydd.

Mae rhai canlyniadau wedi'u cynnwys o flynyddoedd blaenorol, er mwyn darparu cyd-destun.  Er hynny, o gofio bod yr Arolwg Cenedlaethol wedi newid o'r modd wyneb yn wyneb i'r ffôn ym mis Ebrill 2020, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol.

Yr Ardal leol a'r amgylchedd

Dywed 62% o bobl fod gan eu hardal leol ymdeimlad da o gymuned; mae hyn yn golygu eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal, bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch.

Gofynnwyd i bobl ddweud beth maen nhw'n ei ystyried yn broblem yn eu hardal leol: mae 36% yn dweud  tipio anghyfreithlon, mae 51% yn dweud cŵn yn baeddu, mae 50% yn dweud sbwriel, ac mae 14% yn dweud graffiti neu fandaliaeth. Nid yw hyn wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru. Mae 73% o bobl ym Mlaenau Gwent a 67% ym Merthyr Tudful yn dweud bod tipio anghyfreithlon yn broblem o'i gymharu â 17% o bobl yng Ngheredigion a Sir Ddinbych.

Newid yn yr hinsawdd

Mae 97% o bobl yn credu bod yr hinsawdd yn newid: Mae 75% o'r rhain yn credu ei fod yn bendant yn newid a 23% ei fod yn newid yn ôl pob tebyg. Mae mwy o bobl yn dweud bod newid yn yr hinsawdd yn cael ei achosi'n bennaf gan weithgarwch dynol na phan ofynnwyd y cwestiwn hwn ddiwethaf yn 2018-19 (Siart 1). Mae 71% o bobl yn credu bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith yng Nghymru.

Image
Siart yn dangos barn pobl ar achosion y newid yn yr hinsawdd, o 2018-19 ac arolwg ffôn mis Ionawr i fis Mawrth 2021.

Wrth feddwl am newid i'r amrywiaeth o rywogaethau yng Nghymru, mae 17% o bobl yn dweud y bu cynnydd mewn bioamrywiaeth, 54% yn dweud gostyngiad, a 29% dim newid. O ystyried newid i'r amrywiaeth o rywogaethau yng Nghymru yn y dyfodol, dywed 21% o bobl y bydd bioamrywiaeth yn cynyddu yn y dyfodol, dywed 63% y bydd yn gostwng, a 16% na fydd unrhyw newid.

Perygl llifogydd

Mae 6% o bobl yn dweud bod eu cartref mewn perygl o lifogydd. Mae 13% o bobl yn eithaf pryderus deg neu'n pryderu’n fawr am y perygl o lifogydd i'w heiddo, mae 48% yn pryderu am lifogydd yn eu hardal leol, ac mae 86% yn pryderu am lifogydd mewn rhannau eraill o Gymru. Mae'n ymddangos bod cynnydd wedi bod mewn pryder ers i'r cwestiynau gael eu gofyn ddiwethaf yn 2018-19 (er y gofynnwyd y cwestiynau wyneb yn wyneb, yn hytrach na thros y ffôn). Yn 2018-19, roedd 11% yn pryderu am y perygl o lifogydd i'w heiddo, 28% i'w hardal leol, a 62% i rannau eraill o Gymru. Gallai'r pryder cynyddol am lifogydd gael ei briodoli i'r llifogydd helaeth yn ystod gaeaf 2019-2020.

Llesiant ac unigrwydd

Dywed 16% o bobl eu bod yn unig. Mae hyn i fyny o 12% yn y misoedd Hydref i Ragfyr 2020, ond yn debyg i 2019-20, pan oedd 15% o bobl yn unig. Gallai hyn fod yn arwydd bod pobl o’r farn bod y cyfyngiadau symud yn ystod rhan gyntaf 2021 yn fwy unig na'r cyfyngiadau coronafeirws cyntaf.

Adlewyrchir effaith cyfyngiadau symud y gaeaf hefyd yn y canlyniadau llesiant. Mae 70% o bobl yn adrodd boddhad uchel neu uchel iawn â bywyd. Mae hyn yn is nag yn y misoedd Hydref i Ragfyr 2020, pan ddywedodd 78% o bobl yr un peth. Dywed 79% o bobl eu bod yn teimlo bod y pethau y maent yn eu gwneud mewn bywyd yn werthfawr, i lawr o 85% yn y tri mis blaenorol. Dywed 24% o bobl fod ganddynt lefelau uchel o bryder y diwrnod blaenorol, yr un fath ag yn ystod mis Hydref i fis Ragfyr 2020. Dywed 70% o bobl eu bod yn teimlo'n hapus y diwrnod blaenorol, o’i gymharu â 76% yn y chwarter blaenorol.

Gwasanaethau gofal iechyd

Cafodd 48% o bobl apwyntiad meddyg teulu a chafodd 27% apwyntiad ysbyty yn y cyfnod ers dechrau mis Ebrill 2020. Dywedodd 83% o'r rhai a gafodd apwyntiadau meddyg teulu dros y ffôn eu bod yn fodlon, o’i gymharu â 95% o'r rhai a oedd ag apwyntiadau meddyg teulu wyneb yn wyneb.

Mae 41% o bobl wedi cael apwyntiad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol arall o'u meddygfa (e.e. nyrs practis) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywed 35% o bobl eu bod yn cael prawf llygaid o leiaf unwaith y flwyddyn, 37% bob dwy flynedd, 17% yn llai na phob dwy flynedd, ac mae 8% yn dweud nad ydynt erioed wedi cael prawf llygaid.

Dywed 76% o bobl fod ganddynt ddeintydd neu bractis deintyddol rheolaidd. Dywed llai o bobl eu bod wedi cael eu apwyntiad deintyddol diwethaf yn ystod y 6 mis diwethaf, o’i gymharu â'r bobl y gofynnwyd iddynt yn 2019-20 (gweler Siart 2). Mae hyn yn debygol o fod oherwydd cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol.

Image
Siart yn dangos pa mor aml y cafodd pobl yn arolwg 2019-20 apwyntiadau deintyddol, a phryd y cafodd ymatebwyr yr arolwg o fis Ionawr i fis Mawrth 2021 apwyntiad deintyddol ddiwethaf.

O'r rhai a gafodd eu hapwyntiad deintyddol diwethaf dros 2 flynedd yn ôl, nid oes gan 75% ddeintydd neu bractis deintyddol rheolaidd. O'r rhai a gafodd apwyntiad yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 59% yn benodiadau'r GIG, roedd 36% yn breifat, ac roedd 5% yn GIG ac yn breifat.

Iechyd y boblogaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bum ymddygiad 'ffordd iach o fyw: peidio â smygu, peidio ag yfed uwchlaw canllawiau, cadw pwysau iach, bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau, a bod yn egnïol. Gwelsom fod gan 28% o bobl 4 neu 5 o'r ymddygiadau ffordd iach hyn o fyw, tra bo gan 7% lai na 2 ymddygiad ffordd iach o fyw.

Mae 14% o bobl yn smygwyr, ac mae 30% yn gyn-smygwyr. Nid yw 20% o bobl yn yfed alcohol, tra bod 17% yn yfed mwy na'r canllaw o 14 uned yr wythnos. Mae gan 37% o bobl bwysau iach, tra bod 61% dros bwysau neu'n ordew (gan gynnwys 24% yn ordew). Dywedodd 31% o bobl eu bod wedi bwyta 5 dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt. Dywedodd 51% o bobl eu bod yn egnïol am o leiaf 150 munud yr wythnos flaenorol, gan fodloni’r canllawiau gweithgarwch wythnosol.

Ni ddylid cymharu'r canlyniadau hyn ar gyfer ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol Arolwg Cenedlaethol Cymru oherwydd y newid yn y modd arolygu (ac, mewn rhai achosion, yr angen i addasu cwestiynau). Gall y pynciau hyn fod yn sensitif i newidiadau o'r fath. Rydym yn bwriadu edrych ar gymharedd yn fanylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ysgolion cynradd

Mae 87% o rieni sydd â phlant oedran cynradd yn dweud bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda'u dysgu gartref.

Dywed 49% o rieni eu bod yn helpu eu plentyn bob dydd gyda’u llythrennau, eu darllen neu eu hysgrifennu, a dywed 48% o rieni eu bod yn eu helpu gyda’u mathemateg.

Dywedir bod gan 63% o blant oedran ysgol gynradd eu cyfrifiadur, gliniadur neu dabled eu hunain ar gyfer gwaith ysgol. Mae gan 29% arall fynediad at ddyfais a rennir.

Ysgolion uwchradd

Dywed 81% o rieni sydd â phlentyn oedran uwchradd fod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu plant gyda'u dysgu gartref.

Dywed 68% o rieni â phlentyn oedran ysgol uwchradd eu bod yn cefnogi eu plentyn gyda'u gwaith ysgol o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae gan 83% o blant oedran ysgol uwchradd eu cyfrifiadur, gliniadur neu dabled eu hunain ar gyfer gwaith ysgol. Mae gan 14% arall fynediad at ddyfais a rennir.

Cyflogaeth

Dywed 69% o oedolion 16 i 64 oed eu bod mewn gwaith cyflogedig (gan gynnwys pobl hunangyflogedig). Mae hyn yn cynnwys y 5% o oedolion 16 i 64 oed sy’n dweud eu bod ar ffyrlo. Dywed 4% o oedolion 16 i 64 oed eu bod yn ddi-waith. Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn dangos mai’r gyfradd gyflogaeth ymhlith oedolion 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 74% rhwng Ionawr a Mawrth 2021, ac mai 4% oedd y gyfradd ddiweithdra.

Mae 18% o bobl wedi gweld newid yn eu statws cyflogaeth yn sgil y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd wedi colli eu gwaith neu wedi newid nifer yr oriau maent yn eu gweithio.

Tlodi bwyd

Dywed 2% o bobl eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol oherwydd diffyg arian, yn debyg i'r chwarter blaenorol. Mae 1% arall o bobl yn dweud y bydden nhw wedi hoffi cael bwyd gan fanc bwyd ond heb wneud hynny.

Cyllid

Dywed 79% o bobl eu bod yn cadw i fyny â'u holl filiau ac ymrwymiadau heb unrhyw anhawster, o’i gymharu â 68% yn 2019-20.

Dywed 13% o bobl eu bod wedi cael  Credyd Cynhwysol yn ystod y 3 mis blaenorol, o gymharu â 9% yn 2019-20.

Gwirfoddoli a COVID-19

Mae 4% o bobl eu dweud eu bod wedi gwirfoddoli i helpu gyda'r sefyllfa COVID-19 yn y pedair wythnos flaenorol. Mae hyn wedi gostwng ers rhan gyntaf y pandemig:  yn ystod y cyfnod o fis Mai i fis Medi, dywedodd 8% o bobl eu bod wedi gwirfoddoli yn ystod y 4 wythnos flaenorol. O'r rhai a wirfoddolodd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, mae 89% yn bwriadu parhau i wirfoddoli am o leiaf 6 mis arall neu cyn belled â bod ei angen.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl 16 oed a throsodd. Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 20/2021