Asesiad gwerthusadwyedd ar gyfer Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): crynodeb
Theori newid, asesu data, ac opsiynau dylunio gwerthusiad ar gyfer y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a rhannau gwaith teg o'r Ddeddf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ym mis Mawrth 2025, comisiynodd yr is-adran Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg (PGCGT) Llywodraeth Cymru Raglen Ymchwil Fewnol (RhYF) Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad gwerthusadwyedd o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y Ddeddf).
Mae'r Ddeddf yn cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026) i osod partneriaethau cymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru.
Mae'r Ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol (DPG) ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru, y mae'n rhaid adrodd arni'n flynyddol. Rhaid i gyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu gynrychiolwyr staff eraill) wrth osod amcanion llesiant a gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch camau rhesymol i gyflawni'r rhain (o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol). Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) wrth wneud penderfyniadau o natur strategol am y camau rhesymol i gyflawni eu hamcanion llesiant.
Creodd y Ddeddf y CPG, corff cynghori statudol teirochrog gyda chynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr i roi cyngor i Weinidogion Cymru. Hefyd, yn y disgrifiad o'r nod llesiant 'Cymru lewyrchus' (o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol), mae 'gwaith addas' yn cael ei ddisodli gan 'gwaith teg’. Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod gofyniad statudol ar awdurdodau contractio i gynnal caffael cyhoeddus mewn modd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi amcanion caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a defnyddio cymalau contract a ddatblygwyd.
Cyd-destun a nodau ymchwil
Mae Pennod 11 o femorandwm esboniadol y Ddeddf yn nodi'r bwriad i adrodd ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Mae hefyd yn awgrymu y gellid cynnal asesiad gwerthusadwyedd i sefydlu effaith fesuradwy, adolygu ffynonellau data ac argymell dulliau gwerthuso. Felly, bwriedir i ganfyddiadau'r asesiad gwerthusadwyedd hwn lywio’r gwaith o gomisiynu gwerthusiad ffurfiol.
Mae'r asesiad gwerthusadwyedd hwn yn cynnwys elfennau DPG, CPG a gwaith teg y Ddeddf yn unig. Nid yw caffael wedi'i gynnwys oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau mewnol. Gwneir ystyriaethau lefel uchel ar gyfer gwerthuso pob elfen o'r Ddeddf yn gydlynol lle bo hynny'n bosibl.
Nod ymchwil 1a yw deall cynnydd yr agweddau partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ar y Ddeddf. Nod 1b yw mireinio modelau rhesymeg y DPG, y CPG a gwaith teg a'r naratif theori newid a gynhyrchwyd mewn ymchwil flaenorol gan y RhYF (2023) yn unol â hynny.
Nod ymchwil 2 yw deall argaeledd ac ansawdd data sylfaenol ac eilaidd sy'n gallu darparu tystiolaeth o'r gwahanol gydrannau yn y modelau rhesymeg. Nod 3 yw darparu cyngor ac opsiynau ar gyfer dylunio gwerthusiad.
Dulliau
Cynhaliwyd adolygiadau desg o ddogfennau. Roedd hyn yn cynnwys dogfennau sy'n cwmpasu sefydlu a gweithredu elfennau DPG, CPG a gwaith teg y Ddeddf i ddiweddaru'r modelau rhesymeg, yn ogystal ag adolygu Llyfr Magenta Trysorlys EF ac adnoddau o Better Evaluation i nodi opsiynau addas ar gyfer gwerthusiad yn y dyfodol.
Cynhaliwyd cyfanswm o 5 gweithdy gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. O'r gweithdai hyn, roedd 3 i fireinio'r modelau rhesymeg (rhwng 4 a 10 o gyfranogwyr). Diffiniodd un arall ganlyniadau model rhesymeg ymhellach, gan fyfyrio ar y gofynion data a gwybodaeth dros hanner diwrnod mewn 3 sesiwn (rhwng 10 a 13 o gyfranogwyr). Trafododd un arall elfennau ymarferol ar gyfer gwerthusiad, megis defnyddiau posibl, amseru, cyllideb a chapasiti (3 chyfranogwr; uwch arweinwyr).
Ystyriaethau
Un cyfyngiad ar yr ymchwil yw nad oedd rhanddeiliaid allanol (megis cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus ac aelodau'r CPG) wedi'u cynnwys yn y gweithdai. Felly, nid yw eu barn am ba ddata a gwybodaeth sy'n cael eu cadw a'r hyn sy'n ymarferol yn cael ei hadlewyrchu.
Adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, roedd etholiadau'r Senedd 2026 ar y gweill. Gall newid yn y llywodraeth effeithio ar yr ymagwedd at bartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a chaffael. Mae'r opsiynau gwerthuso i'w hargymell a gynhyrchir fel rhan o'r asesiad gwerthusadwyedd hwn yn cael eu datblygu o dan y cyd-destun adeg ysgrifennu hwn. Ni ellir canfod i ba raddau y gallai fod angen diwygio hyn mewn unrhyw gyd-destun yn y dyfodol.
Theori newid
Gellir dod o hyd i'r theori newid wedi'i ddiweddaru a modelau rhesymeg ar gyfer y DPG, y CPG a gwaith teg yn yr adroddiad llawn. Disgrifiwyd cadwyni rhesymeg ar gyfer pob model rhesymeg, yn ogystal â'r prif bwyntiau lle mae'r modelau rhesymeg yn cydgysylltu.
Data a gwybodaeth
Mae'r adroddiad llawn yn amlinellu sut mae pob un o'r canlyniadau model rhesymeg yn cael eu diffinio (sut y byddent yn edrych yn ymarferol), ac felly sut y gellid eu mesur.
Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at y ffaith nad yw data meintiol yn cael ei gasglu fel rhan o'r Ddeddf. Felly, byddai mesur prosesau a chanlyniadau fel rhan o'r gwerthusiad yn dibynnu'n bennaf ar adolygu dogfennau a dulliau casglu data sylfaenol.
Nodwyd nifer o ddogfennau ar gyfer mesur prosesau a chanlyniadau mewn gwerthusiad yn y dyfodol, gan gynnwys:
- dogfennau a gyhoeddir gan gyrff cyhoeddus, megis adroddiadau'r DPG, adroddiadau am amcanion llesiant a chynlluniau corfforaethol
- dogfennau a gedwir gan Lywodraeth Cymru, megis adroddiadau Gweinidogion Cymru ar y DPG, cofnodion neu allbynnau'r CPG ac is-grwpiau, gwybodaeth a chyngor a gyhoeddwyd gan y CPG ac a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru, gwybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ac a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus, a chofnodion sy'n ymwneud ag adnoddau, hyfforddiant ac ymgysylltu
Nodwyd rhywfaint o ddata meintiol ar gyfer canlyniad hirdymor 5 ym model rhesymeg y DPG a chanlyniadau hirdymor 1 a 3 yn y model rhesymeg gwaith teg. Mae'r rhain yn cynnwys dangosyddion cenedlaethol Llesiant Cymru a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â mesurau a gedwir gan gyrff cyhoeddus megis llesiant staff, trosiant, cynhyrchiant a streiciau ac achosion disgyblu. Fodd bynnag, ni fyddai modd priodoli'r rhain i'r Ddeddf.
Disgwylir y byddai dulliau casglu data sylfaenol yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, aelodau'r CPG ac is-grwpiau, cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach.
Gwerthuso ymarferoldeb a gofynion
Mae'r canfyddiadau'n dangos y dylai gwerthusiad gwmpasu pob elfen o'r Ddeddf (y DPG, y CPG, gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol) oherwydd y ffyrdd y maent yn cysylltu gyda'i gilydd.
Ym memorandwm esboniadol y Ddeddf, bwriedir i'r adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf bara 5 mlynedd ar ôl ei gweithredu, sy'n golygu 5 mlynedd ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym. Mae hyn yn hyblyg, gyda'r canfyddiadau’n tynnu sylw at hyn fel y pwynt cynharaf. Mae gwahaniaeth yn yr amserlenni gweithredu. Er bod y DPG, y CPG a gwaith teg wedi dechrau gweithredu yn gynnar yn 2024, disgwylir i ddarpariaethau caffael ddod i rym yn llawn ym mis Ebrill 2026. Bydd hyn yn effeithio ar yr amser y mae canlyniadau yn weladwy.
Adeg cyflwyno'r adroddiad, nid oes amcangyfrif o'r gyllideb gwerthuso ar gael. Byddai unrhyw gyllideb yn cael ei rhannu rhwng partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, a chaffael, ond efallai na fydd hyn yn gyfartal. Efallai y bydd angen adnodd hefyd ar gyfer dadansoddwr o Lywodraeth Cymru i reoli'r contract ar gyfer y gwerthusiad.
Ymhlith defnyddwyr disgwyliedig y gwerthusiad roedd swyddogion Llywodraeth Cymru, y Senedd a phwyllgorau, undebau llafur, aelodau'r CPG a'r gymuned gaffael.
Byddai angen gwerthusiad i asesu i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi cyfrannu at newidiadau mewn ymwybyddiaeth, ymgysylltu, dealltwriaeth ac ymddygiadau dros amser yn unol â'r hyn a amlinellir yn y modelau rhesymeg.
Ar gyfer y DPG a gwaith teg, nodwyd astudiaethau achos gyda chyrff cyhoeddus fel y ffordd fwyaf addas o ganfod y canlyniadau yn y modelau rhesymeg. Ar gyfer y DPG, y maes blaenoriaeth ar gyfer gwerthusiad yw'r egwyddorion partneriaeth gymdeithasol sydd wedi'u hymwreiddio. Ar gyfer gwaith teg, y maes blaenoriaeth yw i ba raddau y cyfeirir at waith teg mewn amcanion llesiant a'r camau a gymerwyd i gyflawni'r amcanion hyn sy'n cynnwys gwaith teg.
Ar gyfer y CPG, mae effaith cyngor y CPG ar drefniadau partneriaeth gymdeithasol yn flaenoriaeth. Byddai hyn hefyd yn cynnwys astudiaethau achos gyda chyrff cyhoeddus, sy'n cwmpasu'r defnydd o gyngor a roddir drwy'r CPG. Blaenoriaeth arall yw asesu dylanwad gwerth ychwanegol cael cyngor wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng cynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr ar faterion penodol, megis Deallusrwydd Artiffisial. Byddai hyn yn cynnwys elfen hunangynhwysol, gan ddefnyddio astudiaethau achos ar feysydd pwnc lle gallai'r CPG fod wedi cael dylanwad polisi, yn dibynnu ar natur y cyngor a roddir.
Nodwyd nifer o heriau ar gyfer gwerthusiad yn y dyfodol, a ddisgrifiwyd yn fanwl yn yr adroddiad llawn. I grynhoi, roedd yr heriau'n cynnwys y canlynol:
- nid oes dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau'r DPG na chynnwys penodol
- bydd rhai cyrff cyhoeddus yn fwy sefydledig yn eu taith partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg nag eraill i ddechrau, ac yna bydd cynnydd hefyd yn amrywio, sy'n golygu y bydd angen gwaith samplu gofalus ar astudiaethau achos
- bu heriau hanesyddol o ran cyfranogiad wrth ddatblygu astudiaethau achos
- mae rhywfaint o ddisgwyliad gan randdeiliaid o amgylch y Ddeddf y tu hwnt i'r hyn y mae'r Ddeddf yn bwriadu ei wneud, a allai effeithio ar ddisgwyliadau o'r hyn y gallai gwerthusiad ei ddangos
- mae yna ffactorau allanol a fydd yn effeithio ar asesu prosesau a chanlyniadau, er enghraifft; newid yn y llywodraeth ar ôl etholiadau'r Senedd 2026, gorgyffwrdd â materion deddfwriaeth eraill, newidiadau mewn personél mewn cyrff cyhoeddus, newidiadau yn aelodaeth y CPG bob 3 blynedd, capasiti isel o ran rhanddeiliaid, pwysau ar gyllid y sector cyhoeddus ac agweddau undebau llafur
Cynnig gwerthuso
Dull gweithredu
Mae'r asesiad gwerthuso yn argymell gwerthusiad proses dulliau cymysg a gwerthusiad effaith seiliedig ar theori.
Dylai'r gwerthusiad proses ganolbwyntio ar y gweithgareddau a'r allbynnau yn y modelau rhesymeg ar gyfer holl gydrannau'r Ddeddf (y DPG, y CPG, gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol).
Ar gyfer y gwerthusiad effaith, ni fyddai dulliau arbrofol a lled-arbrofol yn addas gan na fydd modd cymharu grwpiau yr effeithir arnynt a grwpiau nad ydynt yn cael eu heffeithio. O'r dulliau gwerthusiad effaith seiliedig ar theori, aseswyd dull a ysbrydolwyd gan Ddadansoddiad Cymharol Ansoddol (QCA) i fod yn fwyaf addas ar gyfer y DPG, y CPG a gwaith teg. Mae dull gwerthusiad effaith addas ar gyfer caffael i'w bennu gan asesiad gwerthusadwyedd.
Amseriadau
Gellid cynnal asesiad gwerthusadwyedd ar gyfer elfen gaffael y Ddeddf tua diwedd 2026 hyd at ddechrau 2027.
Gallai gwerthusiad proses o holl elfennau'r Ddeddf ddechrau yn 2029.
Argymhellir y dylai'r gwerthusiadau effaith fabwysiadu dull graddol.
Byddai gwerthusiad effaith Dadansoddiad Cymharol Ansoddol o elfennau DPG, CPG a gwaith teg tua chanol a diwedd 2030 yn caniatáu digon o amser i ymgorffori mewnwelediadau o'r gwerthusiad proses, ac i'r canlyniadau tymor hir ddod i'r amlwg.
Ar gyfer caffael, byddai canlyniadau tymor hir (5 mlynedd a mwy) yn cael eu rhagweld yn 2031 yn seiliedig ar ddyddiad gweithredu yn 2026. Felly, argymhellir y gallai elfen gaffael y gwerthusiad effaith ddechrau tua dechrau i ganol 2031.
Wrth nodi'r prif bwyntiau lle mae canlyniadau caffael yn gorgyffwrdd â chydrannau eraill y Ddeddf, gellir dal a mesur y rhain ar y cam mwyaf priodol. Yna, gellir cyfuno canfyddiadau i greu gwerthusiad crynodol o effaith y Ddeddf.
Argymhellion i gefnogi gwerthusiad yn y dyfodol
Mae'r argymhellion llawn i'w gweld yn yr adroddiad llawn.
Argymhelliad 1
Ymgymryd ag asesiad gwerthusadwyedd o elfen gaffael y Ddeddf.
Argymhelliad 2
Ar bwynt y gwerthusiad yn y dyfodol (cam proses), gwneud iteriadau terfynol o'r modelau rhesymeg partneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a chaffael.
Argymhelliad 3
Dylai dogfennau a amlinellir yn yr adroddiad llawn ddechrau cael eu casglu gan swyddogion PGCGT. Dylid eu storio a'u holrhain dros amser, fel y gellir ei goladu a'i gyrchu'n hawdd ar y pwynt gwerthuso.
Argymhelliad 4
Efallai y bydd angen i swyddogion PGCGT wneud rhywfaint o waith allgymorth ac ymgysylltu i goladu cysylltiadau mewn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys newidiadau dros amser. Bydd angen y rhestr hon o gysylltiadau ar werthuswr yn y dyfodol i ganfod pwy i'w wahodd i weithgareddau ymchwil.
Argymhelliad 5
Adeg y gwerthusiad yn y dyfodol, byddai angen i'r gwerthuswr gwmpasu dichonoldeb cyrff cyhoeddus yn rhannu’r data sydd ganddynt.
Argymhelliad 6
Archwilio dichonoldeb recriwtio dadansoddwr Llywodraeth Cymru i reoli'r contract ar gyfer y gwerthusiad.
Manylion cyswllt
Awduron: Findlay, S. a Curless, G.
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhaglen Ymchwil Fewnol
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: RhYF.IRP@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 36/2026
ISBN digidol 978-1-83745-061-9
