Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn 2018, adroddodd gwestai Cymru ddeiliadaeth ystafelloedd cyfartalog o 66%, sy’n gyson â’r tueddiad dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Nid oedd 2018 mor broffidiol â 2017 o ran perfformiad refeniw ystafelloedd, er yr oedd yr elw’n uwch o’u cymharu â lefelau 2014, 2015 a 2016.
  • Cafwyd gostyngiad bach yn lefelau deiliadaeth ystafelloedd yn y sector Gwestai Bach/Gwely a Brecwast i 35%.
  • Roedd y ddeiliadaeth gyfartalog fesul uned flynyddol ar gyfer llety hunanarlwyo pob bwthyn a fflat yn 55% gyda lefelau uchel o ddeiliadaeth yn ystod y cyfnodau prysuraf. Oedd deiliadaeth fesul uned gyfartalog ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Hydref yn 70%. 
  • Cyrhaeddodd y gyfradd ddeiliadaeth gyfartalog ar gyfer y cyfnod (mis Mai i fis Hydref 2018) 88%.
  • 53% oedd y ddeiliadaeth gwelyau hosteli a buncdai gyfartalog ar gyfer 2018.

Nodiadau adolygu

Yn sgil gwall prosesu mae’r data ynghylch gwestai sydd â rhwng 51 a 100 o ystafelloedd ar gyfer 2018 wedi’u diwygio yn y cyhoeddiad hwn. Gweler Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: 2020 am y ffigurau diwygiedig.

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.