Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau trydedd don astudiaeth hydredol sy’n asesu effaith Isafbris am Alcohol (IA) ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Glyndŵr a Gwasanaeth Ymgynghorol Ffigur 8.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd ddwy flynedd ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith. Mae’r canfyddiadau’n rhoi asesiad dros dro pwysig o effaith IA ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru.

Mae’r adroddiad dros dro hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd ddwy flynedd ar ôl gweithredu’r IA gan ddefnyddio dau ddull ymchwil.

  1. Arolwg holiadur trawstoriadol, dienw, ar-lein o yfwyr sy’n oedolion sy’n byw yng Nghymru
  2. Chyfweliadau ansoddol ag yfwyr sy’n oedolion yn byw yng Nghymru a oedd naill ai wedi cymryd rhan yn y cyfweliadau gwaelodlin a oedd yn rhan o’n hastudiaeth cyfweliad hydredol, neu wedi cael eu recriwtio i gymryd lle cyfweleion a oedd wedi tynnu’n ôl o’r astudiaeth hydredol.

Roedd y themâu allweddol yr ymchwiliwyd iddynt yn yr astudiaeth yn cynnwys:

  • ymwybyddiaeth o weithrediad IA ac agweddau tuag ato
  • paratoi a chynllunio ar gyfer gweithredu IA
  • newidiadau mewn pris ac argaeledd
  • effaith IA ar batrymau yfed
  • newidiadau mewn ymddygiadau eraill sy'n gysylltiedig ag yfed
  • newidiadau mewn gwariant cartrefi a phatrymau prynu alcohol
  • newidiadau yn y defnydd o sylweddau eraill
  • effaith IA ar fywydau personol yfwyr
  • effaith IA ar yfwyr eraill

Cwblhaodd cant ac wyth deg chwech o yfwyr yr arolwg holiadur trawstoriadol ôl-weithredu, sy’n sampl ychydig yn fwy na’r sampl sylfaenol (n=179). Recriwtiwyd ymatebwyr yr arolwg trwy ein rhwydweithiau o gysylltiadau a thrwy rannu dolen i'r arolwg ar gyfryngau cymdeithasol.

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 44 o yfwyr a gafodd eu recriwtio drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, dwy brifysgol, sefydliadau trydydd sector, a’r arolwg ar-lein. Rhoddwyd taleb siopa gwerth £10 i'r holl gyfweleion am gymryd rhan a chytunodd pawb i gymryd rhan mewn cyfweliadau dilynol dros gyfnod yr astudiaeth hydredol pum mlynedd.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar yfwyr presennol 18 oed neu hŷn a oedd yn byw yng Nghymru. Roedd y sampl cyfweliadau h hydredol a’r sampl arolwg trawstoriadol yn cynnwys yfwyr o wahanol rannau o Gymru a oedd yn amrywio o ran eu nodweddion demograffig cymdeithasol, patrymau yfed, ansawdd bywyd canfyddedig, defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, incwm a gwariant y cartref. Fodd bynnag, nid oedd grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi'u cynrychioli'n dda yn y naill sampl na'r llall, tra bod menywod a myfyrwyr prifysgol wedi'u gorgynrychioli yn sampl yr arolwg a thrigolion hostel wedi'u gorgynrychioli yn y sampl cyfweld.

Cefndir a chyd-destun

Mae IA yn golygu gosod isafbris ar alcohol na ellir ei werthu na’i gyflenwi’n gyfreithiol islaw iddo.

Yng Nghymru, roedd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn galluogi cyflwyno isafbris am alcohol ar sail iechyd y cyhoedd, maes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac yna cyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth ar ddiwedd cyfnod adolygu pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r adroddiad hwnnw’n chwarae rhan bwysig wrth benderfynu a gaiff rheoliadau eu gwneud i ddarparu ar gyfer parhad IA y tu hwnt i’w oes bresennol o chwe blynedd.

Er mwyn llywio’r adroddiad ar weithrediad ac effaith, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad o’r ddeddfwriaeth dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r gwerthusiad hwnnw ac mae’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ddwy flynedd ar ôl gweithredu’r IA. Dyma’r ail o dri adroddiad ôl-weithredu a fydd yn archwilio patrymau yfed alcohol ac ymddygiadau cysylltiedig ymhlith yfwyr cymedrol, peryglus a niweidiol o fewn poblogaeth gyffredinol Cymru.

Prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth o ac agweddau tuag at weithredu IA

Er bod y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ymwybodol o IA, roedd lleiafrif sylweddol nad oedd, gan awgrymu naill ai nad oedd cyhoeddusrwydd am IA mor helaeth ag y gallai fod neu nad oedd rhai pobl wedi sylwi arno.

Roedd y rhai nad oeddent yn ymwybodol yn cynnwys yfwyr dibynnol nad oeddent wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth o’r blaen, a’r rhai nad oedd IA wedi effeithio ar eu hyfed o’u dewis neu nad oeddent yn yfed digon i gael eu heffeithio gan y polisi.

Disgrifiodd y rhai a oedd yn ymwybodol o IA ddysgu amdano trwy amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys teledu (adroddiadau newyddion), radio, cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau ar-lein eraill.

Roedd y cyfranogwyr a allai ddwyn i gof gynnwys cyhoeddusrwydd am IA yn gymysg yn eu hatgofion gyda rhai yn cyfleu’r rhesymau dros y polisi tra bod eraill yn cofio gwybodaeth fwy cyffredinol yn eu hysbysu y byddai’r prisiau’n cynyddu.

Roedd y samplau’n gymysg o ran eu hagweddau tuag at IA gyda’r rhai a gyfwelwyd yn llawer llai cadarnhaol eu barn am y ddeddfwriaeth. Ysgogwyd agweddau ffafriol gan y gred y byddai IA yn helpu i leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Roedd agweddau llai ffafriol yn canolbwyntio ar yr effaith annheg ar yfwyr dibynnol a'r ffordd y gellid osgoi’r isafbris trwy siopa trawsffiniol.

Cafodd effaith gystadleuol COVID-19 ac amrywiadau arferol mewn prisiau alcohol eu nodi fel ffactorau dryslyd a effeithiodd ar welededd ac effeithiolrwydd IA.

Newidiadau mewn pris ac argaeledd

Roedd barn y cyfranogwyr wedi’i rannu’n weddol gyfartal o ran a oeddent wedi gweld unrhyw newidiadau mewn prisiau ai peidio ers cyflwyno IA.

Dywedodd y rhai nad oeddent wedi sylwi ar unrhyw beth fod hyn oherwydd nad oedd IA yn effeithio ar eu diod o ddewis neu gan nad oeddent yn prynu alcohol yn ddigon aml i sylwi ar unrhyw newidiadau. Pan sylwyd ar newidiadau roedd hyn yn fwyaf cyffredin mewn perthynas â phris seidr cryf er bod rhai newidiadau hefyd wedi'u nodi ym mhris lager cryf, gwirodydd a gwin.

Nododd rhai yfwyr absenoldeb cynigion a gostyngiadau yng Nghymru a oedd yn dal i fod ar gael yn Lloegr, ac ymatebodd rhai i’r gwahaniaeth pris hwn trwy deithio i Loegr i brynu alcohol am brisiau rhatach.

Ychydig o gyfranogwyr a nododd unrhyw newid yn argaeledd cynhyrchion alcohol. Fodd bynnag, gwelodd y rhai a sylwodd newidiadau ym maint a chryfder amryw o gynhyrchion, yn enwedig seidr a lager cryf. Roedd rhywfaint o fynegiad hefyd mai dim ond yn y siopau cyfleustra llai yr oedd rhai cynhyrchion ar gael erbyn hyn.

Effaith IA ar arferion yfed

Parhaodd y mwyafrif o’r yfwyr yn yr astudiaeth hon i yfed gyda’r un amlder a maint ag yr oeddent cyn i IA gael ei roi ar waith. Y prif resymau am hyn oedd oherwydd nad oedd IA wedi effeithio ar eu diod o ddewis neu gan nad oeddent yn yfed digon i’r newid mewn pris effeithio arnynt. Roedd rhai yfwyr dibynnol yn parhau heb eu heffeithio gan newidiadau mewn prisiau oherwydd eu bod yn dwyn yn hytrach na thalu am alcohol.

Ymhlith yr ychydig a adroddodd newidiadau yn eu hyfed alcohol, adroddwyd cynnydd a gostyngiadau ac weithiau adroddwyd ar y ddau ar wahanol adegau.

Dim ond mewn nifer fach o achosion y nodwyd IA fel ffactor a oedd yn achosi newidiadau. Pan chwaraeodd IA rôl, roedd yn rôl gefnogol i raddau helaeth a oedd yn atgyfnerthu penderfyniadau a achoswyd gan ffactorau eraill, yn fwyaf cyffredin ffactorau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu COVID-19.

Fodd bynnag, roedd nifer fach o achosion lle’r oedd IA yn ysgogydd clir ar gyfer newid gan gynnwys un yfwr dibynnol a ddewisodd ymuno â rhaglen ddadwenwyno oherwydd na allai fforddio alcohol bellach.

Newidiadau mewn ymddygiadau eraill sy’n gysylltiedig ag yfed

Nododd y mwyafrif helaeth o yfwyr fawr ddim newid yn y math neu frand o alcohol yr oeddent yn ei yfed.

Roedd y rhai a wnaeth newidiadau yn bennaf yn yfwyr risg uchel oedd yn disgrifio newid o seidr gwyn cryf i wirodydd naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â gwin a lagers cryf. Roedd hyn oherwydd bod y diodydd hyn yn cynnig gwell gwerth am arian. Mewn geiriau eraill, fel y rhagwelwyd mewn adroddiadau blaenorol, roedd yfwyr dibynnol yn prynu (neu mewn rhai achosion yn dwyn) y cynhyrchion a roddodd y ‘bang for their buck’ gorau iddynt.

Nodwyd newidiadau mewn brand hefyd gyda pheth tystiolaeth o symud oddi wrth ‘hunan-frandiau’ i frandiau premiwm wrth i'r gwahaniaeth pris leihau.

Yn fwy cyffredin (er mai dim ond mewn lleiafrif o achosion), adroddwyd newidiadau yn lleoliad defnydd, ond priodolwyd y newidiadau hyn i COVID-19 a’r cyfyngiadau cloi yn hytrach nag i IA.

Newidiadau mewn gwariant cartref a phatrymau prynu alcohol

Ychydig iawn o newid a ddywedodd y rhan fwyaf o yfwyr eu bod wedi gweld yn eu gwariant ar alcohol yn y cyfnod ers gweithredu IA. Pan adroddwyd am newidiadau roedd gostyngiadau yn fwy cyffredin na chynnydd, ac roedd hyn yn bennaf oherwydd ffactorau heblaw IA (e.e. y pandemig, newid mewn amgylchiadau a chynnydd mewn costau byw).

Pan nodwyd IA fel ffactor mewn unrhyw ostyngiad, roedd hyn ymhlith yfwyr dibynnol a ddisgrifiant leihau eu defnydd o alcohol oherwydd na allent fforddio parhau ar yr un lefel.

Roedd cynnydd mewn gwariant ar alcohol hefyd yn cael ei briodoli i IA. Nid oedd rhai yfwyr dibynnol wedi lleihau eu defnydd ac felly roeddent yn talu mwy oherwydd y cynnydd yn y pris. Dywedodd rhai yfwyr cymedrol eu bod yn gwario mwy hefyd ond nid oedd hyn oherwydd IA ond gan eu bod yn mynd allan mwy i gymdeithasu yn sgil y pandemig neu oherwydd eu bod yn yfed mwy nag o'r blaen.

Roedd llawer o yfwyr yn gallu amsugno unrhyw gynnydd mewn prisiau i’w cyllidebau presennol. Fodd bynnag, nid oedd pob yfwr yn y sefyllfa hon, ac roedd yn rhaid i rai (yn enwedig yfwyr dibynnol) ddefnyddio strategaethau ymdopi amrywiol, fel y rhagwelwyd mewn adroddiadau blaenorol, er mwyn parhau i yfed. Roedd hyn yn cynnwys dwyn o siopau, newid eu cyllidebau cartref i ryddhau arian ar gyfer alcohol, siopa trawsffiniol, siopa ar-lein ac mewn un achos bragu cartref.

Ychydig iawn o yfwyr a wnaeth newidiadau o ran ble a sut yr oeddent yn prynu alcohol. Disgrifiodd y rhai a wnaeth newidiadau ddefnyddio mwy o ddanfoniadau na chyn mis Mawrth 2020 a phriodolwyd hyn i'r pandemig yn hytrach nag IA. Dywedodd rhai yfwyr dibynnol eu bod wedi dechrau prynu mewn siopau cyfleustra gan na ellid prynu eu diod o ddewis (e.e. lagers cryf) mewn archfarchnadoedd rheolaidd mwyach.

Newidiadau mewn defnydd o sylweddau eraill

Fel y rhagwelwyd mewn adroddiadau blaenorol, ychydig o yfwyr a nododd unrhyw newidiadau yn eu defnydd o sylweddau eraill ers mis Mawrth 2020. Yn wir, nid oedd y rhan fwyaf o yfwyr wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon o'r blaen ac nid oeddent wedi dechrau gwneud hynny yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Pan adroddwyd am newidiadau roedd cynnydd yn fwy cyffredin na gostyngiadau a hyn yn cynnwys cynnydd yn y defnydd o grac, benzodiazepines a chanabinoidau synthetig, lle’r deallwyd eu bod yn cynnig gwell gwerth am arian nag alcohol. Fel y rhagwelwyd, roedd gan y rhai a ddywedodd eu bod wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar ôl mis Mawrth 2020 hanes o ddefnyddio sylweddau anghyfreithlon, er nad oedd pob un ohonynt wedi defnyddio'r math penodol hwnnw o gyffur o'r blaen.

Nododd nifer fach o yfwyr newidiadau yn eu defnydd o feddyginiaeth dros y cownter, a oedd yn cynnwys cynnydd (oherwydd straen corfforol a meddyliol) a gostyngiadau (oherwydd llai o gyfleoedd i ddal unrhyw salwch) a oedd yn fwy tebygol o gael eu priodoli i’r pandemig nag IA.

Roedd cynnydd yn y defnydd o fwyd a diodydd di-alcohol hefyd yn gysylltiedig â’r pandemig ac, yn benodol, gweithio o gartref, a roddodd fwy o gyfleoedd i fwyta ac yfed te a choffi.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth hefyd o gynnydd yn y defnydd o ddiodydd alcohol isel, lle’r nodwyd eu bod yn blasu’n well ac ar gael yn fwy cyffredin nag o’r blaen.

Yn groes i’r rhagfynegiadau, prin oedd y dystiolaeth o yfwyr yn amnewid bwyd am alcohol o ganlyniad i IA, a dim ond un yfwr adroddodd am ddefnydd alcohol di-ddiod wedi sylwi ar ei ffrind yn gwasgu alcohol o gadachau diheintio.

Effaith IA ar fywydau personol yfwyr

I’r mwyafrif o yfwyr, ychydig iawn o effaith, os o gwbl, a gafodd IA ar eu bywydau personol.

Pan adroddwyd am newidiadau mewn perthnasoedd, roedd y rhain fel arfer er gwaeth yn hytrach nag er gwell. Roedd y problemau’n arbennig o ddifrifol ymhlith yfwyr dibynnol a ddisgrifiant fwy o ddadlau oherwydd amharodrwydd i rannu eu cyflenwadau ag yfwyr eraill a pherthnasoedd dan straen o ganlyniad i alwadau cyson i fenthyg arian.

Fel y rhagwelwyd, nododd rhai yfwyr dibynnol gynnydd mewn troseddau meddiangar i dalu am eu defnydd parhaus o alcohol. Yn fwyaf cyffredin, roedd hyn yn golygu dwyn o siop neu dalu llai na'r isafbris i rywun arall ddwyn o siopau ar eu rhan.

Roedd cynnydd hefyd mewn lladrad ymhlith yfwyr stryd a oedd yn cael eu herlid pan oeddent yn feddw. Dywedwyd bod bod yn feddw ​​yn fwy tebygol ymhlith y rhai a oedd wedi newid o seidr i wirodydd.

Nododd rhai yfwyr welliannau yn eu hiechyd yn dilyn IA gan fod y cynnydd yn y pris wedi eu hannog i roi’r gorau i yfed neu leihau eu cymeriant. Nododd eraill, fodd bynnag, broblemau a oedd yn gysylltiedig â'r newid i wirodydd a'r straen cyffredinol o ymdopi â'r cynnydd mewn prisiau.

Nid oedd y rhan fwyaf o yfwyr wedi ceisio cymorth ar gyfer eu problemau’n ymwneud â sylweddau ers rhoi IA ar waith. Roedd gan yr ychydig a oedd wedi gwneud hynny hanes o driniaeth cyn mis Mawrth 2020. Disgrifiodd nifer fach o yfwyr IA fel y catalydd ar gyfer ceisio cymorth proffesiynol.

Effaith IA ar yfwyr eraill

Ychydig iawn o gyfranogwyr a sylwodd ar unrhyw effaith ar fywydau yfwyr yr oeddent yn eu hadnabod. Pan nodwyd newid, roedd yn bennaf ymhlith yfwyr dibynnol a welodd newidiadau mewn yfwyr dibynnol eraill. Roedd hyn yn cynnwys newid o seidr i lagers a gwirodydd cryfach, a chynnydd yn y defnydd o rai cyffuriau anghyfreithlon. Nid oedd yn glir bob amser i ba raddau yr oedd IA yn gyfrifol am y newidiadau hyn mewn ymddygiad.

Roedd rhai yfwyr dibynnol hefyd wedi gweld cynnydd mewn troseddu, er bod tystiolaeth o rai gostyngiadau hefyd.

Yn olaf, roedd rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig o yfwyr dibynnol yn symud cyllidebau eu haelwydydd oddi wrth fwyd i ryddhau arian i dalu am alcohol, ac un achos o ddiddyfnu alcohol angheuol yr ystyriwyd gan un cyfwelai ei fod wedi’i achosi gan IA.

Casgliadau

Dyma’r ail astudiaeth i gasglu adborth ar effaith isafbris am alcohol ar batrymau yfed ac ymddygiadau cysylltiedig yng Nghymru. Dyma'r cyntaf, fodd bynnag, i archwilio effaith IA ar adeg pan fo'r wlad yn rhydd o gyfyngiadau cysylltiedig â COVID-19. Mae’r astudiaeth hon felly yn un arwyddocaol yn yr asesiad o effaith IA ar yfwyr ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru. Mae nifer o gasgliadau pwysig i’w tynnu o’r gwerthusiad dros dro hwn.

Yn gyntaf, dwy flynedd ar ôl gweithredu, nid yw IA wedi cael fawr o effaith ar batrymau yfed yr yfwyr yn yr astudiaeth hon. Yn wir, dim ond lleiafrif bach o yfwyr a adroddasant am newidiadau yn amlder a maint eu defnydd o alcohol. Nodwyd gostyngiadau mewn defnydd yn amlach na chynnydd a cafwyd enghreifftiau o IA yn cael ei nodi fel ffactor allweddol mewn rhai o’r gostyngiadau hynny. Fodd bynnag, roedd yn fwy cyffredin i IA chwarae rhan gefnogol a oedd yn atgyfnerthu penderfyniadau i newid a achoswyd gan ffactorau eraill.

Yn ail, roedd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o IA yn gyfyngedig ymhlith yfwyr dibynnol nad oeddent wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad o’r blaen. Gellid felly ystyried datblygu rhywfaint o ddeunydd cyhoeddusrwydd ychwanegol sy’n targedu yfwyr dibynnol yn uniongyrchol, yn enwedig y rhai nad ydynt yn derbyn triniaeth, er mwyn sicrhau nad yw cyfleoedd i leihau niwed yn cael eu colli.

Yn drydydd, rhaid ystyried o ddifrif y canfyddiad bod rhai yfwyr yn sôn eu bod wedi osgoi’r ddeddfwriaeth drwy deithio dros y ffin i Loegr i brynu alcohol am brisiau rhatach. Fel y nodwyd yn flaenorol, os yw effaith IA i gael ei gwireddu’n llawn mewn cymunedau sy’n agos at y ffin, yna mae angen i bolisi alcohol mewn gwledydd cyfagos fod yn gyson â’r amcanion hynny. Byddai’r alwad ar Loegr gyflwyno IA unwaith eto yn ymddangos yn un rhesymegol yn y cyd-destun hwn.

Yn olaf, ac yn gyson ag ymchwil arall a ddeilliodd o’r Alban, canfu’r astudiaeth hon nad oedd y canlyniadau negyddol o gyflwyno IA a ragwelwyd yn eang yn cael eu hadrodd yn gyffredin ymhlith yfwyr yn yr astudiaeth hon. Fodd bynnag, nid yw hynny i ddweud eu bod yn gwbl absennol. Yn wir, dywedodd rhai o’r yfwyr dibynnol yn ein sampl eu bod wedi profi a gweld rhai canlyniadau iechyd a chymdeithasol difrifol, a briodolwyd yn uniongyrchol i IA. Mae’r newid o seidr i wirodydd a’r cynnydd mewn troseddau meddiangar yn enghreifftiau clir.

Mae’r canfyddiadau hyn yn ychwanegu pwysau at yr alwad am ddatblygu ymgyrch lleihau niwed ac am ddosbarthu gwybodaeth a chyngor perthnasol i’r grŵp bregus hwn o yfwyr. Maent hefyd yn ychwanegu pwysau at yr alwad am fynediad haws at driniaeth alcohol (dadwenwyno yn arbennig) ac at wasanaethau priodol eraill, gan gynnwys llety di-ddiod a chymorth iechyd meddwl.

Camau nesaf

Hwn yw’r trydydd o bedwar adroddiad sydd wedi’u cynllunio ar gyfer asesu effaith IA ar y boblogaeth ehangach o yfwyr. Bydd y pedwerydd adroddiad (a’r olaf) yn canolbwyntio ar ddata a gasglwyd 42 mis ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith. Bydd yr adroddiad dilynol hwnnw yn tynnu ar y data a gyflwynir yn yr adroddiad yma er mwyn asesu a monitro newidiadau mewn patrymau yfed alcohol ac ymddygiadau cysylltiedig, gan gynnwys patrymau prynu alcohol, dros amser.

Yn y don olaf o’r ymchwil, y bwriad yw cynnal cyfweliadau pellach gyda’n sampl o gyfwelai (gan, unwaith eto, lenwi lle unrhyw rai sy’n rhoi’r gorau iddi gyda mathau tebyg o yfwyr) ac ailadrodd yr arolwg trawstoriadol gydag yfwyr ledled Cymru.

Wrth symud ymlaen, mae hefyd yn bwysig cydnabod y gallai fod angen i unrhyw asesiad o effaith IA ar batrymau yfed alcohol yng Nghymru ystyried effeithiau dryslyd a chystadleuol megis ymatebion yfwyr i’r pandemig COVID-19 byd-eang parhaus, ynghyd â ffactorau dryslyd eraill megis yr argyfwng costau byw.

Mae’r portffolio ymchwil sy’n deillio o’r asesiad o IA ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yn bwysig. Bydd yn helpu i lywio ac arwain siâp a chwmpas IA yng Nghymru ac, o bosibl, gwledydd eraill ledled y byd.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Marian Buhociu, Katy Holloway, Shannon Murray (Prifysgol De Cymru), Wulf Livingston (Prifysgol Glyndŵr (Wrecsam)), Andy Perkins (Gwasanaeth Ymgynghorol Ffigur 8 Ltd (Dundee))

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Janine Hale
Ebost:  ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 18/2023
ISBN digidol 978-1-80535-404-8

Image
GSR logo