Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Ruth Glazzard Cadeirydd


Rwy'n falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gyfer 2025 i 2026. Dyma flwyddyn sydd, yn fy marn i, yn ddechrau pennod newydd i’r sefydliad. 

Eleni rydym wedi bod yn brysur yn gosod y sylfeini ar gyfer cyflwyniad ein gwasanaethau newydd i'r cyhoedd – cofrestru llety ymwelwyr ac Ardoll Ymwelwyr. Hefyd, penodwyd Rebecca Godfrey, ein Prif Weithredwr a'n Swyddog Cyfrifyddu newydd, i'n harwain trwy’r cyfnod nesaf. 

Dechreuodd ACC weithredu yn 2018, gan osod nod pendant i’w hunan: casglu treth i Gymru mewn ffordd sy'n adlewyrchu gwerthoedd Cymru. Ac 8 mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi casglu dros £2.7 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae hynny'n gyflawniad rhyfeddol i sefydliad ifanc. Mae'n adlewyrchiad o’r ymddiriedaeth y mae trethdalwyr, asiantau a phartneriaid yn ei roi ynom ni. Ond, nid diwedd y gân yw’r geiniog eleni. Eleni, rydym wedi bod yn adeiladu hefyd. 

Mae ein 'Cynllun Corfforaethol 2025 i 2028' yn gosod ein cwys glir. Yr adroddiad blynyddol hwn yw’r cyntaf i ddangos ein cynnydd yn erbyn hwnnw. Mae'r Bwrdd wedi bod yn rhan fawr o oruchwylio'r gwaith hwnnw, ac rwy'n falch o'r hyn y mae’n ei ddangos. 

Rwyf hefyd yn awyddus i fyfyrio ar le ACC ym mywyd cyhoeddus Cymru. Sefydliad bach ydym ni, ond mae ein gwaith yn bwysig. Mae sut rydym yn casglu refeniw – gyda thegwch, cysondeb a pharch – yn bwysig hefyd. Mae Ein Dull yn fwy na dim ond fframwaith gweithrediadol. Mae'n ddatganiad o werthoedd. Rwy'n credu y dylai pawb yng Nghymru allu disgwyl hynny gan gorff cyhoeddus sy'n gweithredu ar eu rhan. 

Hoffwn ddiolch o galon i’n pobl. Mae enw da ACC yn dibynnu ar ansawdd ac ymrwymiad y rhai sy'n gwneud y gwaith hwn bob dydd. Rwy'n falch o gadeirio sefydliad sy’n cynnwys pobl mor alluog ac egwyddorol. 

Byddwn yn dechrau’r flwyddyn nesaf gyda chyfrifoldebau newydd, cynlluniau clir a momentwm go iawn. Rwy’n edrych ymlaen i roi adroddiad o’n cynnydd pellach y flwyddyn nesaf.

Ruth Glazzard, Cadeirydd y Bwrdd 

Nôl i dop y dudalen

Adroddiad ar Berfformiad: Trosolwg y Prif Weithredwr

Image
Rebecca Godfrey Prif Weithredwr


Eleni, fe wnaethom gasglu bron i £400 miliwn o refeniw treth i Gymru. Ers i ni ddechrau yn 2018, mae'r cyfanswm dros £2.7 biliwn. Rwy'n falch iawn o hynny. Mae'n bwysig gan fod yr arian hwnnw'n ariannu'r GIG, ysgolion a chymunedau ledled y wlad. 

Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr hyn rydym wedi’i gasglu, ynghyd â sut y gwnaethom ei gasglu a beth rydym yn adeiladu. 

Pennod newydd 

Dechreuodd 'Cynllun Corfforaethol 2025 i 2028' eleni. A hon oedd blwyddyn gyntaf fy nghyfnod fel Prif Weithredwr. Fe osodom ni 3 amcan strategol cysylltiedig i’n hunain: i fod yn hawdd, yn deg ac yn gynaliadwy. Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf i ddangos ein cynnydd ar y rhain. 

Hawdd: ei gwneud hi'n hawdd i wneud y peth iawn 

'Ein Dull' – ffordd Gymreig o drethu – sy’n sail i bopeth a wnawn. Rydym yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel. Mae'r rhan fwyaf o bobl a sefydliadau eisiau gwneud y peth iawn, ac rydym ni yma i'w helpu i wneud hynny. Rydym wedi parhau i feithrin ein dull o gydweithio â’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed. 

Eleni, rydym hefyd wedi dechrau paratoi ar gyfer 2 wasanaeth newydd: Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr. Mae Cofrestru Llety ar y trywydd iawn i fynd yn fyw ym mis Hydref 2026, gyda’r Ardoll Ymwelwyr i ddilyn ym mis Ebrill 2027. Rydym wedi bod yn gweithio’n agored wrth ddatblygu'r gwasanaethau hyn, gan rannu'r gwersi rydym wedi’u dysgu ar y ffordd. 

Teg: bod yn deg ac yn gyson 

Rydym wedi canolbwyntio ar ragori yn ein gwaith treth craidd, yn ogystal ag ehangu i feysydd newydd o risg treth. Mae ein gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) yn parhau, ac mae ein cynllun ar y cyd newydd bellach ar waith. 

Pan fo pobl yn osgoi eu rhwymedigaethau yn fwriadol, rydym yn cymryd camau. Dyna pam fod ein system dreth yn deg i bawb yng Nghymru. Mae cefnogaeth a gweithredu yn mynd law yn llaw, ac mae ein canlyniadau eleni yn dangos hynny. 

Rydym hefyd wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi gweithrediadol a threth, gan helpu i nodi meysydd lle gallai'r gyfraith weithio'n well i bawb. 

Cynaliadwy: adeiladu ar gyfer y dyfodol 

Mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid gwirioneddol. Rydym wedi ail-lunio ein ffordd o weithio o gwmpas model sy'n seiliedig ar wasanaethau, gan feithrin y galluoedd a'r strwythur a fydd yn angenrheidiol yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi dechrau cyflawni ein hamcanion llesiant, gan fod ACC bellach wedi’i gynnwys yn ffurfiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydym yn paratoi i ddod o dan Safonau'r Gymraeg. 

Ar draws hyn i gyd, rydym wedi chwilio am ffyrdd gwell o weithio ac i rannu'r hyn rydym wedi'i ddarganfod, boed hynny wrth ddatblygu gwasanaethau newydd, cefnogi gwaith polisi neu wella sut rydym yn gweithredu. 

Edrych tua’r dyfodol 

Mae cyfrifoldebau newydd yn creu cyfleoedd yn ogystal â heriau. Byddwn yn defnyddio ein profiad, yn aros yn driw i Ein Dull, ac yn parhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud dros Gymru.

Rwy'n falch o ble rydym wedi’i gyrraedd. Ac rwy'n hyderus bod gennym y bobl, y cynlluniau a'r ymrwymiad iawn i wneud hyd yn oed mwy.

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr (o Fai 2025) 

Nôl i dop y dudalen

Trosolwg o berfformiad

Mae'r adran hon yn amlinellu beth yw ein sefydliad, beth yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym wedi perfformio yn erbyn ein hamcanion strategol a'n cynllun busnes blynyddol eleni.

Amdanom ni

Ni yw awdurdod treth Cymru, ac rydym yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i gasglu trethi, darparu gwasanaethau a chodi refeniw i’w ail-fuddsoddi yng Nghymru. Rydym yn helpu pobl a sefydliadau i gofrestru, i gyfrifo, ac i dalu treth. Ers 2018, rydym wedi casglu dros £2.7 biliwn mewn Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Mae ein cylch gwaith yn tyfu – rydym yn gweithredu Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Llety Ymwelwyr, gan adeiladu ar ein harbenigedd fel awdurdod treth dibynadwy.

Gan ein bod yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, rydym yn sicrhau bod y ffordd yr ydym yn gweinyddu trethi Cymru yn deg, yn dryloyw ac yn ddiduedd. Mae bwlch clir rhwng Gweinidogion Cymru a'n sefydliad o ran data trethdalwyr, ein gwybodaeth a’r penderfyniadau gweithrediadol a wneir gennym.

Rydym yn sefydliad bychan lle mae pobl o holl broffesiynau'r Gwasanaeth Sifil yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau rhagorol a chysylltiedig i Gymru. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym ymysg y sefydliadau uchaf ledled y DU yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad gweithwyr. Rydym wedi ymrwymo i gynnig diwylliant cynhwysol yn y gweithle, sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig. Mae darparu gwasanaethau rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg yn rhan ganolog o fod yn awdurdod treth Cymru.

Ein Dull

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy Ein Dull – ffordd unigryw Gymreig o drethu. Mae hyn wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth. Rydym yn canolbwyntio ar weithio'n agos gyda threthdalwyr a'u cynrychiolwyr (neu asiantau), sefydliadau partner a'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn casglu trethi yn deg ac yn effeithlon.

Mae Ein Dull yn seiliedig ar Ein Siarter, sy'n gosod yr egwyddorion sy'n sail i'n gwaith. Caiff ei ysbrydoli gan 3 gair: 

  • cydweithio: ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin
  • cadarnhau: yn awgrymu cadernid y gallwch ddibynnu arno. Mae’n ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth
  • cywiro: ystyr llythrennol ‘cywiro’ yw 'dychwelyd at y gwir' ac mae'n ymwneud â sut rydym yn gweithio gyda phobl i ddatrys gwallau neu bryderon

Lliniaru risg treth 

Rydym yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth er mwyn helpu trethdalwyr a'u hasiantau i dalu'r swm cywir y tro cyntaf. Mae'r dull hwn yn sicrhau ein bod yn casglu trethi yn deg ac yn effeithlon. 

Rydym yn gwybod bod pobl yn gwneud camgymeriadau weithiau. Felly rydym yn ceisio dysgu pa amgylchiadau sy’n ei gwneud hi’n fwy tebygol i drethdalwyr dalu'r swm anghywir o dreth. Rydym yn galw'r rhain yn 'risgiau treth'. Yna, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth mewn achosion o’r fath.

Weithiau, bydd gofyn i ni ymyrryd i wneud yn siŵr ein bod yn casglu treth na fyddai’n cael ei dalu – rydym yn galw hyn yn 'adennill treth'. Rydym hefyd yn sicrhau nad ydym yn ad-dalu treth o ganlyniad i hawliadau annilys – rydym yn galw hyn yn 'ddiogelu treth'. Byddwn yn rhoi crynodeb o’r ddau faes hwn yn ddiweddarach yn yr adroddiad, a bydd manylion llawnach i’w cael yn ein atodiad data.

Strwythur sefydliadol 

Mae ein sefydliad wedi esblygu i gefnogi ein dull o weithredu o amgylch gwasanaethau. Mae'r ddelwedd hon yn dangos ein model yn ystod y flwyddyn.

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Prif Weithredwr

  • Rebecca Godfrey (ers Mai 2025), Prif Weithredwr
  • Dyfed Alsop (hyd at Ebrill 2025), Prif Weithredwr

Uwch swyddogion nad ydynt yn gyfarwyddwyr (yn adrodd i'r Prif Weithredwr)

  • Jo Ryder, Pennaeth y Staff
  • Joseph Dooher, Pennaeth Cyflenwi Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Llety Ymwelwyr
  • Amy Bowden, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfarwyddwyr (yn adrodd i'r Prif Weithredwr)

  • David Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd
  • Gwag, Cyfarwyddwr Gwasanaethau/Prif Swyddog Gweithredu

Swyddi yn atebol i David Matthews (Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd)

Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • adnoddau dynol (AD)
  • cyfathrebu
  • ymgysylltu
Pennaeth Polisi a Strategaeth

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • polisi
  • strategaeth
Prif Swyddog Cyllid

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • cyllid corfforaethol
  • cyllidebu
  • caffael

Swyddi’n atebol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau/Prif Swyddog Gweithredu

Prif Swyddog Digidol

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • digidol
  • diogelwch TG
Pennaeth Dadansoddi Data

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • data
  • uwch-berchennog risg gwybodaeth (SIRO)
Pennaeth Gweithrediadau

Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • TGT 
  • TTT 
  • cyswllt cwsmeriaid

Ein diben a’n hamcanion strategol 

Rydym yn nodi ein diben a'n hamcanion strategol yng Nghynllun Corfforaethol 2025 i 2028Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar y rhain. Ein hamcanion strategol yw ein hamcanion llesiant hefyd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel y nodir yn y datganiad llesiant sydd ynghlwm wrth ein Cynllun Corfforaethol. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni adrodd ar ein cynnydd yn erbyn y cynllun hwn.

Mae'r 'Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028' yn egluro mai ein pwrpas yw dylunio a darparu gwasanaethau refeniw ac arwain ar well defnydd o ddata trethdalwyr Cymru.

Ein hamcanion strategol yw gweithio mewn ffordd sy'n: 

  • hawdd: byddwn yn ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn
  • teg: byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
  • cynaliadwy: byddwn yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol

Mae ein hadroddiad arfarnu yn egluro beth rydym wedi'i wneud i gyflawni ein hamcanion strategol. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am amcanion y 3 maes yn yr adran dadansoddiad o berfformiad.

Cynllun cyflawni ar gyfer 2025 i 2026

Gwnaethom gynnydd cyson yn erbyn ein cynllun busnes ar gyfer 2025 i 2026 a chanolbwyntio ar 5 blaenoriaeth. Fe wnaethom gryfhau sut rydym yn gweithio fel sefydliad, gwella ein systemau a'n gwasanaethau, a pharatoi i gyflawni ein cyfrifoldebau newydd â’r Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr. Bydd rhywfaint o'r gwaith hwn yn parhau i'r cyfnod cynllunio nesaf, ond rydym eisoes wedi adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. 

1. Cyfeiriad strategol a llywodraethiant

Rydym wedi creu strwythurau llywodraethiant newydd i wella ein penderfyniadau a'n cynlluniau hirdymor. Mae ein grwpiau llywodraethiant newydd yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn darparu goruchwyliaeth glir o'n gwaith. Fe wnaethom hefyd ddechrau symud tuag at fodel gweithredu sy'n seiliedig ar wasanaethau, a chytuno ar y nodau a'r trefniadau y mae arnom eu hangen er mwyn ei gefnogi. Bydd y newid hwn yn cymryd mwy o amser, ond rydym wedi penderfynu ar y strwythur ac ar weledigaeth ar gyfer ein gwasanaethau.

2. Dylunio a datblygu sefydliadol

Rydym wedi parhau i ddatblygu gweithle teg, cynhwysol a chefnogol. Mae gan bob un o’n hamcanion cydraddoldeb berchennog sy'n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu cyflawni, ac rydym yn monitro ein cynnydd yn rheolaidd yn erbyn yr amcanion hyn. Rydym wedi gweithio gyda phobl ar draws ein sefydliad i ddewis pa strwythurau tîm, pa sgiliau a pha alluoedd sydd eu hangen arnom i wneud y strwythur newydd sy'n seiliedig ar wasanaethau yn effeithiol. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i baratoi ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg, a ddaw i rym yn Rhagfyr 2026.

3. Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr

Rydym wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru. Mae ein cytundeb lefel gwasanaeth gydag awdurdodau lleol ar gyfer yr ardoll yn barod, ac rydym yn gwneud cynnydd ar y gwasanaeth cofrestru a’r ardoll. Rydym ar y trywydd iawn i lansio’r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr ym mis Hydref 2026, gydag Ardoll Ymwelwyr i ddilyn ym mis Ebrill 2027.

4. Systemau digidol, data a gweithrediadol

Rydym yn parhau i wella ein systemau digidol a data er mwyn ei gwneud yn haws i ddefnyddio ein gwasanaethau a’u gwneud yn fwy dibynadwy. Mae gennym broses newydd ar gyfer gwneud gwelliannau parhaus i’n gwasanaethau digidol, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i greu amgylchedd prawf pwrpasol ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar ddata. Rydym wedi dechrau ffurfioli ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn sicrhau ei fod yn gyfrifol a chynaliadwy. 

5. Rheoli Risg Treth a pholisi gweithrediadol

Rydym wedi cryfhau ein dull o sicrhau cydymffurfiaeth treth trwy sefydlu cynllun clir ar gyfer rheoli risgiau TTT. Mae hyn yn cefnogi ein nod o adennill refeniw sydd heb ei ddatgan, yn unol â'r rhagdybiaethau a'r rhagolygon a nodwyd mewn achos cyllido ar gyfer buddsoddiad ychwanegol, a gytunwyd â Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd arwain ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau posibl i ddeddfwriaeth dreth Cymru, yn ogystal â gweithio gyda CNC i ddiweddaru ein dull o gydweithredu i fynd i'r afael â throseddau gwastraff.

Adroddiad arfarnu 

Mae ein hadroddiadau ar ein perfformiad wedi’u seilio ar fesurau a ddatblygwyd o amgylch ein hamcanion strategol i fod yn hawdd, yn deg a’n gynaliadwy. Mae'r mesurau hyn yn canolbwyntio ar dreth ac yn canolbwyntio ar bobl.

Mae rhai o'r mesurau sy'n gysylltiedig â'n cynllun corfforaethol presennol yn newydd. Gyda rhai ohonynt, mae lefelau perfformiad ar neu'n agos at ein targed. Ar gyfer eraill, megis y rhai sy'n gysylltiedig â phrydlondeb ad-daliadau cyfradd uwch ac awtomeiddio, byddwn yn ceisio gwella'r rhain wrth i ni ehangu ein gwasanaethau. 

Rydym yn crynhoi'r data yma ac yn edrych ar agweddau yn fwy llawn yn yr adran dadansoddiad o berfformiad. Gallwch hefyd gael gafael ar y data manylach sy’n sail i'n holl fesurau perfformiad yn ein hatodiad data.

Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni  

  • Amcan: Hawdd.
  • Targed 2025 i 2028: 90% o ymatebwyr yr arolwg yn dweud bod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio
  • Perfformiad 2025 i 2026: Roedd 88% o bobl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau, ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol ac ychydig yn is na'n targed.

Cymryd camau i gywiro pethau

  • Amcan: Teg.
  • Targed 2025 i 2028: cynyddu cyfran yr ymchwiliadau sy'n llwyddo i adennill neu ddiogelu treth.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Arweiniodd 70% o ymchwiliadau at adennill treth mewn rhyw ffordd, gyda chynnydd dros ran olaf y flwyddyn. Cafodd treth ei diogelu mewn 91% o ymchwiliadau pan amheuwyd ei bod yn cael ei hadhawlio ar gam.

Ein dull o ymdrin â risg treth

  • Amcan: Teg.
  • Targed 2025 i 2028: adennill treth mewn modd sy’n gymesur â lefelau risg.
  • Perfformiad 2025 i 2026: cyfanswm y TTT a adenillwyd oedd £4.6 miliwn, cynnydd sylweddol o'r flwyddyn flaenorol, ac yn unol â'n hymdrechion i nodi mwy o fathau ac achosion o risg treth TTT. Diogelwyd £0.5 miliwn arall o dreth rhag hawliadau annilys am ad-daliad TTT.

Prydlondeb ymchwiliadau treth

  • Amcan: Teg.
  • Targed 2025 i 2028: lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i orffen ymchwiliad treth.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Ar gyfartaledd, roedd ymchwiliadau treth yn cael eu cwblhau mewn 53 diwrnod. Mae'r amser cyfartalog wedi gostwng yn ystod y flwyddyn.

Amseroldeb prosesu achosion 

  • Amcan: Hawdd.
  • Targed 2025 i 2028: lleihau'r amser cyfartalog a gymerir i brosesu achosion.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Ar gyfartaledd, cymerodd 26 diwrnod i gau achos, neu 10 diwrnod os nad yw’r achosion a gymerodd fwy na 6 mis yn cael eu cyfrif. Ar y cyfan, arhosodd yr amser cyfartalog a gymerodd i gau achos yn gyson trwy gydol y flwyddyn.

Amseroldeb ad-daliadau cyfradd uwch  

  • Amcan: Hawdd.
  • Targed 2025 i 2028: amser cyfartalog o ddim mwy na 10 diwrnod ar gyfer prosesu achos ad-daliad cyfradd uwch
  • Perfformiad 2025 i 2026: Gwnaed bron i 34% o ad-daliadau cyfradd uwch o fewn y targed o 10 diwrnod, ac ar gyfartaledd cymerodd 16 diwrnod i brosesu ad-daliad.

Adennill Dyledion  

  • Amcan: Teg.
  • Targed 2025 i 2028: Mae 99% o'r rhwymedigaeth treth a 95% o'r atebolrwydd cosb a godwyd yn yr un cyfnod y llynedd yn cael ei gasglu.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Casglwyd 99% o'r rwymedigaeth treth a godwyd yn yr un cyfnod y llynedd, gan gyrraedd ein targed. Casglwyd 91% o'r rwymedigaeth treth cosb a godwyd yn yr un cyfnod y llynedd, ychydig yn is na’r targed.

Gwneud taliadau’n gywir y tro cyntaf  

  • Amcan: Hawdd.
  • Targed 2025 i 2028: 97% o daliadau’n gywir y tro cyntaf.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Gwnaed 96% o'r taliadau’n gywir ar y cynnig cyntaf, cyfran uwch na’r flwyddyn flaenorol ond ychydig yn is na'n targed.

Graddau awtomeiddiad 

  • Amcan: Cynaliadwy.
  • Targed 2025 i 2028: Ni fydd angen ymyrraeth â llaw ar 98% o achosion rhwng derbyn taliad a chau’r achos.
  • Perfformiad 2025 i 2026: Nid oedd angen ymyrraeth ar 94% o'r trafodiadau, sydd ychydig yn is na'r llynedd ac ychydig yn is na’r targed.

Ein prif risgiau corfforaethol

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom nodi a rheoli 6 prif risg gorfforaethol. Mae'r rhain yn ymwneud â:

  • rheoli gwybodaeth 
  • seiberddiogelwch
  • ariannu ein swyddogaethau yn awr ac yn y dyfodol
  • Ein Dull
  • bod yn barod ar gyfer ehangu
  • cyflawni ardoll ymwelwyr a chofrestriad llety ymwelwyr

Mae manylion am ein gweithgareddau a'r ffyrdd yr ydym yn delio â'r risgiau hyn i’w cael o dan benawdau unigol yng ngweddill yr adroddiad hwn.

Newid o ran risgiau

Eleni, fe wnaethom ychwanegu 2 risg newydd i'n cofrestr risg gorfforaethol. Mae'r rhain yn gysylltiedig â’n cylch gwaith sy’n ehangu i gynnwys Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr ac â pharatoi ar gyfer ehangiad ACC wrth i ni gynyddu ein swyddogaethau, ein gwasanaethau, ein seilwaith a’n pobl. 

Rydym yn amlinellu sut rydym yn rheoli risgiau sefydliadol yn ein hadran datganiad llywodraethiant.

Dadansoddiad o berfformiad 

Yn ystod 2025 i 2026, fe wnaethom gasglu bron i £400 miliwn mewn treth. Fe wnaethom gofnodi bron i 60,000 o drafodiadau TTT yn yr un cyfnod – cynnydd ar y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu adferiad parhaus y farchnad dai. 

O ran TGT, cofnodwyd bod dros 900,000 tunnell o wastraff wedi’i waredu mewn safleoedd tirlenwi anawdurdodedig yng Nghymru. Fe wnaethom gyhoeddi hysbysiadau codi treth gwerth bron i £500,000 ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig, ac mae llawer o achosion wedi arwain at weithgareddau gorfodi dyled yn ystod y flwyddyn.

Mae'r adran hon yn cwmpasu 3 amcan strategol o'n cynllun corfforaethol, gyda 3 maes ffocws o dan bob un ohonynt, ynghyd â throsolwg o'n prif weithgareddau. Mae cynnydd yn erbyn ein hamcanion strategol ehangach wedi'i nodi yn yr adroddiad arfarnu.

Hawdd: Byddwn yn ei gwneud hi'n hawdd gwneud y peth iawn trwy gynnig gwasanaethau sy'n helpu pobl i wneud yr hyn y maen nhw angen ei wneud

Mae Ein Dull yn canolbwyntio ar helpu pobl i wneud y peth iawn ar y cynnig cyntaf. Rydym wedi cael cryn lwyddiant gyda hyn, ac rydym bellach yn ei ehangu i feysydd gwaith newydd. 

Gwnaethom ddechrau paratoi ar gyfer 2 wasanaeth newydd pwysig: Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr. Disgwylir i'r system ddigidol ar gyfer y gofrestr llety ymwelwyr fynd yn fyw yn hydref 2026. Ein nod yw adeiladu gwasanaeth sy'n ei gwneud yn hawdd i bobl gofrestru am y tro cyntaf.

Fe wnaethom weithio gyda phartneriaid a defnyddwyr y dyfodol trwy gydol y broses ddylunio ddigidol. Fe wnaethom ailgynllunio rhan graidd o'r gwasanaeth yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr er mwyn ei gwneud yn haws i bobl roi'r wybodaeth gywir i ni. Fe wnaethom ddefnyddio blogiau a gweminarau i rannu gwybodaeth, cynnal ymarferion gwrando a phrofion defnyddioldeb gyda'n tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD), a defnyddio'r adborth hwnnw i lunio'r gwasanaeth.

Nododd adroddiad asesu gwasanaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru: “Mae’r tîm yn gweithio'n effeithiol yn erbyn Safon Gwasanaeth Digidol Cymru. Mae sylw cryf yn cael ei roi i anghenion defnyddwyr a llesiant pobl Cymru yn y dyfodol, gan uno'r gwasanaeth i greu teithiau ehangach, gweithio'n effeithiol, ac adeiladu datrysiad technegol cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr.” 

Buom yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am Ardoll Ymwelwyr. Yn ystod cyfnod ymgynghori Cyngor Caerdydd, fe roesom gyngor technegol ac arweiniad i'r cyngor ar ddull ACC o weinyddu ac o gasglu. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor, sydd wedi penderfynu gweithredu Ardoll Ymwelwyr ar 1 Ebrill 2027, ac yn helpu darparwyr llety lleol i baratoi ar gyfer ei gyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth yng Nghyngor Caerdydd: "Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Awdurdod Cyllid Cymru ar yr Ardoll Ymwelwyr. Mae eu harbenigedd technegol a'u canllawiau ymarferol wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod ein hymgynghoriad, gan ein helpu i ddatrys cymhlethdodau ei weithredu. O ganlyniad, rydym mewn sefyllfa dda i barhau i weithio tuag at gyflwyno'r ardoll, gan sicrhau bod ein darparwyr llety lleol yn barod ar gyfer y newidiadau sydd o'n blaenau."

Fe wnaethom barhau i ymgysylltu ag asiantau ar TTT, gan ganolbwyntio ar feysydd cymhleth o'r dreth i'w helpu i ddeall eu rhwymedigaethau. Fe wnaethom gynnal 2 fforwm treth wyneb yn wyneb yng Nghasnewydd a Wrecsam. Daeth cyfanswm o bron i 100 o bobl i'r digwyddiadau hyn. Cawsom adborth cadarnhaol, yn enwedig am y fforwm ym mis Mawrth 2026, a oedd yn ymwneud â gweinyddu treth, rhyddhad anheddau lluosog a Chynllun Lesio Cymru.

Hefyd, fe gynhaliom 2 weminar ar bynciau pwysig, gan gynnwys cyfraddau uwch, trosglwyddo ecwiti a gwallau cyffredin wrth lenwi ffurflenni treth. Daeth dros 300 o asiantau i’r sesiynau hyn. Rydym yn bwriadu parhau â’r ymgysylltiad cadarnhaol hwn trwy gynnal rhagor o weithgareddau yn 2026 i 2027.

Fe wnaethom symud tuag at ddull sy’n cael ei arwain gan wasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan drefnu ein gwaith o gwmpas y 3 gwasanaeth craidd y mae pobl yn eu defnyddio: cofrestru, taliadau a chyfrifo treth. Mae'r newid hwn yn rhoi anghenion defnyddwyr wrth galon sut rydym yn dylunio ac yn cyflawni ein gwaith, gan ei gwneud yn symlach ac yn gyflymach i bobl wneud yr hyn sy’n angenrheidiol. Rydym yn dysgu sut i weithredu model gwasanaeth sy'n gweithio i ni, a’n disgwyliad yw y byddwn yn addasu ac yn gwella'r model wrth i ni ddysgu. Byddwn yn adrodd ymhellach ar hyn yn 2026 i 2027.

Teg: Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau trwy gymryd camau i unioni pethau 

Yn rhan o’n dull o ymdrin â thegwch a chysondeb, rydym wedi cryfhau ein gwaith ar risg treth ar gyfer TTT ac wedi ehangu i feysydd risg newydd. Cawsom £660,000 o fuddsoddiad ychwanegol yn 2025, a helpodd ni i adennill £2.6 miliwn ychwanegol mewn treth yn ystod 2025 i 2026. 

Rydym wedi ehangu ein tîm, cynyddu ein harbenigedd a gwneud ein prosesau'n fwy effeithlon er mwyn ein galluogi i fynd i'r afael â risgiau mwy cymhleth. Rydym wedi mabwysiadu dull cydweithredol ac wedi ychwanegu arbenigwyr data a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr at ein tîm risg treth. Bu hyn o gymorth i ni ystyried heriau o wahanol safbwyntiau.

Fe welsom bod rhai ymholiadau wedi'u hagor pan nad oedd y risg dreth ganfyddedig yn uwch na’r risg wirioneddol. Gallai hyn arwain at fwy o waith i ni ac i drethdalwyr, a hynny heb adennill llawer o refeniw. 

Ein hymateb i hyn oedd ymgysylltu â threthdalwyr yn gynt, er mwyn i ni allu gofyn cwestiynau mwy gwybodus, targedu ein hymholiadau’n well, a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar achosion lle mae risg wirioneddol. Mae hyn wedi gwneud ein gwaith yn fwy effeithiol i drethdalwyr ac yn ein helpu i adennill refeniw ychwanegol a allai fod wedi cael ei golli o ganlyniad i gamgymeriadau.

Dywedodd Molly Byrne, Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr ACC: "Mae ymgorffori ymchwil defnyddwyr o fewn y tîm risg treth wedi newid sut rydym yn gwneud y gwaith. Trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion ac ymddygiadau trethdalwyr, roeddem yn gallu gofyn cwestiynau mwy ystyrlon yn gynharach yn y broses. Trwy adael i waith ymchwil ein harwain, fe welsom nad oedd pob ymholiad yn angenrheidiol, a wnaeth ein galluogi i herio rhagdybiaethau a gwneud llai o ymyriadau diangen. Mae symud tuag at ymgysylltu’n gynharach, dan arweiniad gwaith ymchwil wedi gwneud ein gwaith yn decach i drethdalwyr ac yn fwy effeithiol i ACC." 

Yn unol ag Ein Dull, rydym wedi cynnig cyfleoedd rheolaidd i asiantau sy'n gweithio ar TTT rannu canllawiau, trafod materion sy'n dod i'r amlwg a gwella ymarfer. Rydym hefyd wedi cryfhau ein perthynas â Chymdeithas y Gyfraith a chyda cymdeithasau cyfraith leol, ac wedi archwilio partneriaethau newydd â sefydliadau megis Legal News Wales, er mwyn cyrraedd ein cynulleidfa darged mewn gwahanol ffyrdd. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda CNC i leihau'r risg dreth TGT ac i fynd i'r afael â throseddau gwastraff a gwarediadau anawdurdodedig. Rydym wedi cydlynu ein gweithgarwch treth a rheoleiddio er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae defnyddio’r un trefniadau llywodraethu yn cefnogi'r bartneriaeth hon. Rydym wedi datblygu cyd-strategaeth TGT weithrediadol ar gyfer y 3 blynedd nesaf o'n partneriaeth sy'n nodi ein dulliau a’n ffyrdd o weithio. Fe wnaethom hefyd sicrhau buddsoddiad ychwanegol ar gyfer 2026 i 2027 er mwyn gwneud mwy i fynd i'r afael â gwarediadau anawdurdodedig. 

Dywedodd Lyndsey Rawlinson, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gweithrediadau Lle CNC: "Mae ein partneriaeth ag Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i fod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â throseddau gwastraff a gwella cydymffurfiaeth Treth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru. Trwy gydgysylltu gwaith treth a rheoleiddio, cryfhau llywodraethiant, a chyflwyno ein cyd-strategaeth tair blynedd newydd, rydym yn parhau i gryfhau’r effaith rydym yn ei gael. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r ffordd y mae gwastraff yn cael ei reoli yng Nghymru."

Fe wnaethom hefyd arwain y gwaith o ddatblygu polisi gweithrediadol technegol sy'n ymwneud â'n trethi datganoledig llawn, gan nodi meysydd lle gellid cryfhau deddfwriaeth ac ymgynghori arnynt. Buom yn gweithio'n agos gyda Thrysorlys Cymru i ymgynghori ar gynigion i ddiwygio Deddfau Treth Cymru. Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys meysydd lle rydym wedi cael trafferth cymhwyso'r ddeddfwriaeth yn effeithiol. Mae rhai gwelliannau yn ymateb i adborth gan drethdalwyr, ac mae eraill yn tynnu ar ein profiad sylweddol o weithredu a gweinyddu trethi datganoledig yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod ACC yn parhau i weithredu ar sail tegwch a chysondeb i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth.

Dywedodd Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru: "Mae ein partneriaeth gydag ACC yn helpu i sicrhau ein bod yn darparu polisi treth effeithiol i Weinidogion. Mae'r dull hwn yn cydnabod gwerth datblygu polisi treth sy'n cyd-fynd â'r ffordd yr ydym yn casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Wrth ddatblygu'r Ardoll Ymwelwyr, fe wnaethom greu sawl fersiwn o’r polisi ochr yn ochr â chyflawni, gan greu treth well. Mae gweithio gydag ACC ar feysydd lle gellid cryfhau'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r trethi datganoledig yn sicrhau bod ystyriaethau polisi a chyflawni trethi yng Nghymru yn parhau i gael eu cynnwys mewn gwaith cynllunio a datblygu o'r cychwyn cyntaf."

Cynaliadwyedd: Byddwn yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol trwy feithrin gallu er mwyn dod yn fwy gwydn 

Fe wnaethom barhau i adeiladu gwytnwch sefydliadol trwy symud tuag at strwythur gwasanaethau. Gwnaethom hyn trwy raglen ddylunio a datblygu sefydliadol a oedd yn golygu ein bod yn rheoli twf mewn ffordd ystyriol a chynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys lansio cynllun corfforaethol newydd ar gyfer 2025 i 2028, cyflwyno trefniadau llywodraethiant wedi'u diweddaru a datblygu strwythur sefydliadol newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2026 i 2027.

Rydym yn credu bod gwytnwch yn cael ei feithrin trwy gael y gymysgedd iawn o strwythur, systemau a phobl. Dros y 12 mis diwethaf, ymunodd 20 o bobl â’n gweithlu (cynnydd o 20%), a’r flaenoriaeth oedd ehangu sgiliau a gallu digidol. Am y tro cyntaf, fe wnaethom ddechrau adeiladu gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd newydd, yn fewnol. I wneud hyn, fe wnaethom fuddsoddi mewn swyddi digidol parhaol newydd a chefnogi tri phrentis digidol. Mae dau o’r prentisiaid bellach wedi ennill dyrchafiadau. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ddefnyddio contractwyr arbenigol pan fo angen, gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu gwerth am arian ac yn rheoli ein hadnoddau’n effeithlon.

Roedd ein canlyniadau yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil yn gryf unwaith eto. Am yr wythfed flwyddyn yn olynol, roeddem ymhlith y sefydliadau Gwasanaeth Sifil sydd â'r sgôr uchaf yn y DU ar y mynegai ymgysylltu â gweithwyr. Yn ogystal â'r gydnabyddiaeth barhaus am gydraddoldeb, fe gawsom achrediad newydd eleni hefyd – y Wobr Cynhwysiant – sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu gweithle cynhwysol.

Dywedodd Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu: "Rydym wedi creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn cael eu clywed, a'u bod yn cael eu grymuso i ddatblygu. Dyna sut mae'n teimlo i weithio yma o ddydd i ddydd, ac mae hynny i’w weld. Yn yr arolwg, dywedodd 87% o'n staff bod hwn yn lle gwych i weithio. Rydym yn falch o'n gweithle cynhwysol."

Fe wnaethom hefyd barhau i ymgorffori ein cyfrifoldebau ehangach ym mhopeth a wneir gennym. Mae ein gwaith wedi'i lunio gan ein hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, dyletswyddau'r Gymraeg, a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'r rhwymedigaethau hyn wedi llywio ein diwylliant a'r ffordd rydym yn gweithredu fel corff cyhoeddus.

Nôl i dop y dudalen

Rheolaeth Awdurdod Cyllid Cymru

Y grwpiau llywodraethiant canlynol sy’n rheoli ein sefydliad. 

Ein Bwrdd

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Dirprwy Gadeirydd Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr (hyd at Ebrill 2025)
  • Rebecca Godfrey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau/Prif Swyddog Gweithredu (tan Ebrill 2025) a Phrif Weithredwr/Dros Dro (o fis Mai 2025)
  • Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd
  • Indee Dehal, Aelod Staff Etholedig (ers Gorffennaf 2025)

Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)

  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr (hyd at Ebrill 2025)
  • Rebecca Godfrey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau/Prif Swyddog Gweithredu (tan Ebrill 2025) a Phrif Weithredwr/Dros Dro (o fis Mai 2025)
  • Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd
  • Alex Mason, Prif Swyddog Ariannol
  • Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Joseph Dooher, Cyfarwyddwr Rhaglen Ardoll Ymwelwyr/Cofrestriad Cenedlaethol (aelod o fis Mai 2025)
  • Nina Engelhardt, Pennaeth Gweithrediadau (aelod ers Mai 2025)

Nôl i dop y dudalen

Adroddiad ariannol

Mae hwn yn dangos sut rydym wedi perfformio yn erbyn y canlyniadau y cytunwyd arnynt yn ein cyllideb, ein hamcanion strategol a'n nodau.

Cyfrifon adnoddau 

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar ein cynllun gwaith i gyflawni nodau ein cynllun corfforaethol. Mae’r gyllideb wedi’i rhannu’n feysydd eang fel a ganlyn: 

  • costau staff, gan gynnwys dysgu a datblygu 
  • costau gweithrediadol casglu'r trethi, camau gorfodi a chudd-wybodaeth am ddata 
  • costau rhedeg corfforaethol, megis adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol 
  • newid busnes er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella ein systemau digidol a'n gweithrediadau, er mwyn i ni allu cefnogi prosesau newydd a newid deddfwriaeth dreth 
  • dangosir costau cyflawni Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru ar wahân yn 2025 i 2026. Mae'r costau hyn wedi’u cynnwys o fewn costau staff yn 2024 i 2025.

Mae'r tabl isod yn nodi'r cyllid a gawsom gan Lywodraeth Cymru ac a dynnwyd i lawr yn ystod y flwyddyn.

Cyllid a ddyrannwyd ac a dynnwyd i lawr o ffrwd ariannu Llywodraeth Cymru 2025 i 2026
Ffrwd cyllid

 Dyraniad cyllid 2025 i 2026

£000

Cyllid a dynnwyd 2025 i 2026 

£000

Dyraniad cyllid 2024 i 2025  

£000

Cyllid a dynnwyd 2024 i 2025 

£000

Refeniw11,12311,1098,6128,612
Cyfalaf2,0131,967120106
Cyfanswm y dyraniad cyllid13,13613,0768,7328,718
Gwariant ar gyfer 2025 i 2026 
Gwariant Nodyn

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Costau staff26,6566,555
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff2275201
Costau gweithredu eraill22,4561,784
Costau cyflawni Ardoll ymwelwyr a Chofrestru Llety Ymwelwyr (mae costau cyflawni Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru yn gysylltiedig â chostau staff)21,3720
Dibrisiant3.18074
Amorteiddiad3.27166
Gwariant gweithredu net 10,9108,680
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn 10,9108,680

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi casglu trethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

Trethi datganoledig 
Trethi datganoledig

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

2023 i 2024 

£000

Treth Trafodiadau Tir362,968340,612269,893
Treth Gwarediadau Tirlenwi32,42334,13829,718
Cyfanswm y trethi a'r refeniw395,391374,750299,611

Cyfrifon blynyddol ACC 2025 i 2026

Rydym wedi prosesu bron i 60,000 o ffurflenni TTT (2024 i 2025: 56,000).

O'r ffurflenni hyn:

  • arweiniodd 53% at rwymedigaeth treth a oedd angen ei dalu (2024 i 2025: 52%)
  • cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £362.97 miliwn mewn TTT ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2024 i 2025: £340.61 miliwn)
Symiau o arian parod net a reolwyd
Symiau o arian parod net a reolwyd

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Arian net a gasglwyd395,255372,964
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru396,000374,000

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a'i dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Adroddiad cynaliadwyedd

Rydym yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn dilyn ei pholisi cynaliadwyedd cyffredinol. Mae ei pholisi ar gynaliadwyedd i'w weld yng Nghyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2024 i 2025 (tudalennau 84–86).

Adroddiad atebolrwydd

Yn yr adran hon rydym yn nodi sut yr ydym yn bodloni gofynion allweddol Senedd Cymru. 

Datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae'r Prif Weithredwr Rebecca Godfrey, yn gyfrifol yn bersonol am: 

O dan Adrannau 29 (1) (b) a 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Dylai'r rhain fod ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y 'cyfarwyddyd cyfrifon' a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. 

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC a'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifoedd arian parod am y flwyddyn ariannol. 

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion ‘Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth’ (FReM), a dylent wneud y canlynol yn enwedig: 

  • dilyn y cyfarwyddyd ynglŷn â chyfrifon a roddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu addas yn gyson 
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol 
  • nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol o’r cyfrifon hyn 
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol 
  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a'r dyfarniadau sy'n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.  

Rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu hefyd sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn: 

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall, unrhyw ddidyniadau a ganiateir a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru 
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau materol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli 

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a pha mor rheolaidd yw’r cyllid cyhoeddus y maent yn atebol amdano, cadw cofnodion priodol a diogelu asedau ACC. Mae'r dyletswyddau hyn wedi'u nodi ym ‘Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu’, mewn dogfennau fframwaith, ac yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. 

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau: 

  • fod y Cyfrifon Blynyddol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2025 hyd 31 Mawrth 2026 yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy 
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol 
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, fy mod wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth, sylwadau a sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach 
  • fy mod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 

14 Gorffennaf 2026

Nôl i dop y dudalen

Datganiad llywodraethiant

Mae DCRhT 2016 yn fy nynodi'n Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau wedi'u hatodi yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac ACC. 

Ein fframwaith llywodraethiant

Dyma ddelwedd o’n fframwaith llywodraethiant. Mae'r cylch gwaith a'r cyfrifoldebau wedi'u nodi isod.

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Gweinidogion Cymru

Yn gosod ein hamcanion a'n blaenoriaethau.

Swyddog Cyfrifyddu

Yn cymryd amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Cymru ac yn rhoi sicrwydd ynglŷn â:

  • safonau llywodraethiant
  • rheolaeth ariannol
  • risgiau corfforaethol

Caiff y Swyddog Cyfrifyddu ei gefnogi gan y Bwrdd.

Ein Bwrdd

Yn rhoi arweiniad, cefnogaeth a her.

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Yn darparu sicrwydd a chraffu o ran rheoli risg, rheolaeth, rheolaeth ariannol a llywodraethiant.

Yn adrodd i’r Bwrdd.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Yn rhoi cefnogaeth a her o ran penodi uwch swyddogion ac olyniaeth. 

Yn adrodd i’r Bwrdd. 

Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)

Yn gosod cyfeiriad strategol yn unol â'r cynllun corfforaethol ac yn goruchwylio newidiadau.

Yn atebol i’r Swyddog Cyfrifyddu.

Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG)

Yn gyfrifol am berfformiad gweithrediadol a rheoli gwasanaethau ACC i'r cyhoedd. 

Yn adrodd i Tîm Arwain.

Grŵp Arwain Cyflenwi Corfforaethol (CDLG) 

Yn gyfrifol am gefnogi cyflawni amcanion corfforaethol, gan gynnwys rheoli risg. 

Yn adrodd i Tîm Arwain. 

Pwyllgor Rheoli Achosion

Yn darparu sicrwydd a chefnogaeth ar y canlynol:

  • gwneud penderfyniadau gweithrediadol
  • datblygu polisi

Yn adrodd i Tîm Arwain.

Bwrdd Rhaglen Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol (VLNR)

Bwrdd dros dro i lywodraethu cyflwyniad Ardoll ymwelwyr a Chofrestru.

Yn adrodd i Tîm Arwain. 

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn cynnwys mwy o aelodau anweithredol nac aelodau gweithredol, ac mae'n cynnwys y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd, ac aelod staff etholedig.

Mae aelodau'r bwrdd (gan gynnwys y Prif Weithredwr) gyda’i gilydd yn atebol am ACC, ac maen nhw’n darparu arweinyddiaeth i sicrhau safon lywodraethu effeithiol:

  • mae'r swyddogaethau ar gyfer y trethi datganoledig a reolwn yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr, ac maen nhw yn eu dirprwyo trwy strwythur pwyllgor gwaith, gan wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun corfforaethol presennol
  • mae'r Bwrdd yn darparu her a chyngor ar ein strategaeth, ein gallu a'n perfformiad ac mae, ynghyd â’r Swyddog Cyfrifyddu, yn cael ei gefnogi gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 

Rhwng Ebrill a Medi 2025, gwahoddwyd Cydymaith Bwrdd i bob cyfarfod ac i weithgareddau'r Bwrdd. Rhywun â diddordeb ymuno â’r Bwrdd oedd y cydymaith, a’r nod oedd cynnig profiad llawn o amgylchedd y bwrdd, gan ganiatáu cyfraniad llawn a meithrin ymdeimlad o berthyn. Noder nad yw cymdeithion y bwrdd yn aelodau ffurfiol o'r Bwrdd mewn statud ac nid oes ganddynt unrhyw hawliau pleidleisio cysylltiedig. Rydym yn gobeithio agor cyfle tebyg eto yn y dyfodol. 

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 

Yn darparu sicrwydd ac yn craffu ar:

  • reoli risg
  • rheoli
  • rheolaeth ariannol a llywodraethiant

Yn adrodd i’r Bwrdd.

Nifer y cyfarfodydd yn 2025 i 2026

5 cyfarfod

Cadeirydd

Mary Champion

Aelodau

3 aelod anweithredol gan gynnwys y Cadeirydd. Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd.

Ymgynghorwyr i ARAC: 

  • Prif Weithredwr
  • Prif Swyddog Gweithredu / Cyfarwyddwr Gwasanaethau
  • Prif Swyddog Cyllid
  • Pennaeth Cyllid
  • Cynrychiolydd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) (Llywodraeth Cymru)
  • Pennaeth y Staff
  • Ysgrifenyddiaeth Archwilio a Risg

Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.

Mae ARAC yn cwrdd bob chwarter, tua wythnos cyn pob cyfarfod y Bwrdd. Yn 2025 a 2026, craffodd ARAC a rhoddodd sicrwydd ar y materion canlynol: 

  • prosesau strategol ar gyfer rheoli risg
  • y fframwaith archwaeth risg
  • cymhwyso rheolaethau mewnol yn effeithiol
  • trefniadau seiberddiogelwch
  • sawl polisi ACC

Mae effeithiolrwydd ARAC yn cael ei fonitro, ac fe adroddir arno bob 2 flynedd.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Mae'r pwyllgor hwn yn darparu sicrwydd ac yn craffu ar effeithiolrwydd cynllunio olyniaeth, recriwtio a chydnabyddiaeth ariannol.

Nifer y cyfarfodydd yn 2025 i 2026

2 gyfarfod

Cadeirydd

Ruth Glazzard 

Aelodau

3 aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) a’r:

  • Prif Weithredwr
  • Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Pennaeth Adnoddau Dynol
Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgor
AelodauBwrddARACCydnabyddiaeth ariannol 
Nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd452
Aelodau anweithredol   
Ruth Glazzard412
Jocelyn Davies341
Rheon Tomos45 
Jim Scopes3 2
Mary Champion45 
Aelodau gweithredol   
Dyfed Alsop (hyd at Ebrill 2025)0 1
Rebecca Godfrey451
Dave Matthews41 
Indee Dehal (ers Gorffennaf 2025)31 

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn chwarterol. Mae'r Bwrdd hefyd yn cyfarfod ar gyfer diwrnodau cynllunio strategol ddwywaith y flwyddyn. Rhwng y cyfarfodydd hynny a'r sesiynau cynllunio, mae'r Bwrdd yn cyfarfod i drafod diweddariadau bob mis.

Risg strategol – rolau

Rydym yn rheoli risg strategol trwy’r rolau canlynol: 

  • Mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn ymdrin â rheoli risg ac adrodd
  • Mae'r Bwrdd yn goruchwylio risgiau strategol ac yn cytuno ar archwaeth risg y sefydliad
  • Mae ARAC yn rhoi sicrwydd a chyngor ar brosesau rheoli risg

Adolygu risgiau corfforaethol

Mae rheoli risg yn rhan hanfodol o'n llywodraethiant, ein harweinyddiaeth a'n penderfyniadau. Mae'n hanfodol i sut mae ACC yn cael ei gyfarwyddo, ei redeg a'i reoli ar bob lefel. Dylai rheoli risg fod yn gydweithredol a dylai gael ei lywio gan y wybodaeth a'r arbenigedd gorau sydd ar gael. Mae’r Grŵp Arwain Cyflenwi Corfforaethol (CDLG), Tîm Arwain ac ARAC yn hyrwyddo cydweithrediad. 

Mae prosesau rheoli risg wedi'u strwythuro i gynnwys: 

  • adnabod ac asesu risg i bennu risgiau a blaenoriaethu sut y dylid eu rheoli
  • dewis, dylunio a gweithredu ffyrdd o drin risg sy'n ein helpu i gyflawni'r canlyniadau arfaethedig a chadw risgiau ar lefel dderbyniol
  • dylunio a gweithredu monitro risg integredig, craff ac sy’n darparu gwybodaeth
  • adroddiadau risg amserol, cywir a defnyddiol ar gyfer gwella ein penderfyniadau a helpu cyrff rheoli a goruchwylio i gyflawni eu cyfrifoldebau
  • gwelliant parhaus o reoli risg yn seiliedig ar ddysgu a phrofiad

Proses

Mae cofrestrau risg y gwahanol dimau’n cael eu rheoli gan arweinwyr tîm ac yn cael eu hadolygu a’u harchwilio gan y rheolwr risg bob chwarter. Mae'r Grŵp Arwain Cyflenwi Corfforaethol yn ystyried yr adolygiad hwn bob chwarter ac yn rhannu'r brif wybodaeth ac unrhyw themâu neu bryderon gyda Tîm Arwain. Gall y Grŵp Arwain Cyflenwi Corfforaethol hefyd gynnig cyngor ac awgrymiadau lliniaru i berchnogion risg ac arweinwyr tîm. Mae Tîm Arwain yn adolygu'r gofrestr risg gorfforaethol bob 2 fis. 

Rheolaeth fewnol

Bob blwyddyn, mae’r uwch-reolwyr yn rhoi hunanasesiadau i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethiant a rheoli risg. Rydym yn defnyddio holiadur rheolaeth fewnol (ICQ) i archwilio hyn bob blwyddyn.

Rydym yn parhau i fod â sicrwydd o ran llywodraethiant ein pwerau dirprwyedig. Mae'r materion nad oeddent wedi’u datrys yn 2024 a 2025 wedi’u datrys eleni hefyd. Mae rhai gwelliannau wedi'u nodi yn holiadur rheolaeth fewnol 2025 i 2026 ac maent yn cael eu hystyried.

Archwiliad mewnol

Cyhoeddodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru 4 adroddiad ar ein gwaith yn ystod y flwyddyn. Roedd y farn archwiliad mewnol blynyddol cyffredinol yn rhesymol.

Cawsom sicrwydd rhesymol ar gyfer 3 o'r adroddiadau hyn – cynllunio busnes, seiberddiogelwch a'n strwythur llywodraethu mewnol. 

Cawsom sicrwydd sylweddol ar ein parodrwydd ar gyfer deddfwriaeth a phrosesau caffael newydd. 

Dyma ddetholiad o'r IAS yn ymwneud â'n hadroddiad cynllunio busnes: 

“[Mae] Sicrwydd rhesymol bod prosesau llywodraethiant, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n briodol a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen rhoi sylw i rai materion ag amlygiad cymedrol i risg nes iddynt gael eu datrys.”

Dyma ddetholiad o’n hadroddiad caffael: 

“[Mae] Sicrwydd rhesymol bod prosesau llywodraethiant, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n briodol a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Nid oes unrhyw faterion, neu materion bach iawn sy’n bodoli gydag amlygiad isel i risg nad oes angen eu datrys." 

Daeth cynrychiolydd IAS holl gyfarfodydd ARAC yn 2025 i 2026. Cawsom ein hadroddiad cynghori cyntaf ar asesiadau effaith eleni hefyd. Helpodd ni i adolygu ein trefniadau presennol i asesu eu heffeithiolrwydd ac archwilio cyfleoedd i gryfhau ein dull gweithredu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod effeithiau'n cael eu hystyried yn briodol fel rhan o brosesau busnes a datblygu polisi. 

Mae'r adroddiad ymgynghorol yn awgrymu rhai camau nesaf defnyddiol ac yn rhoi canllawiau i ni ar y ffordd orau o weithredu camau arfaethedig i gryfhau ein dull o brosesau asesu effaith. 

Archwilio allanol

Rydym yn cael ein harchwilio gan Archwilio Cymru, sy'n gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd ein cyfrifon ariannol. Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC a'r Bwrdd. Mae eu hadroddiad am y flwyddyn i'w weld yn adrannau 'r Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Fe wnaethom barhau i fod yn weithredol o ran hyrwyddo diwylliant o arfer gorau mewn rheoli data a gwybodaeth er mwyn cynnal ein safonau uchel o reoli gwybodaeth. Roedd hyn yn arbennig o bwysig yn 2025 i 2026 wrth i'r sefydliad dyfu'n sylweddol. Mae gennym ddiwylliant cefnogol sy'n annog ein pobl i adrodd am ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth. Ein nod yw dysgu gwersi o’r rhain a’u hatal rhag digwydd eto pan fo’n bosibl. 

Dyma’r 3 prif risg rheoli gwybodaeth a reolwyd yn weithredol:  

  • seibergadernid 
  • negeseuon e-bost gwe-rwydo  
  • risg seiber cyflenwyr  

Arweiniodd ein diwylliant rhagweithiol o reoli gwybodaeth cryf at ganlyniadau cadarnhaol. Nid oedd unrhyw gwynion i'n Swyddog Diogelu Data na Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ac nid oedd yn rhaid i ni gyfeirio unrhyw doriadau data at yr ICO.

Seibergadernid

Seiberddiogelwch yw un o'n prif flaenoriaethau. Ein nod yw cryfhau ein gallu i wrthsefyll bygythiadau sy'n datblygu, ymateb yn effeithiol ac adfer yn gyflym. 

Rydym yn dilyn canllawiau perthnasol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), yn enwedig y Fframwaith Asesu Seiber, ac yn bodloni disgwyliadau diogelwch Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio sicrwydd a gwelliant parhaus i gryfhau ein rheolaethau.

Yn gyffredinol, fe wnaethom atgyfnerthu ein sefyllfa seiberddiogelwch ar draws ein llywodraethiant, technoleg, pobl, cyflenwyr a pharodrwydd ar gyfer digwyddiadau. Fe wnaethom y canlynol i sicrhau hyn:

  • adnewyddu ein polisïau presennol a chyflwyno rhai newydd yn unol â chanllawiau Sicrwydd Gwybodaeth ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (IASME) a NCSC
  • gwella sut rydym yn monitro systemau a pharatoi ar gyfer sylw 24/7 trwy wasanaeth trydydd parti
  • cryfhau ein trefniadau wrth gefn ac adfer yn sgil trychineb, gan wella dogfennaeth a sicrwydd ar gyfer systemau critigol
  • cwblhau gweithgareddau sicrwydd annibynnol ac asesiadau trydydd parti
  • atgyfnerthu rheolaethau cyflenwyr
  • gwella ymwybyddiaeth staff a chynnal ymarferion ymateb i ddigwyddiadau mewnol 
  • monitro bygythiadau sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â chynnydd AI a chadwyni cyflenwi

Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau seiber sylweddol, ond mae'r dirwedd bygythiad cenedlaethol yn parhau i esblygu.

Rhyddid gwybodaeth

Cawsom 25 cais rhyddid gwybodaeth. Fe wnaethom ymateb i bob un o fewn terfynau amser Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Ni chawsom unrhyw gwynion ynglŷn â'n triniaeth o geisiadau rhyddid gwybodaeth ac nid oedd angen i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gynnal unrhyw ymchwiliadau i'r ffordd yr oeddem yn eu rheoli.

Chwythu'r chwiban

Mae ein polisi a'n canllawiau chwythu'r chwiban yn rhoi cyngor clir i staff ar sut y dylent fynegi unrhyw bryderon. Mae gennym swyddog enwebedig sy'n ymdrin â materion y mae pobl eisiau siarad amdanynt. Mae gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â ni i’w chael ar ein gwefan. Mae eglurhad o sut y byddwn yn ymateb i unrhyw ddatgeliadau a wneir gan chwythwyr chwiban allanol hefyd. Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau yn ystod y flwyddyn. 

Safonau’r Gymraeg

Cafodd ACC ei enwi yn y Rheoliadau Safonau'r Gymraeg diwygiedig yn 2025. Ers hynny rydym wedi ymgysylltu'n rhagweithiol â Chomisiynydd y Gymraeg i roi ein barn ar y safonau a fydd yn berthnasol i ni. Mae hyn yn cynnwys gwahodd timau o bob rhan o'n sefydliad i sicrhau bod ein anghenion i gydymffurfio â'r rheoliad yn cael eu hadlewyrchu yn sut rydym yn esblygu. Bydd safonau'r Gymraeg yn berthnasol i ACC yn ffurfiol o fis Rhagfyr 2026 ymlaen.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dyma’r flwyddyn gyntaf yn gweithredu o dan yr amcanion llesiant, ar ôl i ACC ddod o fewn cwmpas Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn fwriadol, mae ein hamcanion llesiant yr un fath â'r amcanion yn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028, felly mae ein cynnydd cyffredinol tuag atynt yn cael ei adlewyrchu yn y mesurau perfformiad yr ydym wedi'u sefydlu ar gyfer ein cynllun corfforaethol.

Ers lansio ein cynllun corfforaethol, rydym wedi cefnogi Archwilio Cymru i gynnal archwiliad ar sut rydym yn gosod ein hamcanion llesiant. Bu hyn yn brofiad cadarnhaol, a adlewyrchai’r dull cadarn rydym wedi'i fabwysiadu a thynnu sylw at ffyrdd y gallwn ddangos ymhellach sut mae ein gwaith a'n cynllunio yn cefnogi'r ddeddf a'i nodau. Disgwylir i adroddiad Archwilio Cymru gael ei gyhoeddi’n gynnar yn 2026 i 2027.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ACC, rwy’n cadarnhau fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant. Gallaf hefyd gadarnhau bod systemau cadarn o reolaeth fewnol ar waith i helpu i gyflawni nodau ac amcanion polisi y sefydliad.

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 

14 Gorffennaf 2026

Nôl i dop y dudalen

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a phobl

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol

Contractau gwasanaeth

Mae ein gweithwyr yn weision sifil, ac o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 rhaid i benodiadau Gwasanaeth Sifil gael eu gwneud ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored. Mae egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi rhai 'eithriadau', sydd fel arfer yn benodiadau dros dro.

Mae'r uwch swyddogion sy'n ymddangos yn yr adroddiad hwn ar benodiadau penagored, naill ai gyda ni neu â’u hadran Gwasanaeth Sifil cartref os ydynt wedi’u secondio i ACC. Os byddwn ni neu'r adran gartref yn terfynu penodiad rhywun yn gynnar, cânt iawndal trwy Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil oni bai ei fod oherwydd camymddygiad.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo i ACC, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw lefel SCS. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â'r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan lywodraeth y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB).

Wrth lunio eu hargymhellion, mae'r SSRB yn ystyried:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a dyrchafu pobl abl, a chymwys i gyflawni cyfrifoldebau penodol
  • yr amrywiaethau rhanbarthol a lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffaith ar recriwtio, cadw, a dyrchafu staff
  • polisïau'r llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr angen i gyrraedd y targedau allbwn o ran darparu gwasanaethau adrannol
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol a tharged chwyddiant llywodraeth y DU
  • y dystiolaeth y mae’r SSRB yn ei dderbyn ynglŷn ag ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd eu hargymhellion

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan SSRB.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Caiff ein Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ei gadeirio gan aelod anweithredol. 

Mae'r Pwyllgor wedi dewis alinio ei ddull cydnabyddiaeth ariannol gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â’r hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa Cabinet y DU. Mae hyn yn berthnasol i'n gweithwyr Uwch Wasanaeth Sifil a’n gweithwyr eraill. Am fwy o wybodaeth, gweler bolisi cyflog Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau anweithredol ein Bwrdd yn cael ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfraddau dyddiol ffioedd aelodau anweithredol (ers Ion 2026)
AelodauCyfradd ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol413
Is-gadeirydd Anweithredol361.38
Aelodau anweithredol309.75

Newidiodd y cyfraddau ym mis Ionawr 2026, y cyfraddau blaenorol oedd:

  • Cadeirydd: £400
  • Is-gadeirydd: £350
  • Aelod anweithredol: £300

Mae’r costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn yn cael eu had-dalu hefyd.

Fe wnaethom gynnig 1 swydd Cydymaith Bwrdd. Mae Cymdeithion y Bwrdd yn cael eu talu £200 y dydd pro rata.

Nid yw aelodau staff etholedig yn derbyn unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r datgeliad yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn aelodau Bwrdd ACC. Mae hyn yn cynnwys aelodau anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod staff etholedig y Bwrdd.

Pan fyddwn yn trafod cyflog, rydym yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac rydym yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill os ydynt yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu daliadau yn ôl disgresiwn. Nid yw ad-daliadau treuliau dilys yn cael eu cynnwys yn y cyflog. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig rydym wedi'u gwneud yn 2025 i 2026.

Mae gwerth ariannol 'buddion mewn nwyddau' yn cynnwys unrhyw fuddion yr ydym wedi’u darparu sy'n cael eu hystyried yn drethadwy gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 yn bennaf (er enghraifft £65,000–£70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol anweithredol

Ffioedd a dalwyd i aelodau anweithredol
Aelod Anweithredol

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Ruth Glazzard
Cadeirydd Anweithredol
15–2015–20
Jocelyn Davies
Is-gadeirydd
10–155–10
Mary Champion
Aelod anweithredol
5–105–10
Jim Scopes
Aelod anweithredol
5–105–10
Rheon Tomos
Aelod Anweithredol
5–105–10
Laura Kent (gadawodd Medi 2024)
Cydymaith Bwrdd 
00–5
Neil Mukerji (gadawodd Medi 2025)
Cydymaith Bwrdd
0–50–5

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â'u ffioedd, mae aelodau anweithredol yn cael eu had-dalu am gostau teithio a threuliau eraill yn unol â’n polisi teithio a chynhaliaeth. Ni sy’n talu rhwymedigaeth treth yr ad-daliad hwn.

Nid yw aelodau anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn derbyn buddion pensiwn.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn uwch swyddogion

Ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion
Uwch swyddogionCyflog mewn bandiau o £5,000Buddion pensiwn i'r £1,000 agosafBuddion mewn nwyddau i'r £100 agosafCyfanswm mewn bandiau o £5,000
2025 i 20262024 i 20252025 i 20262024 i 20252025 i 20262024 i 20252025 i 20262024 i 2025
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr (troednodyn 1)
5,000– 9,999110,000–114,9994,00065,000050010,000– 14,999175,000– 179,999
Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr (troednodyn 2)
90,000-94,99990,000–94,99947,00051,00000140,000-144,999140,000– 144,999

David Matthews 

Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu

90,000– 94,99950,000– 54,99948,00037,00000

140,000– 144,999

 

90,000– 94,999

 

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau
  • Troednodyn 1: Gadawodd Dyfed Alsop ar 30 Ebrill 2025.
  • Troednodyn 2: Penodwyd Rebecca Godfrey yn Brif Weithredwr o 28 Hydref 2025 drwy gystadleuaeth deg ac agored. Roedd wedi bod yn y swydd dros dro ers 1 Mai 2025. Cyn hyn, Rebecca oedd y Prif Swyddog Gweithredu.
  • Ni thalwyd unrhyw fonysau yn 2025 i 2026 nac yn 2024 i 2025.
  • Ni roddwyd unrhyw fuddion mewn nwyddau yn 2025 i 2026. Roedd y buddion mewn nwyddau a gafwyd yn 2024 i 2025 yn ymwneud â gwerth trethadwy car trwy aberth cyflog. 
  • Mae Rebecca yn gweithio yn rhan-amser; byddai ei chyflog cyfwerth ag amser llawn o fewn y band £145,000 a £149,999.
  • Penodwyd David Matthews yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd ym mis Medi 2024. Byddai ei gyflog blynyddol cyfwerth ag amser llawn yn 2024 i 2025 ym mand £125,000 a 129,999.
Buddion pensiwn uwch swyddogion
Uwch swyddogion

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2026 a chyfandaliad cysylltiedig

£000

Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2026

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2025

£000

Cynnydd gwirioneddol mewn CETV*

£000

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr (troednodyn 1)
35–40 a chyfandaliad o 80–850–2.5 a chyfandaliad o 07257212
Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr (troednodyn 2)
30–350–2.5568527**9

David Matthews

Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu

30–352.5–553647630

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau

*CETV yw gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod.

** Oherwydd newidiadau i’r swydd, mae'r cymharydd blwyddyn flaenorol a ddarparwyd gan MyCSP wedi'i ddiweddaru o £506,000 i £527,000, sydd i’w weld uchod. Y gwerth CETV yn ymwneud â hyn (£506k–£527k) oedd 20.

  • Troednodyn 1: Gadawodd Dyfed Alsop ar 30 Ebrill 2025.
  • Troednodyn 2: Penodwyd Rebecca Godfrey yn Brif Weithredwr o 28 Hydref 2025 drwy gystadleuaeth deg ac agored. Roedd wedi bod yn y swydd dros dro ers 1 Mai 2025. Cyn hyn, Rebecca oedd y Prif Swyddog Gweithredu. 

Staff eraill

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd ar gael oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n adrannau gwahanol – mae clasurol, premiwm, a clasurol plws yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd pob gwas sifil newydd, a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth, â’r cynllun newydd.

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac alpha yn gynlluniau statudol nas ariennir. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn cyfrannu (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Caiff costau’r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau taladwy yn cynyddu'n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniad diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth, yn hytrach na’r trefniant buddion diffiniedig.

Yng nghynllun alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae'r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu bob blwyddyn yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) eu pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy'n newid o PCSPS i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.

Y pensiwn cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. Mae'r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan aelod fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigur yn dangos gwerth cyfunol eu buddion yn y 2 gynllun, ond noder y gall rhannau o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.

Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau newydd ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus yn 2015, roedd trefniadau trosiannol yn eu lle a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn rhan o’r cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau (‘dyfarniad McCloud’).

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny a wnaed yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae dwy ran i’r Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus. Roedd y rhan gyntaf yn golygu cau PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda phob aelod gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod rhwymedi (rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022) drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023.

Mae'r buddion pensiwn cronedig, y Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod (CETV), a ffigur cyfanswm unigol y cydnabyddiaeth ariannol a adroddwyd ar gyfer unrhyw unigolyn yr effeithir arno gan y Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar eu cynnwys yn y Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn dyfarniad McCloud. Mae'r Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn berthnasol i unigolion a oedd yn aelodau, neu a oedd yn gymwys i fod yn aelodau, o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 31 Mawrth 2012 ac a oedd yn aelodau o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022. Mae'r sail ar gyfer y cyfrifiad yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol bod aelodau a deimlodd effaith hyn wedi'u rholio yn ôl i'r Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer cyfnod y rhwymedi, ac y bydd hyn yn berthnasol oni fydd yr aelod yn arfer eu hawl ar ôl ymddeol i benderfynu i dderbyn buddion a gyfrifwyd o dan delerau'r cynllun alffa ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 yn lle hynny.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o Legal & General Mastertrust. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Mae rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael ar wefan CSPS.

Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn eu hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar eu cost eu hunain. 

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd gwirioneddol mewn CETV

Mae hwn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg

Mae'n rhaid i gyrff adrodd megis ACC ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol chwartel isaf, canolrifol, a chwartel uchaf eu pobl.

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod ar gyfer pensiynau. Ni thalodd ACC unrhyw dâl neu fonysau a oedd yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2025 i 2026 na 2024 i 2025.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 oedd £100,000 i £104,999 (2024 i 2025: £110,000 i £115,000). Roedd hyn 2.26 gwaith yn uwch na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £45,378 (2024 i 2025: 2.5 gwaith, £44,866) gan ddefnyddio canolbwynt yr ystod cyflog mewn bandiau ar gyfer y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf.

Roedd y gymhareb yn 2025 i 2026 yn debyg i 2024 i 2025 ar y cyfan. Mae hyn oherwydd bod cyflog y cyfarwyddwyr ar y cyflogau uchaf yn is yn 2025 i 2026. 

Yn 2025 i 2026 y codiad cyflog canrannol ar gyfer staff yr Uwch Wasanaeth Sifil oedd 3.25%. 

Yn 2025 i 2026, gostyngiad o 8.9% oedd y newid canrannol o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â'r cyfarwyddwr ar y cyflogau uchaf (cynnydd o 4.7% yn 2024 i 2025). Roedd hyn o ganlyniad i newid personél yn y rôl cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf. Cynyddodd cyflog cyfartalog yn ein sefydliad 3.1% (2024 i 2025: cynnydd o 1.9%). 

Rhwng 2025 a 2026 a 2024 i 2025, ni dderbyniodd unrhyw staff gydnabyddiaeth ariannol uwch na'r cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf. Roedd tâl yn amrywio o £27,302 i £102,500 (pwynt canol y band) (2024 i 2025: £24,420 i £112,500 (pwynt canol y band)).

Cydnabyddiaeth ariannol staff chwartel isaf, canolrifol, a chwartel uchaf
Blwyddyn  Cyflog 25ain canradd Cymhareb gyflog 25ain canradd

Cyflog canradd canolrifol

 

Cymhareb gyflog canradd canolrifolCyflog 75ain canradd

Cymhareb gyflog 75ain canradd

 

2025 i 2026£34,9972.9:1£45,3782.3:1£61,0981.7:1
2024 i 2025£33,7483.3:1£44,8662.5:1£64,7421.7:1

Adroddiad pobl

Costau pobl
Costau poblStaff cyflogedig parhaolStaff contract
ac asiantaeth
CyfanswmCyfanswm
Cyflogau4,9251,0065,9314,792
Costau nawdd cymdeithasol6584662489
Costau pensiwn eraill1,423121,4351,274
Cyfanswm7,0061,0228,0286,555

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys pobl sydd ar fenthyg i ni gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Mae'r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chyfnodau chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU. 

Cyfraniadau i’r cynllun pensiwn

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all ACC nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2020 a disgwylir i'r adolygiad ar 31 Mawrth 2024 gael ei gwblhau yn 2025. Mae’r manylion i’w gweld yng nghyfrifon adnoddau Cynllun Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil Cabinet Office: Civil Superannuation.

Ar gyfer 2025 i 2026, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £1,591,359 yn daladwy i Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, yn seiliedig ar 28.97% o dâl pensiynadwy (rhwng 2024 a 2025: £1,270,904 rhwng 26.6% a 30.3%, yn seiliedig ar fandiau cyflog). Mae actwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac yn adlewyrchu profiad o’r cynllun.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Ni thalwyd unrhyw gyfraniadau cyflogwyr yn 2025 i 2026 (rhwng 2024 a 2025: £2,528) i 1 neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid sydd wedi’u penodi. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3 % o’u tâl pensiynadwy.

Ni wnaeth unrhyw un (naill ai yn 2025 i 2026 nac yn 2024 i 2025) ymddeol yn gynnar oherwydd salwch. Felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

Uwch Wasanaeth Sifil yn ôl band cyflog

Nifer yr aelodau o’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ôl band cyflog
Band Cyflog31 Mawrth 202631 Mawrth 2025
SCS211
SCS112

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Personau a gyflogir (gan gynnwys SCS) – cyfwerth ag amser llawn (CALl) ar gyfartaledd
 Staff2025 i 20262024 i 2025
Staff parhaol10889
Staff ar fenthyg10
Staff cyfnod penodol11
Cyfanswm11090

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rhai sy’n cyflenwi ar gyfer pobl bresennol oherwydd absenoldeb rhiant neu amser arall o’u rôl, neu pan mai dim ond dros dro yr oedd angen y rôl.

Staff asiantaeth

Staff asiantaeth – cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd (CALl):

  • 8 ar gyfer 2025 to 2026
  • 5 ar gyfer 2024 to 2025

Cyfansoddiad pobl

Rydym wedi ymrwymo i gynnig lle gwych i weithio ar gyfer ein holl staff. Fel rhan o'n hymrwymiad, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cadw ac adolygu gwybodaeth cydraddoldeb am ein pobl er mwyn llywio ein penderfyniadau
  • meddu ar bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac ystyried yr effaith ar unigolion a grwpiau sydd â nodweddion wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw)
  • sicrhau bod ein Bwrdd a'n Tîm Arwain yn goruchwylio cydraddoldeb
  • cyhoeddi ein hadroddiad ar gydraddoldeb ym mis Mawrth 2026, yn ymdrin â'r cyfnod 2024 i 2025
Personau a gyflogir yn ôl rhywedd
 Ar 31 Mawrth 2026Ar 31 Mawrth 2025
 MenywodDynionMenywodDynion
SCS1112
Pobl eraill69555247

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel dyddiau gwaith a gollwyd yn flynyddol (AWDL). Mae AWDL fesul blwyddyn staff yn hafal i gyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn wedi’i rannu â chyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl.

Rydym yn credu fod y fformiwla hon yn dangos gwir nifer y diwrnodau a gollir yn well na ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint. Mae defnyddio cyfanswm blynyddoedd hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i bobl ran-amser, dechreuwyr newydd, a'r rhai sy'n gadael. Er enghraifft, byddai gan rywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos flwyddyn o 0.5.

Ein lefel absenoldeb oherwydd salwch oedd 6.48 AWDL ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026. Mae hyn yn is na’r ffigwr cyhoeddedig diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Sifil, sef 8.2 AWDL ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mawrth 2025. 

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn 2 ffordd:

  • trosiant, sy’n golygu staff sy’n gadael y Gwasanaeth Sifil yn gyfan gwbl
  • trosiant adrannol, sy’n golygu staff sy'n gadael ACC ond yn trosglwyddo i adran neu gyflogwr arall y Gwasanaeth Sifil

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael â nifer cyfartalog y bobl sydd mewn swydd. Yn 2025 i 2026, gadawodd 7.3% o staff ACC. O'r rheini, gadawodd 0.9% y Gwasanaeth Sifil a symudodd 6.4% i adrannau eraill y llywodraeth fel symudiad i’r ochr neu ar ddyrchafiad.

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Mae Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil yn arolwg trawslywodraethol o ymgysylltiad cyflogeion. Cymerodd bron i 350,000 o weision sifil o 102 o sefydliadau ran yn arolwg 2025. Mae'r arolwg yn ystyried ymatebion i'r 5 datganiad canlynol, sy'n ddangosyddion cryf o ymgysylltiad cyflogeion: 

  • rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC
  • byddwn yn argymell ACC gan ei fod yn lle gwych i weithio
  • mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy swydd
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘anghytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 datganiad. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘cytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 datganiad.

Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ACC

Mynegai ymgysylltiad:

  • 76% ar gyfer 2025
  • 76% ar gyfer 2024

Mae ein sgôr gyffredinol o 76% yn dangos lefel uchel o ymgysylltiad cyflogeion ac mae'n sylweddol uwch na chyfartaledd y Gwasanaeth Sifil, sef 65% yn 2025 a 64% yn 2024.

Rydym yn cyhoeddi ein canlyniadau blynyddol ar ein gwefan yn Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Costau ymgynghori yn ystod y cyfnod (£000):

  • 718 ar gyfer 2026 i 2026
  • 612 ar gyver 2024 i 2025

Pan fo angen sgiliau arbenigol, mae gwaith yn cael ei gyflawni naill ai gan unigolion medrus priodol neu drwy sefydliadau ymgynghori.

Cynyddodd y defnydd o sefydliadau ymgynghori arbenigol yn ystod 2025 i 2026, wedi'i yrru'n bennaf gan waith darganfod sy'n ymwneud â'r gofrestr genedlaethol. Cafwyd gwariant ymgynghori ychwanegol er mwyn sicrhau arbenigedd mewn gwasanaethau rhwydwaith a diogelwch, yn ogystal â chael cyngor ar ddylunio a datblygu sefydliadol. Mae hyn yn adlewyrchu twf parhaus y sefydliad, o ran ei faint ac o ran y gwasanaethau y mae’n ei gynnig.

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn berthnasol i unigolion sydd naill ai'n hunangyflogedig neu’n gweithredu trwy gyfryngwr neu gwmni gwasanaeth, yn hytrach na chael eu cyflogi'n uniongyrchol gennym ni. O 6 Ebrill 2017, arweiniodd diwygiadau i’r ddeddfwriaeth (a elwir yn IR35) at newid y rheolau ar gyfer pobl oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus. Symudodd y rhwymedigaeth i benderfynu eu statws treth o’r contractwr i'r cyflogwr.

Mae pob ymgysylltiad oddi ar y gyflogres wedi bod yn destun asesiad IR35 er mwyn pennu natur y trefniadau gweithio a sicrhau tryloywder a chydymffurfedd â rheoliadau treth.

Swyddi gweithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd

Nifer y swyddi presennol – 15, o'r rhain: 

  • llai na blwyddyn – 11 
  • rhwng 1 a 2 flynedd – 2 
  • rhwng 2 a 3 blynedd – 0 
  • rhwng 3 a 4 blynedd – 0 
  • pedair blynedd neu fwy – 2
Pob gweithiwr cyflog uchel oddi ar y gyflogres a gyflogwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd

Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn – 21, o'r rhain: 

  • ddim yn ddarostyngedig i deddfwriaeth oddi ar y gyflogres – 2
  • yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod o fewn cwmpas IR35 – 19
  • yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR35 – 0
  • nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn – 0
    • o'r rhain: Nifer y swyddi a welodd newid i statws IR35 yn sgil adolygiad – 0
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol 0
Cyfanswm yr aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd ar, ac oddi ar, y gyflogres ac sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol 10

Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill

Ni fu unrhyw ddiswyddiadau o ACC nac ymadawiadau eraill y cytunwyd arnynt yn ystod naill ai 2025 i 2026 na 2024 i 2025. Ac ni chytunwyd ar unrhyw becynnau ymadael yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026.

Rydym yn talu costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS) o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Os ydym yn cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae'r costau ychwanegol yn cael eu talu gennym ni yn hytrach na Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd afiechyd eu talu gan y cynllun pensiwn. 

Llesiant

Rydym yn gwerthfawrogi llesiant ein pobl, ac rydym yn cynnig gweithle cadarnhaol a chefnogol lle gallant ffynnu. Trwy gydol y flwyddyn gwnaethom gynnal nifer o fentrau i hyrwyddo llesiant, gan gynnwys:

  • darparu 'awr lesiant' â thâl wythnosol sy'n annog ein pobl i flaenoriaethu eu llesiant personol
  • creu cyfleoedd llesiant misol sy'n gysylltiedig â'n nod o 'gefnogi diwylliant ffyniannus trwy gysylltu pobl, dysgu gyda'n gilydd a rhannu llawenydd' 
  • hyrwyddo ac annog ein pobl i ymuno â rhwydweithiau staff a grwpiau cymorth
  • cynnig gwiriadau iechyd wedi'u teilwra i'r holl staff
  • cynnig rhaglen cymorth i weithwyr, platfform rheoli gofal iechyd a chymorth cymorth cyntaf iechyd meddwl

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

14 Gorffennaf 2026

Nôl i dop y dudalen

Adroddiad archwilio: cyfrifon adnoddau

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd.

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. 

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lif Arian, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2026 ac o’i gwariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; 
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio datganiadau ariannol a rheoleidd-dra cyrff y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol o’r corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a'm hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016, ac
  • mae’r wybodaeth a roddir yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am: 

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol
  • paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol
  • pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall
  • asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corff yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag: 
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig, a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau
  • ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll; fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cofnodi dyddlyfrau anarferol
  • cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru
  • cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; 
  • asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Rwy’n gorfod ateb gofynion o ran cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn. 

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru

1 Cwr y Ddinas

Stryd Tyndall

Caerdydd

CF10 4BZ

14 Gorffennaf 2026

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Nôl i dop y dudalen

Cyfrifon adnoddau

Datganiad o wariant net cynhwysfawr
CostauNodyn

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Costau staff28,0286,555
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff2275201
Costau gweithredu eraill22,4561,784
Dibrisiant3.18074
Amorteiddiad3.27166
Gwariant gweithredu net 10,9108,680
Cyfanswm gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn 10,9108,680

Datganiad o sefyllfa ariannol

 Non-current assets
Asedau anghyfredolNodyn

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Plant and equipment3.1235207
Intangible assets3.21,863170
Total non-current assets 2,098377
Asedau cyfredol
Asedau cyfredolNote

2025 to 2026

£000

2024 to 2025

£000

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall4241113
Arian parod a chyfwerth ag arian parod53,0871,313
Cyfanswm asedau cyfredol 3,3281,426
Rhwymedigaethau cyfredol
Rhwymedigaethau cyfredolNote

2025 to 2026

£000

2024 to 2025

£000

Symiau masnach a symiau taladwy eraill6(2,478)(1,021)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (2,478)(1,021)
Cyfanswm asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol
Cyfanswm asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredolNote

2025 to 2026

£000

2024 to 2025

£000

Cyfanswm asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol 2,948           782
Ecwiti trethdalwyr
Ecwiti trethdalwyrNote

2025 to 2026

£000

2024 to 2025

£000

Cronfa gyffredinol 2,948           782

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 

14 July 2026

Datganiad o lifoedd arian parod 
 Nodyn 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 

£000 

Llifoedd arian parod o weithgareddau gweithredol    
Gwariant gweithredu net  (10,910) (8,680) 
Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad oeddent yn ariad parod    
Gostyngiad/(cynnydd) mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill  (128) 35 
(Gostyngiad)/cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill  1,457 74 
Dibrisiant ac amorteiddiad 3.1, 3.2 151 140 
Colled ar waredu offer  
Arian parod net (all-lif) sy'n deillio o weithgareddau gweithredu  (9,428) (8,431) 
Llifoedd arian parod sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi    
Ychwanegiadau peiriannau ac offer 3.1 (110) (80) 
Ychwanegu asedau anniriaethol 3.2 (1,764) (26) 
Arian parod net (all-lif) sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi  (1,874) (106) 
Llif arian parod sy’n deillio o weithgareddau cyllido  13,076 8,732 
Cyllid gan Lywodraeth Cymru  13,076 8,732 
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod 1,774 195 
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod 1,313 1,118 
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod 3,087 1,313 

Datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr

Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2024 hyd 2025
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2024 hyd 2025

General fund

£000

Balans ar 31 Mawrth 2024

 
730
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru8,612
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru120
Cyfanswm gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(8,680)
Balans ar 31 Mawrth 2025782
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2025 hyd 2026
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2025 hyd 2026

General fund

£000

Balans ar 31 Mawrth 2025782
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru11,109
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru1,967
Cyfanswm gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(10,910)
Balans ar 31 Mawrth 20262,948

Nôl i dop y dudalen

Nodiadau i'r cyfrifon adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn ddarostyngedig i ddehongliadau ac addasiadau safonau Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Cyfrifyddwyd gwariant ar sail groniadol. Mae’r cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn y polisi cyfrifyddu 1.7.

1.3 Busnes gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail ‘busnes gweithredol’ gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei harian refeniw gan y llywodraeth i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir ei ragweld.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol: Nid oes gan ACC unrhyw asedau hawl i ddefnyddio. Dim ond Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg fu’n cyfarwyddo’r gofod swyddfa a ddyrannwyd i ACC yn ystod y flwyddyn. Ers etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, mae'r cyfrifoldeb hwn wedi’i drosglwyddo i’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid.

1.5 Croniad gwyliau blynyddol

Cyfrifir am groniad gwyliau blynyddol staff o fewn costau staff eraill. Dim ond y symudiad yn ystod y flwyddyn a godir amdano. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn.

1.6 Treth ar werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant ar nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEF.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ‘ddyraniad grant’) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r gronfa gyffredinol. Mae FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod yn cynnwys y balansau sydd gan ACC gyda sefydliadau ariannol yn unig.

1.9 Adrodd ar segmentau

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae ACC yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adrodd ychwanegol.

1.10 Lesau

Ar gyfer 2025 i 2026, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les (naill ai fel y lesydd na’r lesddeiliad) o dan Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill, a rhwymedigaethau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog. 

1.12 Asedau anghyfredol

Offer

Caiff cyfarpar ei ddal ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn.

Mae’r holl gyfarpar a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC ac a oedd yn costio £5,000 neu fwy wedi’i gyfalafu. 

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig, fel y dangosir isod.

Oes ddefnyddiol ddisgwyliedig offer
Categori cyfarparOes ddefnyddiol ddisgwyliedig
Gosodiadau a ffitiadau5 i 10 mlynedd
Cyfarpar TGCh3 i 5 mlynedd
Cyfarpar arall5 mlynedd
Asedau anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd natur benodol asedau anniriaethol, cânt eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddiad yn y mis ar ôl caffael yr ased.

Mae’r asedau anniriaethol sy'n cael eu datblygu yn ymwneud â datblygiadau system ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth Cofrestru. Mae'r costau ar gyfer y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân yn nodyn 3.2. Mae costau'n cael eu cronni nes bod yr ased ar gael i'w ddefnyddio, ac wedi hynny caiff ei drosglwyddo i'r categori asedau perthnasol a bydd tâl amorteiddio yn cael ei godi. 

Oes ddefnyddiol ddisgwyliedig asedau anniriaethol

Trwyddedau a meddalwedd – 3 blynedd i 7 mlynedd.

1.13  Safonau cyfrifyddu sydd wedi'u cyhoeddi ond heb eu mabwysiadu eto

Mae'r safonau cyfrifyddu canlynol wedi'u cyhoeddi a/neu eu diwygio gan Fwrdd Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (IASB) a Phwyllgor Dehongli IFRS (IFRIC) yr IFRS, ond nid ydynt wedi'u mabwysiadu oherwydd nad yw'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol wedi gwneud hynny’n ofynnol eto.

IFRS 18 Cyflwyno a Datgelu mewn Datganiadau Ariannol 

Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

IFRS 19 Is-gwmnïau heb Atebolrwydd Cyhoeddus: Datgeliadau 

Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

2. Gwariant

Gwariant yn ystod y cyfnod
 

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Staff a chostau cysylltiedig  
Cyflogau 4,967     4,459 
Costau pensiynau 1,435     1,274 
Costau nawdd cymdeithasol 662        489 
Costau asiantaeth 964        333 
 8,028    6,555
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff  
Hyfforddi a datblygu 101          82 
Teithio a chynhaliaeth 35          42 
Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion 139          77 
 275       201
Costau gweithredu eraill  
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill 108          85 
Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig 75          73 
Ffi archwilio allanol 36          33 
Costau sy'n gysylltiedig â TGCh 1,855     1,244 
Ffi archwiliad mewnol 17          13 
Costau proffesiynol eraill 365        336 
 2,456    1,784
Amorteiddiad a dibrisiant151       140
Cyfanswm gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn10,910    8,680

Mae dadansoddiad pellach o gostau staff a chostau cysylltiedig i'w cael yn yr Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a phobl.

3. Asedau anghyfredol

3.1 Cyfarpar

 
 

Cyfarpar TGCh

£000

Peiriannau ac offer

£000

Cyfanswm

 

£000

Cost neu brisiad   
Cost ar 1 Ebrill 2025 446  60  506 
Ychwanegiadau 95  15 110
Gwarediadau(5)0(5)
Ar 31 Mawrth 202653675611
Dibrisiant 
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2025 287  12  299 
Tâl am y flwyddyn 73  7  80 
Gwarediadau(3)0(3)
Ar 31 Mawrth 2026 357  19  376 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025 159  48  207 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2026 179  56  235 
Cost neu brisiad   
Cost ar 1 Ebrill 2024366             60                426
Ychwanegiadau             80 080
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 202544660506
Dibrisiant 
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2024           220                5                225 
Tâl am y flwyddyn             67                7                  74
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 202528712299
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202414655201
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025           159              48                207

3.2 Asedau anniriaethol

 

Trwyddedau

 

£000 

Meddalwedd

 

£000

Ased sy’n cael ei ddatblygu

£000

Cyfanswm

 

£000

Cost neu brisiad    
Cost ar 1 Ebrill 20251372,66802,805
Ychwanegiadau0371,7271,764
Ar 31 Mawrth 20261372,7051,7274,569
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2025762,55902,635
Tâl am y flwyddyn4625071
Ar 31 Mawrth 20261222,58402,706
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025611090170
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2026151211,7271,863
Cost neu brisiad    
Cost ar 1 Ebrill 20241372,5401012,778
Ychwanegiadau026026
Trosglwyddo             0101(101)0
Gwarediadau0000
Ar 31 Mawrth 20251372,66702,804
Amorteiddiad    
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2024302,53802,568
Tâl am y flwyddyn46            20 066
Gwarediadau0000
Ar 31 Mawrth 2025762,55802,634
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 20241072101210
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025611090170

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall ar ddiwedd y cyfnod
 

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall241       113 
Balans ar 31 Mawrth241 113

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 

2025 i 2026

£000

2024 i 2025

£000

Balans ar ddechrau'r cyfnod 1,313    1,118 
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod 1,774       195 
Balans ar 31 Mawrth  3,087    1,313

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

Symiau masnach a symiau taladwy eraill ar ddiwedd y cyfnod
 

2025 i 2026

£000

2024 i 2025
£000
Symiau masnach taladwy (2,236) (848) 
Symiau taladwy eraill(242) (173) 
Balans ar 31 Mawrth(2,478)(1,021)

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig. Roedd trafodiadau materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

  • derbyniwyd cyllid refeniw o £11.11 miliwn yn ystod y flwyddyn (2024 i 2025: £8.61 miliwn)
  • derbyniwyd cyllid cyfalaf o £1.97 miliwn yn ystod y flwyddyn (2024 i 2025: £120,000)
  • gwnaed taliadau o £6.51 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2025 i 2026, yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres (2024 i 2025: £6.27 miliwn)

Ni wnaeth unrhyw aelod o Fwrdd ACC, uwch swyddog nac unrhyw un o'u partïon cysylltiedig ymgymryd ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC yn ystod y flwyddyn.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2026.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2026.

10. Colledion a thaliadau arbennig (mae'r wybodaeth hon yn ddarostyngedig i archwiliad)

Roedd gan ACC 3 colled yn 2025 i 2026, y mae eu gwerth is na'r trothwy adrodd, (1 golled yn 2024 i 2025). Ni wnaed unrhyw daliadau arbennig yn 2025 i 2026 na 2024 i 2025.

11. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Nôl i dop y dudalen

Adroddiad archwilio: datganiad treth

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd.

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n ardystio fy mod wedi archwilio Datganiad Treth Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. 

Mae’r Datganiad Treth yn cynnwys y Datganiad o refeniw, incwm arall a gwariant a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. 

Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2026 ac o’r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; 
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF; ac
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y Datganiad Treth wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y Datganiad Treth yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio datganiadau ariannol a rheoleidd-dra cyrff y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r Datganiad Treth, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r Datganiad Treth yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y Datganiad Treth a'm hadroddiad i fel archwilydd arno. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Nid yw fy marn am y Datganiad Treth yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r Datganiad Treth neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y Datganiad Treth ei hun. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y Datganiad Treth ar ei chyfer yn gyson â’r Datganiad Treth ac mae’r Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd neu’r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; 
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu; 
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am:

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a’i Adroddiad Blynyddol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan y Ddeddf honno, ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  •  pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall;
  • asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru, ei ardystio ac adrodd arno yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. 

Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag: 
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig, a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau
  • ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll; fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cofnodi dyddlyfrau anarferol 
  • cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru
  • cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; 
  • asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae hefyd yn ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru’n cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn. 

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru

1 Cwr y Ddinas

Stryd Tyndall

Caerdydd

CF10 4BZ

14 Gorffennaf 2026

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Nôl i dop y dudalen

Datganiad treth

Datganiad o refeniw, incwm arall a gwariant 
 Nodyn 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 

£000 

Treth Trafodiadau Tir (TTT) 2.1 362,968 340,612 
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) 2.2 32,423 34,138 
Cyfanswm trethi a thollau   395,391374,750 
Incwm arall    
Cosbau 2.3 721 658 
Llog 2.3 455 1,161 
Cyfanswm cosbau a llog  1,176 1,819 
Cyfanswm y refeniw  396,567 376,569 
Llog a dalwyd  3.1 (1,547) (1,063) 
Colledion refeniw 3.2 (822) (517) 
Cyfanswm gwariant  (2,369) (1,580) 
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru  394,198 374,989 

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt y tu hwnt i’r datganiad refeniw, incwm arall a gwariant. 

Datganiad o sefyllfa ariannol 
 Nodyn 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 
£000 
Symiau derbyniadwy 4.1 5,297 5,575 
Trethi cronedig derbyniadwy 4.1 13,452 16,685 
Arian parod 10,024 10,769 
Cyfanswm asedau cyfredol  

28,773 

 

33,029 
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif (1,575) (1,899) 
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys (20) (2,150) 
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol  (1,595) (4,049) 
Cyfanswm yr asedau net  27,178 28,980 
Cynrychiolir gan    
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 27,178 28,980 

Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
14 Gorffennaf 2026 

Datganiad o lifoedd arian parod 
 Nodyn 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 
£000 
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 395,255 372,964 
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru  (396,000) (374,000) 
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn (745) (1,036) 

 

Nodiadau ar y datganiad o lifoedd arian parod 

A: Cysoniad llif arian net â symudiad mewn cronfeydd net
 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 

£000 

Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 394,198 374,989 
Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod 3,511 (3,981) 
(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau (324) 1,595 
(Gostyngiad)/cynnydd mewn darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau (2,130) 361
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 395,255 372,964 
B: Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net 
 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 

£000 

Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn (745) (1,036) 
Arian net ar 1 Ebrill (balans banc agoriadol) 10,769 11,805 
Arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol) 10,024 10,769 

Nôl i dop y dudalen

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu 

1.1 Sail cyfrifyddu 

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â: 

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF 
  • Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus 
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau diweddarach 

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol. 

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach na fel pennaeth. 

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf. 

1.2 Confensiwn cyfrifyddu 

Paratowyd y datganiad treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau. 

1.3 Cydnabod refeniw 

Trethiant 

Mae trethi’n cael eu mesur yn unol â 'IFRS 15 Refeniw o Gontractau gyda Chwsmeriaid’. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan: 

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth 

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfradd uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol. 

Cosbau a llog 

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy. 

Cydnabyddir refeniw pan: 

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC 

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrif: 

  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth 
  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC 
  • pan fo apêl, neu resymau cyfreithiol eraill, yn canslo’r gosb 

Lle ystyrir yn ddiweddarach nad oes modd casglu refeniw llog neu gosb a gydnabuwyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol am resymau heblaw'r hyn a nodir yma, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad yr ystyrir ei fod yn anghasgladwy. 

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y datganiad treth. Dyma'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr ‘atebolrwydd damcaniaethol’), a’r hyn a gesglir. Y rhwymedigaeth treth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ‘ysbryd y ddeddf’) yw’r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon. 

Gohiriadau 

Mae gohiriad yn digwydd pan fydd gan drafodiad tir sawl cam o bennu pris prynu a phan fo un neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio. Yn yr achos hwn, cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio. 

Ymholiadau a thribiwnlysoedd 

Yn unol â’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, nid yw refeniw treth ynghyd ag ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o ymholiadau neu achosion tribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy'n ymwneud ag ymchwiliadau neu dribiwnlysoedd. 

1.4 Defnyddio barn 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol. 

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:  

  • Mae ACC yn modelu datgeliad o'r rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer ad-dalu TTT cyfradd uwch yn y cyfrifon. Mae rhan o'r cyfrifiad hwn yn defnyddio amcangyfrif o ganran y TTT cyfradd uwch ychwanegol a fydd yn cael ei adennill ac mae'r mewnbwn hwn yn cael ei ddarparu gan Drysorlys Cymru a'i ddilysu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. 

1.5 Offerynnau ariannol 

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. IFRS 7 Offerynnau ariannol: Mae datgeliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid oes unrhyw amlygiad i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor. 

1.6 Cyfrinachedd Trethdalwyr 

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn dangos unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y datganiadau ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.  

1.7 Symiau derbyniadwy 

Nid yw FReM yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu amhariadau yn unol ag ‘IFRS 9 Offerynnau Ariannol’, gan fod y safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract, ond, mae amhariadau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y cynsail o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a chan ystyried y tebygolrwydd o’u casglu. 

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd er mwyn penderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath, adroddir ar y gwerthoedd yn y datganiad o sefyllfa ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu. 

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae mwyafrif llethol yr achosion hyn yn cael eu hachosi gan ansolfedd unigolion a busnesau. Daw colledion refeniw o ollwng a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadennill ond fod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennill pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled. 

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol. 

1.8. Trafodiadau Partïon Cysylltiedig 

Oherwydd natur busnes ACC, mae gennym drafodiadau, sy'n ymwneud ag incwm trethiant, gydag adrannau eraill y llywodraeth a chyrff eraill y llywodraeth ganolog. 

Ni wnaeth aelodau'r Bwrdd, nac unrhyw un o'u partïon cysylltiedig, ymgymryd ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC (h.y. trafodiadau o £0.1 miliwn neu fwy). Mae angen ffurflenni gwrthdrawiad buddiannau ar gyfer unrhyw drafodiad o'r fath waeth beth fo'i werth. 

1.9 Safonau cyfrifyddu sydd wedi'u cyhoeddi ond heb eu mabwysiadu eto 

Mae'r safonau cyfrifyddu canlynol wedi'u cyhoeddi a/neu eu diwygio gan Fwrdd Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (IASB) a Phwyllgor Dehongli IFRS (IFRIC) yr IFRS, ond nid ydynt wedi'u mabwysiadu oherwydd nad yw'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol wedi gwneud hynny’n ofynnol eto. 

IFRS 18 Cyflwyno a Datgelu mewn Datganiadau Ariannol – Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar. 

IFRS 19 Is-gwmnïau heb Atebolrwydd Cyhoeddus: Datgeliadau – Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar. 

2. Refeniw ac incwm arall 

2.1 Treth Trafodiadau Tir 

Treth Trafodiadau Tir 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 
£000 
Preswyl 287,596 251,849 
Amhreswyl [1] 75,372 88,763 
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir 362,968 340,612 

[1] Mae hyn yn cynnwys trafodiadau defnydd cymysg o £7.9 miliwn yn 2025 i 2026 a £19.57 miliwn yn 2024 i 2025. Mae'r ffigur hwn wedi'i ostwng er mwyn cyfrif am ad-daliadau cyfradd uwch o £28.05 miliwn (2024 i 2025: £22.40 miliwn) sydd bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ad-daliad. 

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn 3 blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol. Cydnabyddir hyn pan fydd y trethdalwr neu’r asiant yn cyflwyno hawliad, sy’n creu’r digwyddiad rhwymedigaethol, a bod gwerthiant y breswylfa flaenorol yn digwydd o fewn y flwyddyn ariannol yr adroddir arni, neu’n gynharach. 

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi 

Treth Gwarediadau Tirlenwi 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025

£000 

Treth Gwarediadau Tirlenwi 32,423 34,138 
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi 32,423 34,138 

LDT is paid when waste is disposed of to landfill and is charged by weight and type of waste. 

2.3 Cosbau a llog 

Cosbau a llog 2025 i 20262024 i 2025
Cosb 
£000
Llog 
£000
Cosb 
£000
Llog 
£000
Treth Trafodiadau Tir 625278657298
Treth Gwarediadau Tirlenwi 961771863
Cyfanswm cosbau a llog 7214556581,161

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, a phan bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. 

Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau. 

Oherwydd natur y taliadau cosb/llog, bydd amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, ac nid ydynt yn rhagweladwy o ran eu nifer na’u swm. 

3. Gwariant 

3.1 Llog a dalwyd 

Llog a dalwyd 

2025 i 2026 

£000 

2024 i 2025 
£000 
Treth Trafodiadau Tir (1,312) (1,063) 
Treth Gwarediadau Tirlenwi (235) 
Cyfanswm y llog a dalwyd (1,547) (1,063) 

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau. 

3.2 Colledion refeniw  

Colledion refeniw 2025 i 20262024 i 2025
(Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth 
£000 
Dyled wedi'i dileu 
£000 
(Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth 
£000 
Dyled wedi'i dileu 
£000 

Treth Trafodiadau Tir 

Treth Gwarediadau Tirlenwi 

21 (843) (517) 
Cyfanswm y colledion refeniw 21 (843) (517) 

Er mwyn diogelu cyfrinachedd trethdalwyr, nid ydym bellach yn rhannu’r ffigurau hyn rhwng y trethi.

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad treth (gweler nodyn 4.2).  

Dilëir dyledion pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth yn ofalus, na ellir adennill y symiau hyn. 

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy 

4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus 

Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus 2025 i 20262024 i 2025
Symiau derbyniadwy 
 
£000 

Refeniw cronedig derbyniadwy 

£000 

Symiau derbyniadwy 
 
£000 

Refeniw cronedig derbyniadwy 

£000 

Treth Trafodiadau Tir 6,458 8,715 6,798 10,759 
Treth Gwarediadau Tirlenwi 4,737 5,926 
Cyfansymiau cyn amhariad 6,458 13,452 6,798 16,685 
Tynnu amhariad  
(nodyn 4.2) 
(1,161) (1,223) 
Cyfanswm  5,297 13,452 5,575 16,685 

Rhwymedigaethau trethdalwyr yw’r symiau derbyniadwy, lle mae’r symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi eu hysgwyddo yn ystod y cyfnod adrodd, ond na dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen. 

Symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth yw refeniw cronedig derbyniadwy, lle mae'r rhwymedigaeth treth wedi'i phrofi ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. 

4.2 Darpariaeth ar gyfer amhariad 

Darpariaeth ar gyfer amhariad2025 i 20262024 i 2025

Treth Trafodiadau Tir 

£000 

Treth Gwarediadau Tirlenwi 

£000 

Treth Trafodiadau Tir 

£000 

Treth Gwarediadau Tirlenwi 

£000 

Ar 1 Ebrill 1,223 705 
Cynnydd/(gostyngiad) mewn amhariad (21) 518 
Defnydd o amhariad (41) 
Balans ar 31 Mawrth 1,161 1,223 

Gwneir darpariaeth ar gyfer amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir y dreth neu’r cosbau sy'n ddyledus yn llawn. Amhariad yw gwerth dyled sydd, yn ein barn ni, yn annhebygol o gael ei hadennill yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y datganiad o sefyllfa ariannol ar ôl didynnu gwerth amcan gyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer amhariad yn seiliedig ar lawer o ffactorau, megis sefyllfaoedd pan, yn anffodus, mae trethdalwr ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cymryd.  

5. Arian parod

Balans arian parod ar ddiwedd y cyfnod 
Balans2025 i 2026 
£000 

2024 i 2025  

£000 

Government Banking service 10,024 10,769 
Balance at 31 March  10,024 10,769 

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth. 

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif 

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif ar ddiwedd y cyfnod 
Symiau taladwy a balansau 2025 i 2026 
£000 
2024 i 2025 
£000 
Treth Trafodiadau Tir 1,575 1,899 
Treth Gwarediadau Tirlenwi 
Cyfanswm 1,575 1,899 

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at 12 mis o’r dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn cynnwys ad-daliadau treth, cosbau neu log sydd heb eu talu, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch.  

7. Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys 

Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys ar ddiwedd y cyfnod
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys 2025 i 2026 
£000 

2024 i 2025  

£000 

Treth Trafodiadau Tir 20 229 
Treth Gwarediadau Tirlenwi 1,921 
Cyfanswm 20 2,150 

Fel y nodwyd yn nodyn polisi cyfrifyddu 1.3, nid yw refeniw sy'n ymwneud ag achosion tribiwnlys yn cael ei gydnabod yn y cyfrifon hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad neu'r dyfarniad. Sefydlwyd y ddarpariaeth i gydnabod bod ACC wedi derbyn taliadau pan fo'r trethdalwr wedi apelio i dribiwnlys mewn perthynas â'r dreth sy'n ddyledus.

8. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol 

8.1 Asedau digwyddiadol 

Mae gennym y pŵer i agor ymholiad i unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys, neu y mae'n ofynnol ei gynnwys, mewn ffurflen dreth, sy'n ymwneud ag:   

  • a yw'r trethdalwr yn atebol am dalu treth  
  • faint o dreth sy'n daladwy  
  • a oes gan y person a wnaeth y ffurflen dreth hawl i gredyd treth a hawlir yn y ffurflen dreth 

Ar ddiwedd yr ymholiad bydd ACC yn hysbysu'r trethdalwr o'r canlyniad ac a yw’r ffurflen dreth a/neu'r dreth sy'n ddyledus yn cael ei diwygio. Pan fydd yr ymholiad wedi'i gwblhau a hysbysiad cau yn cael ei gyflwyno, dangosir unrhyw dreth ychwanegol neu ostyngiad mewn treth yn y datganiadau ariannol ar y dyddiad cau.  

Mae gennym nifer o ymholiadau agored i TTT a TGT ond ein barn ni yw: 

  • mae rhai o'r rhain yn eu cyfnod cynnar ac nid yw'n bosibl eto asesu gyda sicrwydd faint o dreth sy'n destun ymholiad 
  • gall datgelu unrhyw wybodaeth am eu natur a’u gwerth arwain at ddatgelu gwybodaeth am drethdalwyr gwarchodedig   

Am y rhesymau hyn, ni ddatgelir gwerth asedau digwyddiadol sy'n ymwneud ag ymholiadau yn y datganiadau ariannol hyn. 

8.2 Rhwymedigaethau digwyddiadol 

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiad preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae'n rhaid i'r trethdalwr anfon cais er mwyn derbyn yr ad-daliad. 

Dangosir yr ad-daliad posibl hwn o gyfraddau uwch y dreth fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y datganiad treth oherwydd ansicrwydd yr adhawliadau a'u hamseriadau. Ar gyfer 2025 i 2026, y swm a amcangyfrifir yw £14.4 miliwn (2024 i 2025: £17.2 miliwn) a gyfrifiwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. 

9. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

Balans 2025 i 2026 
£000 
2024 i 2025 
£000 
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill 28,980 27,991 
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 394,198 374,989 
Ar ôl tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (396,000) (374,000) 
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 27,178 28,980 

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd 

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Nôl i dop y dudalen

Geirfa

Achos treth

Yn ymwneud ag ymateb i ymholiadau cyffredinol gan drethdalwyr, eu hasiantau a'r cyhoedd.

Adennill treth

Y broses o adennill y diffyg pan fo swm treth a hunanaseswyd (ar ffurflen dreth er enghraifft) yn cael ei brofi'n anghywir ac mae mwy o dreth yn ddyledus. 

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau anniriaethol – ased adnabyddadwy nad yw'n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Asiant 

Rydym yn cyfeirio at gyfreithwyr a/neu drawsgludwyr fel asiantau pan fyddwn yn trafod materion TTT. 

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan Senedd Cymru ac a ddyrennir wedyn drwy gynnig cyllidebol. Cynnig a phenderfyniad ar y gyllideb yw’r dull a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig) i sicrhau cysondeb yn y gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru. Rhaid cael o leiaf un cynnig cyllideb blynyddol bob blwyddyn, a gellir ategu’r cynnig hwn gyda chynigion cyllideb atodol.

Defnydd cymysg 

Mae gan eiddo 'cymysg' (a elwir hefyd yn eiddo defnydd cymysg) elfennau preswyl ac amhreswyl.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol ddiriaethol.

Diogelu treth

Pan ganfyddir nad yw hawliad i gael ad-dalu am dreth a ordalwyd yn ddilys a’i bod yn cael ei gwrthod gan ACC, gelwir swm y dreth a fyddai wedi’i ddychwelyd i'r trethdalwr fel arall yn 'dreth wedi'i diogelu'.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Gwarediadau anawdurdodedig

Gwaredu deunydd y tu allan i safle tirlenwi sydd wedi’i awdurdodi.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) y Llywodraeth

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EF ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Proffil risg 

Casgliad o ffurflenni treth sydd â set o nodweddion cyffredin sydd o bosibl yn dangos gwall yn y dreth sy'n ddyledus. 

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y llywodraeth yn defnyddio'r rhain fel sail eu paratoadau ar gyfer eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy'n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sydd angen eu talu i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Ymchwiliad treth

Yn ymwneud ag adennill/diogelu treth.