Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Prif Weithredwr

Image
Dyfed Alsop

Croeso i’n Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2019-20

Mae’n bleser gen i gyflwyno ein Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2019-20, sy’n cwmpasu blwyddyn gyntaf ein Cynllun Corfforaethol (2019-22) a gyhoeddwyd fis Mehefin diwethaf (2019). Rwy’n falch o’r cynnydd a wnaed gennym eleni o ran ymwreiddio Ein Dull – ffordd Gymreig o weinyddu trethi – a chyflawni ein hamcanion strategol tair blynedd a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol.

Mae’r gwaith hwn wedi ein helpu i godi £297 miliwn mewn refeniw treth yn ystod 2019-20 o’r ddwy dreth Gymreig ddatganoledig rydym yn eu casglu a’u rheoli, Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Mae’r refeniw hwn yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol Cymru yn uniongyrchol, o’n GIG i’n hysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. 

Er i ni fwynhau llwyddiannau’n gyffredinol eleni, mae dau ffactor allanol wedi effeithio ar ein pobl a’n gweithrediadau yn ystod chwarter olaf y flwyddyn. Yn gyntaf, ym mis Chwefror, effeithiwyd ar ein pencadlys yn Nhrefforest gan y llifogydd difrifol a effeithiodd ar ein cymuned leol a llawer o rannau o Gymru a’r DU yn gyffredinol. Ac yn ail, pandemig coronafeirws (COVID-19) sydd wedi dod â heriau digynsail i bawb yng Nghymru. 

Ein blaenoriaeth oedd cefnogi ein pobl i ofalu am eu hunain a’u hanwyliaid ac mae’n dal i fod felly, tra’n gwneud pob ymdrech i barhau i ddarparu ein gwasanaethau treth. Oherwydd ymroddiad ein pobl a diolch i’n system ddigidol sy’n gyfan gwbl yn y cwmwl, ychydig iawn o effaith gafodd y coronafeirws ar ein gwasanaethau. Mae ein Tîm Arwain, ynghyd â goruchwyliaeth strategol ein Bwrdd, wedi bod yn allweddol yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Rwyf wedi rhyfeddu at wytnwch ein sefydliad ifanc a’n gallu i barhau i gynnig gwasanaeth o safon uchel.

Hoffwn ddiolch i’n pobl; ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a llawer o bobl eraill am eu cefnogaeth, yn ogystal â threthdalwyr ac asiantau am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Diolch hefyd i dîm Archwilio Cymru am gydweithio â ni mor effeithiol, ac yn gyfan gwbl o bell, er mwyn cwblhau eu harchwiliad eleni. 

Fel adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, mae rhai o’n pobl wedi cynnig eu sgiliau a’u harbenigedd i gefnogi ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Fel gweision sifil, dyma’n pwrpas ni. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu nad ydym wedi gallu gwneud popeth y byddem yn ei wneud fel arfer, yn unol ag amserlen arferol yr Adroddiad Blynyddol. Dyna pam rydym wedi penderfynu cyhoeddi ein Cyfrifon Blynyddol yn unig yr haf hwn. 

Yn dilyn cytundeb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol eraill, rydym wedi gwyro oddi wrth Lawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM). Byddwn yn awr yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol yn llawn yn yr Hydref. Byddwn yn esbonio mwy am ein perfformiad yn erbyn ein hamcanion strategol a’n mesurau perfformiad bryd hynny ac, am y tro cyntaf, yn adrodd ar y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran datblygu ein gwaith ar risg treth. 

Dyfed Alsop,
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Bwrdd Rheoli
Enw Swydd Newid
Kathryn Bishop Cadeirydd Anweithredol;
Aelod o’r Pwyllgor Pobl
 
Jocelyn Davies Aelod Anweithredol; 
Cadeirydd y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC);
Aelod o’r Pwyllgor Pobl
Penodwyd yn Gadeirydd ARAC Mehefin 2019
Dyfed Edwards Is-gadeirydd Anweithredol; 
Cadeirydd y Pwyllgor Pobl
 
David Jones Aelod Anweithredol;
Aelod o ARAC
 
Lakshmi Narain Aelod Anweithredol;
Aelod o ARAC
 
Martin Warren Aelod Anweithredol Ymddiswyddodd 27 Awst 2019
Dyfed Alsop Prif Weithredwr  
Sean Bradley Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi Ymddiswyddodd 2 Mai 2020
Rebecca Godfrey Prif Swyddog Strategaeth Absenoldeb mamolaeth Ebrill 2019
Samuel Cairns Prif Swyddog Gweithrediadau Penodwyd dros dro Mai 2019, Penodwyd Mawrth 2020
Lucy Robinson Aelod Staff Etholedig  

Uwch Swyddogion

Tîm Arwain – Pwyllgor Gweithredol

  • Dyfed Alsop - Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey - Prif Swyddog Strategaeth
  • Jim Scopes - Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro (Ymunodd Mai 2019)
  • Jo Ryder - Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch - Prif Swyddog Pobl
  • Sam Cairns - Prif Swyddog Gweithrediadau (Penodwyd Mawrth 2020)
  • Kate Innes - Prif Swyddog Cyllid Dros Dro (Ymunodd Rhagfyr 2019)
  • Sean Bradley - Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi (Gadawodd Mai 2020)
  • Teressa Platt - Prif Swyddog Cyllid (Gadawodd Hydref 2019)

Adroddiad Ariannol

Cyfrifon Adnoddau

Mae ACC yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ei wariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein Cynllun Corfforaethol, wedi’u rhannu’n swyddogaethol i’r meysydd cyffredinol canlynol:

  • Costau staff gan gynnwys dysgu a datblygu
  • Costau gweithredol casglu’r trethi, camau gorfodi, a chudd-wybodaeth am ddata
  • Costau rhedeg corfforaethol, fel AD, TGCh, cyfleusterau, llywodraethiant, cyngor cyfreithiol ac ati
  • Newid busnes er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol er mwyn cefnogi prosesau newydd a newidiadau i ddeddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i ACC ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod. Noder bod y cyfnod cymharu blaenorol yn 18 mis.

Ffrwd Cyllid 2019-20
Dyraniad
2019-20 Cyllid a
dynnwyd
12 mis
2017-19 Dyraniad
18 mis
2017-19
Cyllid/asedau a
drosglwyddwyd
18 mis
  £000 £000 £000 £000
Refeniw 6,616 5,948 7,500 7,050
Cyfalaf 80 79 2,580 2,579
Cyfanswm y
Dyraniad Cyllid
6,696 6,027 10,080 9,629

Ar gyfer Ebrill 2019-20, rhoddwyd £6,196,000 o gyllid refeniw i ni. Cynyddwyd hyn o £500,000 yn ystod y flwyddyn er mwyn cyflawni gwelliannau digidol oedd wedi’u nodi ar gyfer lleihau’r risg o golli treth, ac ar gyfer datblygu adrannau newydd i’r systemau i gefnogi prosesau newydd. Cafodd rhan o’r cyllid ychwanegol hwn ei drosi’n £80,000 o arian cyfalaf ar gyfer prynu a chyflunio meddalwedd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM).

Cyllid a dynnwyd yw’r arian parod gwirioneddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Bydd y dyraniad a’r arian parod a dderbynnir yn wahanol gan fod ACC ond yn tynnu cyllid i lawr yn ôl yr angen i dalu costau pan fyddant yn ddyledus, tra bod arian a ddyrennir yn cynnwys croniadau (symiau sy’n ddyledus ond nad ydynt wedi’u talu eto). 

Nodir crynodeb o wariant staff a gwariant gweithredol isod.
  2019-20
12 mis
2017-19
18 mis
£000 £000
Costau Staff 4,576 4,961
Seilwaith TGCh a Chymorth Systemau 721 1,005
Newid Busnes 714 517
Costau Gweithredol 277 365
Costau Canolog 103 105
Costau’r Bwrdd 64 167
Cyfanswm Gwariant Staff a Gwariant Gweithredol 6,455 7,120

Mae gwariant ACC wedi’i reoli’n effeithlon gydol y flwyddyn ac roedd y gwariant terfynol 3% yn is na’r cyllid a ddyranwyd (£6,455,000 a wariwyd o’i gymharu â’r gyllideb o £6,616,000). Mae’r canlyniad hwn yn cynnwys y costau ychwanegol a gafwyd oherwydd y llifogydd yn ein prif swyddfa ym mis Chwefror 2020, a arweiniodd at adleoli staff, ynghyd ag effaith fwy diweddar y coronafeirws.

Nid oeddem yn gallu cwblhau rhai prosiectau arfaethedig ym mis Chwefror a mis Mawrth oherwydd y ddau ddigwyddiad ac rydym wedi gorfod gohirio rhywfaint o’r gwaith hwn i’w gwblhau yn 2020-21. Mae hyn wedi lleihau ein gwariant am y flwyddyn.

Mae’r cyfrifon hyn ar gyfer 2019-20 yn cwmpasu blwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol tair blynedd ACC, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019. Mae ein gwariant yn adlewyrchu amcanion allweddol y Cynllun hwnnw. Rydym wedi buddsoddi mewn staff drwy ddefnyddio prosesau recriwtio gwell, trwy ddysgu ychwanegol, hyfforddi, a chynnig cyfleoedd er mwyn sicrhau bod gan y sefydliad y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni’r cynllun hwn. Mae nifer y staff wedi cynyddu o 61 i 71 o ganlyniad i lenwi swyddi presennol a chyflwyno meysydd gwaith newydd, fel gorfodi a thribiwnlysoedd, wrth i ACC aeddfedu drwy’r broses o gasglu trethi.

Rhoddwyd hwb i gyllideb y rhaglen newid busnes drwy dderbyn £500,000 ychwanegol yn ail chwarter y flwyddyn. Mae’r cronfeydd hyn wedi’n galluogi i gyflawni ystod o amcanion digidol ar gyfer ACC a’n cwsmeriaid yn unol â’n hamcanion corfforaethol.

Rydym wedi gwneud gwelliannau i’n system rheoli trethi mewn dau faes risg treth allweddol i’w gwneud yn haws i bobl dalu’r dreth iawn ar yr adeg iawn. Rydym wedi dechrau adeiladu ein gallu digidol tymor hwy yn ogystal â gwella effeithlonrwydd, drwy gynyddu’r awtomeiddio sydd rhwng ein system drethi a’n systemau cyllid er enghraifft.

Yn ôl y disgwyl, mae costau canolog hefyd wedi cynyddu wrth i wasanaethau ACC aeddfedu. Ehangwyd prosesau adrannau’r Gyfraith, Polisi, TGCh, a Chyllid a chwyddodd niferoedd eu timau er mwyn cefnogi’r cynnydd o ran swyddogaeth weithredol ar draws y sefydliad. Mae costau newydd, fel costau gorfodi, yn dod i’r amlwg a byddant yn parhau i dyfu wrth i’r broses o gasglu trethi ddatblygu a defnyddio meysydd deddfwriaethol newydd i gasglu dyledion.

Trethi Datganoledig

Yn ystod y flwyddyn, cododd ACC drethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod. Dechreuwyd casglu trethi yn 2018. Felly, mae’r cymariaethau â’r flwyddyn flaenorol hefyd ar gyfer cyfnod o 12 mis.

  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir 260,281 227,846
Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433
Cyfanswm trethi a refeniw 297,207 272,279

Oherwydd effaith coronafeirws ar ein prosesau gweithredol, nid yw’r staff wedi gallu derbyn post ers 22 Mawrth 2020. Nid oes unrhyw ffurflenni papur na sieciau wedi cael eu prosesu ers y dyddiad hwnnw ac felly nid yw’r rhain yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon. Oherwydd y gyfran gymharol fach ffurlenni treth a dderbynnir ar ffurf papur (llai na 2%), ni ystyrir y caiff yr hepgoriad hwn effaith arwyddocaol ar y rhifau ar ddiwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth ACC brosesu ychydig dros 61,000 o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir (TTT), nifer tebyg i’r hyn a broseswyd yn y cyfnod blaenorol. O’r ffurflenni hyn, arweiniodd ychydig dros 50% at rwymedigaeth treth a oedd angen taliad, ffigwr tebyg i’r flwyddyn flaenorol unwaith eto. Cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £260 miliwn ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru.

Gwnaethom hefyd brosesu ad-daliadau TTT cyfradd uwch o £11.25 miliwn (2018-19: £9.22 miliwn) gan ad-dalu’r trethdalwr o fewn 7 diwrnod o dderbyn yr hawliad ar gyfartaledd.

Arweiniodd cosbau yn sgil cyflwyno ffurflenni’n hwyr a/neu dalu treth yn hwyr at £327,000 (2018-19: £157,000) o refeniw ychwanegol a godwyd ynghyd â thaliadau llog hwyr o £45,000 (2018-19: £16,000).

Talodd ACC log o £42,000 i drethdalwyr (2018-19: £13,000) pan dderbyniodd y trethdalwr ad-daliad treth. Digwyddodd hyn naill ai o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen neu pan gymeradwywyd cais am ad-daliad o elfen gyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir ar ôl gwerthu prif eiddo preswyl blaenorol o fewn cyfnod o dair blynedd.

Casglodd ACC y symiau arian parod net canlynol yn llwyddiannus:
  2019-20 2018-19
£000 £000
Arian net a gasglwyd 271,377 256,209
Arian parod i Gronfa Gyfunol Cymru 274,000 250,750

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a’i anfon yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae gan y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, gyfrifoldeb personol am:

  • Warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • Gweithrediadau a rheolaeth ACC o ddydd i ddydd
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’

O dan adrannau 29(1)(b) a 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 
(DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a’n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o’i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol. 

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n rhaid i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddo’n enwedig:

  • Ufuddhau i’r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • Gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • Nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y’u nodwyd yn FReM neu ddim, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon
  • Paratoi’r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • Cadarnhau bod y Cyfrifon Blynyddol, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Yn ogystal, rhaid i’r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o’r DCRhT er mwyn:

  • Dangos y symiau sy’n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall, unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a’r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • Datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i’r dibenion y’u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy’n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy’n cadarnhau:

  • Fod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • Fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • Wrth gynhyrchu’r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori’n eang, gan geisio adborth a sylwadau ac wedi ceisio sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o’r tîm staff ehangach
  • Rwyf wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
  • Hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw ein harchwilwyr yn ymwybodol ohoni

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Datganiad Llywodraethiant

Cyflwyniad a chwmpas cyfrifoldeb

Fel y Swyddog Cyfrifyddu rwy’n gyfrifol yn bersonol am y Datganiad Llywodraethiant sy’n amlinellu’r ffordd rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb i reoli adnoddau ACC yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae’r Datganiad yn rhoi cyfrif o strwythur llywodraethu corfforaethol ACC, trosolwg o’r trefniadau rheoli risg, a disgrifiad o’r prif risgiau a wynebir gan y sefydliad.

Mae DCRhT (Cymru) 2016, yn fy nynodi i fel y Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu wedi’u hatodi i Ddogfen Fframwaith gyhoeddiedig ACC.

Llywodraethiant corfforaethol

Mae sefydliad yn gweitho o fewn fframwaith llywodraethiant corfforaethol ac yn cael ei gyfarwyddo a’i reoli ganddo. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio i’r un graddau ar sut y caiff busnes ei wneud a’r ffordd y gwneir penderfyniadau.

Mae Bwrdd Rheoli ACC (y Bwrdd) yn rhoi arweiniad a chyfeiriad ac â chyfrifoldeb cyfreithiol cyffredinol dros sicrhau bod safon llywodraethu effeithiol a phriodol o fewn y sefydliad. Felly, mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o graffu ar berfformiad y tîm rheoli wrth gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

Fel Prif Weithredwr, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod system reolaeth fewnol gadarn yn cael ei chynnal er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion ac am adolygu effeithiolrwydd y system yn rheolaidd.

Mae Bwrdd ACC yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i Weinidogion Cymru. Maent yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau y cytunodd ACC a Gweinidogion Cymru arnynt, fel y’u nodir yn y Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol ac a adlewyrchir yng Nghynllun Corfforaethol ACC a gytunwyd gan y Gweinidog.

Yn ystod y flwyddyn, mynychodd Gadeirydd y Bwrdd gyfarfodydd chwarterol â’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ynghyd â Phrif Weithredwr ACC a swyddogion o Drysorlys Cymru, i drafod perfformiad gweithredol ACC a datblygu polisïau a strategaethau newydd. Rhoddodd y cyfarfodydd gyfle i’r Cadeirydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Gweinidog am berfformiad a chynnydd y Bwrdd. 

Fframwaith llywodraethiant

Mae ein strwythur, ein polisïau, a’n gweithdrefnau cyfundrefnol wedi’u sefydlu yn unol â Llywodraethu Corfforaethol mewn Adrannau Llywodraeth Ganolog y DU (2017). Mae ein strwythur arweinyddiaeth yn gyson â rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig ar gyfer uwch reolwyr; mae gweithdrefnau ategol ar waith i sicrhau y gall rolau’r Bwrdd weithredu’n effeithiol. Mae gennym lwybrau adrodd clir i sicrhau bod atebolrwydd a rheolaethau mewnol allweddol ar waith.

Sicrheir annibyniaeth penderfyniadau yngly^n â chydnabyddiaeth ariannol drwy ddirprwyo pob penderfyniad o’r fath i Bwyllgor Pobl y Bwrdd, dan arweinyddiaeth Aelodau Anweithredol. Rydym yn cynnal perthynas waith adeiladol gyda’n rhanddeiliaid allweddol drwy gyfarfodydd rheolaidd.

Trosolwg

Mae’r Bwrdd, ARAC, a’r Pwyllgor Pobl yn chwarae rôl allweddol o ran y system llywodraethu a sicrwydd, craffu, trafodaethau ar ddatblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad. Caiff pwyllgorau eu cadeirio gan aelodau Anweithredol ac mae aelodau perthnasol o’r Tîm Arwain yn eu mynychu. Maent oll yn ateb yn uniongyrchol i’r Bwrdd ac mae’r holl gofnodion ar gael i bob aelod o’r Bwrdd. Ceir trosolwg o weithgarwch y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn ystod y flwyddyn isod.

Amgylchiadau Eithriadol

Cyflwynodd digwyddiadau digynsail chwe wythnos olaf y flwyddyn heriau real iawn i ACC, gan gynnwys ei lywodraethiant. Cafwyd llifogydd yn ein prif swyddfeydd ganol mis Chwefror yn ystod Storm Dennis ac yn fuan wedyn daeth y pandemig coronafeirws a’r cyfyngiadau clo a osodwyd. Ers ei sefydlu mae gan ACC seilwaith TG yn y cwmwl sydd wedi’i gynllunio er mwyn bod yn gadarn ac er mwyn galluogi gweithio ar wasgar.

Ym mis Chwefror, yn dilyn Storm Dennis gwnaethom weithredu ein Cynllun Parhad Busnes yn llwyddiannus er mwyn i’r sefydliad barhau i ddarparu gwasanaethau. Gwnaethom adolygu ein prosesau e-lywodraethu’n fuan a’u haddasu er mwyn cefnogi’r newid mewn amgylchiadau. Roedd hyn yn cynnwys symud i gyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgorau rhithwir (a’u cynnal yn amlach). Gwnaethom hefyd adolygu Cofrestrau Risg ACC, ac ochr yn ochr â materion uniongyrchol, gwnaethom adnabod risgiau newydd a sefydlu rheolaethau priodol, yn bennaf ym maes sicrhau iechyd a llesiant parhaus staff. Yn ogystal, gwnaethom weithredu er mwyn cynnal uniondeb ein seilwaith TG a diogelwch ein data yn ystod cyfnod o fygythiadau cynyddol i’n seiberddiogelwch.

Pan effeithiodd coronafeirws arnom ym mis Mawrth, gwnaethom adolygu ac addasu ein llywodraethiant yn ôl yr angen ar gyfer yr amgylchiadau.

Y Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys pum Aelod Anweithredol a benodir gan Weinidogion, y Prif Weithredwr, dau Aelod Gweithredol a ddynodwyd gan 
y Prif Weithredwr, ac Aelod Staff Etholedig. Rhestrir aelodaeth gyfredol y Bwrdd a’u presenoldeb mewn cyfarfodydd ymhellach ymlaen.

Cyfarfu’r Bwrdd yn ffurfiol chwe gwaith yn ystod y flwyddyn (Ebrill 2019, Mehefin 2019, Medi 2019, Hydref 2019, Rhagfyr 2019, a Chwefror 2020) ac yn ogystal, cafwyd dau ddiwrnod datblygu ‘cwrdd i ffwrdd’. Roedd y cyntaf o’r rhain ym mis Gorffennaf 2019 a’i nod oedd ystyried cyfeiriad strategol a blaenoriaethau ACC ar gyfer gweddill y flwyddyn. Roedd yr ail ym mis Ionawr 2020 er mwyn ystyried a thrafod ei adolygiad o effeithiolrwydd ar gyfer y flwyddyn ac unrhyw gamau ar gyfer gwella a ddeuai yn sgil hynny.

Mae’r cofnodion, unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, ar gael ar wefan ACC. Caiff trafodaethau a phenderfyniadau a wneir y tu allan i gyfarfodydd Pwyllgor eu cofnodi ym mhapurau’r Bwrdd a’r cofnodion perthnasol.

Mae’r penderfyniadau allweddol a wnaed gan y Bwrdd yn ystod y cyfnod yn cynnwys cymeradwyo’r canlynol:

  • Cynnig cyllideb 2019-20 a lefelau adnoddau staff
  • Cynllunio busnes
  • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
  • Gwariant datblygu TGCh ar gyfer y System Rheoli Treth
  • Polisïau perthnasol, gan gynnwys rhai i atal twyll
  • Adolygiad o ddirprwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Egwyddorion a dull cyfathrebu strategol
  • Egwyddorion digidol

Mae’r Bwrdd hefyd wedi derbyn ac ystyried adroddiadau amrywiol eraill yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

  • Diweddariadau gan y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd
  • Diweddariadau perfformiad gweithredol ac ariannol
  • Adroddiadau rheoli risg a Chofrestrau Risg
  • Diweddariadau gan Bwyllgorau
  • Diweddariadau gan Drysorlys Cymru ar bolisi treth
  • Canlyniadau’r arolwg staff
  • Cynnydd yn erbyn amcanion a blaenoriaethau cytunedig

Perfformiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd

Asesir perfformiad y Cadeirydd yn erbyn amcanion bob chwe mis.

Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru sy’n arwain yr arfarniad ar ran y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Mae asesiad diwedd blwyddyn y Cadeirydd yn cynnwys adborth gan:

  • Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
  • Aelodau o Fwrdd ACC (yn cynnwys arfarniadau unigol gan Aelodau Anweithredol, Aelodau Gweithredol ac Aelodau Staff Etholedig)
  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Y Cadeirydd (hunanarfarniad)

Cyfarfu’r Cadeirydd â phob aelod o’r Bwrdd yn unigol o leiaf ddwywaith yn ystod y cyfnod i drafod eu perfformiad. Daeth pob Aelodau Anweithredol a’r Aelod Staff Etholedig i gytundeb â’r Cadeirydd ar set o amcanion personol. Roedd y rhain yn feysydd penodol i ganolbwyntio arnynt ar gyfer eu goruchwyliaeth unigol. Trafodwyd cynnydd ym mhob maes yn eu cyfarfodydd perfformiad gyda’r Cadeirydd bob chwe mis.

Dangoswyd ymrwymiad cryf a gwelwyd tystiolaeth o hynny drwy bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd Bwrdd, Pwyllgorau, a chyfarfodydd eraill.

Adolygodd y Bwrdd ei berfformiad cyfunol yn ystod y flwyddyn drwy arolwg dienw ar-lein. Roedd data’r arolwg yn cadarnhau barn y Bwrdd bod gwelliant wedi bod yn y meysydd canlynol:

  • Goruchwyliaeth a chyfeiriad
  • Dwyn y weithrediaeth i gyfrif
  • Herio a chefnogi

Ar ddiwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ effeithiolrwydd y Bwrdd ym mis Ionawr, trafododd yr aelodau feysydd i’w gwella a chytunwyd ar gamau gweithredu.

ARAC

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd o ran llywodraethu, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli a’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys tri Aelod Anweithredol. Mae’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid a chynrychiolydd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn mynychu cyfarfodydd. Mae Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu’n rheolaidd. Bu Martin Warren yn Gadeirydd y Pwyllgor nes iddo ymddiswyddo fel Aelod Anweithredol ym mis Mai 2019, a phenodwyd Jocelyn Davies yn olynydd iddo gan y Bwrdd.

Cynhaliwyd tri chyfarfod yn ystod y flwyddyn: ym Mehefin 2019, Tachwedd 2019, a Mawrth 2020. Ni chynhaliwyd cyfarfod ym mis Medi, ond dosbarthwyd y papurau ar gyfer cyfarfod arferol Medi i’r Aelodau er mwyn iddynt graffu ac ymateb iddynt. Rhennir cofnodion cyfarfodydd gyda’r Bwrdd ac mae Cadeirydd ARAC yn rhoi crynodeb o’i waith yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Paratôdd y Pwyllgor adroddiad blynyddol am ei weithgareddau, a chyflwynwyd hwnnw i’r Bwrdd.

Roedd ffocws y Pwyllgor yn ystod 2019-20 fel a ganlyn:

Image
Siart cylch yn dangos canran yr amser a dreuliwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) yn adolygu a chraffu archwilio a sicwydd, rheoli risg, gwytnwch a diogelwch, rheolaethau a phrosesau, adroddiad a chyfrifon blynyddol, llywodraethu a gweinyddu pwyllgorau.

Archwilio a sicrwydd

  • Cynnydd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) tuag at gyflawni’r Rhaglen Archwilio Mewnol y cytunwyd arni - Cynllun Archwilio Blynyddol*
  • Ystyried cynigion yr IAS ar gyfer y Cynllun Archwilio Mewnol - 2020-21
  • Ystyried Cylch Gorchwyl aseiniadau archwilio mewnol ac adroddiadau terfynol ar ôl cwblhau aseiniadau
  • Cynnydd gan ACC yn erbyn y camau a gytunwyd yn dilyn aseiniadau archwilio IAS a’r adroddiad blynyddol (IAS ac Archwilio Cymru)*
  • Ystyried Adroddiad Sicrwydd Blynyddol IAS*
  • Cynnydd o ran camau gweithredu adroddiad archwiliad mewnol Gwasanaeth Adnoddau Dynol/cyflogres a Rennir Llywodraeth Cymru
  • Archwilio Cymru - Astudiaeth Gwrth-dwyll
  • Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio

Rheoli risg

  • Adroddiadau ar reoli risg a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ddiweddaraf*
  • Ystyried y cynigion ar gyfer ymgorffori rheoli risg: Rheoli Gwybodaeth

Gwydnwch a diogelwch

  • Adroddiadau ar ddigwyddiadau diogelwch seiber a mynediad anghyfreithlon ar ddata TG*
  • Diweddariad ACC/NCSC (seiberddiogelwch)

Rheolaethau a phrosesau

  • Cofrestr Rhoddion, Gwobrau, a Lletygarwch*
  • Cofrestr Gwrthdrawiadau Buddiannau*
  • Trafodaeth ynghylch gwrth-dwyll: datblygu polisi a fframwaith
  • Adolygiadau Manwl: cytuno ar ddull

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

  • Craffu ar ddrafft cyntaf Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC
  • Adolygiad o’r cynlluniau ar gyfer paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20

* Eitemau sefydlog ar yr agenda

Llywodraethu a gweinyddu pwyllgorau

Cynhaliodd y Pwyllgor adolygiad o’i effeithiolrwydd yn ystod 2019-20 gan ddefnyddio rhestr wirio effeithiolrwydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i lywio’r gwaith. Trafododd y Pwyllgor ganlyniadau’r adolygiad a chytunodd â chanfyddiadau’r adolygiad fod ARAC, er ym more ei oes, yn gweithredu’n effeithiol.

Cytunwyd ar sawl cam o ganlyniad i’r adolygiad, gan gynnwys ceisio gwella’r modd y cyflwynir ffurflenni monitro ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol; defnyddio proses o adolygiadau manwl i archwilio’r risgiau allweddol; archwilio’r defnydd ehangach ac amlach o gyfarfodydd rhithwir ac ystyried gofynion sgiliau’r Pwyllgor yn y dyfodol.

Pwyllgor Pobl

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd drwy adolygu, cadarnhau a rhoi sicrwydd bod ACC yn cydymffurfio â’r holl bolisïau a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, yn benodol ar:

  • Gyfanswm cydnabyddiaeth ariannol (gan gynnwys unrhyw elfennau sy’n gysylltiedig â pherfformiad)
  • Darparu buddion eraill (gan gynnwys pensiynau)
  • Lwfansau
  • Taliadau terfynu a diswyddo
  • Cynigion recriwtio ar gyfer swyddi Uwch Weision Sifil
  • Newidiadau i delerau cytundebol staff

Mae’r pwyllgor hefyd yn goruchwylio ac yn rhoi sicrwydd o ran talent, strategaethau perfformiad a recriwtio, a phrosesau cysylltiedig ACC.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys tri Aelod Anweithredol. Yn ogystal, mae’r Prif Swyddog Pobl a’r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod. Cyfarfu’r Pwyllgor ddwywaith yn ystod y flwyddyn, unwaith ym mis Hydref ac ym mis Chwefror, gan rannu ei gofnodion â’r Bwrdd, gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn rhoi crynodeb o’i waith yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor gynhadledd ffôn ym mis Mai i drafod cynllunio ar gyfer olyniaeth.

Yn ystod y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn ystyried eitemau sefydlog ar gynllunio olyniaeth a monitro niferoedd staff, yn ogystal ag eitemau ar y canlynol:

  • Lleoliad a llety
  • Strategaeth Llesiant
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Ymgysylltu â chyflogeion a’r arolwg staff
  • Y r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) a dyfarniadau tâl dirprwyedig
  • Rheoli perfformiad
  • Cynllunio olyniaeth
  • Recriwtio staff uwch
  • Canlyniadau’r Arolwg Pobl

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd a Phwyllgorau

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgorau yn ystod 2019-20:

Aelodau’r Bwrdd/Pwyllgorau Bwrdd ARAC Pwyllgor Pobl
Nifer o gyfarfodydd a gynhaliwyd 6 3 2
Aelodau Anweithredol:
Kathryn Bishop (Cadeirydd - Bwrdd) 6 Amh 2
Jocelyn Davies (Cadeirydd - ARAC) 6 3 2
Dyfed Edwards (Dirprwy-Gadeirydd
- Bwrdd, Cadeirydd - Pobl)
6 Amh 2
David Jones 4 3 Amh
Lakshmi Narain 6 3 Amh
Martin Warren (ymddiswyddodd yn ystod y flwyddyn) 1 Amh Amh
Aelodau Gweithredol:
Dyfed Alsop (Prif Weithredwr) 6 3* 2*
Sean Bradley 6 Amh Amh
Rebecca Godfrey (tan Ebrill 2019) 1 Amh Amh
Sam Cairns (o fis Mai 2019) 4 Amh Amh
Aelod Staff Etholedig:
Lucy Robinson 6 Amh Amh

*Mynychu fel cynghorwr

Risg strategol

Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb penodol dros reoli a chyflwyno adroddiadau risg. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod y systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir y disgwylir rheoli risgiau oddi mewn iddi. Mae’r Bwrdd wedi penderfynu y bydd yn ystyried risgiau yn ffurfiol unwaith y flwyddyn.

Mae ARAC yn cefnogi’r Bwrdd o ran ystyried rheoli risg ac yn darparu cyngor yn ogystal â chynorthwyo a herio’r Tîm Arwain.

Y Tîm Arwain sy’n gyfrifol am gynnal y Gofrestr Risg Gorfforaethol a chefnogi cofrestrau risg tîm/prosiect. Mae Tîm Arwain yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn fisol, gan graffu ar risgiau cyfredol a’u rheolaeth ac adnabod risgiau newydd. Nodir risgiau corfforaethol mewn trafodaethau penodol ar fygythiadau strategol, yn ogystal ag o themâu yn y Cofrestrau Risg adrannol.

Crynodeb o’r prif risgiau strategol a rheolaethau

Crynodeb o’r prif risgiau strategol a rheolaethau

  • Adolygu trefniadaeth a rolau yn barhaus a’u hystwytho’n unol â hynny
  • Y rhan fwyaf o’r gwaith recriwtio wedi’i gwblhau - y gweddill wedi’i gynllunio ar gyfer 2020-21
  • Cynllunio olyniaeth
  • Rheoli gwybodaeth

Rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid o ran ansawdd gwasanaethau, gan gynnwys rheoli galw annisgwyl

  • Dull o gyfathrebu - bod yn weladwy ac yn dryloyw
  • Gweithio mewn partneriaeth, ymgysylltu a defnyddio/rhoi adborth
  • Adolygu canllawiau

Diffyg cydymffurfiaeth â dull penodol ACC o gasglu trethi

  • Defnyddio data a chudd-wybodaeth i lywio asesiadau risg
  • Cysoni dull â pholisi treth Llywodraeth Cymru

Methiant systemau

  • Trefn brofi
  • Cynllun Parhad Busnes sy’n cwmpasu TG a gweithrediadau
  • Cynnyrch diogelwch

Bygythiadau i reoli gwybodaeth yn effeithiol a diogelwch

  • Cofrestr Asedau Gwybodaeth wedi’i sefydlu
  • Strwythur, rolau, a chyfrifoldebau llywodraethu eglur
  • Hyfforddiant seiberddiogelwch a phrofi i staff

Holiadur Rheolaeth Fewnol Blynyddol a datganiadau sicrwydd a ddarparwyd i’r Swyddog Cyfrifyddu

Drwy gwblhau Holiadur Rheolaeth Fewnol blynyddol, mae uwch reolwyr yn darparu hunanasesiadau i mi o drefniadau rheolaeth fewnol, llywodraethu, a rheoli risg, a’u barn ar ba mor effeithiol y bu’r rheolaethau yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn. Darparodd yr ymarfer diweddaraf sicrwydd cadarnhaol o ran y gweithgareddau a’r swyddogaethau allweddol yr ymgymerwyd â hwy. Nodwyd rhai meysydd i’w datblygu yn y dyfodol a sefydlwyd cynllun gweithredu. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau rheoli sylfaenol yn ystod y cyfnod adrodd.

Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y swyddogaethau dirprwyedig sy’n ymwneud â Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), ac wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’i darpariaeth o wasanaethau Adnoddau Dynol a rennir.

Archwiliad mewnol

Penododd ACC Wasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen o waith archwilio a darparu sicrwydd i’r Swyddog Cyfrifyddu ac i’r Bwrdd, drwy ARAC, ynghylch y rheolaethau sydd ar waith i reoli risg ac ansawdd a chydymffurfiaeth ACC wrth gyflenwi gwasanaethau.

Mae’r rhaglen archwilio yn seiliedig ar risg a chytunir arni’n flynyddol gydag ARAC a’r Swyddog Cyfrifyddu. Mynychodd IAS gyfarfodydd ARAC i gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi’r rhaglen ar waith a chydgysylltu eu gwaith ehangach gyda gwaith Archwilio Cymru.

Yn ei hadroddiad blynyddol, rhoddodd y Pennaeth Archwilio Mewnol gefndir i’r ddarpariaeth IAS, adolygiad o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn yn erbyn gweithgarwch cynlluniedig, a barn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheoli mewnol ACC.

Cadarnhaodd fod y Cynllun Archwilio yn ddigon cynhwysol i roi barn eang ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ACC ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu. Y farn archwilio, yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith archwilio yn ystod y flwyddyn, oedd:

Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio’n briodol a’u cymhwyso’n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.

Cynhyrchodd yr holl waith archwilio a wnaed yn ystod y cyfnod ganlyniadau cadarnhaol. Ar y cyfan, roedd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol o’r farn bod cynnydd effeithiol wedi’i wneud o ran gweithredu fframwaith rheoli cadarn o fewn ACC. Lle nodwyd gwendidau sylweddol, ni chredwyd eu bod ddigon sylweddol i newid y farn gyffredinol hyd yn oed ar ôl eu cydgrynhoi. Ni chafwyd dosbarthiad “cyfyngedig” neu “dim sicrwydd” yn unrhyw un o’r adroddiadau archwilio unigol. Mae rhagor o fanylion am yr adroddiadau archwilio yn dilyn:

Aseiniad Archwilio Barn Sicrwydd Nifer yr Arsylwadau*
  A B
Hysbysiadau am ffeilio hwyr a chosbau am dalu’n hwyr Rhesymol Dau -
Rheoli Risg Rhesymol Dau -
Dull o ymdrin â risg tasgau Rhesymol Un Dau
Rheoli Gwybodaeth Rhesymol Tri -
Rheoli Dyledion – amser i dalu Sylweddol Un -

* Arsylwadau (categori):

  • A = yn teilyngu sylw
  • B = sylweddol

Nid oedd unrhyw arsylwadau sylfaenol.

Archwilio allanol

Caiff ACC ei archwilio gan Archwilio Cymru sydd, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd y cyfrifon ariannol. Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC ac i’r Bwrdd. Mae adroddiad Archwilio Cymru am y flwyddyn i’w weld ymhellach ymlaen ar gyfer y Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Mae ACC yn cymryd diogelwch gwybodaeth a’r rheolaeth gywir ohono o ddifrif. Rydym wedi datblygu Strategaeth Rheoli Gwybodaeth sy’n egluro sut rydym yn rheoli’r wybodaeth a gedwir gan ACC. Mae polisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau ategol priodol wedi’u sefydlu ac mae’r staff wedi’u hyfforddi.

Mae Swyddog Diogelwch TGCh yn arwain y gwaith o reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch gwybodaeth o ddydd i ddydd. Rydym yn rhannu Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) gyda Llywodraeth Cymru gan fod gennym lwyfannau TG cyffredin a’n Prif Swyddog Gweithrediadau yw’r Dirprwy SIRO.

Rydym hefyd yn rhannu Swyddog Diogelu Data gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyngor annibynnol ac yn ein cynorthwyo i fonitro cydymffurfiaeth fewnol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn adrodd yn flynyddol ar weithgarwch y mae wedi ymgymryd ag ef sy’n ymwneud ag ACC. Mae ei hadroddiad diweddaraf yn cadarnhau na dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth yn uniongyrchol gan unrhyw wrthrych data a oedd yn ymwneud â defnydd ACC o’u data. Nid oedd y Swyddog Diogelu Data wedi debyn unrhyw ohebiaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data yn ACC ychwaith. 

Bu chwe achos o fynediad anghyfreithlon at ddata a bu ond y dim i ddeg achos arall ddigwydd yn ACC yn ystod 2019-20, pob un ohonynt yn rhai bychain. Ni chyfeiriwyd unrhyw achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhoddwyd sicrwydd rhesymol gan aseiniad archwilio mewnol a oedd yn ystyried rheoli gwybodaeth a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.

Seiberddiogelwch

Mae ACC yn rhoi blaenoriaeth uchel i seiberddiogelwch. Mae ein Cofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys dwy risg o ran methiant system TGCh a cholli gwybodaeth sy’n ymwneud â seiberddiogelwch yn benodol.

Mae’r gymeradwyaeth ddiogelwch ar gyfer ACC wedi cynnwys cyfres o asesiadau risg yn dilyn canllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ac egwyddorion ISO27001 ac ISO27002. Caiff y dogfennau diogelwch a’r broses eu cymeradwyo’n derfynol gan SIRO Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cefnogi ein seiberddiogelwch*:

  • Caiff seilwaith a meddalwedd digidol ei brofi’n flynyddol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol wedi’i achredu gan NCSC
  • Profir unrhyw newidiadau sylweddol i’r systemau a’r seilwaith digidol
  • Mae hyfforddiant seiberddiogelwch gorfodol i bob aelod o staff ac Aelod Anweithredol
  • Caiff staff eu profi’n rheolaidd drwy wahanol ymarferion efelychu gwe-rwydo a, lle bo angen, rhoddir hyfforddiant ychwanegol
  • Mae cynllun digwyddiad seiberddiogelwch a defnyddir senarios ‘ymarfer mewn blwch’ NCSC i efelychu digwyddiadau seiberddiogelwch; mae’r profion hyn yn profi gwydnwch ein cynllun digwyddiadau ac ymwybyddiaeth staff o ymosodiadau seiber
  • Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol fel NCSC, Microsoft, CThEM, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Seiberddiogelwch Prifysgol De Cymru i adolygu a gwella risgiau seiberddiogelwch
  • Caiff canfyddiadau maleiswedd, negeseuon e-bost ffug, logiau pori, diogelwch rhaglenni cwmwl, cofnod y wal dân, ymosodiadau gwe-rwydo a mwy eu monitro’n rheolaidd gan y Tîm Digidol a Thechnoleg. Mae hyn yn llywio’r Adroddiad Seiberddiogelwch chwarterol a ddarperir i ARAC

*Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Cawsom ddau gais Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ymatebwyd i’r ddau ohonynt o fewn y terfynau amser priodol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â’r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwythu’r Chwiban

Mae gennym bolisi a chanllawiau ar chwythu’r chwiban ar waith er mwyn rhoi manylion clir i staff am sut i leisio unrhyw bryderon. Mae’r gwaith wedi dechrau ar adolygu ein polisi a’n proses yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd gan y Gwasanaeth Sifil. Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau o dan ein polisi yn ystod y flwyddyn.

Safonau’r Gymraeg

Nid oes gennym ein safonau ffurfiol ein hunain o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, rydym yn cydymffurfio’n wirfoddol â Safonau Llywodraeth Cymru lle mae hynny’n briodol ac yn ddichonadwy. Parhaodd y trafodaethau gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ystod y flwyddyn i’w hysbysu am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud o fewn y sefydliad i wella ein gwasanaethau Cymraeg mewnol ac allanol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Strategaeth Gymraeg gyntaf y sefydliad, a fydd yn canolbwyntio ar ddiwylliant, dysgu a datblygu, a chreu cyfleoedd i’n pobl a’n cwsmeriaid ddefnyddio’r Gymraeg.

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae ACC yn ymroddedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Er nad ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Ein Dull (sy’n llywio popeth a wnawn) yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad y Ddeddf a’r gwaith y gofynnwyd i ni ei wneud gan Weinidogion Cymru yn cefnogi nodau’r Ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ACC, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant a chadarnhaf fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi’r sefydliad.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol ac Adroddiad Staff

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol

Cytundebau gwasanaeth

Mae cyflogeion ACC yn weision sifil. Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae’r egwyddorion recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir gwneud penodiadau ar seiliau eraill.

Mae’r uwch swyddogion y mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy’n benagored, naill ai gydag ACC yn uniongyrchol, neu â’u hadrannau Gwasanaethau Sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai’r unigolyn yn cael iawndal yn unol â’r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r SCS wedi’i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw’r SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â’r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan Swyddfa Cabinet y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB). Wrth wneud ei argymhellion, rhaid i’r Corff Adolygu Cyflogau Uwch-Swyddogion roi sylw i’r ystyriaethau canlynol:

  • Yr angen i recriwtio, cadw a chymell, a, lle bo’n berthnasol, hybu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau
  • Yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffeithiau ar recriwtio a chadw staff
  • Polisïau’r Llywodraeth ar gyfer gwella’r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y gofyniad ar adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol
  • Yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth
  • Targed chwyddiant y llywodraeth
  • Tystiolaeth a dderbynnir am ystyriaethau economaidd ehangach a pha mor fforddiadwy yw ei argymhellion

Gellir cael rhagor o wybodaeth am waith yr SSRB ar GOV.UK

Mae Pwyllgor Pobl ACC, dan gadeiryddiaeth Aelod Anweithredol, yn gyfrifol am argymell penderfyniadau ar gyflogau uwch swyddogion yn flynyddol, neu yn ôl y gofyn. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol cael ei drin yn deg ac yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Pwyllgor, yn ystod y cyfnod, wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â rhywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa’r Cabinet. Er enghraifft, nid yw’r ACC wedi gwneud unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ystod 2019-2020 nac 2017-2019.

Mae’r gydnabyddiaeth ariannol i staff ACC sydd islaw’r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am bolisi cyflogau Llywodraeth Cymru yn LLYW.CYMRU.

Mae Aelodau Anweithredol Bwrdd ACC yn derbyn ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfradd Ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol 400
Is-Gadeirydd Anweithredol 350
Aelod Anweithredol 300

Caiff costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn eu had-dalu hefyd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae’r adran ganlynol yn rhoi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn rheolwyr uchaf ACC, sef aelodau’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys Aelodau Anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw’n cynnwys aelod Aelod Staff Etholedig y Bwrdd.

Mae’r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae’n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill i’r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu ex-gratia. Nid yw ad-daliadau am gostau teg a ysgwyddir yn uniongyrchol wrth i unigolyn gyflawni ei ddyletswyddau yn cael eu cynnwys yn eu cyflog. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gan ACC, ac wedi’u cofnodi felly yn y cyfrifon hyn. 

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan ACC ac mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy.

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 (er enghraifft, £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol Anweithredol

Dyma’r ffioedd a dalwyd i Aelodau Anweithredol:

Aelodau Anweithredol Ffioedd
2019-20 2017-19
£000 £000
Kathryn Bishop
Cadeirydd Anweithredol
15-20 35-40
Dyfed Edwards
Dirprwy Gadeirydd Anweithredol (o 20 Gorffennaf 2018)
Aelod Anweithredol (hyd 19 Gorffennaf 2018)
10-15 25-30
Jocelyn Davies
Aelod Anweithredol
5-10 10-15
David Jones
Aelod Anweithredol
5-10 20-25
Lakshmi Narain
Aelod Anweithredol
0-5 15-20
Martin Warren
Aelod Anweithredol (hyd 27 Awst 2019)
0-5 10-15

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â’u ffioedd, pan fo gwaith Aelodau Anweithredol i ACC yn arwain at gostau teithio a threuliau angenrheidiol eraill ar gyfer mynychu cyfarfodydd, mae ganddynt hawl i ad-daliad o dan Bolisi Ffioedd a Threuliau ACC. Mae ACC yn talu’r rhwymedigaeth dreth sy’n deillio o’r ad-daliad.

Nid yw Aelodau Anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn cael buddion pensiwn gan ACC.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn Uwch Swyddogion

Dyma’r ffigurau cydnabyddiaeth ar gyfer uwch swyddogion:

  Cyflog
mewn
bandiau
o £5,000
Buddion
pensiwn
i’r £1,000
agosaf
Cyfanswm
mewn
bandiau
o £5,000
2019-20 2017-19 2019-20 2017-19 2019-20 2017-19
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
95-100 135-140 35,000 71,000 130-135 205-210
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Strategaeth
(hyd 2 Mai 2019)
05-10 100-105 4,000 66,000 10-15 165-170
Sean Bradley
Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
(o 4 Rhagfyr 2017))
65-70 90-95 31,000 33,000 100-105 125-130
Sam Cairns
Prif Swyddog Gweithrediadau
(o 1 Mai 2019))
75-80 Ddim
yn y
swydd
33,000 Ddim
yn y
swydd
105-110 Ddim
yn y
swydd

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau:

  • Aseswyd buddion mewn nwyddau fel sero yn y 2019-20 a 2017-19
  • Ni thalwyd bonysau yn 2019-20 nac 2017-19
  • Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi â 20, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant neu unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn
  • Cyflog blynyddol Dyfed Alsop yn 2018-19 oedd £95,000-100,000
  • Roedd Rebecca Godfrey ar absenoldeb mamolaeth o 3 Mai 2019 hyd at 2 Mai 2020, ac yn ystod y cyfnod hwnnw parhaodd i fod yn aelod o staff ond nid oedd yn Gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei chyflog blynyddol yn 2019-20 wedi bod yn
    £75,000-80,000 (2018-19: £70,000-75,000)
  • Bu Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi, yn gweithio ar sail ran-amser ar raddfa 0.86 cyfwerth ag amser llawn (FTE) o 1 Ebrill 2018, cyn hynny bu’n gweithio’n llawn amser. Byddai ei gyflog blynyddol cyfwerth ag amser llawn yn 2019-20 wedi bod yn £80,000-85,000 (2018-19: £75,000-80,000, cyflog gwirioneddol £65,000-70,000)
  • Penodwyd Sam Cairns yn Brif Swyddog Gweithrediadau o 1 Mawrth 2020 mewn cystadleuaeth deg ac agored. Roedd wedi dal y swydd ar sail dyrchafiad dros dro ers 1 Mai 2019. Byddai ei gyflog blynyddol yn 2019-20 wedi bod yn £80,000-85,000

Roedd buddion pensiwn swyddogion uwch yn:

Uwch swyddogion Pensiwn
Cronedig
ar oedran
pensiwn ar
31/03/20 a
chyfandaliad
perthnasol
Cynnydd
gwirioned-dol
mewn pensiwn
a chyfandaliad
cysylltiedig
ar oedran
pensiwn
CETV ar
31/03/20
CETV ar
31/03/19

Cynnydd
gwiri-oneddol 
mewn CETV

£000 £000 £000 £000 £000
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
25-30 a
chyfandaliad
o 45-50
0-2.5 a
chyfandaliad
o 0
377 342 14
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog
Strategaeth
15-20 0-2.5 198 196 2
Sean Bradley
Prif Swyddog
Cyfreithiol a
Pholisi
25-30 a
chyfandaliad
o 10-15
0-2.5 a
chyfandaliad
o 0-2.5
434 397 15
Sam Cairns
Prif Swyddog
Gweithrediadau
15-20 0-2.5 177 155 11

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. *CETV = Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod.

Staff eraill

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n hafal i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, ymunodd pob gwas sifil a benodwyd o’r newydd yn ogystal â’r mwyafrif o’r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth gydag alpha. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae pedair adran i’r PCSPS: tair sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu glasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy’n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau’r buddion eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n daladwy o dan clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha yn flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol y PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i’w hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai hynny a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 wedi newid i alpha rhywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy’n newid i alpha yn cael eu ‘bancio’, a’r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun). Gall aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfranddeiliaid ‘prynu arian’ gyda chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha. Mae buddion clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy’n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol ar adeg ymddeol. Mae buddion premiwm yn cronni ar gyfradd o 1/60th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i glasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig. Mae clasurol plws yn ei hanfod yn gymysgedd o’r ddau, gyda buddion am wasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel rhai clasurol, a buddion am wasanaeth ers Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel rhai premiwm. Gyda nuvos, bydd aelod yn cronni pensiwn ar sail yr enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y bydd yn aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff y cyfrif pensiwn y mae’r aelod wedi’i gronni ei gredydu â 2.3% o’i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno’r cynllun a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond â chyfradd cronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall Aelodau ddewis amnewid (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Gall y cyflogwr ddewis gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar ei oedran) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai gan y darparwr penodedig - Legal & General. Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu ond, os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at uchafswm o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% arall o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes yn yr oedran pensiwn neu’n hy^n na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddion yn y PCSPS a’r alpha y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun ond gall gwahanol elfennau’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Bensiynau’r Gwasanaeth Sifil.

Gwerth Trosglwyddo Cywerth ag Arian Parod (CETV)

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy’n daladwy o’r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i’w aelodaeth lawn o’r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo. 

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi’u trosglwyddo i drefniadau pensiwn 
y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac 
nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes, a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, na chyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall). Mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Lluosrifau cyflog

Mae’r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy’n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol canolrifol gweithlu’r sefydliad.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy’n ennill y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2019-20 oedd £95,000-£100,000 (2018-19: £95,000-£100,000). Roedd hyn 2.4 gwaith yn uwch (2018-19: 2.45) na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £40,545 (2018-19: £39,750). Y cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf oedd y Prif Weithredwr, yn 2019-20 ac yn 2017-19.

Yn 2019-20, ni dderbyniodd unrhyw gyflogeion (2017-19, 1 cyflogai) gydnabyddiaeth ariannol a oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £20,000 i £98,360 (2018-19: £19,240 i £96,907).

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a CETV pensiynau.

Mae’r gymhareb tâl canolrifol wedi gostwng ychydig bach oherwydd bod y tâl canolrifol (£40,545) wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol (£39,750), tra bod y band cyflog ar gyfer y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog uchaf wedi aros yr un fath (£95,000-100,000). Mae’r £40,545 a’r £39,750 ill dau yn cynrychioli’r un pwynt yn ein graddfa tâl - sef pwynt lefel 2 o’n gradd Uwch-swyddog Gweithredol (SEO) - gan ystyried y cynnydd yn dilyn dyfarniad cyflog 2019, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019.

Fodd bynnag, er bod y cyflog canolrifol wedi aros bron yr un fath, bu dau newid arall i’r lefelau tâl o fewn ACC. Yn gyntaf, gan fod ACC bellach wedi cyflogi rhai aelodau staff ers dros ddwy flynedd, mae mwy o staff ar y lefelau uchaf o fewn eu graddau cyflog nag o’r blaen (2019-20: 55% o staff ar y ddau bwynt lefel is, 2018-19: 75%). Mae hyn wedi cynyddu cyflog unigolion. Yn ail, mae mwy o staff bellach yn cael eu cyflogi mewn graddau is nag o’r blaen (2019-20: 47% o’r staff yn y tair gradd isaf, 2018-19: 38%) am fod ACC yn dal i recriwtio ar gyfer rolau am y tro cyntaf yn 2019-20 ac, yn gyffredinol, roedd y rolau uwch yn cael eu llenwi gyntaf. O ganlyniad, mae’r cyflog cyfartalog wedi gostwng.

O ran tâl canolrifol, roedd y ddau newid hyn yn dileu ei gilydd i bob pwrpas.

Adroddiad Staff

Costau staff

Costau staff oedd:

  Staff a
gyflogir yn barhaol
Staff
contract ac
asiantaeth

Cyfanswm
Cyfanswm wedi’i
ailddatgan
2019-20 2019-20 2019-20 2017-19
£000 £000 £000 £000
Cyflogau 2,783 386 3,169 3,540
Costau nawdd
cymdeithasol
321 9 330 377
Costau pensiwn
eraill
804 14 818 730
Cyfanswm 3,908 409 4,317 4,647

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys staff sydd ar fenthyg i’r ACC gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy’n dal i gael eu cyflogi’n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Roedd y staff contract ac asiantaeth ar gyfer y cyfnod yn cynnwys nifer fach o staff asiantaeth (tri) a chontract cyfnod penodol (tri).

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i’r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU. Yn ogystal, ar gyfer staff contract ac asiantaeth, gall cyflog hefyd gynnwys ffioedd asiantaeth a TAW ar y gyfradd berthnasol. Mewn rhai achosion, cynhwysir costau nawdd cymdeithasol a chostau pensiwn eraill ar gyfer staff contract ac asiantaeth o dan y ffigurau ar gyfer cyflogau am eu bod yn cael eu hanfonebu ar sail gros.

Roedd costau staff yn ystod y cyfnod ychydig yn is na’r disgwyl, yn bennaf oherwydd nifer fach o achlysuron pan adawodd aelod o staff y sefydliad, ac nid oedd y sawl a oedd yn cymryd eu lle wedi gallu dechrau tan ar ôl iddynt adael, gan greu bwlch byr.

Cynllun pensiwn

Mae’r PCSPS yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir na all ACC adnabod ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016. Ceir manylion yng Nghyfrifon Adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2019-20, roedd cyfraniadau cyflogwr o £749,432 yn daladwy i’r PCSPS (2017-19: £724,475) ar un o bedair cyfradd o fewn yr ystod 26.6 - 30.3% (2017-19: 20.0-24.5%) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau’r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun. Mae’r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad y cynllun yn y gorffennol. 

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £4,600 (2017-19: £5,726) i un neu fwy o’r panel o dri darparwr pensiwn cyfranddeiliaid sydd wedi’u penodi. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8 - 14.75% (yn 2019-20 a 2017-19) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i’r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu’n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3% o dâl pensiynadwy.

Nid oedd unrhyw unigolion (naill ai yn 2019-20 neu yn 2017-19) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; felly roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill

Telir costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a grëwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae’r rhain yn gostau cyflogwyr sy’n gysylltiedig ag ymadael yn gynnar ac fe’u cyfrifir yn llawn yn y flwyddyn ymadael. Os yw’r ACC wedi cytuno i ymddeoliadau cynnar, telir y costau ychwanegol gan ACC yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd afiechyd yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr isod. Roedd taliadau o’r fath yn ystod y cyfnod yn ddim.

Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ôl band cyflog

Niferoedd aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil yn ôl eu band cyflog ar 31 Mawrth 2020 oedd:

Band cyflog 2019-20 2018-19
SCS 2 1 1
SCS 1 3 2

Crëwyd rôl newydd, sef Prif Swyddog Gweithrediadau, ym mis Mai 2019, gan ychwanegu un aelod o staff ar SCS1.

Nid oes gan ACC unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Ar gyfartaledd, roedd nifer y bobl cyfwerth ag amser llawn (FTE) a gyflogwyd (gan gynnwys SCS) yn:

  2019-20 2018-19 2017-18
(o 18 Hydref 2017)
Staff parhaol 58 38 6
Staff ar fenthyg 11 23 27
Staff cyfnod penodol 2 0.2 0
Cyfanswm 71 61 33

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel lleoliadau haf i fyfyrwyr prifysgol, a darpariaeth ar gyfer absenoldeb rhiant staff presennol neu gyfnodau eraill o’r gwaith.

Yn ogystal â’r staff cyflogedig fel y nodir uchod, nifer y staff asiantaeth FTE a gyflogwyd ar gyfartaledd oedd:

  2019-20 2018-19 2017-18
Staff asiantaeth 2 1 0.2

Cyfansoddiad y staff

Mae ACC wedi ymrwymo i egwyddorion triniaeth gyfartal ac mae’n cadw ac yn adolygu gwybodaeth am gydraddoldeb ar ei staff. Mae ganddo bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac mae’n ystyried yr effeithiau ar grwpiau sydd wedi’u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw) ar gyfer recriwtio, hyfforddi, datblygu gyrfa, a dyrchafu. Darparwyd trosolwg o gydraddoldeb o fewn ACC gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pobl, a’r Tîm Arwain yn ystod cyfnod yr adroddiad, a chymeradwywyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Cydraddoldeb gan y Pwyllgor Pobl ym mis Mawrth 2020. Er bod yr wybodaeth cydraddoldeb yma’n cael ei hadolygu’n fewnol, yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’r dadansoddiad o staff yn addas i’w gyhoeddi oherwydd, fel cyflogwr bach, byddai’n galluogi i unigolion a/neu grwpiau bach gael eu hadnabod. Eithriad i hyn yw proffil ein staff o ran rhyw, sydd wedi’i gynnwys isod.

Y dadansoddiad o ryw’r personau a gyflogir oedd:

  Ar 31 Mawrth 2020 Ar 31 Mawrth 2019
Benywaidd Gwrywaidd Benywaidd Gwrywaidd
Cyfarwyddwyr 0 3 1 2
SCS 1 0 0 0
Gweithwyr eraill 39 27 34 25

Roedd y prosesau a ddefnyddiwyd a/neu a weithredwyd yn ystod y cyfnod i hyrwyddo triniaeth gyfartal yn cynnwys:

  • Dod yn Gyflogwr Cyflog Byw Achrededig
  • Ychwanegu’r logo ‘Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg’ i’n tudalennau recriwtio, a pharhau i hysbysebu pob rôl fel un sydd ar gael yn hyblyg yn ddiofyn
  • Cadw statws cyflogwr Hyderus o ran Anabledd - Ymroddedig, ac arddangos y statws hwn ar ein tudalen we recriwtio
  • Darparu cynllun gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion sylfaenol y rôl
  • Dileu pob cyfeiriad at enw, rhyw, oedran, cyfeiriad ac enwau sefydliadau addysgol o geisiadau am swyddi er mwyn osgoi rhagfarn yn ystod y broses ddethol
  • Gofyn i bob ymgeisydd a oes angen unrhyw addasiadau arnynt neu ddewisiadau amgen i’n prosesau asesu
  • Ei gwneud yn ofynnol i bob panel recriwtio fod yn gymysg o ran rhyw, a bod aelodau o’r Panel wedi cwblhau hyfforddiant rhagfarn anymwybodol
  • Darparu hyfforddiant i staff ar gwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
  • Ystyried pob cais am hyfforddiant, ar gyfer adolygu dulliau rheoli talent, ac ar gyfer hyrwyddo mewnol yn ganolog er mwyn sicrhau cysondeb a lleihau rhagfarn
  • Defnyddio a hyrwyddo gwasanaethau Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a Chymorth i Weithwyr er mwyn cynorthwyo staff sy’n mynd yn sâl yn ystod eu cyflogaeth
  • Parhau i fod â Grw^ p Llesiant gweithgar ar gyfer staff, bod â Strategaeth Llesiant, a threfnu digwyddiadau gan gynnwys archwiliadau iechyd mewnol a chyfleoedd gwirfoddoli i staff
  • Cynnal asesiadau Offer Sgrin Arddangos (DSE) ar gyfer yr holl staff er mwyn nodi unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen wrth ymuno ag ACC ac yn ôl yr angen, yn enwedig gan fod ein staff wedi gorfod gweithio gartref yn dilyn y llifogydd yn ein swyddfeydd yn ystod storm Dennis (ac yn fuan wedi hynny, oherwydd ymbellhau cymdeithasol ar gyfer coronafeirws)
  • Rhoi gliniaduron i’r holl staff, waeth beth fo’u rôl, er mwyn hwyluso gweithio hyblyg

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel un o ddau gyfrifiad Dyddiau Gwaith a Gollwyd yn Flynyddol (AWDL).

AWDL fesul blwyddyn staff = cyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn / cyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl

Mae hyn yn well cynrychiolaeth o’r diwrnodau a gollir yn wirioneddol am nad yw’n cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint yn ystod y cyfnod salwch. Mae defnyddio cyfanswm o flynyddoedd staff hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i staff rhan-amser, ymgeiswyr newydd, a’r rhai sy’n gadael yn ystod y cyfnod. Er enghraifft, byddai rhywun sy’n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn staff o 0.5.

AWDL y pen = cyfanswm y diwrnodau a gollwyd / cyfanswm aelodau staff

Defnyddir y cyfrifiad hwn yn eang ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac fe’i cynhwysir yma er mwyn gallu cymharu’n rhwydd â sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r cyfrifiad hwn. Fodd bynnag, mae’n fesur llai cywir nac AWDL y flwyddyn staff oherwydd y rhesymau uchod.

Roedd lefel yr absenoldeb oherwydd salwch o fewn ACC yn 6.35 (2018-19: 6.86). Mae hyn yn debyg i ffigyrau AWDL diweddaraf y Gwasanaeth Sifil 
(2018-19: 6.9). AWDL y pen ar gyfer ACC oedd 8.4 (2018-19: 8.83), sy’n uwch na ffigurau AWDL fesul person diweddaraf y Gwasanaeth Sifil sydd ar gael (2018-19: 5.9).

Mae’r ffigwr ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch staff ACC yn cynnwys absenoldeb estynedig tri aelod o staff yn sgil salwch difrifol, rhywbeth a allai gael effaith sylweddol ar gyfrifiadau AWDL sefydliadau bach fel ACC. O eithrio eu habsenoldebau hwy o’r cyfrifiad, yr AWDL fesul blwyddyn staff oedd 2.8 (2018-19: 2.07).

Costau ymgynghori

Y costau ymgynghori yn ystod y cyfnod oedd:

  2019-20 2017-19
£000 £000
Costau ymgynghori 180 257

Pan fo angen parhaol am unigolion medrus, fel arfer byddwn yn recriwtio gweithiwr neu dîm i ymgymryd â’r gweithgareddau. Fodd bynnag, ar 
gyfer gwaith arbenigol tymor byrrach nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol. Mae’n well i waith o’r fath gael ei gwblhau gan sefydliad ymgynghorol arbenigol yn hytrach nag unigolyn. Mae’r dull hwn yn galluogi’r ACC i brynu’r arbenigedd a’r gwasanaethau sydd eu hangen arno, heb gostau afresymol a heb ymrwymo i gontractau cyfnod penodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan mai sefydliad bach a newydd yw ACC. Roedd llawer o’r gwaith gweithredu angenrheidiol yn ystod y 18 mis cyntaf o weithredu yn waith dros dro o ran ei natur, ac nid oes gan ACC y gallu i weithredu’r arbedion maint sydd ar gael i sefydliadau mwy a all gyflawni eu holl waith yn fewnol.

Dyma enghreifftiau o wasanaethau ymgynghori a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod:

  • Digidol a thechnoleg: dan gontract ar gyfer sgiliau arbenigol a oedd yn ymwneud â seiberddiogelwch, profi system awtomataidd, a chyngor ar y costau a’r dull gweithredu ar gyfer datblygu systemau posibl yn y dyfodol
  • Cyfathrebu: ymgynghoriaeth ar gyfer prosiect hunaniaeth brand, adolygiad o ddiwylliant ac asesiad o effaith ACC ynghyd â datblygiad strategaeth Gymraeg y sefydliad

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Trefniadau oddi ar y gyflogres yw’r rhai lle caiff unigolion, naill ai rhai hunangyflogedig neu rhai sy’n gweithredu drwy gwmni gwasanaeth personol, eu talu’n gros gan y cyflogwr. 

O 6 Ebrill 2017, daeth diwygiadau i ddeddfwriaeth cyfryngwyr (a elwir yn IR35) i rym. Roedd y rhain yn newid y rheolau ar gyfer pobl sydd oddi ar y gyflogres sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus gan symud y rhwymedigaeth i bennu statws treth oddi wrth y contractwr i’r ymgysylltydd. 

Mae’r holl swyddi oddi ar y gyflogres presennol wedi bod yn destun asesiad yn seiliedig ar risg. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu’r swm cywir o dreth. Gofynnwyd am y sicrwydd hwnnw lle bo angen.

Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2020, am fwy na £245 y diwrnod ac yn para am fwy na 6 mis:

Nifer o swyddi a oedd yn bodoli eisoes ar 31 Mawrth 2020 10
O’r rhain:
Nifer sydd wedi bodoli ers llai na blwyddyn ar adeg yr adroddiad 8
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 1-2 flynedd ar adeg yr adroddiad 2


Yr holl swyddi oddi ar y gyflogres newydd, neu’r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para am fwy na chwe mis:

Nifer y swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu’r rhai a oedd yn chwe mis o hyd neu fwy, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 7
O’r rhain:
Nifer a aseswyd fel rhai wedi’u dal gan IR35 1
Nifer a aseswyd fel rhai heb eu dal gan IR35 6
Nifer a gysylltwyd â hwy yn uniongyrchol (drwy berson â rheolaeth arwyddocaol (PSC) a gontractiwyd i adran) ac sydd ar gyflogres yr adran 0
Nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cysondeb / sicrwydd yn ystod y flwyddyn 6
Nifer y swyddi a welodd newid statws IR35 yn sgil yr adolygiad o gysondeb 0


Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol rhwng Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:

Nifer y swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol. 0
Nifer yr unigolion ar, ac oddi ar, y gyflogres sydd wedi’u penodi’n aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol. 13

Materion eraill sy’n ymwneud â chyflogeion

Y ddau fater mwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod oedd effaith storm Dennis ac ymbellhau cymdeithasol a’r mesurau clo oherwydd coronafeirws.

Yn ystod Storm Dennis (Chwefror 2020), cafodd Prif Swyddfa ACC, QED yn Nhrefforest, ei difrodi’n ddifrifol, gan arwain at yr holl staff yn gweithio o gartref o 17 Chwefror ymlaen. Cafodd y rhan fwyaf o staff, ond nid y cwbl, eu symud dros dro i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful nes canfod ateb hirdymor. Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar coronafeirws ar 23 Mawrth, penderfynodd Tîm Arwain y dylai pob aelod o staff weithio o gartref hyd nes y ceir gwybodaeth pellach (24 Mawrth ymlaen) ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. 

Rhoddwyd cymorth ychwanegol i gefnogi:

  • Gweithio o gartref hirdymor, megis DSE ac asesiadau risg
  • Archebu cyfarpar TG/gweithio o gartref ychwanegol
  • Addasiadau rhesymol megis lleihau oriau gwaith am resymau iechyd neu er mwyn gofalu am ddibynyddion
  • Mwy o weithgareddau llesiant a galwadau wythnosol i bob aelod o’r staff

Caiff yr effaith ar staff ei drafod yn wythnosol yn Tîm Arwain ac ym mhob cyfarfod a galwad Bwrdd.

Mae’r ACC yn sicrhau bod ei staff yn cyfrannu mewn sawl ffordd at faterion a phenderfyniadau sy’n eu ymwneud â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau cyfathrebu digidol fel negeseuon e-bost a defnyddio’r fewnrwyd, galwadau gweithlu bob pythefnos a sesiynau holi ac ateb gyda’r Prif Weithredwr, 
a diwrnodau ‘cwrdd i ffwrdd’ lle mae’r holl staff yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau’r sefydliad. Yn ogystal, cydnabyddir tri undeb llafur gan ACC i gynrychioli cyflogeion.

Caiff diogelwch staff yn y gweithle ei adolygu a’i gynnal gan sawl proses wahanol. Cynhelir archwiliadau rheolaidd o ddiogelwch corfforol y gweithle a’r cyfarpar a ddefnyddir yn ein swyddfeydd, gyda gwiriadau ychwanegol ar gyfer staff sydd ag anghenion penodol megis staff beichiog neu’r rhai sy’n dioddef o straen neu salwch arall. Wrth ymweld â safleoedd eraill a threthdalwyr, cwblheir asesiadau risg ac mae system gyfeillio ar waith er mwyn sicrhau diogelwch staff. Fel y nodwyd eisoes, mae Grw^ p Llesiant gweithgar wedi’i sefydlu, ac mae’r Strategaeth Lesiant yn cael ei harolygu gan y Pwyllgor Pobl. Mae asesiadau risg penodol wedi’u cwblhau ar gyfer staff sy’n gweithio o gartref oherwydd y llifogydd ac yna coronafeirws, ac ar gyfer gweithwyr beichiog.

Cynrychiolir 16 o broffesiynau gwahanol gan ACC, gan gynnwys data, digidol, cyllid, cyfreithiol, adnoddau dynol, ac arbenigwyr treth. Mae hyfforddiant gweithlu cyfan, yn ogystal â hyfforddiant proffesiwn neu hyfforddiant penodol i’r rôl, wedi’u cynnal yn ystod y cyfnod, ac mae nifer o’r rolau wedi’u cynnig ar sail benthyciad – i mewn ac allan o ACC - er mwyn annog rhannu gwybodaeth gyda chyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil. Mae proses rheoli perfformiad yn seiliedig ar ddatblygiad parhaus a sgyrsiau rheoli llinell o ansawdd uchel ar waith.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd (Cyfrif Adnoddau)

Adroddiad ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol

Barn

Tystiaf fy mod wedi archwilio Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys ei Mawrhydi sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRSs) fel y’i mabwysiadwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol: 

  • Yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr cyfrif adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2020 ac o’i wariant gweithredu net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • Wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (UK)). Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy’n annibynnol o’r corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol sy’n ofynnol i mi adrodd arnynt yn ôl yr ISAs (UK) pan:

  • Nid yw’n briodol defnyddio sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol; neu
  • Nid yw’r Swyddog Cyfrifyddu wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd materol a nodwyd a allai daflu amheuaeth sylweddol ynghylch gallu’r corff i barhau i fabwysiadu sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir y datganiadau ariannol i gael eu cyhoeddi

Gwybodaeth arall

Nid yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyfrifon blynyddol ar wahân i’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwiliwr arno. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny.

Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall i ganfod anghysonderau o bwys â’r datganiadau ariannol archwiliedig ac i nodi unrhyw wybodaeth sydd, i bob golwg, yn faterol anghywir ar sail yr wybodaeth a gaffaelwyd gennyf wrth gyflawni’r archwiliad, neu’n anghyson iawn â hi. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysonderau materol amlwg, ystyriaf y goblygiadau i’m hadroddiad.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i’r datganiadau ariannol) wedi’i pharatoi’n briodol.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y cyfrifon blynyddol yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol am Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi paratoi adroddiad o’r fath, ac yn fy marn i mae’r rhan y mae’n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi’i pharatoi yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Cyfrifon Blynyddol na’r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • Na chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol
  • Nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol sydd i’w harchwilio yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu
  • Na ddatgelwyd gwybodaeth a ddynodwyd gan Drysorlys EM o ran cydnabyddiaeth ariannol a thrafodiadau eraill; neu
  • Nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir o dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am reolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu, oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.

Mae’n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

6 Gorffennaf 2020

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifon Adnoddau

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr
  Nodyn 2019-20 2017-19
Wedi’i
ailddatgan
£000 £000
Costau staff 2 4,317 4,647
Costau eraill sy’n gysylltiedig â staff 2 205 314
Costau gweithredu eraill 2 1,933 2,159
Dibrisiant 3.1 35 35
Amorteiddiad 3.2 870 850
Gwariant gweithredu net   7,360 8,005
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn   7,360 8,005

 

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2019-20 2017-19
£000 £000
Asedau anghyfredol
Offer 3.1 34 69
Asedau anniriaethol 3.2 834 1,625
Cyfanswm asedau anghyfredol   868 1,694
Asedau cyfredol
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 4 140 156
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 5 243 477
Cyfanswm asedau cyfredol   383

633

Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau masnach a symiau taladwy eraill 6 (960) (703)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (960) (703)
Cyfanswm yr asedau wedi tynnu’r
rhwymedigaethau cyfredol
  291 1,624
Ecwiti trethdalwyr
Cronfa gyffredinol   291 1,624

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

 

Datganiad o Lifau Arian Parod
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Llifau arian parod o weithgareddau gweithredu
Gwariant gweithredu net   (7,360) (8,005)
Addasiadau ar gyfer trafodion nad ydynt
yn rhai arian parod
     
(Cynnydd)/gostyngiad mewn
symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill
  15 (156)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn
symiau masnach a symiau taladwy eraill
  258 703
Dibrisiant ac amorteiddiad 3.1 & 3.2 905 885
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau gweithredol   (6,182) (6,573)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Ychwanegu offer 3.1 0 (104)
Ychwanegu asedau anniriaethol 3.2 (79) (2,475)
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau buddsoddi   (79) (2,579)
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Cyllid gan Lywodraeth Cymru   6,027 9,629
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a
chyfwerth ag arian parod
5 (234) 477
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar
ddechrau’r cyfnod
5 477 0
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar
ddiwedd y cyfnod
5 243 477

 

Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr
  Cronfa Gyffredinol
£000
Balans ar 18 Hydref 2017 0
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2017-19
Cyllid gan Lywodraeth Cymru 9,629
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (8,005)
Balans ar 31 Mawrth 2019 1,624
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2019-20
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru 5,948
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru 79
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (7,360)
Balans ar 31 Mawrth 2020 291

Nodiadau i’r Cyfrifon Adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • Y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2019-20 a gyhoeddir gan Drysorlys EM
  • Y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi’u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • Y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi’u cyhoeddi ond nad ydynt wedi dod i rym eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Crëwyd ACC ar 18 Hydref 2017 ac felly mae’r cyfnod 2017-19 yn cynnwys y cyfnod o 18 Hydref 2017 hyd 31 Mawrth 2019.

Mae’r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi’i thalgrynnu i’r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi’u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r FReM. Cyfrifwyd am y gwariant ar sail croniadau. Mae cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi’i nodi yn AP1.7.

1.3 Busnes gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail ‘busnes gweithredol’ gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei arian refeniw gan Lywodraeth Cymru i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir rhagweld.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy’n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a’r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i’r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy’n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi’u cynnwys yn y canlynol:

  • Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Y Gweinidog yn unig sy’n cyfarwyddo’r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i’w ddefnyddio

1.5 Croniad gwyliau blynyddol

Caiff croniadau gwyliau blynyddol Staff eu cyfrif o fewn costau staff eraill. Mae’r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu’r gwyliau blynyddol sy’n ddyledus neu sy’n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn. Bellach, caiff symudiad yn y flwyddyn ei godi fel croniad o fewn costau eraill sy’n gysylltiedig â staff. Mae’r ffigurau ar gyfer 2017-19 a gynhwyswyd yn y costau staff wedi’u diwygio i adlewyrchu’r newid hwn ac er mwyn ei gwneud yn haws cymharu.

1.6 Treth Ar Werth (TAW)

Mae ACC wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae’n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy’n cael eu contractio allan. Caiff gwariant nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEM.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ddyraniad grant) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â’r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe’u credydir i’r Gronfa Gyffredinol. Mae’r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian Parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod yn cynnwys y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth yn unig.

1.9 Adrodd cylchrannol

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a’u hardaloedd daearyddol. Mae’r ACC yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adroddiadau ychwanegol.

1.10 Lesoedd

Ar gyfer 2019-20, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les fel prydleswr neu lesddeiliad o dan IAS 17. O dan IFRS 16, bydd ACC yn adolygu ei drefniadau cytundebol ac angytundebol i sefydlu a oes les yn bodoli fel y’i diffiniwyd. Bydd ACC yn cydnabod yr asedau ‘hawl i ddefnyddio’ a rhwymedigaethau les ar gyfer y lesoedd hyn. Gohiriwyd gweithredu IFRS 16 yn y sector cyhoeddus tan Ebrill 2021 oherwydd coronafeirws.

1.11 Offerynnau Ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy’n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog.

1.12 Asedau Anghyfredol 

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei gario ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi’i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn. Yn ystod y cyfnod sefydlu cychwynnol, prynwyd cyfarpar TGCh gan Lywodraeth Cymru ar ran ACC. Ar 1 Ebrill 2018 trosglwyddwyd y cyfarpar i ACC gan Lywodraeth Cymru. Mae’r holl gostau cychwynnol hyn wedi’u cyfalafu.

Mae’r holl gyfarpar oedd yn costio £5,000 neu fwy a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe’i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel y dangosir isod.

Categori’r Cyfarpar Oes Ddefnyddiol Amcangyfrifedig
Cyfarpar TGCh 3 blynedd
Cyfarpar Arall 5 blynedd

Asedau Anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd eu natur benodol, caiff asedau anniriaethol eu datgan ar gostau hanesyddol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth, dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl i’r ased gael ei gaffael fel y nodir isod.

Categori o Ased Anniriaethol Oes ddefnyddiol amcangyfrifedig
Trwyddedau a meddalwedd 3 blynedd

2. Gwariant

  2019-20 2017-19
Wedi’i
ailddatgan
£000 £000
Staff a chostau cysylltiedig
Cyflogau 2,992 3,388
Costau pensiynau 818 730
Costau nawdd cymdeithasol 330 377
Costau asiantaeth 177 152

 
4,317 4,647
Costau eraill sy’n gysylltiedig â staff
Hyfforddi a datblygu 73 115
Teithio a chynhaliaeth 54 88
Treuliau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogeion 78 111

 
205 314
Costau gweithredu eraill
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill 91 97
Costau’r Bwrdd a chostau cysylltiedig 64 167
Ffi archwiliad allanol 33 30
Costau sy’n gysylltiedig â TGCh 1,516 1,570
Ffi archwiliad mewnol 11 21
Costau proffesiynol eraill 218 274

 
1,933 2,159
Amorteiddiad a Dibrisiant 905 885
     
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 7,360 8,005

Darperir dadansoddiad pellach o staff a chostau cysylltiedig yn yr Adroddiad Staff.

3. Asedau Anghyfredol

3.1 Cyfarpar
  Offer TGCh Offer arall Cyfanswm
£000 £000 £000
Cost neu brisiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Ychwanegiadau 93 11 104
Ar 31 Mawrth 2019 93 11 104
Amorteiddiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Tâl yn ystod y flwyddyn 33 2 35
Ar 31 Mawrth 2019 33 2 35
Swm a gariwyd ar 18 Hydref 2017 0 0 0

Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019

60 9 69
Cost neu brisiad
Ar 1 Ebrill 2019 93 11 104
Ychwanegiadau 0 0 0
Ar 31 Mawrth 2020 93 11 104
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2019 33 2 35
Tâl yn ystod y flwyddyn 33 2 35
Ar 31 Mawrth 2020
 
66 4 70
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019 60 9 69
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2020 27 7 34
3.2 Asedau Anniriaethol
  Trwyddedau Meddalwedd Cyfanswm
£000 £000 £000
Cost neu brisiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Ychwanegiadau 66 2,409 2,475
Ar 31 Mawrth 2019 66 2,409 2,475
Dibrisiant
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Tâl yn ystod y flwyddyn 24 826 850
Ar 31 Mawrth 2019
 
24 826 850
Swm a gariwyd ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019
 
42 1,583 1,625
Ar 1 Ebrill 2019 66 2,409 2,475
Ychwanegiadau 0 79 79
Ar 31 Mawrth 2020 66 2,488 2,554
Amorteiddiad
Ar 1 Ebrill 2019 24 826 850
Tâl yn ystod y flwyddyn 35 835 870
Ar 31 Mawrth 2020
 
59 1,661 1,720
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019 42 1,583 1,625
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2020 7 827 834

4. Rhagdaliadau ac Incwm Cronedig Arall

  2019-20 2017-19
£000 £000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 140 156
Balans ar 31 Mawrth 140 156

Nid oes unrhyw symiau sy’n ddyledus ar ôl blwyddyn wedi’u cynnwys yn y ffigu rau uchod.
Nid oes angen darpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus.

5. Arian Parod a Chyfwerth ag Arian Parod

  2019-20 2017-19
£000 £000
Balans ar ddechrau’r cyfnod 477 0
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod (234) 477
Balans ar 31 Mawrth 243 477

Mae’r holl falansau’n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

6. Symiau Masnach a Symiau Taladwy Eraill

  2019-20 2017-19
£000 £000
Symiau masnach taladwy (819) (599)
Symiau taladwy eraill (141) (104)
Balans ar 31 Mawrth (960) (703)

Mae’r rhan fwyaf o’r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.

7. Trafodion partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru’n cael ei hystyried yn rhiant adran ac felly’n barti cysylltiedig. Mae ACC wedi cael nifer o drafodion materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd cyllid refeniw o £5.95 miliwn yn ystod y flwyddyn (2017-19: £9.63 miliwn a chofnodwyd £1.44 miliwn yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru yn 2017-18). Y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn oedd £79,000 (2017-19: £2.57 miliwn mewn asedau anghyfredol a drosglwyddwyd ar 1 Ebrill 2018).

Gwnaed taliadau o £4.42 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2019-20 yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres, staff ar secondiad, a chostau cwmwl TGCh (2017-19: £3.89 miliwn).

Yn ystod y flwyddyn, llogodd ACC ystafell gan Newport Live am £439. Roedd Martin Warren, a oedd yn Aelod Anweithredol tan 27 Awst 2019, hefyd yn ymddiriedolwr ac yn gyfarwyddwr Newport Live. Gwnaed y trafodiad ar hyd braich ac mewn cydymffurfiad llawn â pholisïau a gweithdrefnau caffael ACC.

Ni chynhaliodd unrhyw aelodau’r Bwrdd, uwch swyddogion, nac unrhyw bartïon cysylltiedig, unrhyw drafodion materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2020.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2020.

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd (Datganiad Treth)

Adroddiad ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol

Barn

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys ei Mawrhydi sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRSs) fel y’i mabwysiadwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • Yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2020 a’r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • Wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (UK)). Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy’n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol sy’n ofynnol i mi adrodd arnynt gan yr ISAs (UK):

  • Nid yw’n briodol defnyddio sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol; neu
  • Nid yw’r Swyddog Cyfrifyddu wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd materol a nodwyd a allai daflu amheuaeth sylweddol ynghylch gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau i fabwysiadu sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir y datganiadau ariannol i gael eu cyhoeddi

Gwybodaeth arall

Nid yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyfrifon blynyddol ar wahân i’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwiliwr arno. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny.

Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall i ganfod anghysonderau o bwys â’r datganiadau ariannol archwiliedig ac i nodi unrhyw wybodaeth sydd, i bob golwg, yn faterol anghywir ar sail ar yr wybodaeth a gaffaelwyd gennyf wrth gyflawni’r archwiliad, neu’n anghyson iawn â hi. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysonderau materol amlwg, ystyriaf y goblygiadau i’m hadroddiad.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i’r datganiadau ariannol) wedi’i pharatoi’n briodol.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y cyfrifon blynyddol yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Cyfrifon Blynyddol na’r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • Na chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • Nad yw’r datganiadau ariannol yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • Nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir yno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am reolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo’n berthnasol, materion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.

Mae’n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

6 Gorffennaf 2020

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Datganiad Treth

Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Refeniw
Trethi a thollau
Treth Trafodiadau Tir 2.1 260,281 227,846
Treth Gwarediadau Tirlenwi 2.2 36,926 44,433
Cyfanswm trethi a thollau   297,207 272,279
Cosbau a llog
Cosbau 2.3 327 157
Llog 2.3 45 16
Cyfanswm cosbau a llog   372 173
Cyfanswm y refeniw
 
  297,579 272,452
Gwariant
Llog a dalwyd 3.1 (42) (13)
Colledion refeniw 3.2 (1) (2)
Cyfanswm y gwariant   (43) (15)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru   297,536 272,437

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt mewn man heblaw am y Datganiad Refeniw, Incwm a Gwariant Arall uchod.

Mae'r nodiadau sy'n dilyn y Datganiad o Lifau Arian Parod yn rhan o'r datganiad hwn.

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Asedau cyfredol
Symiau Derbyniadwy 4.1 2,822 1,892
Trethi cronedig derbyniadwy 4.1 40,435 14,479
Arian parod 5 2,836 5,459
Cyfanswm asedau cyfredol
 
  46,093 21,830
Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif 6 870 143
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol
 
  870 143
Cyfanswm yr asedau net   45,223 21,687
Cynrychiolir gan
Balans sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 8 45,223 21,687

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

 

Datganiad Llifau Arian
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Llif arian net o weithgareddau gweithredol A 271,377 256,209
Arian parod a dalwyd i’r Gronfa Gyfunol   (274,000) (250,750)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn
y cyfnod hwn
B (2,623) 5,459

Nodiadau ar y Datganiad Llifau Arian

  2019-20 2018-19
£000 £000
A: Cysoni llif arian net â symudiad mewn cronfeydd net
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 297,536 272,437
(Cynnydd)/gostyngiad mewn asedau nad ydynt yn arian parod (26,886) (16,371)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn rhwymedigaethau 727 143
Cynnydd/(gostyngiad) mewn darpariaethau ar gyfer
rhwymedigaethau
0 0
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 271,377 256,209
  2019-20 2018-19
  £000 £000
B: Dadansoddiad o’r newidiadau yn y gronfa arian net
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn (2,623) 5,459
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc) 5,459 0
Y gronfa arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol) 2,836 5,459

Nodiadau i’r datganiad Treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • Y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2019-20 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM
  • Y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi’u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • Y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi’u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw’r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth.

Mae’r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi’i thalgrynnu i’r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Datganiad Treth yn unol â’r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau.

1.3 Cydnabod refeniw 

Trethiant

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy’n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan:

  • Mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o’r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru
  • Mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfraddau uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol.

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol â IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy’n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan:

  • Gaiff y gosb neu daliad llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC

Mae refeniw cosb cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifon pan fo:

  • Cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu’r asiant ar y ffurflen dreth
  • Cosb yn cael ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC
  • Apêl, neu resymau cyfreithiol eraill, yn diddymu’r gosb

Lle bernir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddir mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw’r hyn a ddangosir uchod, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad y tybir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y Datganiad Treth. Dyma’r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir mewn gwirionedd. Mae’r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon yn cynrychioli’r dreth a fyddai’n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad y Senedd wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith).

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fo sawl cam gosod pris prynu yn digwydd mewn trafodiad tir ac mae un neu fwy o’r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw’n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio; cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan ganiateir y caniatâd cynllunio.

Ymholiadau a thribiwnlysoedd

Yn unol â’r FReM, nid yw refeniw treth ac ad-daliadau treth neu gosb sy’n deillio o achosion ymholiad neu dribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon hyd nes bydd y penderfyniad neu’r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy’n ymwneud ag ymholiadau neu achosion tribiwnlys.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy’n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a’r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i’r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy’n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi’u cynnwys fel a ganlyn:

  • Mae datgelu rhwymedigaeth digwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a’i dyfarniadau. Barn y Rheolwyr yw nad oes data digonol ar gael gan ACC eto er mwyn iddo fodelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-daliad yn y dyfodol
  • Oherwydd effaith mesurau clo’r coronafeirws, nid yw ffurflenni papur a derbynebau siec drwy’r post wedi cael eu prosesu ers 22 Mawrth 2020. Dyfarniad y Rheolwyr yw nad oes camddatganiad materol o’r cyfrifon o ganlyniad i beidio â chynnwys amcangyfrifon o’r ffurflenni treth a’r sieciau hyn

1.5 Offerynnau Ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy’n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall.

Mae IFRS 7, Offerynnau Ariannol, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Oherwydd natur gweithgareddau ACC yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid yw’n agored i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn datgelu manylion cyfrinachol trethdalwyr a waherddir o dan adran 17 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 o fewn y Datganiadau Ariannol oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol.

2. Refeniw ac Incwm Arall

2.1 Treth Trafodiadau Tir
  2019-20 2018-19
£000 £000
Preswyl 163,403 155,428
Amhreswyl 96,878 72,418
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir 260,281 227,846

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae’r tabl canlynol yn nodi dyraniad y dreth breswyl a godir rhwng blynyddoedd treth yn seiliedig ar y dyddiad y caiff eiddo ei werthu.

2.1a Treth Breswyl
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Cyfanswm Cyfanswm
£000 £000 £000 £000
Prif gyfraddau 72,303 (5,994) 66,309 77,736
Cyfraddau uwch 96,626 468 97,094 77,692
Cyfanswm preswyl 168,929 (5,526) 163,403 155,428

Mae cyfraddau preswyl uwch yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae’n bosibl y bydd yn ad-daladwy pan fo prif breswylfa flaenorol y trethdalwr yn cael ei gwerthu o fewn tair blynedd i brynu’r eiddo newydd ychwanegol a phan fo’r eiddo newydd hwnnw’n dod yn brif breswylfa iddynt.

2.1b Ad-daliadau cyfraddau uwch
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Cyfanswm Cyfanswm
£000 £000 £000 £000
Ad-daliadau cyfradd uwch 5,829 5,425 11,254 5,828

Mae’r tabl uchod yn nodi’r ad-daliadau cyfraddau uwch a dalwyd i’r trethdalwr sy’n lleihau’r dreth breswyl uwch a ddatganwyd yn y flwyddyn gyfredol.

2.1c Cyfraddau preswyl wedi’u hailddosbarthu
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Total Total
£000 £000 £000 £000
Prif gyfraddau preswyl a
gofnodwyd yn flaenorol fel
cyfraddau uwch
3,923 2,925 6,848 3,386

Mae’r pryniannau eiddo cychwynnol bellach yn cael eu hailddosbarthu fel prif gyfraddau preswyl oherwydd i’r trethdalwyr hawlio ad-daliad yn llwyddiannus.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi; caiff ei gyfrifo yn ôl pwysau a math o wastraff.

2.3 Cosbau a llog
  2019-20 2018-19
Cosb Llog Cosb Llog
£000 £000 £000 £000
Treth Trafodiadau Tir 327 45 156 16
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0 1 0
Cyfanswm cosbau a llog 327 45 157 16

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, os bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan DCRhT (Cymru) 2016.

Codir llog ar daliadau treth neu gosbau hwyr.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd
  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir (42) (13)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm y llog a dalwyd (42) (13)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw
  2019-20
Dyledion wedi’u
dileu
2018-19
Dyledion wedi’u
dileu
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir (1) (2)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm (1) (2)

Achosion o ddileu dyledion yw colledion refeniw, pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth ofalus, ystyrir na ellir adennill y symiau hyn.

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy

4.1 Symiau derbyniadwy sy’n ddyledus:
  2019-20 2018-19
Symiau
Derbyniadwy
Refeniw
Cronedig
Derbyniadwy
Symiau
Derbyniadwy
Refeniw
Cronedig
Derbyniadwy
£000 £000 £000 £000
Treth Trafodiadau Tir 2,822 32,246 1,892 5,883
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 8,189 0 8,596
Cyfanswm 2,822 40,435 1,892 14,479

Mae symiau derbyniadwy yn cynrychioli rhwymedigaethau trethdalwyr lle mae symiau sy’n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi digwydd yn ystod y cyfnod adrodd, ond ni dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Mae’r refeniw cronedig derbyniadwy yn cynrychioli symiau sy’n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth lle mae’r rhwymedigaeth dreth wedi’i sefydlu ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. Felly gwneir croniad â llaw.

5. Arian parod

  2019-20 2018-19
£000 £000
Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth 2,836 5,459
Balans ar 31 Mawrth 2,836 5,459

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae’r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth 2020.

6. Symiau taladwy a Balansau ar gyfrif

  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir 2,836 5,459
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm 870 143

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd angen eu talu gan ACC a lle nad yw’r taliad wedi’i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae’r balansau hyn yn ymwneud ag ad-daliadau treth, cosbau, neu log sy’n ddyledus, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch, lle mae’r symiau wedi’u pennu ar ddyddiad y fantolen fel rhai sy’n ddyledus.

7. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiadau preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd, os y byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae angen i’r trethdalwr gyflwyno hawliad er mwyn derbyn yr ad-daliad.

Datgelir yr ad-daliad posibl hwn o dreth cyfraddau uwch fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y Datganiad Treth oherwydd ansicrwydd yr ailhawliadau a’u hamseriadau. Ar gyfer 2019-20, amcangyfrifir y bydd y swm yn £14.4 miliwn yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (£9.9 miliwn yn 2018-19).

8. Balans sy’n ddyledus i gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

  2019-20 2018-19
£000 £000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill 2019 21,687 0
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru  297,536 272,437
Wedi tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (274,000) (250,750)
Balans sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 31 Mawrth 2020  45,223 21,687

9. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw’n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan y Senedd ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol diriaethol.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EM ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y Llywodraeth yn defnyddio’r rhain fel sail ar gyfer paratoi eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy’n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sy’n daladwy i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.