Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cynnig damcaniaethau newid ar gyfer pob rhan o'r Ddeddf, ac yn gwneud argymhellion ar gwmpas, dulliau a mesurau ar gyfer gwerthuso’r Ddeddf.

Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i rym yn llawn ym mis Ebrill 2023. Cynhaliwyd asesiad gwerthusadwyedd i ddatblygu argymhellion ar raglen briodol i werthuso gweithrediad y Ddeddf a’i heffaith. Roedd yn ystyried pob un o'r pedwar prif ddarpariaethau yn y Ddeddf: y Ddyletswydd Ansawdd, y Ddyletswydd Gonestrwydd, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r gofyniad i ymddiriedolaethau'r GIG gael Is-gadeirydd statudol.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno damcaniaeth newid a tabl ar fesurau canlyniadau arfaethedig ar gyfer pob rhan o'r Ddeddf.

Mae'r adroddiad yn argymell dull cymysg o ddadansoddi cyfraniadau er mwyn gwerthuso’r Ddeddf. Byddai'r dull hwn yn ceisio nodi i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi effeithio ar y canlyniadau a arsylwyd drwy brofi’r damcaniaethau newid yn erbyn tystiolaeth newydd a phresennol, gan gydnabod y cyd-destun cymhleth y mae'n cael ei gweithredu ynddo a chydnabod ffactorau dylanwadol eraill. Mae hyn yn debygol o gynnwys llinynnau gwerthuso proses ac effaith.

Mae'r adroddiad yn nodi cymysgedd o ffynonellau data presennol a chasglu data newydd y gellid eu defnyddio i lywio'r gwerthusiad.

Mae pob rhan o'r Ddeddf yn wahanol, gyda'i theori newid ei hun, felly mae'r adroddiad yn argymell un gwerthusiad trosfwaol gydag elfennau ar wahân ar gyfer pob rhan.

Cyswllt

Eleri Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.