Hysbysiad am ddiwygio arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr
Mae timau ymchwil Adran Addysg Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn hysbysu’r darllenydd am bwyntiau methodolegol i’w hystyried wrth ddadansoddi data’r Arolwg o Incwm a Gwariant Myfyrwyr.
Mae gan lawer o’r newidynnau a ddefnyddir yn yr arolwg ddosraniad â sgiw positif. Yn yr achosion hyn, wrth ddarllen yr adroddiad, cynghorir y darllenydd bod y cyfartaledd canolrifol yn fwy defnyddiol na’r cyfartaledd cymedrig wrth fesur canolduedd.
O ran y modelau atchweliad a ddefnyddir yn yr adroddiad, cynghorir darllenwyr nad yw pŵer rhagfynegi’r modelau atchweliad wedi cael ei asesu. Mae’r canlyniadau’n dangos cysylltiad pob newidyn annibynnol â’r newidyn dibynnol, gan reoli ar gyfer y newidynnau eraill yn y model, ond ni ddylid eu defnyddio i gyfrifo tebygolrwyddau ffitiedig.
Mae cynlluniau ar gyfer dadansoddi yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd canlyniadau unrhyw ddadansoddiad yn y dyfodol ar gael i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Nid yw gwerth y data crai wedi ei effeithio a gellir ei gyrchu gan ymchwilwyr achrededig yng Ngwasanaeth Ymchwil Ddiogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae pob parti / awdur wedi cytuno â’r datganiad hwn.