Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg rhanddeiliaid arfordirol.
Cynnwys
Hysbysiad preifatrwydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu APEM Group i gynnal Arolwg Rhanddeiliaid Arfordirol er mwyn cael darlun cliriach o, ac i ehangu eu cyrhaeddiad rhanddeiliaid i:
- y sefydliadau, y grwpiau a'r rhwydweithiau cymunedol sy'n rhan o weithgareddau morol ac arfordirol ar draws Cymru ar hyn o bryd, a
- grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill sy'n dod â phobl ynghyd mewn ardaloedd morol ac arfordirol
Sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu
Prosesu data personol mewn perthynas ag Erthygl 6 (1 e) o GDPR y Deyrnas Unedig.
Mae'r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er lles y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolydd.
Mae awdurdod swyddogol yn seiliedig ar:
Adran 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i weithredu datblygu cynaliadwy, drwy gymryd camau yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.
Mae Tasg Gyhoeddus yn seiliedig ar Adran 60.1 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn briodol i gyflawni unrhyw un neu fwy o'r amcanion canlynol—
(a) hyrwyddo neu wella lles economaidd Cymru,
(b) hyrwyddo neu wella lles cymdeithasol Cymru, a
(c) hyrwyddo neu wella lles amgylcheddol Cymru.
Testun y prosesu
Bydd arolwg yn nodi sefydliadau a chysylltiadau rhanddeiliaid perthnasol i ehangu cronfa ddata Llywodraeth Cymru o randdeiliaid morol ac arfordirol. Gellid wedyn ddefnyddio'r wybodaeth hon i rannu gwybodaeth â rhanddeiliaid neu i lenwi map ar-lein o sefydliadau ar gyfer Porth Cynllunio Morol Cymru.
Hyd y prosesu
Bydd y data a gesglir yn cael ei brosesu gan APEM Ltd o 1 Ionawr 2026 i 31 Mawrth 2026 (gyda'r posibilrwydd o estyniad hyd at 31 Mai 2026 os bydd angen).
Lleoliad y prosesu
Bydd y data yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Nodwedd y prosesu
Bydd y dulliau casglu data canlynol yn cael eu defnyddio mewn perthynas â data personol:
- Arolwg ar-lein, gyda'r ymatebion yn cael eu dadansoddi i gynhyrchu taenlen o ganlyniadau'r arolwg, ynghyd ag adroddiad byr, dienw sy'n manylu ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd ac unrhyw fylchau/hepgoriadau a nodwyd o ran cyrhaeddiad rhanddeiliaid presennol.
Pwrpasau'r prosesu
Bydd y contractwr yn gwahodd ymatebion i'r arolwg, gan gasglu ymatebion/manylion cyswllt at ddibenion Mapio Rhanddeiliaid ac i'w defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Math o ddata personol i'w brosesu
Enw, cyfeiriad e-bost y sefydliad, cyfeiriad y sefydliad a rhif ffôn.
Categorïau o wrthrychau data
Staff o fewn sefydliadau rhanddeiliaid, gan gynnwys gwirfoddolwyr.
Cynllun ar gyfer dychwelyd a/neu ddinistrio'r data unwaith y bydd y prosesu wedi'i gwblhau ONI BAI bod gofyniad o dan gyfraith yr undeb neu aelod-wladwriaeth i gadw'r math hwnnw o ddata
Bydd yr Ymgeisydd yn dileu'r holl ddata personol o fewn 6 wythnos i ddyddiad diwedd y contract. Bydd yr Ymgeisydd yn darparu cadarnhad ysgrifenedig bod y dileu wedi'i wneud.
Bydd y data yn cael ei gadw ar ffeil gan Lywodraeth Cymru at ddibenion cynhyrchu rhestr gyswllt estynedig o randdeiliaid a map rhanddeiliaid ar-lein, sy'n manylu ar ble mae rhanddeiliaid morol ac arfordirol yn bodoli, a gweithgareddau gweinyddol eraill yn y dyfodol.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- fynediad at y data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch;
- gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
- yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu;
- yr hawl i 'ddileu' eich data neu i dynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, drwy ofyn am hyn yn ysgrifenedig gan y swyddog diogelu data (manylion isod);
- gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Am wybodaeth bellach am y wybodaeth y mae Llywodraethau Cymru yn ei dal a'i defnydd, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyswllt polisi: Unigolyn penodedig
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
01625 545 745 or 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
