Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 yw'r chweched mewn cyfres o arolygon cyflogwyr ar raddfa fawr ledled y DU sy'n darparu ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y farchnad lafur ar yr heriau sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr a lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad.
Cynhaliwyd Arolwg 2022 ar ôl pandemig COVID-19. Yn y cyfnod hwn, mae Cymru, y DU, a'r economi fyd-eang wedi wynebu heriau economaidd digynsail. Mae'r data hwn yn werthfawr o ran deall sefyllfa ddiweddar y farchnad lafur i gyflogwyr a dangos sut mae pethau wedi newid dros amser. Fe wnaeth 4,825 o gyflogwyr yng Nghymru gymryd rhan yn Arolwg 2022 (gyda 72,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg ledled y DU). Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng Mehefin 2022 a Mawrth 2023.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb ar gyfer y sector elusennol a gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n gwneud cymariaethau â mathau eraill o sefydliadau ac â gwledydd eraill y DU.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar:
- swyddi gwag
- swyddi gwag anodd eu llenwi
- swyddi gwag lle mae prinder Sgiliau
- bylchau sgiliau
- hyfforddiant
- Gwaith Perfformiad Uchel
Canfyddiadau
Mae sefydliadau yn y sector gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru yn tueddu i fod yn fwy tebygol na busnesau sy’n ceisio gwneud elw o fod â swyddi gwag, swyddi gwag anodd eu llenwi, swyddi gwag lle mae prinder sgiliau, a bylchau sgiliau. Mae’r darlun yn fwy cymysg wrth gymharu â sefydliadau llywodraeth leol a chanolog.
Gyda golwg ar fesurau recriwtio, roedd cyflogwyr yn y sector gwirfoddol ac elusennol wedi gweld cynnydd sydyn yng nghyfran y cyflogwyr sydd â swyddi gwag, swyddi gwag anodd eu llenwi, a swyddi gwag lle mae prinder sgiliau yn 2022 wrth gymharu â ffigurau cyfatebol o 2019.
Er y dywedwyd mai prinder ymgeiswyr sydd â’r sgiliau, y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol oedd y rheswm am gyfran fawr o’r swyddi gwag anodd eu llenwi, y rheswm a nodwyd gan fwyaf oedd cynnig telerau ac amodau gwael (ee tâl) mewn swyddi.
Er bod y rhan fwyaf o sefydliadau yn y sector sydd â swyddi gwag anodd eu llenwi wedi dweud eu bod yn effeithio ar y busnes, roedd y rhan fwyaf hefyd yn ymateb i hyn. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd gwario mwy ar hysbysebu / recriwtio.
Cyflogwyr gyda swyddi gwag lle mae prinder sgiliau oedd fwyaf tebygol o nodi sgiliau neu wybodaeth arbenigol pan ofynnwyd iddynt pa sgiliau roeddent yn ei chael yn anodd eu cael gan ymgeiswyr.
Gan droi at ddiffygion sgiliau yng ngweithluoedd presennol cyflogwyr, roedd cyfran y sefydliadau â bylchau sgiliau (sy’n bodoli lle nad yw staff yn gwbl hyfedr) wedi cynyddu ers 2019, ond nid oedd y cynnydd mor fawr â’r hyn a welwyd mewn mesurau sy’n ymwneud â recriwtio. Ar ben hynny, roedd cyfran y staff yn y sector gwirfoddol ac elusennol nad oeddent yn gwbl hyfedr wedi gostwng.
Yn unol â mathau eraill o sefydliadau, roedd y rhan fwyaf o’r bylchau sgiliau yn y sector yn cael eu hachosi gan resymau dros dro, yn enwedig bod yn newydd i’r swydd a / neu nad oedd eu hyfforddiant wedi cael ei gwblhau. Mae’n bosibl y bydd llawer o’r bylchau sgiliau dros dro hyn yn cael eu datrys ar ôl cwblhau’r broses gynefino berthnasol ac ar ôl cael hyfforddiant ehangach. Roedd rhesymau eraill yn cynnwys diffyg cymhelliant staff a methu â recriwtio staff â’r sgiliau gofynnol (gan gysylltu’n ôl â’r problemau a achosir gan swyddi gwag lle mae prinder sgiliau).
Y brif sgìl a oedd ar goll oedd eu gallu i reoli eu hamser eu hunain a’r gallu i flaenoriaethu eu tasgau eu hunain.
Roedd bylchau sgiliau hefyd yn effeithio ar berfformiad y sefydliad, ond roedd bron pob un yr effeithiwyd arnynt naill ai wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain neu roedd ganddynt gynlluniau i wneud hynny.
Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn y sector yn ariannu neu’n trefnu hyfforddiant i staff, ar lefel gyson dros y degawd blaenorol.
Roedd tua chwarter y cyflogwyr yn y sector yn gyflogwyr Gwaith Perfformiad Uchel, ar ôl mabwysiadu amrywiaeth o arferion fel cael polisi cyfle cyfartal, darparu hyfforddiant yn y swydd neu’r tu allan i’r swydd, asesu anghenion hyfforddi, a rhoi amrywiaeth o dasgau a disgresiwn o ran tasgau i weithwyr.
Adroddiadau

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr: 2022 (adroddiad elusen a sector gwirfoddol) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 636 KB
Cyswllt
James Carey
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.