Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 44 i 46.

Bwriadau tripiau sydd ar ddod

Gan adlewyrchu lefelau cyfforddusrwydd uwch, mae preswylwyr y DU a Chymru yn rhagweld y byddant yn cymryd llawer mwy o dripiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf, na'r 12 mis blaenorol.

Er gwaethaf hyder mawr, mae’r cyhoedd yn rhagweld nifer o rwystrau posibl i fynd ar dripiau yn y DU: ‘rhwystrau ariannol’ gan gynnwys ‘costau byw’, ‘cyllid personol’, ‘costau tanwydd’ a ‘chostau cynyddol gwyliau/hamdden’ yn gwneud i fyny'r pedwar uchaf. Mae hyn yn wahanol i ddechrau’r flwyddyn pan oedd ‘cyfyngiadau ar deithio gan y llywodraeth’ yn brif rwystr, gan danlinellu sut mae’r ‘argyfwng costau byw’ wedi dod i flaen meddyliau’r cyhoedd.

Mae’r hyder cymharol cryf y byddai tripiau i'r DU yn mynd rhagddynt yn golygu, o gymharu â 2021, bod mwy o dripiau domestig eisoes wedi’u harchebu, ac mae cyfran uwch o breswylwyr y DU yn rhagweld trip domestig dros nos yn yr haf (mis Mehefin i fis Medi) a’r hydref (mis Hydref i fis Rhagfyr) . Yn ystod yr haf, mae'r nifer uchaf o dripiau i ddigwydd ym mis Awst a mis Medi.

Mae tripiau dros nos yn y DU yn parhau i gael eu ffafrio yn hytrach na thripiau tramor, gyda bwlch mawr o ran bwriad y daith a hyder y daith, wedi’u hysgogi’n rhannol gan gyfnodau bywyd hŷn sy’n fwy hyderus wrth fynd ar dripiau domestig.

Mis Gorffennaf i fis Medi yw’r adeg o’r flwyddyn sydd fwyaf tebygol o gynhyrchu tripiau domestig dros nos i bob math o gyrchfan, yn enwedig i ‘dref arfordirol/glan môr draddodiadol’ sydd yn ymddangos i fod mwy na dwywaith cymaint o ddiddordeb ag yn yr hydref.

Tripiau i Gymru: proffilio ac ymddygiad

Yn gyson â thuedd ers dechrau'r ymchwil hwn, De-orllewin Lloegr yw'r rhanbarth mwyaf poblogaidd yn y DU ar gyfer gwyliau byr dros nos neu wyliau. Cymru yw’r 6ed cyrchfan mwyaf dewisol ar gyfer trip dros nos yn yr haf, er gyda bwriad o 9%, dim ond 3 phwynt canran y tu ôl i’r 2il gyrchfan a ffefrir fwyaf (Gogledd Orllewin Lloegr).

Eryri yw’r cyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer trip dros nos yng Nghymru yr haf hwn (yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi), gyda Sir Benfro a Llandudno a Bae Colwyn yn dilyn yn agos (yr ail uchaf ym mis Awst).

Tripiau a gymerwyd ers mis Ionawr 2022

Mae 21% o breswylwyr y DU a 24% o breswylwyr Cymru wedi mynd ar drip domestig dros nos ers mis Ionawr eleni, gyda nifer yr achosion ar ei uchaf ym mis Ebrill. Mae tua 1 o bob 12 o breswylwyr y DU a Chymru wedi mynd ar drip tramor ers dechrau'r flwyddyn.

Yn debyg i fwriadwyr tripiau, preswylwyr y tu allan i Gymru yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n mynd ar dripiau i Gymru, a Gogledd Orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr, Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr yw'r rhanbarthau tarddiad blaenllaw.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): tonnau 44 i 46 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jen Velu

Rhif ffôn: 0300 025 0459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.