Neidio i'r prif gynnwy

Dull ac amseriad yr arolwg

Comisiynwyd Strategic Research and Insight (SRI) gan Croeso Cymru i gasglu adborth ar yr effaith y mae'r pandemig COVID-19 yn ei chael ar y diwydiant digwyddiadau yng Nghymru. Cynhaliodd SRI arolwg ar-lein gyda busnesau yng Nghymru sy'n gweithio yn y diwydiant digwyddiadau a'r gadwyn gyflenwi ehangach ar gyfer digwyddiadau, a gynhaliwyd rhwng 12 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd 174 o ymatebion gan amrywiaeth o fusnesau. Fodd bynnag, daeth y rhan fwyaf o ymatebion gan drefnwyr/cynllunwyr digwyddiadau, y rhai sy'n gweithio ym maes clyweledol/technolegol digwyddiadau, trefnwyr/cynorthwywyr digwyddiadau llawrydd, a lleoliadau.

Ar adeg cynnal yr arolwg, roedd cyfnod atal byr Cymru o 17 diwrnod, a ddechreuodd ar 23 Hydref 2020 ac a ddaeth i ben ar 9 Tachwedd 2020, newydd ddod i ben ac roedd caniatâd i rai busnesau nad oeddent yn hanfodol ailagor. Fodd bynnag, nid oedd modd cynnal digwyddiadau o hyd, heblaw am ychydig o eithriadau, gan gynnwys seremonïau priodas.

Dylai canlyniadau’r arolwg hwn gael eu trin yn ddangosol o brofiadau'r rhai sydd wedi cwblhau'r arolwg, ac nid ydynt o reidrwydd yn gynrychiadol o'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru. Gan mai arolwg ar-lein oedd hwn, roedd y sampl yn hunanddewisol, felly nid yw ar hap nac wedi'i phwysoli. Felly, nid yw'r arolwg yn arolwg cynrychiadol o fusnesau ym maes digwyddiadau ledled Cymru. Serch hynny, mae'r canlyniadau'n darparu mewnwelediad i'r anawsterau y mae busnesau yn y sector yn eu hwynebu.

Effaith sylweddol ar staff

Mae 75% o'r busnesau a ymatebodd i'r arolwg, ac sy'n cyflogi staff, wedi gorfod rhoi staff ar ffyrlo. Mae tua hanner (52%) o'r rhai sy'n cyflogi staff wedi gwneud diswyddiadau, wedi rhoi rhybudd am ddiswyddiadau neu'n bwriadu gwneud diswyddiadau, neu'n rhagweld gorfod gwneud diswyddiadau. Nid yw 58% wedi cyflogi unrhyw weithwyr dros dro neu maent wedi cyflogi llai na'r arfer.

Mae rhai wedi colli swm sylweddol o refeniw

Mae'r golled ganolrifol o'r argyfwng fesul busnes sy'n ymateb i'r arolwg rhwng £50,001 a £100,000. Mae'r golled ganolrifol fesul busnes yn gwahaniaethu yn ôl maint y busnes. Mae'r golled ganolrifol i'r rhai sy'n cyflogi rhwng un a phum aelod o staff o fewn yr amrediad o £100,000 i £250,000, ond mae'r golled ganolrifol i'r rhai sy'n cyflogi mwy na 50 aelod o staff yn fwy na £1,000,000.[1]

Mae oddeutu hanner (48%) o'r rhai sydd wedi colli refeniw wedi colli dros 80% o'u refeniw blynyddol.

[1] Mae maint sampl bach wrth adrodd canlyniadau yn ôl maint y busnes, ac, felly, mae angen cymhwyso elfen o rybudd wrth ddehongli'r canfyddiadau hyn.

Rhagolwg cyfredol ac yn y dyfodol

Dim ond 9% o'r rhai sydd wedi rhoi cynnig ar ddigwyddiadau rhithwir neu hybrid wedi elwa arnynt. Dywed 47% y gwnaethant adennill costau wrth gynnal y mathau hyn o ddigwyddiad, a gwnaeth 44% golli arian.

Mae ychydig yn hyderus y cynhelir nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn 2021. Mae 57% yn rhagweld y bydd llai o ddigwyddiadau yn 2021 o'i gymharu â'r arfer, tra teimla 20% y bydd yr un nifer o ddigwyddiadau yn 2021 ag sy’n arferol, ac mae 15% yn teimlo y bydd mwy.

Mae ofn y bydd gweithwyr medrus yn gadael y diwydiant a byth yn dychwelyd. Pan all digwyddiadau ailddechrau, byddai busnesau'n gwerthfawrogi cynllun clir gan Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt allu paratoi yn dda ymlaen llaw.

Rhagolwg ar gyfer goroesi

Dim ond 13% o fusnesau sy'n gallu dweud gyda rhyw fath o sicrwydd yr ydynt yn disgwyl goroesi am fwy na chwe mis. Mae 38% yn teimlo na fyddant yn goroesi am fwy na chwe mis, dywed 40% fod hyn yn dibynnu ar ffactorau penodol, a dywed 10% nad ydynt yn gwybod pa mor hir y byddant yn goroesi.

Ymhlith y busnesau sy’n disgwyl goroesi yn llai na chwe mis, y gwerth mwyaf cyffredin o gyllid ychwanegol sydd ei angen er mwyn goroesi yw yn yr amrediad o £10,001 i £25,000. Er hynny, mae angen dros £100,000 ar chwarter o’r busnesau er mwyn goroesi.

Dywed 42% o fusnesau y gallant godi rhai o'r cyllid ychwanegol sydd ei angen eu hunain. Fodd bynnag, dywed oddeutu hanner (53%) y rhain mai dim ond rhwng 1% a 24% o'r cyllid ychwanegol sydd ei angen er mwyn goroesi y gallant ei godi.

Manylion cyswllt

Jen Velu
Ffôn: 0300 0250 459
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 8/2021

Image
GSR logo

ISBN 978-1-80082-801-8