Neidio i'r prif gynnwy

Diben yr arolwg oedd rhoi amcangyfrif o gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni'r stoc dai yng Nghymru. Mae'r arolwg yn cynnwys pob math o dai a phob deiliadaeth; ond nid eiddo gwag. Cynhaliodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru, ac roedd yn gyfrifol am reoli, gweithlu maes syrfewyr a gweinyddu WHCS, yn ogystal â chynhyrchu'r adroddiad technegol hwn.

Mae WHCS yn un agwedd ar 'Raglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai' Llywodraeth Cymru, sy'n rhaglen strategol o fuddsoddi mewn tystiolaeth ar gyflwr tai ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni tai yng Nghymru. Bydd yn helpu i gefnogi penderfyniadau polisi a buddsoddi a wneir gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau lleol yn y dyfodol. 

Yn benodol, defnyddir data a gesglir o'r arolwg gan Lywodraeth Cymru i fonitro cyflwr newidiol y stoc dai yng Nghymru, ac i fesur y gwaith sy'n cael ei wneud i'r stoc. Mae WHCS hefyd yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu a monitro polisïau tai sydd wedi'u hanelu at atgyweirio, gwella ac effeithlonrwydd ynni'r stoc dai, gan gynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae WHCS wedi'i gynllunio i gasglu ystod o wybodaeth am y stoc dai, gan gynnwys cyflyrau anheddau mewn perthynas â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) a Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), cyflwr atgyweirio a darparu amwynderau, ystadegau effeithlonrwydd ynni, y potensial ar gyfer gwelliannau ynni yn y dyfodol, yn ogystal â chofnodi priodoleddau eraill fel y plot a'r amgylchedd lleol.

Mae'r arolwg yn cymryd ei sampl o Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACCW) sy'n cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Dewiswyd sampl o 3,286 o gyfeiriadau o Arolwg Cenedlaethol Cymru o blith achosion cymwys lle y cafwyd caniatâd i gynnal arolwg ffisegol. Dewiswyd y sampl i gynrychioli amrywiaeth o ddeiliadaethau a mathau o anheddau ledled Cymru ac ar adeg eu dethol roedd pob un yn eiddo a oedd wedi'i feddiannu. Cyn cynnal WHCS, cynhaliwyd cyfweliad am yr aelwyd ar gyfer pob cyfeiriad fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Roedd hwnnw'n cynnwys cwestiynau ar incwm aelwydydd a chostau aelwydydd i helpu i gyfrifo ystadegau Tlodi Tanwydd.

Recriwtiwyd 44 o syrfewyr gan BRE i weithio i 4 rheolwr rhanbarthol. Cafodd y syrfewyr hynny sesiwn friffio ym mis Mehefin 2017 gan ddechrau ar waith maes WHCS ym mis Awst 2017. Roedd y gwaith maes yn para am 9 mis a daeth i ben fel y bwriadwyd ddiwedd mis Ebrill 2018. Cynhaliodd y syrfewyr asesiad mewnol ac allanol o'r eiddo yn ogystal â chofnodi gwybodaeth am y plot a'r ardal leol. Casglwyd y data gan ddefnyddio ffurflen system cofnodi data electronig (pinnau ysgrifennu digidol) a argraffwyd drwy dechnoleg Anoto. Lanlwythwyd data'r arolwg i wefan a gynhaliwyd gan BRE er mwyn cynnal dilysiad cymhleth ac ychwanegu ffotograffau.

Ni chafwyd unrhyw drafferthion o bwys yn ystod cyfnod y gwaith maes a chwblhawyd cyfanswm o 2,552 o arolygon llawn ar draws 22 awdurdod lleol Cymru. Cyflawnwyd cyfradd trosi o 77.7% gan syrfewyr BRE, a chyfradd ymateb (cyfradd gydsynio) o 58% gan Gyfwelwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Cafodd data'r arolwg eu dilysu, eu prosesu a'u rhoi drwy Fodelau data gan BRE cyn eu hanfon at Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2018 i'w dadansoddi a'u cynnwys mewn adroddiad.