Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaid anfon pob Asesiad Effaith ar Hawliau Plant i CRIA@llyw.cymru 

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol? 
  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati)? 
  • pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr? 
  • sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam
  • pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad? 

Cefndir

Mae Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 yn cynnwys gofyniad y dylai darparwr gwasanaethau maethu, fel rhan o'r broses asesu ar gyfer darpar ofalwyr maeth, gael 'manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol)'. 

Yn ystod argyfwng COVID-19, mae swyddogion yn ymwybodol bod gallu'r GIG i ddarparu'r asesiadau iechyd hyn i ddarpar rieni maeth wedi lleihau'n sylweddol wrth iddo ailgyfeirio ei flaenoriaethau tuag at ymdrin â'r argyfwng. 

Mae'r sector maethu wedi hysbysu swyddogion nad oedd meddygon teulu ar gael, yn ystod argyfwng COVID-19, i ddarparu cofnodion claf i unrhyw ymarferydd meddygol arall nac i gynnal archwiliadau wyneb-yn-wyneb â darpar rieni maeth. 

Gwnaed cais felly i ddefnyddio ffurflen iechyd ar ffurf hunanddatganiad (am gyfnod dros dro) ar gyfer darpar rieni maeth er mwyn i wasanaethau maethu allu parhau i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael yn ystod yr argyfwng hwn. 

Mae'r broses hunanddatgan yn amlinellu dwy broses ar wahân y gall darparwyr gwasanaethau maethu eu dilyn wrth roi'r trefniadau ar gyfer asesiadau meddygol ar waith yn ystod argyfwng COVID-19: 

  • ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n gallu cael gafael ar Adroddiad Iechyd Oedolyn llawn gan feddyg teulu'r ymgeisydd o hyd (gan ddefnyddio dulliau ar gyfer cynnal archwiliad meddygol rhithwir o bell gan ddefnyddio cofnodion y claf), dylid cwblhau'r ffurflen CoramBAAF arferol ar gyfer Adroddiad Iechyd Oedolyn (AHR)
  • ar gyfer y gwasanaethau hynny na allant gael gafael ar unrhyw fath o asesiad meddygol gan feddyg teulu, dylid defnyddio'r ffurflen hunanasesu, a lle bo Cynghorydd Meddygol ar gael i ddarparu sylwadau ar y ffurflen hon, dylid gofyn iddo wneud hynny

Y broses hunanasesu

Mae'r datganiad arfaethedig yn cynnwys tair rhan. Caiff y rhan gyntaf ei chwblhau gan y darparwr gwasanaethau maethu, caiff yr ail ran ei chwblhau gan y darpar ofalwr maeth ("yr ymgeisydd") a chaiff y drydedd ran ei chwblhau gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth faethu. Fodd bynnag, dim ond crynodeb y cynghorydd meddygol o'r hyn a ddatgelwyd gan yr ymgeisydd fydd yn y drydedd ran. Mae'n bosibl na fydd y cynghorydd meddygol wedi edrych ar unrhyw nodiadau gan feddygon teulu neu ysbytai. 

Fodd bynnag, mae'r ffurflen hunanasesu yn rhoi cydsyniad yr ymgeisydd os bydd angen i'r Cynghorydd Meddygol gysylltu â'r meddyg teulu (os bydd ar gael). (Dim ond os bydd cynghorydd meddygol yr asiantaeth ar gael y caiff y drydedd ran ei chwblhau. Os na fydd y cynghorydd ar gael, tybir felly efallai na chaiff trydedd ran y ffurflen ei chwblhau o gwbl, fel rhan o'r broses asesu). 

Os bydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi cael eu codi erbyn diwedd yr asesiad, gofynnir am asesiad ac adroddiad meddygol, yn unol â chyfarwyddyd Rheoliad 7(2), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2.

Cefndir deddfwriaethol

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 

Mae Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018, rheoliad 7(2) ac Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwr gwasanaethau maethu, fel rhan o'r broses asesu, gael 'manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol)'. Ar ôl cael yr adroddiad meddygol ac unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau Maethu, caiff cais y darpar ofalwr maeth wedyn ei ystyried gan banel maethu. 

Os bydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi cael eu codi erbyn diwedd yr asesiad, gofynnir am asesiad ac adroddiad meddygol, yn unol â chyfarwyddyd Rheoliad 7(2), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2.
Ar ôl cael yr adroddiad meddygol ac unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau Maethu, caiff cais y darpar ofalwr maeth wedyn ei ystyried gan banel maethu. 

Yn unol â'r Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r panel maethu ystyried yr holl wybodaeth a drosglwyddir iddo, gan gynnwys y wybodaeth o'r asesiad meddygol, ac mae'n ofynnol iddo wneud argymhelliad yn nodi pa un a yw'r darpar riant maeth yn addas ai peidio. 

Gall panel maethu, yn unol â'r rheoliad, ofyn i'r darparwr gwasanaethau maethu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall sy'n angenrheidiol, ym marn y panel maethu, neu roi unrhyw gymorth arall y bydd y panel maethu o bosibl yn gofyn amdano. Gall hyn gynnwys unrhyw gyngor meddygol y cred sydd ei angen mewn perthynas â'r achos. 

Os bydd panel maethu yn argymell y dylid cymeradwyo ymgeisydd, mae'n ofynnol iddo argymell y telerau cymeradwyo. Cyn gwneud penderfyniad a ddylid cymeradwyo unigolyn fel gofalwr maeth, mae'n ofynnol i'r darparwr gwasanaethau maethu ystyried argymhelliad y panel maethu a'i delerau cymeradwyo.  

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Mae Deddf 2014 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf yn nodi swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant a gaiff eu lletya, gan gynnwys y rheini a gaiff eu gosod mewn lleoliadau gofal maeth.  

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016') yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy reoliadau, y gofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol 'gwasanaethau rheoleiddiedig' sydd yn rhinwedd adran 2 (1) (e) a pharagraff 5, yn cynnwys 'gwasanaethau maethu' na chânt eu gweithredu gan awdurdodau lleol. 

Effaith oedi wrth wneud penderfyniadau a lleoli 

Mae'r broses faethu yn darparu lleoliad cefnogol fel rhan o deulu i blant a phobl ifanc na allant fyw gyda'u rhieni ac sy'n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol. Mae lleoliadau maeth yn darparu amgylchedd lle y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth plentyn sy'n derbyn gofal (a nodir yn ei gynllun gofal a chymorth, a gaiff ei lunio o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014). 

Nodir y fframwaith ar gyfer asesu anghenion plant sy'n derbyn gofal a phennu eu canlyniadau personol, llunio cynllun gofal a chymorth cynhwysfawr, a phennu pa fath o leoliad fyddai orau ar eu cyfer, yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a Chod Ymarfer Rhan 6. 

Yr awdurdod lleol sy'n rhoi gofal i'r plentyn sy'n bennaf cyfrifol am gynllunio gofal a lleoli, a bydd yn cynnwys partneriaid eraill fel y bo'n briodol. Mae'r awdurdod lleol yn gweithredu fel y 'rhiant corfforaethol' ar gyfer y plentyn, ac mewn perthynas â lleoliadau, cyfeirir ato fel 'yr awdurdod lleoli'. Pan gaiff plentyn ei leoli mewn ardal awdurdod lleol arall, cyfeirir at yr awdurdod hwnnw fel yr 'awdurdod ardal'. Fodd bynnag, bydd yr awdurdod lleoli yn parhau i ofalu am y plentyn ac yn parhau'n gyfrifol am ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn. 

Wrth asesu a chymeradwyo darpar ofalwyr maeth (boed wedi'u recriwtio gan yr awdurdod lleol neu ddarparwr preifat), mae angen i asiantaethau sicrhau y gall darpar ofalwyr maeth ddarparu'r gofal a'r cymorth angenrheidiol sydd eu hangen ar y plant agored i niwed hyn, a bod y gofal a'r cymorth hwnnw o'r safon uchaf. Bydd hyn yn sicrhau y gellir rhoi cymorth priodol i'r rhieni maeth ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn. 

Mae'r plant y mae'r 'trefniadau meddygol hyblyg' hyn ar gyfer gofalwyr maeth yn effeithio arnynt ymhlith y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Fel arfer, mae'r plant hyn wedi dod yn rhan o'r system ofal o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod, a byddant wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu ryw fath o drawma cynnar. Gall hyn arwain at broblemau ymlyniad, patrymau ymddygiad sy'n tarfu ar eraill neu anghenion therapiwtig, a all waethygu os na chaiff y plentyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arno. Mae lleoliadau maeth sefydlog yn darparu amgylchedd diogel lle gall y plant hyn ddatblygu a ffynnu, a chyflawni eu canlyniadau personol. Felly, mae'n hanfodol bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth leoli plentyn â rhieni maeth gofalgar yn ystod argyfwng COVID-19.  

Mae'r pwysau cyfredol hefyd wedi cael effaith andwyol ar y system leoli ehangach ac, yn arbennig, ar y nifer o ofalwyr maeth sydd ar gael. Os na all plant symud ymlaen i'w teuluoedd parhaol, er enghraifft drwy leoliad mabwysiadu, yna nid ydynt yn rhyddhau'r lleoliadau gofal maeth i blant eraill agored i niwed sy'n ymuno â'r system ofal. O ganlyniad, ni fydd digon o leoliadau gofal ar gael i ddiwallu anghenion plant sy'n agored i niwed. 

Mae risg hefyd y bydd angen parhau i gynyddu nifer y darpar ofalwyr maeth a gaiff eu recriwtio. Os na chaiff y mater ei ddatrys, bydd nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl COVID-19 yn lleihau. 

Cynnig 

Bydd cyflwyno proses hunanasesu feddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth yn helpu i glirio'r ôl-groniad yn y system ac yn galluogi'r gwasanaeth maethu i barhau. Bydd yn defnyddio ffurflen iechyd ar ffurf hunanddatganiad (dim ond os na ellir cynnal asesiad meddygol gan eu meddyg teulu) yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn i wasanaethau maethu allu parhau i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael yn ystod yr argyfwng. 

Mae'r broses hunanddatgan yn amlinellu dwy broses ar wahân y gall darparwyr gwasanaethau maethu eu dilyn wrth roi'r trefniadau ar gyfer asesiadau meddygol ar waith yn ystod argyfwng COVID-19:

  • ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n gallu cael gafael ar Adroddiad Iechyd Oedolyn llawn gan feddyg teulu'r ymgeisydd o hyd, dylid cwblhau'r ffurflen CoramBAAF arferol ar gyfer Adroddiad Iechyd Oedolyn (AHR)
  • ar gyfer y gwasanaethau hynny na allant gael gafael ar unrhyw fath o asesiad meddygol gan feddyg teulu, dylid defnyddio'r ffurflen hunanasesu, a lle bo Cynghorydd Meddygol ar gael i ddarparu sylwadau ar y ffurflen hon, dylid gofyn iddo wneud hynny

Bydd y broses hunanasesu hon yn helpu i gefnogi'r sector maethu gan y bydd yn sicrhau y gall darpar ofalwyr maeth gael asesiad meddygol ac y byddant yn gallu symud ymlaen i'r panel gwneud penderfyniad, gan alluogi'r sector maethu i barhau i weithredu. 

Bydd cyflwyno'r broses hunanasesu yn golygu y gellir cymeradwyo darpar ofalwyr maeth. Bydd hyn, yn ei dro, yn golygu y gellir gosod plant yn y system yn ôl yr angen, a thrwy hynny, sicrhau bod lleoliad gofal maeth addas a all ddiwallu anghenion y plentyn dan sylw. 

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar blant yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'r broses o gymeradwyo darpar ofalwyr maeth wedi cael ei hatal dros dro gan na all yr unigolion hynny gael asesiadau meddygol, sy'n eu hatal felly rhag symud ymlaen drwy'r broses gymeradwyo. 

Bydd cyflwyno'r hunanasesiad meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth (h.y. lle nad oes modd cynnal archwiliad wyneb-yn-wyneb) yn caniatáu i'r broses faethu yng Nghymru barhau i weithredu, a fydd yn golygu felly y gellir parhau i leoli plant â rhieni gofal maeth. 

Nid fydd y cynnig hwn yn cael unrhyw effaith negyddol ar blant. Bydd yr holl fesurau diogelu sydd ar waith yn debyg i'r archwiliadau wyneb-yn-wyneb 'arferol' cyn COVID-19. 

Mae risg bob amser y daw pryder iechyd i'r amlwg ar ôl cyflwyno adroddiad y meddyg teulu a barn y Cynghorydd Meddygol; mae'r risg hon hefyd yn berthnasol yn ystod yr ymgyngoriadau wyneb-yn-wyneb a gynhaliwyd cyn COVID-19. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir am ragor o wybodaeth a chynhelir rhagor o ymchwiliadau/atgyfeiriadau a chaiff y sefyllfa ei hailarfarnu. Mae gonestrwydd yn rhan bwysig o'r broses o asesu gofalwyr maeth a lle bydd unrhyw newidiadau i amgylchiadau (gan gynnwys iechyd), disgwylir i'r ymgeisydd gofal maeth dynnu sylw'r gweithiwr cymdeithasol neu'r asiantaeth sy'n cynnal yr asesiad at y newidiadau hyn. Disgwylir hyn ar unrhyw adeg, cyn iddynt gael eu cymeradwyo neu ar ôl hynny. 

Mae nifer o gamau sicrwydd wedi'u cynnwys yn y system er mwyn atal unrhyw achosion o'r fath ac mae'r camau sicrwydd hyn hefyd wedi'u cynnwys yn y cynnig asesu rhithwir. Er enghraifft: 

  • os bydd unrhyw amheuaeth neu ansicrwydd, gall y meddyg teulu argymell y dylid cynnal archwiliad llawn
  • caiff adroddiad y meddyg teulu ei adolygu gan y Cynghorydd Meddygol, na fydd yn argymell y dylid cymeradwyo'r unigolyn os bydd unrhyw amheuaeth
  • gall y cynghorydd meddygol gysylltu â'r meddyg teulu cyn gwneud argymhelliad os bydd angen a/neu gall ofyn am ragor o wybodaeth, gan gynnwys adroddiadau gan feddygon ymgynghorol arbenigol

Mae'r broses ar gyfer asesu gofalwyr maeth yn un gadarn ac mae'n cynnwys nifer o 'freciau' eraill, fel yr amlinellir isod: 

  • gall yr asiantaeth faethu, pan fydd yn cael argymhelliad y Cynghorydd Meddygol, ofyn am ragor o wybodaeth neu gall ofyn cwestiynau os bydd unrhyw bryder y dylid cynnal archwiliad meddygol cyn cyflwyno'r cais ger bron panel gwneud penderfyniad
  • gall elfennau eraill o'r broses asesu alluogi gwybodaeth i ddod i'r amlwg sy'n nodi materion meddygol posibl na chawsant eu nodi, a thrwy hynny, ganiatáu iddi gael ei harchwilio a chael cyngor meddygol pellach
  • gall y panel gwneud penderfyniad hefyd weithredu 'brêc' posibl arall os bydd ganddo amheuon/pryderon, gan y gall ofyn am ragor o wybodaeth h.y. archwiliad 
  • yn yr un modd eto, gellir gweithredu 'brêc' posibl arall os bydd gan y panel amheuon/pryderon
  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati?)

Prif nod gwasanaethau maethu yw darparu lleoliadau sefydlog i blant sy'n derbyn gofal, er mwyn gallu diwallu eu hanghenion gofal a chymorth a chyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Fel arfer, mae'r rhan fwyaf o'r plant hyn wedi dod yn rhan o'r system ofal o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod, a byddant wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu ryw fath o drawma cynnar. Gall hyn arwain at broblemau ymlyniad, patrymau ymddygiad sy'n tarfu ar eraill neu anghenion therapiwtig, a all waethygu os na chaiff y plentyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arno. 

Mae lleoliadau maeth da yn darparu amgylchedd cefnogol fel rhan o deulu lle y caiff plant eu cadw'n ddiogel a lle y byddant yn cael y cariad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu. Bydd amgylchiadau'r plant hyn yn wahanol, gan ddibynnu ar eu hanghenion unigol ac amgylchiadau'r teulu. Lleoliadau byrdymor fydd rhai ohonynt hyd nes y bydd yn ddiogel i'r plentyn ddychwelyd at ei deulu. Bydd lleoliadau eraill yn cynnig opsiwn parhad tymor hwy i blentyn, a fydd weithiau'n para tan y bydd yn oedolyn o dan drefniant 'Pan fydda i'n barod'. Caiff rhai trefniadau gofal maeth gan berthynas eu datblygu'n drefniant Gwarcheidiaeth Arbennig. 

Mae angen i wasanaethau maethu fod yn ddigon hyblyg i ddiwallu'r anghenion ac ymateb i'r amgylchiadau unigol amrywiol hyn. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau maethu i greu'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol i Gymru. Mae'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol yn canolbwyntio'n benodol ar drefniadau gweithio rhanbarthol lle y bydd hyn o fudd i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol fel 'rhieni corfforaethol' i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt. 

Mae'n canolbwyntio'n benodol hefyd ar recriwtio, hyfforddi a chadw gofalwyr maeth. Yn gyffredinol, mae angen recriwtio mwy o ofalwyr maeth er mwyn ymateb i'r  cynnydd yn nifer y plant sy'n dod yn rhan o'r system ofal. Maethu yw'r opsiwn lleoli a ddefnyddir amlaf o bell ffordd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a threfnir lleoliadau er budd y plentyn, gan sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion unigol. Felly, pan gaiff plentyn ei leoli fel rhan o deulu gofal maeth, mae'n rhaid i'r asiantaethau ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn wrth ei leoli mewn cartref gofal maeth. Byddai angen parchu'r angen i leoli plentyn sy'n siarad Cymraeg â theulu sy'n siarad Cymraeg pe ystyriwyd o ddifrif bod hynny o fudd i'r plentyn.

Felly, bydd y cynnig yn cefnogi pob plentyn gan ei fod yn galluogi i'r broses faethu ailddechrau yn ystod argyfwng COVID-19 a thrwy hynny, ganiatáu i blant gael eu lleoli gyda theuluoedd gofal maeth.

Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Cyflwynodd Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru (AFA Cymru) gynnig i Lywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud â'r ffaith nad oedd nifer o ddarpar ofalwyr maeth yn gallu cael archwiliadau meddygol wyneb-yn-wyneb. Cadarnhaodd fod hyn wedi cael effaith andwyol ar y gallu i fwrw ati i gymeradwyo darpar ofalwyr maeth fel rhan o'r system gofal maeth. 

Pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod y dasg o asesu darpar rieni maeth yn parhau yn ystod cyfnod yr argyfwng er mwyn diwallu anghenion plant y mae angen eu lleoli, yn ystod yr argyfwng ac ar ôl hynny. 

Er mwyn ymdrin â'r sefyllfa hon (am gyfnod dros dro), cynigiodd y dylid cyflwyno ffurflen hunanasesu feddygol i ddarpar ofalwyr maeth ei defnyddio – fodd bynnag, dim ond pan na fyddent yn gallu cael yr asesiad meddygol hwn gan eu meddyg teulu y dylid defnyddio'r hunanasesiad. Roedd y broses asesu dros dro hon hefyd yn cael ei chyflwyno yn Lloegr a theimlwyd na ddylai asiantaethau maethu yng Nghymru deimlo eu bod o dan anfantais o gymharu ag asiantaethau gofal maeth yn Lloegr. 

Sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam

Nid ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc.  Mae'r mater hwn yn ymwneud ag effeithiau argyfwng COVID-19 a'r ffaith na ellir cynnal asesiadau meddygol wyneb-yn-wyneb ar gyfer darpar ofalwyr maeth. Mae AFA Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a CoramBAAF yn Lloegr i ddarparu proses amgen er mwyn galluogi'r broses faethu i barhau, ond gan sicrhau hefyd fod yr holl gamau diogelu angenrheidiol ar waith. O ganlyniad i natur frys y sefyllfa, ymgynghorwyd ag asiantaethau gofal maeth a gwasanaethau maethu gwirfoddol, a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (GPCW) a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru (RCGP). Ni chaiff y newid proses unrhyw effaith ar y plentyn; unwaith y bydd darpar ofalwr maeth wedi'i gymeradwyo, caiff plentyn ei leoli yn y ffordd arferol.  Ni chaiff y newid hwn unrhyw effaith ar blant a phobl ifanc gan ei fod yn gysylltiedig â phroses 'y tu ôl i'r llenni' a fydd yn caniatáu i'r gwasanaeth 'arferol' barhau iddyn nhw. Fodd bynnag, bydd peidio â chyflwyno'r broses newydd yn effeithio ar y cyflenwad o ofalwyr maeth sy'n rhan o'r system, a fydd yn ei dro, yn atal y plant agored i niwed hyn rhag cael eu lleoli mewn amgylchedd teulu cefnogol a gofalgar.

Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Cymeradwywyd y broses hon gan yr Adran Addysg ac mae'n cael ei chyflwyno yn Lloegr ar hyn o bryd. 

Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Yn yr adran hon, mae angen asesiad sy'n rhoi barn wybodus ynghylch effaith debygol y cynnig ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n hollbwysig eich bod yn osgoi'r dybiaeth bod y canlyniadau y bwriedir eu cael, fel y'u nodir uchod, yr un peth â'r effaith a ragwelir ar hawliau plant. 

Bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut mae'r canlyniadau y bwriedir eu cael yn cysylltu â hawliau plant a pha effaith a gânt. Efallai y rhagwelir effeithiau sy'n wahanol i'r canlyniadau y bwriedir i'r cynnig eu cael. 
Dylech wneud y canlynol: 

  • nodwch pa erthyglau o'r Confensiwn sydd fwyaf perthnasol i'r cynnig
  • eglurwch a yw'r cynnig yn cynyddu i'r eithaf, yn cefnogi neu'n hyrwyddo hawliau plant o dan y Confensiwn, ac os ydyw, sut y gwna hynny, gan wneud cysylltiadau rhwng y canlyniadau a nodwyd yng nghwestiwn 1 a'r hawliau rydych wedi'u nodi
  • cofiwch fod hyrwyddo hawliau plant yn cynnwys: cynyddu mynediad plant at eu hawliau, neu wasanaethau a/neu adnoddau sy'n rhoi mynediad at hawliau, neu alluogi plant i gymryd rhan a manteisio ar eu hawliau. Dylech egluro sut mae'r cynnig yn cyflawni'r amcanion hyn, os o gwbl
  • eglurwch unrhyw effaith negyddol ar hawliau plant sy'n codi o'r cynnig, gan gynnwys unrhyw ostyngiad mewn adnoddau sydd ar gael i gefnogi polisïau neu raglenni
  • wrth ystyried pob un o'r cwestiynau uchod, sicrhewch eich bod yn cadw mewn cof sut y bydd y cynnig yn effeithio ar hawliau gwahanol grwpiau o blant (e.e. plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anableddau ac ati)
  • cyfeiriwch at unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sydd wedi llywio eich asesiad, gan gynnwys yr hyn a gasglwyd gan blant neu eu cynrychiolwyr

Nodir y trefniadau ar gyfer cynllunio gofal a lleoli plant sy'n derbyn gofal yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a'r Cod Ymarfer Rhan 6 ar Blant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya.  Mae'r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y ffordd y dylai darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat ddiwallu anghenion plant a gaiff eu lleoli gyda'u gofalwyr maeth.

Erthyglau

Mae'r cynnig hwn yn rhoi sylw priodol i ddyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), gan ystyried yr erthyglau canlynol yn bennaf:

Erthygl 1 – mae gan bob un o dan 18 oed yr holl hawliau yn y confensiwn

Erthygl 2 – mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn waeth beth fo'i ethnigrwydd, rhywedd, crefydd, galluoedd, waeth beth y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, ni waeth pa fath o deulu y daw ohono

Mae'r diwygiadau hyblyg i'r Rheoliadau yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru ac i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Maent yn pennu sut y bydd awdurdodau lleol yn asesu ac yn cymeradwyo darpar fabwysiadwyr ac, i'r un graddau, sut y byddant yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn a gaiff ei baru, sy'n cynnwys rhoi ystyriaeth ddyledus i etifeddiaeth, ethnigrwydd, crefydd a dewis iaith y plentyn. 

Erthygl 3 – dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant anelu at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn galluogi awdurdodau lleol i fwrw ati â'r broses fabwysiadu. Bydd hyn o fudd i'r plentyn gan y bydd yn sicrhau bod cyflenwad o ddarpar fabwysiadwyr yn barod i gael eu paru â rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas er mwyn gallu trefnu lleoliadau ar eu cyfer. Bydd hyn yn sicrhau y caiff eu hanghenion sylfaenol eu diwallu ac y cânt gynnig yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. 

Erthygl 4 – dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad o fabwysiadwyr ar gael. Bydd hyn yn creu hawl gyson i bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i gael ei leoli â theulu mabwysiadol a fydd yn galluogi'r plentyn i gael yr un cymorth a'r un cyfleoedd bywyd ag unrhyw blentyn arall. 

Erthygl 6 – mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu mewn ffordd iach

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad cyson o fabwysiadwyr ar gael.  Bydd hyn yn cynnig y cyfle i leoli plentyn â gorchymyn lleoli â theulu mabwysiadol a fydd yn darparu'r holl gymorth a gofal sydd eu hangen arno i gyflawni ei ganlyniadau llesiant personol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r holl gymorth sydd ei angen ar y plentyn a'r teulu mabwysiadol er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus ac er mwyn galluogi'r plentyn i barhau i ffynnu. 

Erthygl 8 (amddiffyn a chadw hunaniaeth) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc ei gefnogi gan ei rieni mabwysiadol i gynnal cysylltiadau teuluol, gan gynnwys cysylltiadau personol a chysylltiadau uniongyrchol â'i rieni genedigol a'i frodyr a'i chwiorydd (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan y llysoedd). 

Erthygl 12 (parch tuag at farn y plentyn)

Gall y plentyn neu'r person ifanc fynegi ei farn yn rhydd yn ystod pob cam o'r broses, a chaiff ei gefnogi i leisio ei farn. Rhoddir ystyriaeth briodol i farn y plentyn neu'r person ifanc wrth wneud penderfyniadau. 
Erthygl 13 (rhyddid mynegiant) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc wybodaeth briodol am y lleoliad mabwysiadol, sy'n addas ar gyfer ei oedran a'i lefel dealltwriaeth, a chymorth i ddeall y wybodaeth hon. 

Erthygl 19 – dylai llywodraethau sicrhau y caiff plant ofal priodol, a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt

Mae'r trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn cefnogi Erthygl 19 gan ei bod yn golygu y gellir lleoli plentyn â theulu mabwysiadol. Caiff y broses ei rheoleiddio er mwyn sicrhau y caiff pob plentyn ei amddiffyn rhag trais, camdriniaeth a niwed. Mae awdurdodau lleol yn darparu'r holl gymorth angenrheidiol er mwyn diogelu'r plentyn wrth i'r lleoliad fynd rhagddo. 

Erthygl 20 – mae'n rhaid i blant na all eu teulu eu hunain ofalu amdanynt dderbyn gofal priodol, gan bobl sy'n parchu eu crefydd, eu diwylliant a'u hiaith

Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried gwneud trefniadau ar gyfer lleoliad mabwysiadu, mae'n rhaid iddynt ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn. Mae'n rhaid i'r Gorchymyn Mabwysiadu ystyried unrhyw help y byddai ei angen ar y plentyn er mwyn parhau â'r cysylltiadau hyn. 

Erthygl 21 – pan gaiff plant eu mabwysiadu, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r hyn sydd orau iddynt. Mae'r un rheolau yn gymwys pa un a gaiff y plant eu mabwysiadu yn eu gwlad enedigol neu os byddant yn mynd i fyw mewn gwlad arall

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yw'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu o hyd. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys gwasanaeth mabwysiadu rhwng gwledydd yn ei ardal ac i sicrhau y caiff gwasanaethau mabwysiadu o ansawdd uchel eu darparu'n gyson ledled Cymru. 

Erthygl 23 – dylai plant ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig er mwyn iddynt allu byw bywyd llawn a bodlon

Wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl y mae angen gofal a chymorth arnynt, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff eu hanghenion llesiant emosiynol a chorfforol eu diwallu bob amser. 

Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd)

Caiff anghenion iechyd ac anghenion datblygiadol plant mewn lleoliadau mabwysiadol eu diwallu

Erthygl 28 – mae gan bob plentyn yr hawl i addysg. Mae'n rhaid i addysg gynradd fod am ddim. Mae'n rhaid i addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Mae'n rhaid i drefniadau disgyblu mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Mae'n rhaid i wledydd mwy cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn

Erthygl 29 – dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i'r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant nhw eu hunain a diwylliannau eraill

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff amrywiaeth sylweddol o wasanaethau eu darparu i bob plentyn a pherson ifanc (sy'n cynnwys plant sy'n derbyn gofal, plant a gaiff eu lletya a phlant a fabwysiadwyd). 

Erthygl 33 – dylai'r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o amddiffyn plant rhag cyffuriau peryglus  

Erthygl 34 – mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag achosion o gam-drin a chamfanteisio rhywiol 

Erthygl 36 – mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag pob math arall o gamfanteisio a allai achosi niwed iddynt

Diben cyffredinol y Rheoliadau yw diogelu a hyrwyddo llesiant plant a fabwysiadwyd a'u galluogi i adfer a gwella o niwed yn y gorffennol. Mae'r broses o leoli plant i'w mabwysiadu yn anelu at hyrwyddo canlyniadau llesiant personol, sy'n cynnwys eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. 

Mae lleoli plentyn agored i niwed, y mae angen gofal a chymorth arno i'w helpu i ddatblygu ac i gefnogi ei ganlyniadau llesiant, â theulu mabwysiadol sefydlog a chefnogol yn hollbwysig o ran cefnogi'r plentyn hwnnw. Mae llais y plentyn yn rhan greiddiol o'r broses asesu, cynllunio ac adolygu ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol/asiantaethau sicrhau ei fod yn cael rhywfaint o ddewis o ran y gwasanaethau a fydd yn ei gefnogi unwaith y bydd gorchymyn mabwysiadu/lleoliad wedi'i ddyfarnu, gan sicrhau y gall ddylanwadu ar ansawdd a chyfeiriad y cymorth y bydd yn ei gael. 

Mae effeithiau cadarnhaol allweddol y cynnig hwn yn cynnwys y ffaith y bydd plant yn cael eu paru'n gyflymach â theuluoedd mabwysiadol addas, yn hytrach na'r oedi presennol a achosir gan COVID-19, ac y bydd y cyfnod o amser y byddant yn ei dreulio yn y system ofal felly'n lleihau. 

Bydd newidiadau i'r broses asesu a chymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr hefyd yn gwella'r wybodaeth a'r cymorth a roddir i ddarpar fabwysiadwyr, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd am y gofal a'r cymorth sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Yn ogystal, byddant yn rhoi cyfle gwirioneddol iddynt leisio barn am y broses fabwysiadu a'r gofal a'r cymorth a gânt (drwy adolygiadau) gan ddarparwr y gwasanaeth. 

Ni nodwyd unrhyw achosion o wrthdaro ag unrhyw erthyglau yn CCUHP.