Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Gorffennaf i Medi 2023.

Mae'r adroddiad hwn am Ddeiliadaeth Llety yn rhoi gwybodaeth am lefelau deiliadaeth llety â gwasanaeth a llety hunanddarpar, yn ogystal â hosteli a safleoedd gwersylla/carafanio Ceir data trydydd parti hefyd gan Transparent (gosodiadau tymor byr), ac STR Global (cadwyni gwestai mawr).

Sector â gwasanaeth

  • Cododd lefelau defnydd yn y sector llety â gwasanaeth yn raddol gydol 2023 gan gyrraedd ei anterth ym mis Awst cyn dechrau gostwng ym mis Medi
  • Mae lefelau defnydd y rhanbarthau wedi aros yn debyg, gyda'r Gogledd â'r lefelau defnydd uchaf (80%).

STR

  • Mae data STR ynghylch lefelau defnydd yn dangos eu bod yn debyg i rai 2022 neu ychydig yn is.

Hunanddarpar

  • Cododd lefelau defnydd fesul uned 19% rhwng Ch2 a Ch3 i gyfartaledd o 85%
  • Ni wnaeth un cyfrannwr pwysig ddarparu ei ddata bloc ar gyfer Ch3 y De-orllewin (92%), sy'n golygu bod sgiw yn y data sydd wedi codi'r ffigurau defnydd cyfartalog. 
  • Busnesau sydd â llety â mwy nag 11 o welyau oedd â'r lefelau defnydd uchaf o lawer (91%).
  • Roedd lefelau llety llai (1 i 3 gwely, a 4 i 10 gwely) union yr un fath ar 76%.
  • Mae lefelau defnydd llety rhent tymor byr wedi cynyddu rhwng Chwarteri i 68% yn Ch3.

Sector hosteli

  • Mae'r sector hosteli wedi dangos twf mawr bob chwarter gyda'i lefelau defnydd yn nes erbyn hyn at lefelau sectorau eraill yn y WAOS. Cyrhaeddodd ei uchaf gyda 71% ym mis Awst.

Carafanau a gwersylla

  • Ar y cyfan, ymddengys bod y sector yn perfformio'n well yn gynharach yn y flwyddyn, gan gyrraedd uchafbwynt o 77% ym mis Mehefin, gan ddirywio wedi hynny. Mae hyn yn wahanol i sectorau eraill sy'n cyrraedd eu hanterth tua misoedd Gorffennaf ac Awst.

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Gorffennaf i Medi 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.