Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaid anfon pob Asesiad Effaith ar Hawliau Plant i CRIA@llyw.cymru 

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol? 
  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati)? 
  • pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr? 
  • sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam
  • pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad? 

Cefndir

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (yn rheoliad 26(a)) yn cynnwys gofyniad bod yn rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd yn dilyn archwiliad meddygol llawn. Yn ystod argyfwng COVID-19, mae swyddogion yn ymwybodol bod gallu'r GIG i ddarparu'r asesiadau iechyd hyn i ddarpar fabwysiadwyr wedi lleihau'n sylweddol wrth iddo ailgyfeirio ei flaenoriaethau tuag at ymdrin â'r argyfwng.

Mae'r sector mabwysiadu wedi newid ei brosesau a'i ffordd o weithio yn gyflym er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg o bell i sicrhau bod cymorth mabwysiadu ar gael o hyd a bod swyddogaethau fel paneli penderfyniadau mabwysiadu yn parhau i weithredu. 

Fodd bynnag, mae'r ffaith na all darpar fabwysiadwyr gael archwiliad llawn gan ymarferydd meddygol wedi arwain at 'ôl-groniad' yn y system sy'n atal y broses fabwysiadu rhag mynd rhagddi ac yn atal plant rhag cael eu symud ymlaen at eu teuluoedd mabwysiadol.  

Felly, cynigir y dylid cyflwyno proses asesu feddygol rithwir lle y cynigir cyfle i feddygon teulu na allant gynnal ymgynghoriad wyneb-yn-wyneb ddilyn y llwybr asesu rhithwir. 

Cynigir y dylid rhoi'r trefniant hwn ar waith dros dro er mwyn ymdrin â'r mater yn ystod y cyfnod lle na ellir cynnal asesiadau wyneb-yn-wyneb yn sgil COVID-19. Caiff y trefniant hwn ei adolygu'n rheolaidd a rhoddir gwybod i'r sector pan ddylid dychwelyd at y broses asesu 'arferol'. 

Y bwriad yw y bydd rhoi'r mesurau hyn ar waith am gyfnod dros dro yn lleihau achosion o oedi pellach wrth leoli plant gyda'u teuluoedd mabwysiadol. 

Cefndir deddfwriaethol

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr. 

Mae'r pwerau sy'n galluogi'r Rheoliadau hyn i gael eu gwneud wedi'u cynnwys mewn nifer o adrannau yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Maent fel a ganlyn: 

  • adran 9(1)(a) sy'n caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag awdurdodau lleol neu asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu
  • mae Adran 11(2) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 9 ragnodi'r ffioedd y gall awdurdodau lleol eu codi mewn perthynas â darparu cyfleusterau rhagnodedig sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Mabwysiadu lle y bodlonir yr amodau yn isadran (3)
  • mae Adran 12 yn caniatáu i reoliadau o dan adran 9 roi gweithdrefn ar waith y gall unrhyw unigolyn y gwnaed penderfyniad cymhwyso yn ei gylch gan asiantaeth fabwysiadu ei defnyddio i wneud cais i banel annibynnol adolygu'r penderfyniad hwnnw
  • mae Adran 45(1) o Ddeddf 2002 yn caniatáu i reoliadau o dan adran 9 wneud darpariaeth o ran y materion y dylai asiantaeth fabwysiadu eu hystyried wrth wneud penderfyniad, neu wrth lunio unrhyw adroddiad, ynghylch addasrwydd unrhyw unigolion i fabwysiadu plentyn. Mae Isadran (2) yn nodi, yn benodol, y gall y rheoliadau wneud darpariaeth at ddiben sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i'r angen am sefydlogrwydd a pharhad yn eu cydberthynas wrth wneud penderfyniad ynghylch addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn. Defnyddir y pŵer hwn, sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, i lunio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) Rhif 2) 2020 i'w gwneud hi'n ofynnol i asiantaethau mabwysiadu roi ystyriaeth briodol i'r angen am sefydlogrwydd a pharhad o fewn cydberthynas cwpl wrth asesu addasrwydd y cwpl i fabwysiadu
  • mae Adran 54 yn caniatáu i reoliadau o dan adran 9 ei gwneud hi'n ofynnol i asiantaethau mabwysiadu, o dan amgylchiadau rhagnodedig, ddatgelu gwybodaeth ragnodedig, yn unol â'r rheoliadau, i ddarpar fabwysiadwyr
  • mae Adran 83(4) a (5) yn caniatáu i reoliadau ei gwneud hi'n ofynnol i unigolyn sy'n bwriadu dod â phlentyn, neu achosi i rywun arall ddod â phlentyn, i mewn i'r Deyrnas Unedig o dan rai amgylchiadau ac amodau penodol gael ei asesu a'i gymeradwyo gan asiantaeth fabwysiadu fel unigolyn sy'n addas i fabwysiadu 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Defnyddir y pŵer yn adran 174(7) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd. Mae adran 174 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi gweithdrefn cynrychioliadau ar waith er mwyn ystyried cynrychioliadau (gan gynnwys cwynion) gan bobl benodol ac mae isadran (7) yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â'r weithdrefn honno. 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016') yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy reoliadau, y gofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn 'gwasanaethau rheoleiddiedig' sydd yn rhinwedd adran 2 (1) (d) ac atodlen 1 paragraff 4, yn cynnwys asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu na chânt eu gweithredu gan awdurdodau lleol. 

Effaith oedi wrth wneud penderfyniadau a lleoli 

Mae oedi wrth leoli plant â theuluoedd mabwysiadol yn ystod achosion gofal yn golygu bod yn rhaid i'r plant fyw mewn sefyllfa o ansicrwydd am gyfnod hwy drwy gydol y broses gan y byddant yn parhau'n rhan o'r system faethu. 

Yn aml, mae angen ymyriadau arbenigol ar blant sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso er mwyn ymdrin â chanlyniadau'r driniaeth honno, yn ogystal â chanlyniadau eu gwahanu o'u teulu genedigol. Un o ganlyniadau oedi wrth wneud penderfyniadau yw bod plant, wrth iddynt fynd yn hŷn, yn llai tebygol o gael budd o'r ymyriadau hyn, neu y bydd angen ymyriadau mwy arbenigol arnynt am gyfnod hirach. 

Yn achos plant a gaiff eu gosod i'w mabwysiadu, gall oedi gael effaith andwyol ar y tebygolrwydd y cânt eu mabwysiadu. Mae'r tebygolrwydd y caiff plentyn ei fabwysiadu yn lleihau bron i hanner am bob blwyddyn y ceir oedi (Selwyn et al, 2006) a'r oedran y bydd plentyn yn ymuno â theulu newydd yw'r newidyn a gaiff yr effaith fwyaf ar ganlyniadau mabwysiadu. Mae llesiant emosiynol ac ymddygiadol plant hefyd yn effeithio ar y tebygolrwydd y cânt eu mabwysiadu; po leiaf yr anawsterau emosiynol ac ymddygiadol a fydd ganddynt, y mwyaf tebygol y byddant o gael eu mabwysiadu. 

Gall achosion mynych o symud rhwng lleoliadau gofal dros dro waethygu'r niwed a wnaed i ddatblygiad plentyn o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod cynnar. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ansefydlogrwydd mewn gofal yn aml yn cael effaith andwyol sylweddol: gall waethygu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, achosi ansefydlogrwydd pellach, canlyniadau addysgol gwael, diweithdra ac oes o dlodi. Gall yr anawsterau emosiynol ac ymddygiadol hyn gynyddu'r tebygolrwydd y bydd lleoliad mabwysiadu yn methu. Mae Barnardo's yn ategu'r pwynt hwn drwy nodi y dylid ystyried anghenion sefydlogrwydd fel mater diogelu. Mae pwysigrwydd gwneud penderfyniadau amserol a dod o hyd i deulu mabwysiadol mewn ffordd amserol, a phwysigrwydd parchu angen y plentyn am sefydlogrwydd a pharhad, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynnar iawn bywyd plentyn, yn ffactorau pwysig y dylid parhau i'w hystyried yn ystod yr argyfwng. 

Felly, mae'n hanfodol bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth leoli plentyn â rhieni mabwysiadol yn ystod argyfwng COVID-19. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, wedi gweithio'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf i leihau'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i leoli plentyn â'i deulu mabwysiadol. Mae'n bwysig sicrhau na chaiff y momentwm hwn ei golli yn ystod y pandemig, gan fod y plant hyn ymhlith y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru a bod ganddynt anghenion cymhleth. Bydd darparu parhad a sefydlogrwydd iddynt yn eu galluogi i ffynnu a manteisio ar yr un cyfleoedd bywyd ag unrhyw blentyn arall, gan eu galluogi i fyw bywydau llawn a bodlon.

Mae'r pwysau cyfredol hefyd wedi cael effaith andwyol ar y system leoli ehangach ac, yn arbennig, ar y nifer o ofalwyr maeth sydd ar gael. Os na all plant symud ymlaen i'w teuluoedd parhaol, yna nid ydynt yn rhyddhau'r lleoliadau gofal maeth i blant eraill agored i niwed sy'n ymuno â'r system ofal.  O ganlyniad, ni fydd digon o leoliadau ar gael. 

Mae risg hefyd y bydd angen parhau i gynyddu nifer y darpar fabwysiadwyr a gaiff eu recriwtio. Os na chaiff y mater ei ddatrys, bydd nifer y mabwysiadwyr sydd ar gael yng Nghymru ar ôl COVID-19 yn lleihau. 

Cynnig 

Bydd cyflwyno proses asesu feddygol rithwir yng Nghymru yn ystod argyfwng COVID-19, lle na ellir cynnal archwiliadau wyneb-yn-wyneb, yn helpu i gefnogi'r broses fabwysiadu gan y bydd yn sicrhau y gall darpar fabwysiadwyr gael asesiadau meddygol ac y byddant yn gallu symud ymlaen i'r panel gwneud penderfyniad, gan alluogi'r broses fabwysiadu i fynd rhagddi. Bydd cyflwyno'r broses yn galluogi darpar fabwysiadwyr i gael eu cymeradwyo a fydd, yn ei dro, yn galluogi plant i symud drwy'r system a chael eu lleoli mewn cartrefi parhaol mewn ffordd effeithlon ac amserol. Bydd hyn o fudd i'r plentyn gan y bydd amrywiaeth o fabwysiadwyr ar gael er mwyn galluogi'r broses baru i fynd rhagddi. 

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar blant yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'r broses o gymeradwyo darpar fabwysiadwyr wedi cael ei hatal dros dro gan na ellir cynnal asesiadau meddygol wyneb-yn-wyneb ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Bydd hyn, yn ei dro, yn atal plant sy'n rhan o'r system ofal ac sy'n aros am leoliadau â theuluoedd parhaol i symud ymlaen. 

Bydd cyflwyno'r asesiad meddygol rhithwir ar gyfer darpar fabwysiadwyr lle nad oes modd cynnal archwiliad wyneb-yn-wyneb yn caniatáu i'r broses fabwysiadu yng Nghymru barhau i weithredu, a fydd yn golygu felly y gellir parhau i leoli plant â theuluoedd parhaol. 

Nid fydd y cynnig hwn yn cael unrhyw effaith negyddol ar blant.  Bydd yr holl fesurau diogelu sydd ar waith yn debyg i'r archwiliadau wyneb-yn-wyneb 'arferol' cyn COVID-19. 

Mae risg bob amser y daw pryder iechyd i'r amlwg ar ôl cyflwyno adroddiad y meddyg teulu a barn y Cynghorydd Meddygol; mae'r risg hon hefyd yn berthnasol yn ystod yr ymgyngoriadau wyneb-yn-wyneb a gynhaliwyd cyn COVID-19. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir am ragor o wybodaeth a chynhelir rhagor o ymchwiliadau/atgyfeiriadau a chaiff y sefyllfa ei hailarfarnu. Mae gonestrwydd yn rhan bwysig o'r broses o asesu mabwysiadwyr a lle bydd unrhyw newidiadau i amgylchiadau (gan gynnwys iechyd), disgwylir i'r ymgeisydd mabwysiadol dynnu sylw'r gweithiwr cymdeithasol neu'r asiantaeth sy'n cynnal yr asesiad at y newidiadau hyn. Disgwylir hyn ar unrhyw adeg, cyn iddynt gael eu cymeradwyo neu ar ôl hynny.

Mae nifer o gamau sicrwydd wedi'u cynnwys yn y system er mwyn atal unrhyw achosion o'r fath ac mae'r camau sicrwydd hyn hefyd wedi'u cynnwys yn y cynnig asesu rhithwir. Er enghraifft: 

  • os bydd unrhyw amheuaeth neu ansicrwydd, gall y meddyg teulu argymell y dylid cynnal archwiliad llawn
  • caiff adroddiad y meddyg teulu ei adolygu gan y Cynghorydd Meddygol, na fydd yn argymell y dylid cymeradwyo'r unigolyn os bydd unrhyw amheuaeth
  • gall y cynghorydd meddygol gysylltu â'r meddyg teulu cyn gwneud argymhelliad os bydd angen a/neu gall ofyn am ragor o wybodaeth, gan gynnwys adroddiadau gan feddygon ymgynghorol arbenigol

Mae'r broses ar gyfer asesu mabwysiadwyr yn un gadarn ac mae'n cynnwys nifer o 'freciau' eraill, fel yr amlinellir isod:

  • gall yr asiantaeth fabwysiadu, pan fydd yn cael argymhelliad y Cynghorydd Meddygol, ofyn am ragor o wybodaeth neu gall ofyn cwestiynau os bydd unrhyw bryder y dylid cynnal archwiliad meddygol cyn cyflwyno'r cais ger bron panel gwneud penderfyniad
  • gall elfennau eraill o'r broses asesu alluogi gwybodaeth i ddod i'r amlwg sy'n nodi materion meddygol posibl na chawsant eu nodi, a thrwy hynny, ganiatáu iddi gael ei harchwilio a chael cyngor meddygol pellach
  • gall y panel gwneud penderfyniad hefyd weithredu 'brêc' posibl arall os bydd ganddo amheuon/pryderon, gan y gall ofyn am ragor o wybodaeth h.y. archwiliad
  • yn yr un modd eto, gellir gweithredu 'brêc' posibl arall os bydd gan wneuthurwr penderfyniadau'r asiantaeth amheuon/pryderon
  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati?)

Mae'r broses fabwysiadu wedi newid dros y 30 mlynedd diwethaf. Yn y gorffennol, roedd y rhan fwyaf o'r plant a oedd yn cael eu mabwysiadu wedi'u cyflwyno i'w mabwysiadu fel babanod gan eu rhieni genedigol. Nawr, caiff y rhan fwyaf o'r plant a gaiff eu mabwysiadu eu symud o'u teulu genedigol gan eu bod wedi profi trawma fel rhan o'r teulu hwnnw; mae canran uchel o blant a gaiff eu mabwysiadu wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel camdriniaeth ac esgeulustod. I lawer o blant, mae hyn yn dechrau yn y groth, drwy gael eu hamlygu i alcohol, sylweddau eraill a cham-drin domestig. Gall fod risg geneteg uwch hefyd y bydd rhai plant a gaiff eu mabwysiadu yn wynebu anawsterau datblygiadol (fel ADHD neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig) ac anawsterau iechyd meddwl. Mae nifer uchel o blant hefyd sydd wedi cael profiad o fyw mewn amodau tlodi.

Mae'r weithdrefn fabwysiadu ar gael i bob plentyn os ystyrir mai dyma fyddai'r penderfyniad gorau er mwyn i'r plentyn gael sefydlogrwydd. Caiff lleoliadau mabwysiadu eu cymeradwyo er budd y plentyn a phan fyddant yn diwallu ei anghenion unigol, felly mae'n rhaid i asiantaethau mabwysiadu ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn yn ystod y broses baru. Byddai angen parchu'r angen i leoli plentyn sy'n siarad Cymraeg â theulu sy'n siarad Cymraeg pe ystyriwyd o ddifrif bod hynny o fudd i'r plentyn.

Felly, bydd y cynnig yn cefnogi pob plentyn gan ei fod yn galluogi i'r broses fabwysiadu ailddechrau yn ystod argyfwng COVID-19 a thrwy hynny, ganiatáu i blant gael eu paru a'u lleoli gyda'u teuluoedd parhaol.

Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Cyflwynodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol y cynnig i Lywodraeth Cymru gan fod y ffaith na ellir cynnal archwiliadau meddygol wyneb-yn-wyneb wedi cael effaith andwyol ar y gallu i fwrw ati i gymeradwyo darpar fabwysiadwyr a lleoli plant â theuluoedd mabwysiadol. 

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi darparu ystadegau gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn yr holl Fentrau Cydweithredol Rhanbarthol yng Nghymru sy'n nodi ar hyn o bryd bod tua 152 o asesiadau yn y system ac na all 82 o'r asesiadau hyn symud ymlaen i'r cam cymeradwyo am nad oes modd cynnal asesiad meddygol. Disgwylir i'r unigolion hyn symud ymlaen i'r panel gwneud penderfyniad ym mis Gorffennaf a mis Awst os caiff yr asesiadau meddygol eu cwblhau. Mae'n debygol y bydd effaith hefyd ar yr asesiadau sy'n weddill o blith yr 152 yn ystod y misoedd nesaf. 

Sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam 

Nid ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc.  Mae'r mater hwn yn ymwneud ag effeithiau argyfwng COVID-19 a'r ffaith na ellir cynnal asesiadau meddygol wyneb-yn-wyneb ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, CoramBAAF yn Lloegr ac AFA Cymru yng Nghymru i ddarparu proses amgen er mwyn galluogi'r broses fabwysiadu i barhau, ond gan sicrhau hefyd fod yr holl gamau diogelu angenrheidiol ar waith. O ganlyniad i natur frys y sefyllfa, ymgynghorwyd ag asiantaethau mabwysiadu rhanbarthol a gwirfoddol, a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (GPCW) a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru (RCGP).  Ni chaiff y newid proses unrhyw effaith ar y plentyn; unwaith y bydd mabwysiadydd wedi'i gymeradwyo, caiff plentyn ei leoli yn y ffordd arferol.  Felly, nid oes angen ymgynghori â phlant a phobl ifanc, gan fod y broses hon yn caniatáu i'r gwasanaeth 'arferol' barhau ar eu cyfer. Fodd bynnag, bydd methu â chyflwyno'r broses newydd yn achosi oedi yn y broses fabwysiadu ar gyfer y plant agored i niwed hyn gan na fydd modd cymeradwyo darpar fabwysiadwyr. 

Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Cymeradwywyd y broses hon gan yr Adran Addysg ac mae'n cael ei chyflwyno yn Lloegr ar hyn o bryd.  Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 yn cynnig cyfle i gyflwyno'r newid dros dro hwn. 

Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Yn yr adran hon, mae angen asesiad sy'n rhoi barn wybodus ynghylch effaith debygol y cynnig ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n hollbwysig eich bod yn osgoi'r dybiaeth bod y canlyniadau y bwriedir eu cael, fel y'u nodir uchod, yr un peth â'r effaith a ragwelir ar hawliau plant. 

Bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut mae'r canlyniadau y bwriedir eu cael yn cysylltu â hawliau plant a pha effaith a gânt. Efallai y rhagwelir effeithiau sy'n wahanol i'r canlyniadau y bwriedir i'r cynnig eu cael. 

Dylech wneud y canlynol: 

  • nodwch pa erthyglau o'r Confensiwn sydd fwyaf perthnasol i'r cynnig
  • eglurwch a yw'r cynnig yn cynyddu i'r eithaf, yn cefnogi neu'n hyrwyddo hawliau plant o dan y Confensiwn, ac os ydyw, sut y gwna hynny, gan wneud cysylltiadau rhwng y canlyniadau a nodwyd yng nghwestiwn 1 a'r hawliau rydych wedi'u nodi
  • cofiwch fod hyrwyddo hawliau plant yn cynnwys: cynyddu mynediad plant at eu hawliau, neu wasanaethau a/neu adnoddau sy'n rhoi mynediad at hawliau, neu alluogi plant i gymryd rhan a manteisio ar eu hawliau. Dylech egluro sut mae'r cynnig yn cyflawni'r amcanion hyn, os o gwbl
  • eglurwch unrhyw effaith negyddol ar hawliau plant sy'n codi o'r cynnig, gan gynnwys unrhyw ostyngiad mewn adnoddau sydd ar gael i gefnogi polisïau neu raglenni
  • wrth ystyried pob un o'r cwestiynau uchod, sicrhewch eich bod yn cadw mewn cof sut y bydd y cynnig yn effeithio ar hawliau gwahanol grwpiau o blant (e.e. plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anableddau ac ati)
  • cyfeiriwch at unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sydd wedi llywio eich asesiad, gan gynnwys yr hyn a gasglwyd gan blant neu eu cynrychiolwyr 

Nodir y trefniadau ar gyfer cynllunio gofal a lleoli plant sy'n derbyn gofal yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a'r Cod Ymarfer Rhan 6 ar Blant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya. Mae'r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y ffordd y dylai darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat ddiwallu anghenion plant a gaiff eu lleoli gyda'u gofalwyr maeth.

Erthyglau

Mae'r cynnig hwn yn rhoi sylw priodol i ddyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), gan ystyried yr erthyglau canlynol yn bennaf:

Erthygl 1 – mae gan bob un o dan 18 oed yr holl hawliau yn y confensiwn

Erthygl 2 – mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn waeth beth fo'i ethnigrwydd, rhywedd, crefydd, galluoedd, waeth beth y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, ni waeth pa fath o deulu y daw ohono

Mae'r diwygiadau hyblyg i'r Rheoliadau yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru ac i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Maent yn pennu sut y bydd awdurdodau lleol yn asesu ac yn cymeradwyo darpar fabwysiadwyr ac, i'r un graddau, sut y byddant yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn a gaiff ei baru, sy'n cynnwys rhoi ystyriaeth ddyledus i etifeddiaeth, ethnigrwydd, crefydd a dewis iaith y plentyn. 

Erthygl 3 – dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant anelu at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn galluogi awdurdodau lleol i fwrw ati â'r broses fabwysiadu. Bydd hyn o fudd i'r plentyn gan y bydd yn sicrhau bod cyflenwad o ddarpar fabwysiadwyr yn barod i gael eu paru â rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas er mwyn gallu trefnu lleoliadau ar eu cyfer. Bydd hyn yn sicrhau y caiff eu hanghenion sylfaenol eu diwallu ac y cânt gynnig yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. 

Erthygl 4 – dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad o fabwysiadwyr ar gael. Bydd hyn yn creu hawl gyson i bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i gael ei leoli â theulu mabwysiadol a fydd yn galluogi'r plentyn i gael yr un cymorth a'r un cyfleoedd bywyd ag unrhyw blentyn arall. 

Erthygl 6 – mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu mewn ffordd iach

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad cyson o fabwysiadwyr ar gael.  Bydd hyn yn cynnig y cyfle i leoli plentyn â gorchymyn lleoli â theulu mabwysiadol a fydd yn darparu'r holl gymorth a gofal sydd eu hangen arno i gyflawni ei ganlyniadau llesiant personol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r holl gymorth sydd ei angen ar y plentyn a'r teulu mabwysiadol er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus ac er mwyn galluogi'r plentyn i barhau i ffynnu. 

Erthygl 8 (amddiffyn a chadw hunaniaeth) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc ei gefnogi gan ei rieni mabwysiadol i gynnal cysylltiadau teuluol, gan gynnwys cysylltiadau personol a chysylltiadau uniongyrchol â'i rieni genedigol a'i frodyr a'i chwiorydd (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan y llysoedd). 

Erthygl 12 (parch tuag at farn y plentyn)

Gall y plentyn neu'r person ifanc fynegi ei farn yn rhydd yn ystod pob cam o'r broses, a chaiff ei gefnogi i leisio ei farn. Rhoddir ystyriaeth briodol i farn y plentyn neu'r person ifanc wrth wneud penderfyniadau. 
Erthygl 13 (rhyddid mynegiant) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc wybodaeth briodol am y lleoliad mabwysiadol, sy'n addas ar gyfer ei oedran a'i lefel dealltwriaeth, a chymorth i ddeall y wybodaeth hon. 

Erthygl 19 – dylai llywodraethau sicrhau y caiff plant ofal priodol, a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt

Mae'r trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn cefnogi Erthygl 19 gan ei bod yn golygu y gellir lleoli plentyn â theulu mabwysiadol. Caiff y broses ei rheoleiddio er mwyn sicrhau y caiff pob plentyn ei amddiffyn rhag trais, camdriniaeth a niwed. Mae awdurdodau lleol yn darparu'r holl gymorth angenrheidiol er mwyn diogelu'r plentyn wrth i'r lleoliad fynd rhagddo. 

Erthygl 20 – mae'n rhaid i blant na all eu teulu eu hunain ofalu amdanynt dderbyn gofal priodol, gan bobl sy'n parchu eu crefydd, eu diwylliant a'u hiaith

Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried gwneud trefniadau ar gyfer lleoliad mabwysiadu, mae'n rhaid iddynt ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn. Mae'n rhaid i'r Gorchymyn Mabwysiadu ystyried unrhyw help y byddai ei angen ar y plentyn er mwyn parhau â'r cysylltiadau hyn. 

Erthygl 21 – pan gaiff plant eu mabwysiadu, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r hyn sydd orau iddynt. Mae'r un rheolau yn gymwys pa un a gaiff y plant eu mabwysiadu yn eu gwlad enedigol neu os byddant yn mynd i fyw mewn gwlad arall

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yw'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu o hyd. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys gwasanaeth mabwysiadu rhwng gwledydd yn ei ardal ac i sicrhau y caiff gwasanaethau mabwysiadu o ansawdd uchel eu darparu'n gyson ledled Cymru. 

Erthygl 23 – dylai plant ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig er mwyn iddynt allu byw bywyd llawn a bodlon

Wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl y mae angen gofal a chymorth arnynt, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff eu hanghenion llesiant emosiynol a chorfforol eu diwallu bob amser. 

Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd)

Caiff anghenion iechyd ac anghenion datblygiadol plant mewn lleoliadau mabwysiadol eu diwallu

Erthygl 28 – mae gan bob plentyn yr hawl i addysg. Mae'n rhaid i addysg gynradd fod am ddim. Mae'n rhaid i addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Mae'n rhaid i drefniadau disgyblu mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Mae'n rhaid i wledydd mwy cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn

Erthygl 29 – dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i'r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant nhw eu hunain a diwylliannau eraill

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff amrywiaeth sylweddol o wasanaethau eu darparu i bob plentyn a pherson ifanc (sy'n cynnwys plant sy'n derbyn gofal, plant a gaiff eu lletya a phlant a fabwysiadwyd). 

Erthygl 33 – dylai'r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o amddiffyn plant rhag cyffuriau peryglus  

Erthygl 34 – mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag achosion o gam-drin a chamfanteisio rhywiol 

Erthygl 36 – mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag pob math arall o gamfanteisio a allai achosi niwed iddynt

Diben cyffredinol y Rheoliadau yw diogelu a hyrwyddo llesiant plant a fabwysiadwyd a'u galluogi i adfer a gwella o niwed yn y gorffennol. Mae'r broses o leoli plant i'w mabwysiadu yn anelu at hyrwyddo canlyniadau llesiant personol, sy'n cynnwys eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. 

Mae lleoli plentyn agored i niwed, y mae angen gofal a chymorth arno i'w helpu i ddatblygu ac i gefnogi ei ganlyniadau llesiant, â theulu mabwysiadol sefydlog a chefnogol yn hollbwysig o ran cefnogi'r plentyn hwnnw. Mae llais y plentyn yn rhan greiddiol o'r broses asesu, cynllunio ac adolygu ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol/asiantaethau sicrhau ei fod yn cael rhywfaint o ddewis o ran y gwasanaethau a fydd yn ei gefnogi unwaith y bydd gorchymyn mabwysiadu/lleoliad wedi'i ddyfarnu, gan sicrhau y gall ddylanwadu ar ansawdd a chyfeiriad y cymorth y bydd yn ei gael. 

Mae effeithiau cadarnhaol allweddol y cynnig hwn yn cynnwys y ffaith y bydd plant yn cael eu paru'n gyflymach â theuluoedd mabwysiadol addas, yn hytrach na'r oedi presennol a achosir gan COVID-19, ac y bydd y cyfnod o amser y byddant yn ei dreulio yn y system ofal felly'n lleihau. 

Bydd newidiadau i'r broses asesu a chymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr hefyd yn gwella'r wybodaeth a'r cymorth a roddir i ddarpar fabwysiadwyr, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd am y gofal a'r cymorth sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Yn ogystal, byddant yn rhoi cyfle gwirioneddol iddynt leisio barn am y broses fabwysiadu a'r gofal a'r cymorth a gânt (drwy adolygiadau) gan ddarparwr y gwasanaeth. 

Ni nodwyd unrhyw achosion o wrthdaro ag unrhyw erthyglau yn CCUHP.