Mae Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol yn asesu perfformiad busnesau, hyder busnesau a’r bwlch sgiliau yn niwydiannau creadigol Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol
Cynhaliwyd yr arolwg hwn ym mis Tachwedd 2024 ac roedd yn ymdrin â sampl o fusnesau a gweithwyr llawrydd o'r sector sgrin, y sector cerddoriaeth, y sector digidol a'r sector cyhoeddi yng Nghymru. Mae'n dilyn dwy flynedd flaenorol a gynhaliwyd yn 2022 a 2023, gan ganiatáu i gymariaethau gael eu gwneud rhwng blynyddoedd a helpu i nodi tueddiadau dros amser. Fodd bynnag, nodir bod meintiau'r sampl yn wahanol o ran cynrychiolaeth y sector ac felly dylid rhoi ystyriaeth wrth gymharu rhai o'r canlyniadau.
Prif ganfyddiadau
- Cwblhawyd yr arolwg gan 808 o ymatebwyr ar draws rhanbarthau Cymru o'r sectorau sgrin (35%), digidol (26%), cyhoeddi (23%) a cherddoriaeth (16%), gyda 39% o'r ymatebwyr yn hunangyflogedig neu'n weithwyr llawrydd, 42% yn berchnogion neu gyfarwyddwyr cwmnïau ac un rhan o bump (19%) yn gyflogeion.
- Mae tueddiadau trosiant busnes yn parhau i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2023, gyda 27% o fusnesau yn gweld cynnydd mewn trosiant, 30% yn profi gostyngiad a 43% yn gweld dim newid. Gwelodd y sectorau cyhoeddi a digidol fwy o sefydlogrwydd ariannol.
- Priodolwyd newidiadau mewn trosiant i'r swm o waith sydd ar gael, mwy o ymwybyddiaeth o fusnesau ac effeithiau costau byw cynyddol.
- Mae ymatebwyr yn fwy hyderus na pheidio am redeg eu busnes yn broffidiol. Y sector digidol oedd yn fwyaf hyderus a'r sector cerddoriaeth oedd yn lleiaf hyderus. Mae gweithwyr llawrydd yn llai hyderus na chyflogwyr, gweithwyr a gyflogir a'r rheini sy'n hunangyflogedig.
- Cynyddu proffidioldeb, cynnal statws presennol a gwella cyfleoedd marchnata yw'r prif flaenoriaethau i fusnesau a gweithwyr llawrydd, tra bod tyfu'r gweithlu wedi dod yn flaenoriaeth is ers 2023 ymlaen.
- Profodd 7% o fusnesau heriau gyda chadw staff a chafodd 15% anawsterau wrth lenwi rolau penodol, a chredir mai'r tri phrif ffactor am hynny oedd prinder sgiliau, disgwyliadau cyflog ac arferion recriwtio.
- Mae gweithwyr llawrydd yn nodi anawsterau cyflogaeth, gyda 69% yn cael trafferth dod o hyd i waith.
- Y meysydd mwyaf cyffredin o fylchau sgiliau a adroddwyd gan fusnesau a gweithwyr llawrydd oedd sgiliau ar gyfer sectorau penodol, sgiliau technolegol a sgiliau marchnata a brandio.
- Mae cwestiynau newydd a gyflwynwyd yn 2024 yn datgelu profiadau cymysg wrth gael mynediad at hyfforddiant, gyda dros chwarter yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at hyfforddiant perthnasol. Mae boddhad mewn swydd a lefelau llesiant yn gyffredinol yn gadarnhaol ar draws ymatebwyr.
- Hoffai'r diwydiant weld rhagor o gymorth ariannol, mwy o gyfleoedd i rwydweithio, cymorth gyda marchnata a gwell darpariaeth o ran cael gafael ar gymorth a chyngor busnes oddi wrth Cymru Greadigol.
- Mae ymwybyddiaeth o Cymru Greadigol wedi cynyddu i 67% yn 2024 gyda 19% o'r ymatebwyr o'r farn bod y cyfathrebu yn effeithiol iawn.
- Mae 15% o'r ymatebwyr yn rhugl yn y Gymraeg a 34% yn gallu siarad ychydig eiriau. Mae'r diwydiant cerddoriaeth yn dangos y lefelau rhuglder uchaf (26%), tra bod y sector digidol yn dangos y lefelau gallu isaf.
