Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad, a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn 2018, roedd 1.273 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 2.4% yn uwch na’r ffigur o 1.243 miliwn yn 2017. O ran y DU yn gyfan, gwelwyd 0.8% o gynnydd rhwng 2017 a 2018.
  • Gwelwyd cynnydd ym 10 o'r 12 rhanbarth Saesneg a gwledydd y DU rhwng 2017 a 2018, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf yng Nghymru (i fyny 2.4%). Gwelwyd yr unig ostyngiadau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a’r  Gogledd-ddwyrain Lloegr (i lawr 0.7% a 0.8%, yn y drefn honno).
  • Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2017 a 2018 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Iechyd (i fyny 14,100) ac yna’r sector Adeiladu (i fyny 12,000). Yn y sector Gwybodaeth a chyfathrebu gwelwyd y gostyngiad fwyaf (i lawr 26,500).
  • Yn 2018, y sector Iechyd oedd y mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 16.7% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 11.3% yn y sector Gweithgynhyrchu, 10.0% yn y sector Manwerthu a 9.0% yn y sector Addysg.
  • Yn 2018, roedd 299,800 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 973,300 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru, felly roedd 23.5% yn y sector cyhoeddus a 76.5% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 17.4% yn y sector cyhoeddus a 82.6% yn y sector preifat). Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.