Neidio i'r prif gynnwy

Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd ddarparu:

  • y wybodaeth gysylltiedig am aelwydydd oedd ei hangen er mwyn modelu tlodi tanwydd (incwm, costau tai, dull o dalu am ynni ayyb)
  • barn ymatebwyr am nifer o bynciau yn ymwneud â thai a fydd yn rhoi cyd-destun cymdeithasol i’r data am gyflwr tai o Arolwg Cyflwr Tai Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg wyneb yn wyneb o dros 11,000 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn. Mae’r arolwg yn cynnwys pynciau amrywiol ac yn canolbwyntio ar lesiant a barn pobl am wasanaethau cyhoeddus. Bob blwyddyn dewisir sampl o gyfeiriadau ar hap o’r Ffeil Cyfeiriadau Cod Post, rhestr cyfeiriadau’r Post Brenhinol, wedi’u dosbarthu yn ôl awdurdod lleol. Pan fydd y cyfwelwyr yn cysylltu ag aelwyd am y tro cyntaf byddant yn dewis unigolyn 16 oed neu hŷn i gymryd rhan ar hap. Rhwng Gorffennaf 2017 a Mawrth 2018, ar ei ymweliad cyntaf â’r cyfeiriad, roedd y cyfwelydd yn:

  • gwneud asesiad sylfaenol o gyflwr waliau, ffenestri a drysau’r cartref a’r to (os gellid eu gweld)
  • edrych ar bob un yn ei dro ac yn rhoi sgôr iddynt, cyflwr da, gweddol neu wael

Defnyddiwyd y wybodaeth yma i benderfynu os oedd yr eiddo ei hun mewn cyflwr da, gweddol neu wael. Yn gynnar yn yr Arolwg Cenedlaethol cafwyd manylion am ddeiliadaeth yr eiddo.

Roedd eiddo yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer archwiliad os oedd mewn cyflwr gweddol neu mewn cyflwr gwael neu os oedd yn cael ei rentu (boed yn cael ei rentu’n breifat neu drwy landlord cymdeithasol). Roedd cyfran o’r rhai a oedd yn eiddo perchen-feddiannaeth ac mewn cyflwr da hefyd yn cael eu hystyried yn addas.

Roedd eiddo yn cael ei ystyried yn gymwys ar gyfer archwiliad os y barnwyd yn addas ac os mai’r unigolyn a ddewiswyd, h.y. y sawl a oedd yn ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol, oedd Person Cyswllt y Cartref neu ei Bartner. Yn yr achosion hyn gofynnwyd am ganiatâd i gynnal archwiliad. Person Cyswllt y Cartref yw’r sawl sydd â’r eiddo yn ei enw (naill ai fel perchennog neu wedi ei rhentu). Os yw’n berchen neu rhentu ar y cyd, yna Person Cyswllt y Cartref yw’r person sy’n ennill y fwyaf. Os yw incwm yn gyfartal, yna Person Cyswllt y Cartref yw’r hynaf.

Er mwyn amcangyfrifo lefelau Tlodi Tanwydd yng Nghymru, roedd yn rhaid casglu gwybodaeth manwl ar incwm am yr aelwydydd yn byw yn y tai a archwiliwyd. Roedd cwestiynau ar incwm pen yr aelwyd, ei partner ac oedolion eraill yn yr aelwyd yn cael eu casglu trwy’r Arolwg Cenedlaethol. Roedd cwestiynau hefyd yn cael eu gofyn am sut yr oedd yr aelwyd yn talu am biliau ynni a costau tai. Ceir gafael ar y cwestiynau a ddefnyddiwyd yn holiadur 2017-18 Arolwg Cenedlaethol Cymru. Cafodd y cwestiynau yma eu cynnwys o Gorffennaf 2017 hyd at ddiwedd Mawrth 2018.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 rhwng Awst 2017 a diwedd Ebrill 2018. Arweiniodd hyn at archwiliadau ffisegol o 2,549 o gartrefi ledled Cymru, sydd yn rhoi amcangyfrifon ar lefel Genedlaethol.

Archwiliwyd yr eiddo gan syrfewyr cymwysedig, yn cael eu cyflogi gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu. Fe wnaethant asesiad gweledol, di-ymwthiol o du mewn a thu allan yr eiddo. Roedd yr archwiliadau’n para tua 40 i 50 munud, a threuliwyd tua 20 munud y tu mewn yn archwilio pob ystafell yn ei thro. Archwiliodd y syrfëwr hefyd blot yr eiddo a gwnaeth asesiad o’r gymdogaeth leol.

Yn ogystal â mesur tlodi tanwydd, Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, mae pynciau’r arolwg yn cynnwys:

  • nodweddion cyffredinol anheddau
  • cyflwr
  • hygyrchedd ac addasiadau i bobl anabl
  • effeithlonrwydd ynni
  • tanwydd oddi ar y grid
  • cyflenwad dŵr a draeniad
  • lleithder
  • gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Am restr lawn o bynciau’r arolwg gweler ffurflen yr arolwg ar wefan Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Defnyddiwyd system electronig cipio data (pen ddigidol) er mwyn casglu data yr arolwg. Defnyddiwyd y dull yma hefyd yn Arolwg Tai Lloegr ac Arolwg Cyflwr Tai yr Alban. Datblygodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu y system yma yn 2007, a defnyddiwyd yn gyntaf ar gyfer Arolwg Tai Lloegr yn 2008, yn dilyn blwyddyn o brofi trylwyr. Mae’r dull yma yn defnyddio pen ddigidol yn ogystal â ffurflen bapur a brintiwyd gan ddefnyddio technoleg ‘Anoto’. Roedd hyn yn galluogi peth ddilysu i gael ei wneud allan yn y maes. Unwaith i’r syrfëwr gwblhau’r archwiliad roedd disgwyl iddynt wneud dilysu pellach cyn cyflwyno’r arolwg i’w goruchwyliwr. Dychwelwyd unrhyw faterion/ymholiadau â’r arolwg i’r syrfëwr i’w ddelio a hwy cyn i’w hail-ddychwelyd i’r goruchwyliwr. Unwaith roedd y goruchwyliwr yn fodlon, fe gyflwynwyd yr arolwg i’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu am ddilysu terfynol a phrofi derbynioldeb.