Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Deddfwriaeth y DU) (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel ‘y Ddeddf’) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2020 ac fe’i cychwynnwyd yn llawn ym mis Ebrill 2023 [troednodyn 1], gyda Chorff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn dod yn weithredol o'r dyddiad hwn.  

Mae darpariaethau'r Ddeddf yn cynnwys y ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd gonestrwydd, Corff Llais y Dinesydd, a'r gofyniad i ymddiriedolaethau'r GIG gael is-gadeirydd statudol. Gwelliant parhaus yn ansawdd gwasanaethau yw'r cysyniad canolog sy'n sail i'r darpariaethau. Mae ansawdd yn cael ei weld fel ffordd o weithio ar draws y system, er mwyn galluogi gwasanaethau diogel, effeithiol, amserol, effeithlon a theg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng nghyd-destun diwylliant dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwerthuso’r Ddeddf fel rhan o’i hadolygiad ôl-weithredu. Bwriad y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad y Ddeddf a'i heffeithiau er mwyn asesu i ba raddau y mae'r effeithiau, y costau a'r manteision a ragwelir yn cael eu gwireddu, i bwy, sut a pham. Disgwylir i'r gwerthusiad ddechrau yn 2023, a bydd yn asesu’r tair blynedd gyntaf ar ôl gweithredu’r Ddeddf.

Yn 2022, comisiynodd Llywodraeth Cymru Opinion Research Services (ORS) i ymgymryd â Asesiad Gwerthusadwyedd o’r Ddeddf. Nod yr asesiad hwn yw gwneud argymhellion ar raglen briodol i werthuso gweithrediad y Ddeddf a'i heffaith.

Methodoleg

Roedd yr Asesiad Gwerthusadwyedd yn cynnwys gweithdai a chyfweliadau gyda Llywodraeth Cymru, y GIG, a rhanddeiliaid allweddol eraill, ac adolygiad o lenyddiaeth a dogfennaeth yn ymwneud â’r Ddeddf. Cynhaliwyd gweithdai ar wahân ar bob un o bedair rhan y Ddeddf. Defnyddiwyd y gweithdai a'r cyfweliadau i ddatblygu a mireinio'r ddamcaniaeth newid; archwilio pa ddefnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid ddylai fod yn rhan o'r gwerthusiad; nodi cwestiynau gwerthuso, blaenoriaethau, dulliau gweithredu, a data; ac ystyried goblygiadau yr amgylchedd polisi ehangach, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cyfunwyd y ddealltwriaeth hon o'r adolygiad o ddogfennau, gweithdai, a chyfweliadau â'n gwybodaeth a'n harbenigedd, yn ogystal â dealltwriaeth o lenyddiaeth fethodolegol, i lywio ein gwaith desg i ddatblygu mesurau canlyniadau; nodi ystyriaethau a goblygiadau ar gyfer y gwerthusiad; a gwneud argymhellion ar ddull gwerthuso.

Damcaniaethau newid

Mae'r adroddiad llawn yn cynnwys damcaniaeth newid a thabl ar fesurau canlyniadau a ffynonellau data ar gyfer pob rhan o’r Ddeddf. Ar adeg casglu data, roedd trafodaethau'n dal i gael eu cynnal i fireinio cynlluniau ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd gonestrwydd a Chorff Llais y Dinesydd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd angen ailedrych ar eu damcaniaethau newid, a’r argymhellion gwerthuso sy'n dibynnu arnynt, a'u datblygu ymhellach.

Data ar gyfer y gwerthusiad

Mae nifer o ffynonellau data presennol y gellid o bosibl eu defnyddio yn y gwerthusiad. Mae’r rhain yn cynnwys arolygon gyda’r cyhoedd (e.e. Arolwg Cenedlaethol Cymru), defnyddwyr gwasanaethau (e.e. Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion a Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion), a’r gweithlu (e.e. Arolwg Staff y GIG). Maent hefyd yn cynnwys, er enghraifft, adroddiadau blynyddol ar gyfer y ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd gonestrwydd a Corff Llais y Dinesydd; dogfennau polisi; a phapurau cyfarfod perthnasol. Lle nad yw Llywodraeth Cymru yn berchen ar y data, byddai angen archwilio mynediad at y ffynhonnell. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd archwilio cyfleoedd i ddefnyddio cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a'r Adnodd Data Cenedlaethol i lywio'r gwerthusiad. Dylai Llywodraeth Cymru geisio deall pa waith ymchwil a chasglu data perthnasol sydd eisoes ar y gweill i sicrhau y gall y gwerthusiad asio â hyn yn hytrach na’i ddyblygu.

Bydd angen rhywfaint o gasglu data sylfaenol hefyd. Rydym yn rhagweld y byddai hyn yn bennaf yn cynnwys ymchwil ansoddol gydag, er enghraifft, aelodau o'r cyhoedd a staff y GIG a gofal cymdeithasol yn gyffredinol, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth, staff a rhanddeiliaid sydd â phrofiad o agweddau penodol ar y Ddeddf. 

Dylai’r gwerthusiad geisio sefydlu llinell sylfaen ar gyfer pob maes o’r Ddeddf, lle bo’n berthnasol ac yn ymarferol, er mwyn mesur ei effaith yn gywir. Bydd hyn yn heriol oherwydd bylchau yn y data.

Cysylltiadau rhwng y gwahanol rannau o'r Ddeddf

Mae pob rhan o’r Ddeddf yn wahanol, ac yn meddu ar ei damcaniaeth newid ei hun, felly byddai’n well eu gwerthuso fel rhannau unigol yn hytrach nag yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, yn ddelfrydol byddai pob rhan yn cael ei chyfuno o fewn un gwerthusiad trosfwaol oherwydd eu themâu a rennir a chyfleoedd ar gyfer cydgrynhoi data (e.e. cyfuno gweithgareddau ymchwil ansoddol, lle bynnag y bo modd).

Fel y mae enw'r Ddeddf yn ei awgrymu, y themâu sy'n rhedeg drwyddi draw yw ansawdd a gosod y claf yng nghanol y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, yn enwedig ar gyfer y ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd gonestrwydd a Chorff Llais y Dinesydd. Adlewyrchir y themâu hyn yn gyffredin mewn tebygrwydd mewn rhai canlyniadau hirdymor a thymor canolig yn y damcaniaethau newid. Gallai'r gwerthusiad felly gynnwys elfen gyffredinol sy'n dwyn ynghyd y cysylltiadau yn eu nodau cyffredinol.

Ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y gwerthusiad

Dywedodd rhanddeiliaid y byddai’r Ddeddf yn helpu i wella’r system gofal iechyd ar gyfer y genhedlaeth nesaf, sy’n cysylltu i’r graddau mwyaf â’r nod llesiant o ‘Cymru iachach’ yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd ganddynt hefyd gysylltiad â ‘Cymru sy'n fwy cyfartal’. Gallai’r gwerthusiad geisio gwneud y cysylltiadau rhwng y Ddeddf a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn fwy eglur, er mwyn asesu cyfraniad y Ddeddf at gyflawni’r nodau llesiant.

Mae rhai cysylltiadau amlwg hefyd wedi’u gwneud rhwng y Ddeddf a’r pum ffordd o weithio. Gallai’r gwerthusiad archwilio sut mae’r ffyrdd o weithio wedi’u hymgorffori wrth weithredu'r Ddeddf. Gallai'r gwerthusiad hefyd fabwysiadu'n benodol y pum ffordd o weithio yn ei ddull.

Goblygiadau'r amgylchedd polisi ehangach ar gyfer y gwerthusiad

Bydd yn anodd asesu effaith y Ddeddf oherwydd y llu o ffactorau a mentrau sy'n dylanwadu ar y canlyniadau sy'n gysylltiedig â hi. Dylid cadw nifer o bolisïau a strategaethau mewn cof wrth gynllunio a chynnal y gwerthusiad naill ai oherwydd bod ganddynt oblygiadau ar gyfer gweithredu'r Ddeddf a/neu y gallent effeithio ar ganlyniadau o ddiddordeb y gwerthusiad. Mae polisïau a strategaethau perthnasol yn cynnwys, er enghraifft, Cymru Iachach (2021), y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol (2021), a chanllawiau diweddaraf Gweithio i Wella.

Argymhellion

Argymhellir dull cymysg o ddadansoddi cyfraniadau er mwyn gwerthuso’r Ddeddf. Mae dadansoddi cyfraniadau (Addressing attribution through contribution analysis: using performance measures sensbily (Jonn Mayne, 2001) (Better Evaluation); Contribution Analysis: Coming of Age? (John Mayne, 2012) (ResearchGate)) yn ceisio nodi i ba raddau y mae polisïau, rhaglenni neu wasanaethau yn achosi canlyniadau a arsylwyd trwy brofi damcaniaethau newid yn erbyn tystiolaeth newydd a phresennol a nodi ffactorau dylanwadol eraill. Yn hytrach na cheisio asesu'r rhagdybiaeth wrthffeithiol (h.y. yr hyn a fyddai wedi digwydd heb y Ddeddf), nod dadansoddi cyfraniadau yw sefydlu achosiaeth yn rhesymol o fewn lleoliadau cymhleth, gan gydnabod y gallai’r rhaglen, polisi neu ymyriad gael dylanwad, ynghyd â ffactorau eraill.

Dylai’r gwerthusiad gyfuno meysydd proses a chanlyniadau sy’n ceisio nodi effeithiau pob rhan o’r Ddeddf a’r mecanweithiau a ddefnyddiwyd i gyflawni’r effeithiau hyn, wedi’u seilio ar ddamcaniaethau newid. Dylid gwneud hyn drwy goladu a chyfuno mewnwelediad o ddata meintiol, ffynonellau dogfennol, ac ymgysylltu ansoddol.

Byddai asesu gwerth am arian y Ddeddf yn gymhleth ac mae'r opsiynau'n debygol o fod yn gyfyngedig. Fodd bynnag, gellid ystyried dadansoddi canlyniadau cost ar gyfer rhai rhannau o'r Ddeddf. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried pa ddata ar gostau sefydlu a darparu parhaus y gellid ei ddarparu. Wrth i gynlluniau gwerthuso gael eu cwblhau, bydd natur a chwmpas y data gwerthuso hefyd yn dod yn gliriach. Byddai hyn yn llywio ystyriaethau ynghylch dichonoldeb a chadernid y math hwn o ddadansoddiad.

O ystyried yr amserlenni, dylai'r gwerthusiad ymgorffori canlyniadau tymor byr a chanolig, ac ystyried sut y gellid asesu'r canlyniadau hirdymor ar ôl cwblhau'r gwerthusiad cychwynnol. Nid oedd yr Asesiad Gwerthusadwyedd yn gallu sefydlu maint y canlyniadau a ragwelwyd, felly dylid ystyried hyn fel rhan o'r gwerthusiad. Dylid casglu a dadansoddi data ar adegau allweddol drwy gydol y gwerthusiad, gan gynnwys olrhain cynnydd mewn canlyniadau dros amser, a chynnwys yr un defnyddwyr gwasanaeth mewn ymchwil ansoddol ar adegau gwahanol lle bo modd.

Dylai'r gwerthusiad gael ei gynnal gan ymchwilwyr annibynnol â'r sgiliau priodol er mwyn sicrhau gwrthrychedd. Dylai ymchwilwyr hefyd fod wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol wrth gynnal ymchwil sensitif gyda chyfranogwyr agored i niwed, sy'n ystyriaeth allweddol ar gyfer ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi profi niwed i werthuso’r ddyletswydd gonestrwydd.

Troednodiadau

[1] Yr unig ddarpariaeth sydd i’w chychwyn yn sylweddol cyn hyn yw adran 24, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt o’r farn ei bod yn briodol, i benodi is-gadeirydd i ymddiriedolaeth GIG. Daeth y ddarpariaeth hon i rym erbyn diwedd 2021.

Manylion cyswllt

Awduron: Phillips, L., a Lock, K.

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ebost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 93/2023
ISBN digidol: 978-1-83504-580-0

Image
GSR logo