Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Arolwg Amaethyddol a Garddwrol wedi’i gynnal ym mis Mehefin ers 1867 er mwyn darparu amcangyfrifon o weithgarwch amaethyddol yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r Bwletin hwn yn rhoi’r amcangyfrifon cyntaf o’r newidynnau allweddol o arolwg Mehefin 2023.

Prif bwyntiau

  • Mae 90% o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio. Oherwydd natur y tir hwn, fe’i defnyddir yn bennaf ar gyfer magu defaid a gwartheg.
  • Mae yna 8.7 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru, y cyfanswm isaf ers 2011. Mi wnaeth y rhif yma amrywio fyny ac i lawr yn y blynyddoedd rhyngol.
  • Mae yna 1.12 miliwn o wartheg a lloi yng Nghymru, man gostyngiad ar y 1.13 miliwn y flwyddyn cynt. Roedd y gostyngiad yma yn fwy amlwg yn y fuches eidion (4.7%) nag yn y fuches llaeth (0.5%).
  • Cafwyd 51,000 hectar o ydau eu tyfu yng Nghymru yn 2023, gostyngiad o 8% o’r flwyddyn cynt. Ond mae rhaid cydnabod roedd ffigwr 2022 yn ffigwr brig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I’w roi yn ei gyd-destun, mae ardaloedd ydau yn cyfrif am lai na 3% o holl dir amaethyddol Cymru.
  • Mae’r tir a ddefnyddir ar gyfer tyfu grawnfwyd yng Nghymru yn cyfrif am lai na 3% o arwynebedd yr holl dir amaethyddol.

Ymateb i’r arolwg

Roedd y gyfradd ymateb o 49% wedi’i chynnal ar gyfer 2023 - mae hyn yn fan gostyngiad i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae’r opsiwn i lenwi’r arolwg ar-lein ar gael i ran fwyaf o ffermwyr. Llenwyd 24% o’r holl ffurflenni gan ddefnyddio’r dull hwn. Mae hyn yn gynnydd o’r blynyddoedd blaenorol (18%). Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd y gyfran yma yn parhau i gynyddu yn y dyfodol.

Fel bob amser, mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'r holl ffermwyr hynny a roddodd o’u hamser i lenwi'r arolwg.

Cymharu â blynyddoedd blaenorol

Y canlyniadau a gyflwynir yn y datganiad hwn yw'r amcangyfrifon allweddol cyntaf o'r arolwg eleni. Mae'r rhain yn cael eu cymharu â'r amcangyfrifon o arolwg 2022 gan amlaf.

Yn aml, y cyd-destun hanesyddol sy’n rhoi’r persbectif pwysicaf ar niferoedd heddiw – boed hynny ar draws nifer o'r blynyddoedd diweddaraf neu dros gyfnod hwy.

Felly mae taenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn ac ynddi:

  • restr lawn o newidynnau hyd at 2023: cyfres amser (1998 i 2023) sy'n dangos sut mae'r newidynnau allweddol yn rhannu'n is-gategorïau manylach; sylwer nad oes rhai o'r manylion hyn ar gael ar gyfer 2020 o ganlyniad i'r arolwg llai a gynhaliwyd y llynedd; (gweler datganiad ar ganlyniadau Arolwg 2020 am ragor o fanylion)
  • y cyd-destun hanesyddol: cyfres amser sy'n dyddio'n ôl i 1867 ac sy'n dangos y tueddiadau yn y dangosyddion allweddol yn y tymor hir
  • yn ogystal, mae’r datganiad ar Ganlyniadau Arolwg 2019 yn cynnwys rhywfaint o sylwebaeth sy'n tynnu sylw at y prif ffactorau sy’n cyfrannu at y tueddiadau hyn

Defnydd tir amaethyddol yng Nghymru

Mae tirwedd, ansawdd pridd a hinsawdd Cymru yn cyfyngu ar y defnydd y gellir ei wneud o’r tir. Mae rhan fwyaf o Gymru yn fryniog neu’n fynyddig ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd pridd cymharol wael a hinsawdd wlyb, yn golygu mai dim ond pori defaid a gwartheg y gellir ei wneud ar y rhan fwyaf o’r tir.

Mae Arolwg Amaethyddol Cymru yn casglu gwybodaeth am dir a ddefnyddir ar ffermydd (sydd naill ai’n eiddo i rywun neu’n cael eu rhentu). Nid yw’r wybodaeth hon yn cynnwys defnydd o dir comin. Mae rhyw 180,000 hectar ohono yng Nghymru. Nid yw tir comin yn cael ei gynnwys gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau o ffermydd sydd â hawliau ar gomin penodol, yn hytrach na chael ei ddefnyddio gan un fferm yn unig.

Y data diweddaraf

Dyma brif ffigurau’r amcangyfrifon yn arolwg 2023 ar gyfer defnydd o dir amaethyddol.

  • Gwelwyd cynnydd o 0.1% yng nghyfanswm y tir ar ddaliadau i 1,767,700 hectar ym mis Mehefin 2023. O’i gyfuno â’r 180,300 hectar o dir pori garw ar dir comin, mae hynny’n golygu bod  90% o holl arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol.
  • Roedd 101,500 hectar o gnydau âr ym mis Mehefin 2023. Er bod y tir a ddefnyddir ar gyfer tyfu grawnfwyd wedi gostwng, cafwyd hwn ei osod yn erbyn gan gnydau a ddefnyddir ar gyfer bwydo. Un rheswm posibl am hyn yw’r cynnydd yng nghost prynu bwyd ar gyfer anifeiliaid, sydd wedi hyrwyddo ffermwyr i dyfu cnydau eu hunain, unai ar gyfer bwydo eu hanifeiliaid neu ar gyfer gwerthu.

Mae defnydd o dir ar ddaliadau yng Nghymru yn 2023 i’w weld isod.

Ffigur 1: Rhaniad tir ar ddaliadau amaethyddol yn ôl defnydd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart yn dangos bod glaswelltir parhaol yn cyfri am bron i ddau draean (63%) o dir fferm yng Nghymru. Mae’r tir yn weddill yn gynnwys glaswelltir newydd (9%), tir pori garw (13%), cnydau âr (6%) a thir arall (9%). Mae tir arall yn gynnwys coedir, adeiladau a thir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth.

[Nodyn 1] Tir pori garw lle mae gan y deiliad yr unig hawliau  (h.y. nid yw’n cynnwys tir pori garw ar dir comin).

[Nodyn 2] Mae’n cynnwys garddwriaeth (llysiau a ffrwythau a dyfir yn yr awyr agored, stoc galed a thai gwydr).

Ffynhonnell: Arolwg Amaethyddol a Garddwrol, Mehefin 2023

Mae arwynebedd tir ar ffermydd yng Nghymru wedi cynyddu ychydig (0.1%). Tan y llynedd roedd y gyfres hanesyddol wedi dangos cynnydd cyson yn y ffigur hwn.

Mae'n debyg bod hyn wedi digwydd oherwydd bod tir yn cael ei gyfrif ddwywaith. Realiti ffermio yw bod deiliadaeth tir yn broses gyfnewidiol. Mae tir yn cael ei brynu a'i werthu, ei rentu a'i osod drwy’r amser. Mae ceisio dilyn yr holl newidiadau hyn a chadw cofrestr gyfredol o ffermydd yn broblem.

Nid yw cadw gwybodaeth am ffermydd sy’n cael eu cofrestru o’r newydd yn broblem fel arfer. Bydd angen i ffermwr gofrestru er mwyn cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) at ddibenion taliadau a CPH (rhif daliad) er mwyn caniatáu iddo symud anifeiliaid. Felly, byddwn yn dod i wybod am ffermydd newydd wrth iddynt gofrestru am y tro cyntaf.

Mae'r broblem yn codi pan ddaw gweithgarwch ffermio i ben. Mae'r cofrestriad yn parhau ond nid yw'r tir yn cael ei ffermio mwyach, neu mae’n cael ei roi ar osod i ffermwr arall neu'n cael ei werthu. Felly, mae’n bosibl bod y tir yn cael ei gyfrif o dan ei gofrestriad gwreiddiol a hefyd pan fydd yn dechrau cael ei ffermio o dan ei gofrestriad newydd.

Yn ddiweddar, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi ymgymryd ag ymarfer i gysylltu â chofrestriadau “segur” gyda’r bwriad i’w harchifo oni bai y cânt wybod yn wahanol. Mae hyn yn debygol o fod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at wrthdroi cyfanswm yr arwynebedd sydd o hyd yn cynyddu.

Defaid ac ŵyn yng Nghymru

Mae gwytnwch defaid yn golygu bod modd eu ffermio mewn bron pob rhan o Gymru. Mae defaid yn fwy cyffredin yn yr ucheldir ac mae’n bosibl mai dyma’r unig opsiwn busnes ymarferol yno. Er bod y costau cynnal a chadw a’r costau cyfalaf sy’n gysylltiedig â defaid yn gymharol isel, nid ydynt yn gwneud llawer o elw i’r ffermwr ychwaith. Felly, gall gweithgareddau eraill gael blaenoriaeth ar dir gwell.

Y data diweddaraf

Dyma’r prif ffigurau ar gyfer defaid ac ŵyn yn yr amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2023:

  • Roedd cyfanswm y defaid ac ŵyn yng Nghymru yn 8.69 miliwn - 7% yn llai na’r ffigur ar gyfer y flwyddyn gynt. Mae’n bosib bod y gostyngiad yma yn gysylltiedig â’r cynnydd ym mhrisiau bwyd anifeiliaid, a bod hyn wedi arwain i ffermwyr lleihau'r nifer o dda byw maent yn cadw, neu hyd yn oed i ddarfod ffermio yn gyfan gwbl.  

Dechreuodd nifer y defaid a'r ŵyn yng Nghymru dyfu yn ystod y 1970au, gan gyrraedd uchafbwynt o 11.8 miliwn ym 1999. Bu gostyngiad graddol yn y niferoedd dros y 10 mlynedd dilynol, ac mae’n bosibl mai’r hyn a oedd i gyfrif am hynny oedd y newidiadau i’r ffordd yr oedd Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC) yn cael ei weithredu, pan gafwyd gwared yn raddol ar gynlluniau a oedd yn seiliedig ar nifer y da byw a oedd yn cael eu cadw.

Cynyddodd niferoedd eto am ychydig o flynyddoedd, ond dros y 10 mlynedd diwethaf maent wedi amrywio fyny ac i lawr. Er hynny, y cyfanswm cyfredol o 8.7 miliwn yw’r cyfanswm isaf ers 2011.

Mae'r ystadegau hanesyddol i'w gweld yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn. Ceir sylwebaeth fanylach ar y tueddiadau yn fersiwn 2019 o'r datganiad hwn.

Gwartheg a lloi yng Nghymru

Mae gwartheg yn cael eu cadw’n bennaf am eu llaeth neu er mwyn cynhyrchu cig. Dyma’r sectorau godro ac eidion. Mae ffermydd yn dueddol o ganolbwyntio naill ai ar odro neu ar eidion. Mae ffermydd sy’n gwneud y ddau yn brin, ond mae rhai i’w cael. Mae ffermio gwartheg godro yn dueddol o greu enillion uwch ond mae’n gofyn am dir gwell a chryn fuddsoddiad cyfalaf. Yng Nghymru, mae gan ffermydd sydd â llawer o wartheg eidion lawer o ddefaid hefyd yn aml. Gall ffermydd eidion fagu’r anifeiliaid o’r cyfnod pan fyddant yn lloi nes iddynt gael eu hanfon i’r lladd-dy. Fodd bynnag, mae’n gymharol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig ar yr ucheldir, i fagu’r anifeiliaid tan iddynt gyrraedd pwynt penodol ac yna’u symud i fferm arall lle byddant yn parhau i gael eu magu cyn cael eu hanfon i’r lladd-dy. Gall y ffermydd hynny fod ar diroedd isel yng Nghymru neu yn Lloegr.

Y data diweddaraf

Dyma’r prif ffigurau ar gyfer gwartheg yn yr amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2023:

  • Roedd cyfanswm y gwartheg a’r lloi yng Nghymru yn 1,116,600, gostyngiad o 1.3% o gymharu â’r ffigur ar gyfer mis Mehefin 2022.
  • Mae’r nifer o wartheg godro 2+ oed sydd wedi bwrw llo wedi gostwng 0.5% i 254,700. Mae’r diffiniad hwn yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel mesur o’r fuches odro.
  • Gan ddefnyddio’r diffiniad cyfatebol, gostyngodd maint y fuches eidion 4.7% dros y 12 mis diwethaf i 149,300.

Ers 2004, mae data am niferoedd gwartheg wedi bod ar gael drwy’r System Olrhain Gwartheg sy’n cael ei rheoli gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), at ddibenion iechyd anifeiliaid yn bennaf.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cyferbyniad rhwng y tueddiadau a welwyd yn nifer y gwartheg llaeth a’r gwartheg eidion. Er bod nifer y gwartheg llaeth wedi cynyddu ychydig (4%), mae nifer y gwartheg eidion wedi gostwng gryn dipyn (29%).

Mae’r ystadegau hanesyddol i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o'r datganiad hwn.

Da byw eraill yng Nghymru

Yn economaidd, y prif fathau o dda byw ar ffermydd masnachol yng Nghymru yw gwartheg a defaid. Y prif grwpiau eraill o dda byw yw dofednod a moch, ond yn achos y rheini, mae’r cynhyrchu’n digwydd mewn nifer cymharol fach o unedau mawr. Bydd y niferoedd a gadwir gan geidwaid eraill, nad ydynt yn fasnachol, yn gymharol fach.

O fewn y strwythur hwn, gall cynnydd neu ostyngiad mawr yn y niferoedd mewn ychydig o unedau gael effaith sylweddol ar yr amcangyfrifon cyffredinol.

Y data diweddaraf: moch

Dyma’r prif ffigurau yn yr amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2023.

  • Roedd gostyngiad o 8% yn nifer y moch yng Nghymru ym mis Mehefin 2023. Y cyfanswm ar hyn o bryd yw 24,800. Mae mwyafrif (90%) yr anifeiliaid hynny’n cael eu cadw i’w pesgi (cynhyrchu cig) gyda’r gweddill yn cael eu defnyddio ar gyfer magu.

Y data diweddaraf: dofednod

Dyma’r prif ffigurau yn yr amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2023.

  • Cyfanswm y dofednod yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 oedd 10,322,900 – roedd y rhan fwyaf ohonynt (dros 90%) yn ieir bwyta neu’n frwyliaid (5.1 miliwn) ac ieir a gadwir ar gyfer wyau (3.5 miliwn o adar).

Yn y 2000au cynnar roedd y mwyafrif mawr o ddofednod yn ieir brwylio. Mae’r nifer o ieir a gadwir ar gyfer wyau wedi bod yn cynyddu am nifer o flynyddoedd, ac nid yw’n bell o’r nifer o ieir brwylio.

Mae’r gyfres hanesyddol ar gyfer y niferoedd o foch a dofednod i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o'r datganiad hwn.

Ceffylau a geifr

Nid yw data am y grwpiau hyn o dda byw yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r datganiad hwn er eu bod ar gael yn y daenlen sy’n cyd-fynd ag ef. Y rheswm dros hynny yw nad ydynt o gymaint o ddiddordeb â grwpiau eraill o dda byw yng nghyd-destun amaethyddol Cymru gyfan.

Yn sgil mecaneiddio, mae defnyddio ceffylau at ddibenion amaethyddol wedi dod i ben i bob pwrpas yn yr 21ain ganrif. Efallai fod ychydig iawn yn cael eu defnyddio fel hyn ond ar safleoedd twristiaeth/amgueddfeydd y bydd hynny’n digwydd yn hytrach nag ar ffermydd gweithredol modern go iawn. Mae’r rhan fwyaf i’w gweld mewn stablau hurio, ysgolion marchogaeth neu’n cael eu cadw mewn caeau bychain neu stablau fel anifeiliaid anwes at ddibenion hamdden. Bydd rhai ffermydd yn ennill incwm ychwanegol drwy ddarparu gwasanaethau marchogaeth, stablau a stablau hurio.

Er bod rhai geifr yng Nghymru, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gymharol fach ac ni fyddant yn fusnesau masnachol. Fel arfer, byddant yn cael eu defnyddio i bori er mwyn cynnal y tir ac, mewn rhai achosion, i gynhyrchu ychydig o laeth. Mae llond llaw o gynhyrchwyr llaeth mwy masnachol ond nid oes modd rhoi sylw iddyn nhw heb berygl o ddatgelu gwybodaeth am weithrediadau ffermydd unigol.

Llafur ar ddaliadau amaethyddol yng Nghymru

Mae’r amcangyfrifon a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer llafur ar ffermydd yn cael eu cyfyngu i niferoedd y prif ffermwyr ac i’r bobl hynny sy’n cael eu cyflogi i weithio ar y fferm. Gweler y sylwadau am ansawdd data isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam nad oes rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys. Mae amcangyfrifon 2023 yn dangos y canlynol:

  • nifer y prif ffermwyr, cyfarwyddwyr, partneriaid busnes a’u gŵyr/gwragedd oedd 38,200, gostyngiad o lai nag 200 ers 2022
  • mae’r nifer hwn yn cynnwys 18,000 o brif ffermwyr llawnamser a 20,200 o ffermwyr rhan-amser; teimlir efallai bod problem adrodd gyda rhai unigolion ar rai unedau llai yn cofnodi llawnamser oherwydd mai dyna yw eu patrwm gwaith cyffredinol, nid eu patrwm gwaith ar y fferm yn unig; ni wyddys i ba raddau y mae hyn yn digwydd
  • nifer y bobl a gyflogwyd ar ffermydd ar 1 Mehefin 2022 oedd 12,000 – cynnydd o 5% ers 2022; gwelwyd y tuedd hwn ymhlith gweithwyr arferol (llawnamser a rhan-amser) a gweithwyr achlysurol

Mae’r diffiniad o brif ffermwyr yn un eithaf eang: mae’n cynnwys partneriaid busnes, cyfarwyddwyr cwmnïau ac unrhyw ŵr/gwraig i ffermwr, neu ei gysylltiadau busnes. Fodd bynnag, mae’n rhaid i unrhyw ŵr/wraig wneud rhywfaint o waith ar y fferm i gael eu cynnwys.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyf o’r gwaith bob dydd ar y fferm yn cael ei wneud gan y ffermwr a’i deulu agosaf. Gan amlaf, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y diffiniad uchod o brif ffermwyr. Fel rheol, dim ond am gyfnodau byr ar adegau prysur o’r flwyddyn (e.e. ŵyna, cynhaeaf) neu i wneud tasgau arbenigol (e.e. cneifio, dipio) y bydd angen cymorth ychwanegol.

Bydd y gwaith arbenigol yn dueddol o gael ei wneud gan gontractwyr nad ydynt yn cael eu cynnwys yng nghyfrif llafur yr Arolwg Amaethyddol. Y prif resymau dros hynny yw eu bod yn hunangyflogedig ac yn ffermwyr eu hunain yn aml (ac felly eisoes wedi’u cynnwys yn amcangyfrif yr arolwg).

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar ffurf cipolwg ar un diwrnod penodol ddechrau mis Mehefin. Mae’r anweddolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny yn ei gwneud yn anodd iawn gweld unrhyw duedd dros nifer o flynyddoedd. Gall ffactorau fel y tywydd benderfynu pryd mae pobl yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn, er enghraifft.

Rydym yn sylweddoli bod y diffiniadau o pwy ddylai gael eu cynnwys a sut dylid eu categoreiddio yn gallu creu anhawster. O’r herwydd, rydym wedi mynd ati ddwywaith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i ddiwygio sut mae’r cwestiynau am lafur yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, er bod newid geiriad y cwestiynau a’r ffordd y cânt eu cyflwyno yn gallu helpu o ran eglurder, mae angen cofio bod hynny hefyd yn gallu effeithio ar gysondeb wrth adrodd ar niferoedd.

Ansawdd data a methodoleg yr arolwg

Cafodd adroddiad ansawdd cynhwysfawr, sy’n disgrifio’r ddwy agwedd hyn ar ddata’r arolwg ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021.

Cymariaethau â gweddill y DU

Rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol yng Nghymru

Mae’r datganiad hwn yn rhoi prif ganlyniadau arolwg 2023 ar lefel Cymru gyfan. Bydd canlyniadau manylach yr arolwg yn cael eu darparu mewn allbynnau ar wahân yn y dyfodol. Mae’r prif allbynnau eraill sy’n ymwneud ag ystadegau amaethyddol yn cael eu rhestru isod.

Arolwg Amaethyddol (StatsCymru): dyma adnodd dadansoddi rhyngweithiol Llywodraeth Cymru ac mae ynddo nifer o dablau sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar yr Arolwg Amaethyddol dros y cyfnod rhwng 2007 a 2017. Mae'r gyfres hon wedi dod i ben dros dro gan nad yw adnoddau wedi bod ar gael i ddiweddaru’r gyfres. Rydym yn bwriadu diweddaru’r data ar StatsCymru erbyn Gwanwyn 2024.

 

Ffeithiau a Ffigurau Ffermio: dyma daflen maint poced y bwriedir iddi gael ei defnyddio fel adnodd cyfeirio cyflym ar gyfer data lefel uchel. O’r herwydd, mae’n cael ei gyhoeddi ar ffurf copi caled ond gallwch wneud cais am y data. Mae Ffeithiau a Ffigurau Ffermio yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

 

Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol: dyma’r canlyniadau manylaf o’r Cyfrifiad Amaethyddol a gynhelir ym mis Mehefin bob blwyddyn. Er mwyn diwallu’r anghenion cynyddol am ystadegau amaethyddol manwl, mae’r bwletin hwn yn amlinellu’r cyfaddawd rhwng manylder ac ansawdd data ac yn darparu set ddata sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau ar gyfer y defnyddiwr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi Gwanwyn 2024.

 

Incymau Fferm yng Nghymru: mae’r bwletin blynyddol hwn yn cyflwyno canlyniadau’r Arolwg o Fusnesau Ffermio a gynhelir gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

Mae ystadegau amaethyddol Cymru ar gael ar gyfer cyfnod hanesyddol hir, ac mae’r data hynny ar gael ar ffurf taenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol Cymru, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio un o’r ffyrdd a nodir ar y dudalen flaen.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am amaethyddiaeth i’w gweld o dan y pwnc Ffermio a Chefn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth o ansawdd

Statws Ystadegau Gwladol

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, ac mae’n cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU gynnal asesiad. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr ystadegau’n cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os bydd gennym unrhyw bryderon ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny gyda’r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’i ailgyflwyno pan fydd y safonau wedi’u hadfer.

Cynhaliwyd y gwiriad cydymffurfio diwethaf ar yr ystadegau hyn yn unol â’r Cod Ymarfer yn 2018. Gwiriad Cydymffurfio ar gyfer Ystadegau Amaethyddol (Awdurdod Ystadegau’r DU)

Ers adolygiad diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hynny’n cynnwys:

  • Cyflwyno’r opsiwn i lenwi’r arolwg ar-lein.
  • Parhau i ddefnyddio iaith glir, annhechnegol i gyflwyno’r ystadegau a’u cyd-destun i gynulleidfa mor eang â phosibl.
  • Cyflwyno’r prif “ddata diweddaraf” ar frig pob adran gan mai’r rhain fydd o’r diddordeb mwyaf i’n defnyddwyr allweddol.
  • Darparu data hanesyddol i gyd-fynd â’r datganiad hwn, ynghyd â sylwadau sy’n egluro’r ffactorau sydd y tu ôl i’r tueddiadau hanesyddol.
  • Ehangu’r manylion ar sut y defnyddir y data mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru.
  • Defnyddio’r cylchgronau eraill a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac Undebau’r Ffermwyr ac a anfonir at ffermwyr i’w hannog i anfon ffurflenni’r arolwg yn ôl atom. Hefyd defnyddio gwasanaeth negeseuon electronig Taliadau Gwledig Cymru at yr un diben.

Cyhoeddi Adroddiad Ansawdd manwl ym mis Chwefror 2021 ac ynddo wybodaeth am ansawdd data a methodoleg yr arolwg. Mae darparu'r wybodaeth honno ar wahân yn golygu bod y Datganiad hwn yn fyrrach.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y saith nod hynny yw Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach ac sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sydd â chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio er mwyn mesur y cynnydd a wneir tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratif ar gyfer pob nod llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, i’w gweld yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gallwch ei anfon mewn e-bost i ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stuart Neil
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 99/2023

Image
Ystadegau Gwladol