Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd yr arolwg hwn ym mis Rhagfyr 2023 ac roedd yn ymdrin â sampl o fusnesau a gweithwyr llawrydd o'r sector sgrin, y sector cerddoriaeth, y sector digidol a'r sector cyhoeddi yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

  • Cwblhawyd yr arolwg gan 639 o ymatebwyr o'r sector sgrin (21%), y sector cerddoriaeth (26%), y sector digidol (26%) a'r sector cyhoeddi (27%). Roedd dros draean ohonynt yn weithwyr hunangyflogedig neu'n weithwyr llawrydd, a 41% yn berchenogion neu'n gyfarwyddwyr ar gwmnïau. 
  • Dywedodd y diwydiannau creadigol mai cymysg oedd eu profiadau o ran perfformiad eu busnesau, yn enwedig o ran newidiadau i'w trosiant – gwelodd chwarter y busnesau gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, profodd ychydig dros chwarter ohonynt ostyngiad, a nododd ychydig o dan hanner ohonynt nad oedd unrhyw newid. 
  • Bod yn fwy proffidiol, gwella cyfleoedd marchnata, a bod yn fwy cynaliadwy yw'r tair blaenoriaeth allweddol uchaf ymhlith y sectorau. Mae tyfu'r gweithlu yn llai o flaenoriaeth nag yn 2022.
  • Mae ymatebwyr yn fwy hyderus am wneud elw wrth redeg eu busnes y flwyddyn nesaf, er bod hyder, yn gyffredinol, ychydig yn is nag yn 2022. Y sector digidol oedd yn fwyaf hyderus am wneud elw wrth redeg eu busnesau, a'r sector cerddoriaeth oedd yn lleiaf hyderus. Mae gweithwyr llawrydd yn llai hyderus na chyflogwyr, gweithwyr a gyflogir a'r rheini sy'n hunangyflogedig. 
  • Roedd tua thraean o'r gweithwyr llawrydd wedi wynebu anawsterau wrth geisio dod o hyd i swyddi mewn rhai rolau. Y rheini yn y sector sgrin a'r sector digidol oedd wedi wynebu'r anawsterau mwyaf, o gymharu â gweithwyr llawrydd yn y sector cerddoriaeth.
  • Roedd 8% o fusnesau wedi profi heriau o ran cadw staff ac roedd 16% o fusnesau wedi cael anawsterau wrth lenwi rolau penodol. Credir mai'r tri ffactor pennaf sy'n gyfrifol am hynny yw bod pobl yn symud o Gymru er mwyn dod o hyd i swyddi, bod bylchau o ran sgiliau, a bod cystadleuaeth oddi wrth gwmnïau eraill. 
  • Mae sgiliau a hyfforddiant yn parhau'n broblem i fusnesau a gweithwyr llawrydd fel ei gilydd, a'r meysydd mwyaf cyffredin lle gwelir bylchau o ran sgiliau yw sgiliau ar gyfer sectorau penodol, sgiliau technolegol a gallu yn y Gymraeg.
  • Yn debyg i 2022, hoffai'r diwydiant weld rhagor o gymorth ariannol, mwy o gyfleoedd i rwydweithio, a gwell darpariaeth o ran cael gafael ar gymorth a chyngor busnes oddi wrth Cymru Greadigol.

Adroddiadau

Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol: 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sophie Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.