Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 23 Gorffennaf wedi'i ddiweddaru ar ôl i fater gael ei nodi gyda'r pwysoliad. Mae hyn yn golygu y bu’n rhaid diwygio rhai o’r canlyniadau ym mhob adran. Mae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau hyn yn rhai bach (1 neu 2 bwynt canran) ac nid ydynt yn arwyddocaol yn ystadegol, ond mae rhai o'r diwygiadau (yn enwedig o ran defnyddio'r rhyngrwyd) yn fwy.  Fodd bynnag, nid oes yr un o'r newidiadau yn gwneud gwahaniaeth i'r negeseuon yn yr adroddiad gwreiddiol.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 6% o bobl wedi cael apwyntiad ysbyty ers dechrau fis Ebrill, ac roedd 85% o'r rhain yn gleifion allanol. Roedd 95% o bobl yn fodlon â'r gofal a dderbyniwyd yn eu hapwyntiad.

Mae 16% o bobl wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ers mis Ebrill.  Ym mis Mehefin, cynhaliwyd 64% o apwyntiadau meddyg teulu dros y ffôn, o gymharu ag 10% dros y ffôn cyn mis Ebrill 2020.

Image
Siart yn dangos bod 64% o apwyntiadau meddyg teulu (GP) wedi'u cynnal dros y ffôn ers dechrau mis Ebrill, o gymharu ag 10% dros y ffôn cyn mis Ebrill 2020.

 

Ers dechrau mis Ebrill, mae 9% o bobl wedi cael help gan wasanaethau gofal a chymorth. Mae 5% yn rhagor yn teimlo eu bod wedi bod angen help, ond heb ei gael.

Mae 18% o bobl yn credu eu bod wedi cael COVID-19 (coronafeirws).

Defnydd o alcohol

Mae 24% o’r bobl sy’n yfed alcohol yn dweud eu bod yn yfed mwy nag yr oeddent cyn y cyfyngiadau symud, tra bod 33% yn dweud eu bod yn yfed llai.

Smygu

Dywedodd 12% o bobl eu bod yn smygu bob dydd ar hyn o bryd; mae 3% arall yn smygu'n achlysurol.

Gwirfoddoli a gofalu

Mae 10% o bobl wedi gwirfoddoli i helpu gyda'r sefyllfa COVID-19 yn y pedair wythnos ddiwethaf, a threuliodd hanner y rheini fwy na 5 awr yn helpu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae 33% o bobl yn gofalu am aelodau o'r teulu, ffrindiau, cymdogion neu bobl eraill, neu'n rhoi help neu gymorth iddynt. Mae hyn wedi cynyddu o 29% yn arolwg blwyddyn lawn 2019-20.

Defnydd o'r rhyngrwyd

Mae 87% o bobl yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd, gydag 85% yn ei defnyddio sawl gwaith y diwrnod. Mae gan 75% o bobl ffôn clyfar: 100% o bobl 16-24 oed, a 30% o bobl dros 75 oed.

Sgiliau rhyngrwyd

Mae 93% o'r rheini sy'n defnyddio'r rhyngrwyd wedi anfon e-bost neu neges wib yn y 3 mis diwethaf. Prynodd 89% rywbeth ar-lein, a chymerodd 27% ran mewn cwrs ar-lein.

Ysgolion cynradd

Mae 89% o rieni sydd â phlant oed cynradd yn dweud bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd i gefnogi plant â’u dysgu, lefel debyg i’r hyn ydoedd fis Mai.

Mae 50% yn helpu eu plentyn â mathemateg neu rifau bob dydd, lefel debyg i’r hyn ydoedd fis Mai.

Ysgolion uwchradd

Mae 71% o rieni sydd â phlentyn oed uwchradd yn cytuno bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd i gefnogi plant â’u dysgu, gostyngiad ers mis Mai.

Mae 29% yn helpu eu plentyn â’u gwaith ysgol bob dydd, yr un fath ag ym mis Mai.

Ymdeimlad o gymuned

Mae 88% o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal leol, yr un fath ag y mis Mai.

Mae 87% o bobl yn teimlo bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu'n dda yn eu hardal leol. Mae hyn yn cymharu â 76% yn 2018-19.

Image
Siart yn dangos bod 87% o bobl ym mis Mehefin yn teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen yn dda gyda'i gilydd yn eu hardal leol. Mae hyn yn cymharu â 76% yn 2018-19.

Llesiant

Mae gan 37% o bobl deimladau o orbryder; ac mae 77% yn hapus. Mae hyn yr yun fath ag ym mis Mai, ond gyda lefelau uwch o orbryder nag yn 2019-20.

Mae 13% o bobl yn dweud eu bod yn unig, ac mae hyn yn is nag yr oedd yn 2019-20, pan roedd 15% yn unig.

Biliau

Mae 4% o bobl ar ei hôl hi gyda biliau, neu'n cael trafferth yn gyson i dalu biliau. Mae hyn yn is nag ym mlwyddyn lawn 2019-20.  Mae 21% yn dweud bod y coronafeirws eisoes wedi achosi problemau o ran sefyllfa ariannol eu haelwyd - yr un canlyniad â mis Mai.

Credyd Cynhwysol

Dywedodd 12% o oedolion oed gweithio eu bod wedi cael taliadau Credyd Cynhwysol yn y 3 mis diwethaf. Mae hyn yn gynnydd ers mis Mai.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan o’r blaen yn Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn cyfweliad wyneb yn wyneb.  Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr Adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siobhan Evans
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 21/2020(R)