Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r WHCS yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu Ltd. Bydd y WHCS yn arolygu tua 2,500 o eiddo dros gyfnod o 9 mis, yn dechrau ym mis Awst 2017. Daw’r sampl arolygu o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Cyn i’r prif arolwg ddechrau, cynhaliwyd astudiaeth beilot i brofi’r holl brosesau a gweithdrefnau, gan efelychu’r prif arferion gwaith maes mor agos â phosibl. Cynhaliwyd yr astudiaeth beilot ar gyfer y WHCS ym mis Mai 2017. Parhaodd y gwaith maes am 2 wythnos ac fe’i cynhaliwyd gan syrfewyr a fyddai’n rheolwyr rhanbarthol ar gyfer y prif waith maes. Rhoddwyd gwybodaeth i’r 4 rheolwr rhanbarthol am yr arolwg, offer yr arolwg a’r feddalwedd reoli yr oedd angen iddynt eu profi yn ystod y gwaith maes.

Dewiswyd y sampl o blith achosion cymwys o’r Arolwg Cenedlaethol lle y cafwyd caniatâd i gynnal archwiliad ffisegol yn ystod mis cyntaf y gwaith maes ym mis Ebrill 2017. I fod yn gymwys ar gyfer yr astudiaeth beilot, roedd yn ofynnol bod aelwydydd wedi cymryd rhan yng nghyfweliad yr Arolwg Cenedlaethol, a’u bod yn byw mewn eiddo rhent neu eiddo a oedd wedi adfeilio rhywfaint neu’n berchenfeddiannydd eiddo a oedd mewn cyflwr da. Aseswyd adfeiliad gan gyfwelwyr yr SYG yn ystod eu hymweliad cyntaf â chyfeiriad. Rhoddwyd gwybodaeth lawn iddynt am sut i asesu hyn cyn i’r gwaith maes ddechrau. Y gyfradd ganiatâd i gynnal archwiliad ffisegol a gafwyd yn ystod y cyfnod peilot oedd 66%. Rhoddodd 87 aelwyd ganiatâd, ac fe’u trosglwyddwyd i BRE i gynnal archwiliad ffisegol. Rhannwyd y rhain ymhlith y 4 rheolwr rhanbarthol a oedd yn gweithio yn awdurdodau lleol Abertawe, Sir y Fflint a Wrecsam. Yn ystod y cyfnod gwaith maes, cwblhawyd 43 arolwg ar gyfradd drosi o 49%

Cynhaliwyd sesiwn ôl-drafod wyneb yn wyneb â’r rheolwyr rhanbarthol i gasglu adborth am yr astudiaeth beilot, gan gynnwys pa agweddau ar ffurflen, systemau a phrosesau’r arolwg a weithiodd yn dda a pha newidiadau yr oedd angen eu gwneud. Dywedodd yr holl reolwyr rhanbarthol fod yr astudiaeth beilot wedi gweithio’ n dda ac nad oedd unrhyw broblemau mawr o ran ffurflen yr arolwg, y deunyddiau i ymatebwyr, y systemau na’r prosesau. Gwnaed mân awgrymiadau i newid safle rhai cwestiynau ar ffurflen yr arolwg ac i newid rhai ymatebion i gwestiynau ailgysylltu yn y cyfweliad Arolwg Cenedlaethol.