Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2020.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i fis Medi 2020 oedd yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

Yn 2020, roedd 1.259 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 0.7% yn is na’r ffigur o 1.269 miliwn yn 2019.

O ran y DU yn gyfan, gwelwyd gostyngiad o 1.9% rhwng 2019 a 2020.

Dwyrain Lloegr oedd yr unig un o  ranbarthau Lloegr a gwledydd y DU a welodd gynnydd rhwng 2019 a 2020. Yng Nghymru cafwyd y gostyngiad canrannol lleiaf (i lawr 0.7%).

Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2019 a 2020 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Gweinyddu Busnesau a Gwasanaethau Cymorth (i fyny 8,700) ac yna’r sector Adeiladu (i fyny 8,200). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Cyfanwerth (i lawr 14,600).

Yn 2020, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 15.7% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 11.0% yn y sector Gweithgynhyrchu, 9.1% yn y sector Manwerthu a 9.1% yn y sector Addysg.

Yn 2020, roedd 311,700 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 947,500 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru. Felly roedd 24.8% yn y sector cyhoeddus a 75.2% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 18.0% yn y sector cyhoeddus a 82.0% yn y sector preifat). Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.