Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r tîm Polisi Cynllunio yn Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r tîm ymchwil Dyfodol Cynaliadwy mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru i gynnal gwaith ymchwil i weithrediad Awdurdodau Cynllunio Lleol o

  1. Asesiadau Seilwaith Gwyrdd a
  2. deddfwriaeth ynghylch rhywogaethau a warchodir a Hawliau Datblygu a Ganiateir (Rheoliad 75 o'r Rheoliadau Cynefinoedd). 

Nodau'r ymchwil hwn yw

  1. asesu sut mae Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi ymateb i Ganllawiau Polisi Cynllunio ac ar ba gam y maent ar hyn o bryd a
  2. asesu sut mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gweithredu deddfwriaeth mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir. Fel rhan o'r ymchwil hwn, bydd yr ymchwil Dyfodol Cynaliadwy yn casglu'r wybodaeth hon drwy arolwg.

Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Bydd y tîm ymchwil yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad ac ni fydd yn darparu data y gellir ei adnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn llywio adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich Cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.

Mae Llywodraeth Cymru am gynnal arolwg gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol i asesu sut y defnyddir Asesiadau Seilwaith Gwyrdd. Byddwch wedi derbyn dolen i'r arolwg drwy e-bost gan y tîm Polisi Cynllunio yn Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt gan eich bod wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn rhinwedd eich swydd fel Awdurdod Cynllunio Lleol.

Nid yw'r arolwg yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol. Ni fydd cwblhau'r arolwg yn cynnwys eich e-bost na'ch cyfeiriad IP ac felly mae ymatebion yr arolwg yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg yn y cwestiynau penagored, caiff yr wybodaeth hon ei golygu gan y tîm ymchwil yn Llywodraeth Cymru cyn dadansoddi'r data. Byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu eich hunaniaeth â nhw.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu tynnu o'r prosiect ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol a chanllawiau arfer da pellach ar gyfer Asesiadau Seilwaith Gwyrdd.

 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil hwn. Fodd bynnag, os caiff data personol ei gofnodi yn y cwestiynau penagored, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei golygu gan ymchwilwyr Llywodraeth Cymru cyn i hyn gael ei gadw ar weinyddion diogel Llywodraeth Cymru. Dim ond ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac aelodau'r tîm polisi Cynllunio sy'n gweithio ar y prosiect sy'n defnyddio data'r arolwg crai wedi'i olygu.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd ar gyfer arolygon o'r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata ei brosesu o fewn y DU)

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat ddienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael eu dileu. Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Mae'r Tîm Polisi Cynllunio eisoes yn cadw eich manylion cyswllt oherwydd ymgysylltiad blaenorol â Llywodraeth Cymru yn rhinwedd eich swydd fel Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y data hwn yn parhau i gael ei gadw at y diben y'i cynhaliwyd yn wreiddiol.

Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yn ymateb yr arolwg yn cael ei ddileu cyn i'r tîm ymchwil Dyfodol Cynaliadwy ei ddadansoddi.

 

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o'r arolwg hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
  • Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF.

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Gwefan: www.ico.gov.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Isabella Malet-Lambert

Cyfeiriad e-bost: Isabella.malet-lambert@gov.wales

Rhif ffôn: 03000628250

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ,

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru